Cyfarfodydd

Sesiynau ffarwelio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/03/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Bumed Senedd: Llywodraeth Cymru - Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / GIG Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gydag Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru ynghylch ei fyfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Bumed Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 01/03/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Bumed Senedd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth a gafwyd a'r hyn yr oeddent am ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Gwaddol.

5.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Cadeirydd ysgrifennu at Dr Goodall i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion a godwyd.

 


Cyfarfod: 08/02/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Llywodraeth Cymru – Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Steve Davies - Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gyda Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol – y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch ei myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon rhagor o wybodaeth am nifer o faterion.

 

 


Cyfarfod: 08/02/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth a gafwyd a'r hyn yr oeddent am ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Gwaddol.

 


Cyfarfod: 08/02/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Pumed Senedd: Llywodraeth Cymru - yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-05-21 Papur 1 - Llywodraeth Cymru

 

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol

Sioned Evans - Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gydag Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol - Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol ynghylch ei fyfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.

4.3 Cytunodd Andrew Slade i anfon rhagor o wybodaeth ynghylch nifer o faterion.

 


Cyfarfod: 16/07/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Sesiwn ffarwél: Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-21-18 Papur 4 – Archwilydd Cyffredinol Cymru: Myfyrdodau wrth ffarwelio

 

Huw Vaughan Thomas CBE – Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn ffarwél gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru cyn iddo ymddeol ar 20 Gorffennaf 2018.

5.2 Nododd Cadeirydd y Pwyllgor ei ddiolch i Huw am yr holl gefnogaeth a chyngor a roddodd i holl Gadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystod ei gyfnod fel Archwilydd Cyffredinol, a dymunodd ymddeoliad hir iddo yn llawn hapusrwydd ac iechyd. Dywedodd wrth yr Aelodau ei fod yn gwneud datganiad llawn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Gorffennaf ond gan mai hwn oedd eitem gyhoeddus olaf Huw yn y Pwyllgor, roedd am nodi ei ddiolch ar y cofnod.

 


Cyfarfod: 02/10/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Sesiwn ffarwél: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

10.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 02/10/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Sesiwn ffarwél: James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ffarwél gyda James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, cyn iddo adael y sefydliad.

6.2 Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo yn ei swydd newydd fel Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 15)

Sesiwn ymadawol: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

15.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

 


Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

12 Sesiwn ymadawol: Owen Evans - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ymadawol gydag Owen Evans,  Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, cyn iddo adael y sefydliad.

12.2 Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr S4C.

 


Cyfarfod: 06/02/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn ymadawol: Llythyr gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (24 Ionawr 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn ymadawol: Gwybodaeth ychwanegol gan Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (24 Tachwedd 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Sesiwn ffarwél Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Briff Ymchwil

 

Syr Derek Jones – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ffarwél ar gyfer Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.

9.2 Cytunodd Syr Derek Jones i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda rhagor o fanylion ynghylch sut y dechreuwyd mynd i'r afael â'r honiadau a wnaed gan y sawl a chwythodd y chwiban ynghylch camddefnyddio'r cynllun bws rhatach.

9.3 Diolchodd y Cadeirydd i Syr Derek Jones am fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn a chyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Pedwerydd Cynulliad, a dymunodd y gorau iddo yn y dyfodol ar ran y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 07/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

Sesiwn ffarwél: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, ac wrth i'r Pwyllgor drafod y sesiwn ffarwél, cytunodd yr Aelodau i ofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i anfon manylion pellach am Uned Gwrth-Dwyll Llywodraeth Cymru ynghyd â'i chyllideb.