Cyfarfodydd
Pwyllgorau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Llythyr gan
Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfarfod estynedig ar gyfer y Pwyllgor Cyllid yn ystod yr
wythnos yn dechrau ar 11 Ionawr 2021. Caiff hyn ei ymgorffori yn amserlen y
pwyllgorau ar gyfer tymor y gwanwyn y bydd y Pwyllgor Busnes yn ei ystyried ar
ôl hanner tymor.
Cyfarfod: 20/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y ddeiseb 'P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i
lifogydd 2020 yn Rhondda Cynon Taf fel bod gwersi'n cael eu dysgu' yn yr hanner
tymor nesaf, gyda'r dewis y bydd y ddadl yn un 30 munud o hyd.
Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Amserlen y Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. Dywedodd y Trefnydd fod Gweinidogion yn blaenoriaethu
bod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwyllgor, ond gofynnodd i bwyllgorau roi
cymaint o rybudd â phosibl, yn enwedig ar ddyddiau pan gynhelir cyfarfodydd y
Cabinet.
Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Ceisiadau o ran amserlen pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i'r ceisiadau canlynol gan bwyllgorau am slotiau cyfarfod yn
ystod wythnos olaf yr hanner tymor:
·
Cyfarfod bore dydd Mercher 21
Hydref i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer sesiwn Weinidogol olaf
gyda'r Gweinidog Addysg mewn perthynas â'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
·
Cadw slot i’r Pwyllgor Cyllid os
bydd ei angen i gynnal cyfarfod y mae'n ceisio ei drefnu gydag Ysgrifennydd
Gwladol Cymru a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys.
·
Cynnal cyfarfod o’r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a drefnwyd yn wythnos 10 ddydd
Gwener 27 Tachwedd yn hytrach na dydd Llun 23 Tachwedd, gan fod y pwyllgor yn cynnal
trafodion Cyfnod Dau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i adolygu amseriad slot prynhawn Llun i 13:30 – 17:00.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r dull
arfaethedig o’r modd y mae’r ysgrifenyddiaeth yn casglu ceisiadau pwyllgorau i
newidiadau i'r amserlen a chyfarfodydd wythnos gwarchodedig, a chyflwyno'r
rhain mewn un papur.
Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu dadl a arweinir gan bwyllgor ar y Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol ym mis Tachwedd.
Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddwy ddadl yn nhymor yr hydref ac i gael ei arwain
gan y Pwyllgor Deisebau ar amseriad y dadleuon. Awgrymodd y Rheolwyr Busnes y
gallai'r Pwyllgor Deisebau ystyried adolygu nifer y llofnodion sy'n ofynnol ar
gyfer dadl.
Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Cynnig y Pwyllgor Busnes i sefydlu Pwyllgor y Llywydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i sefydlu Pwyllgor y Llywydd, a gofynnwyd i'r
Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur gyda chynigion manylach o ran ei aelodaeth.
Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a
chytunwyd i gais y Pwyllgor i ymweld â Chaeredin ddydd Llun 23 Mawrth.
Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a
chytunwyd i drefnu dadl ar y ddeiseb.
Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Papur i'w nodi – Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr ac y byddai'r Llywydd yn ysgrifennu at y Bwrdd
Taliadau yn ei hysbysu o fwriad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu. Cefnogodd y Pwyllgor Busnes yr egwyddor o ddarparu lwfansau
ychwanegol i Aelodau a etholir yn gadeiryddion dros dro am gyfnod estynedig.
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr.
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Craffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y llythyr gan Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig a nodi nad oedd gan ofynion statudol mewn perthynas â materion
polisi ddarpariaethau Gorchymyn Sefydlog cyfatebol fel rheol.
Dywdeodd y
Trefnydd fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn fodlon cydymffurfio â phob
un o dri argymhelliad y pwyllgor, heb fod angen iddynt gael eu nodi yn y
Rheolau Sefydlog:
·
Bydd y Gweinidog yn gosod adroddiad
ymgynghori i'r fframwaith drafft yn nodi'r materion a godwyd yn ystod yr
ymgynghoriad ac yn cynnwys ymateb i argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; amserlen o newidiadau y mae'r
Gweinidog yn bwriadu eu gwneud ar ôl ystyried ymatebion yr ymgynghoriad ac
argymhellion y pwyllgor, ac arfarniad cynaliadwyedd integredig wedi'i
ddiweddaru.
·
Bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at gadeiryddion
pob pwyllgor unwaith y bydd y fframwaith drafft wedi'i osod.
·
Mae'r Gweinidog yn croesawu dadl yn y
cyfarfod llawn ar y fframwaith drafft ac yn credu ei fod yn unol â'r dull a
ragwelir gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Bydd y ddadl yn cael ei chynnal
yn ystod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Cynulliad fel y gall y llywodraeth
ystyried penderfyniad y Cynulliad ac argymhellion y pwyllgor(au) mewn modd
amserol.
Nododd y
Trefnydd y byddai'n cadarnhau'r ymateb hwn yn ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes,
fel y gall ymateb i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn
unol â'r amgylchiadau hynny.
Cytunodd y
Pwyllgor fod hwn yn ymateb priodol a fyddai'n galluogi ysbryd argymhelliad y
Pwyllgor Newid Ninsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i gael ei gymhwyso.
Cyfarfod: 28/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Cais i newid amserlen y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 55
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i adolygu slot cyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o fewn
Amserlen y Pwyllgor fel y gall gwrdd yn wythnosol ar fore Mawrth.
Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar gais y Pwyllgor i gynnal cyfarfod y tu allan i'w amser
arferol ar yr amserlen.
Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 08/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - Amserlennu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 63
Cofnodion:
Ystyriodd
y Rheolwyr Busnes yr opsiynau a chytunwyd i drefnu amser ar fore Llun i'r
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad gael cwrdd.
Cyfarfod: 08/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cais gan y Pwyllgor Cyllid am gyfarfod ffurfiol oddi ar y safle
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais.
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Ystyried deisebau 5000 o lofnodion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
Ystyriodd
a nododd y Rheolwyr Busnes y papur.
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Cais gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal ymweliad ffurfiol oddi ar y safle
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 78
Cofnodion:
Cais gan y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal ymweliad ffurfiol
oddi ar y safle
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r cais.
Cyfarfod: 30/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau a busnes y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 81
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnwyd i swyddogion ddrafftio nodyn o opsiynau
i'w hystyried yn eu cyfarfodydd grŵp priodol yn ddiweddarach y bore yma.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i newid cyfran yr amser a ddyrennir yn y Cyfarfod Llawn i'r
Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP i 12:10:3 yn y drefn honno.
Trafododd
y Rheolwyr Busnes gynigion y Llywydd ar gyfranogiad UKIP yn y dyfodol i
Gwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried y
safbwyntiau a fynegwyd cyn gwneud penderfyniad.
Cyfarfod: 30/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 88
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl
Cyfarfod: 08/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 08/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cais am ddadl ar Ddeiseb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 93
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y cais a dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn deall bod
canllawiau NICE wedi’u diweddaru ers i'r llythyr gael ei anfon. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ystyried hyn ymhellach, mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor
Deisebau, cyn penderfynu a ddylid cynnal dadl.
Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Pwyllgorau