Cyfarfodydd
NDM6095 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6095 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad
Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu 'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un
continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le.
2. Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015
yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad "Cymraeg fel ail
iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o'r farn bod hyn yn
cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol".
3. Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn
cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
4. Yn gresynu at benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r
cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod dros dro amhenodol, ac felly, er
mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio'r
Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) amlinellu amserlen glir ar gyfer disodli'r cymhwyster
Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a
fyddai'n golygu arholi'r cymhwyster newydd yn gyntaf yn 2020;
(b) mabwysiadu strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol
ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swydd,
cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill; ac
(c) buddsoddi'n sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy
becyn o fentrau arloesol, er mwyn cynyddu'n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg
sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.
Dogfennau Atodol
'Un
iaith i bawb: Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4'
'Llythyr
gan y Prif Weinidog, 4 Rhagfyr 2015'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod
Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o
2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg
Ail Iaith; a
b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ac
amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a'r broses asesu ar gyfer Cymraeg
mewn ysgolion.
Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn
cylchoedd chwarae cyn ysgol.
Gwelliant 3 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o feithrin
sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg.
Gwelliant 4 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau ar
gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac
astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
14.53
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6095 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ei bod yn dair
blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu
'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le.
2. Yn nodi bod llythyr y
Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad
"Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym
o'r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y
dyfodol".
3. Yn nodi pwysigrwydd y
gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o
siaradwyr Cymraeg.
4. Yn gresynu at
benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw'r cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod
dros dro amhenodol, ac felly, er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl
ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio'r Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) amlinellu amserlen
glir ar gyfer disodli'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster
Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a fyddai'n golygu arholi'r cymhwyster
newydd yn gyntaf yn 2020;
(b) mabwysiadu
strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan
hyfforddiant, athrawon mewn swydd, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu
eraill; ac
(c) buddsoddi'n
sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy becyn o fentrau arloesol, er mwyn
cynyddu'n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg sy'n dysgu drwy'r Gymraeg.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
1 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
Jane
Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod
Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o
2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg
Ail Iaith; a
b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau
ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a'r broses asesu ar gyfer
Cymraeg mewn ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
12 |
11 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith Gymraeg
mewn cylchoedd chwarae cyn ysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o
feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau
ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol ac
astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6095 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ei bod yn dair
blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu
'Cymraeg ail iaith' a sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg yn ei le.
2. Yn nodi bod llythyr y
Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod "o'r farn bod y cysyniad
"Cymraeg fel ail iaith" yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym
o'r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y
dyfodol".
3. Yn nodi pwysigrwydd y
gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o
siaradwyr Cymraeg.
4. Yn nodi:
a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod
Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o 2021
y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu'r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail
Iaith; a
b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau
ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a'r broses asesu ar gyfer
Cymraeg mewn ysgolion.
5. Yn nodi pwysigrwydd meithrin sgiliau iaith
Gymraeg mewn cylchoedd chwarae cyn ysgol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r dull o
feithrin sgiliau iaith Gymraeg ym mhob lleoliad Dechrau'n Deg.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei
chynlluniau ar gyfer meithrin sgiliau iaith Gymraeg mewn cyrsiau galwedigaethol
ac astudiaethau mewn lleoliadau dysgu yn y gymuned.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
1 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.