Cyfarfodydd

P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 31/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Fynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl

NDM6643 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb: Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen Arnynt (P-05-710), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.47

NDM6643 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb: Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen Arnynt (P-05-710), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ystyried yr adroddiad drafft – P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft a'i argymhellion.

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth: P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y camau nesaf i'w cymryd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio adroddiad i'r Cynulliad ar y dystiolaeth a gafwyd.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth - P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Ken Skates AM - Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure

 

Rhodri Griffiths – Deputy Director, Transport Policy, Planning & Partnerships

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu i Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. a Rhodri Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth ateb cwestiynau gan y Pwyllgor

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod tystiolaeth lafar o dan eitem 4 ar yr agenda.

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth - P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

·         Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – John Forsey, Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu, Cyngor Sir Powys

 

·         Cymdeithas Llogi Car Preifat Cofrestredig – Steve Wright MBE, Cadeirydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gymdeithas Tacsis Genedlaethol i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth - P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

09:20 – 10:00

Panel 1 - Gweithredwyr Gwasanaethau Rheilffyrdd

  • Rheilffordd y Great Western - Joe Graham, Cyfarwyddwr Sicrwydd Busnes.
  • Trenau Arriva Cymru - Barry Lloyd, Pennaeth Profiad y Cwsmer a Geraint Morgan, Rheolwr Materion Cymunedol.
  • Network Rail - Margaret Hickish MBE, Rheolwr Mynediad a Chynhwysiant.

 

10:05 – 10:45

Panel 2 - Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau a Chynrychiolwyr y Diwydiant

  • Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru - John Pockett, Cyfarwyddwr.

 

  • First Cymru - Justin Davis, Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

  • Bws Caerdydd - Cynthia Ogbonna, Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 P-05-710 Sicrhau y gall pobl anabl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo’i hangen arnynt – trafodaeth yn ystod y sesiwn dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 31 Ionawr gyda Llysgenhadon Whizz-Kidz a chytunodd i gymryd tystiolaeth lafar ychwanegol gan y canlynol:

 

 

  • Gweithredwyr rheilffyrdd;
  • Gweithredwyr bysiau;
  • Gwasanaethau tacsi;
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; ac
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith

 

 

 

 

 

 

 

 


Cyfarfod: 31/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2.)

Cyflwyniad a fideo gan Whizz-Kidz


Cyfarfod: 31/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3.)

Grwpiau trafod


Cyfarfod: 11/10/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth bellach i'r Pwyllgor.