Cyfarfodydd
Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ymgynghoriad ar y Newid Enw
Cofnodion:
Rhoddodd y Llywydd y newyddion diweddaraf i'r Comisiynwyr
ar waith a oedd wedi'i wneud i baratoi ymgynghoriad cyhoeddus, yn unol â
phenderfyniad blaenorol y Comisiwn.
Rhagwelwyd y byddai'r ymgynghoriad yn mynd yn fyw yn
ddiweddarach yn ystod yr wythnos, ac yn parhau ar agor tan 3 Mawrth. Roedd y Comisiynwyr yn fodlon ar y cynnydd a
wnaed, gan gynnwys y bwriad i hyrwyddo'r ymgynghoriad a'r arolwg ar-lein drwy'r
cyfryngau cymdeithasol a thrwy waith y timau cyfathrebu, addysg ac allgymorth.
Fel yr oedd y Comisiynwyr wedi awgrymu, bydd y Llywydd
hefyd yn anfon llythyr at yr holl Aelodau, ynghyd â gwybodaeth gefndirol. Gofynnodd y Llywydd i'r Comisiynwyr annog yr
Aelodau i ofyn i'w hetholwyr gwblhau'r arolwg.
Cyfarfod: 19/09/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Yng
nghyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf, cytunwyd i ystyried cwmpas y gwaith
a'r costau a fyddai'n gysylltiedig â newid enw'r Cynulliad, yn y disgwyliad y
bydd Bil Cymru 2016 yn rhoi cymhwysedd cyfreithiol i'r Cynulliad wneud hynny.
Wedi
ystyried opsiynau ar gyfer ymgynghori a materion cysylltiedig, cytunodd y
Comisiynwyr y dylai'r gwaith gael ei wneud i ddatblygu papur ymgynghori, gyda'r
bwriad o fod yn barod i ymgymryd â'r ymgynghoriad ar adeg briodol yn y dyfodol
rhagweladwy, gan ystyried hynt Bil Cymru yn San Steffan.
Cytunodd
y Comisiwn hefyd mai'r Llywydd fyddai'r Aelod sy'n gyfrifol am unrhyw Fil y
Comisiwn ar y mater hwn.