Cyfarfodydd

Busnes yr wythnos hon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu ar gyfer cynigion newydd ar gyfer y ddwy eitem ganlynol ddydd Mawrth:

 

o   Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

o   Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes hefyd at dynnu'r eitem ganlynol yn ôl, a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher:

 

·         Gorchymyn Etholiadau Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 2021 (15 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio o’r Siambr ar y ddau ddiwrnod yr wythnos hon.

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.15pm. 

 

 


Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at ohirio’r eitem a ganlyn tan 23 Mawrth:

 

·         Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021 (10 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai hi a'r Dirprwy Lywydd yn cadeirio o bell yr wythnos hon.

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm. 

 

 


Cyfarfod: 09/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ohirio’r eitemau a ganlyn tan 16 Mawrth:

 

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: 

o    Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021 

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021 

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021 

o    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. 

 

 


Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd egwyl cyn y bleidlais gyntaf yn nhrafodion Cyfnod 3, ac fel o'r blaen bydd PIN gwahanol ar gyfer y Cyfnod Pleidleisio ac ar gyfer Cyfnod 3.

 

Dydd Mawrth

 

·         Bydd y Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. 

 

 


Cyfarfod: 23/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer yr eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru, gan gynnwys y byddai Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn bresennol yn y Cyfarfod Zoom cyn dechrau'r Cyfarfod Llawn a than ddiwedd yr eitem.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.36pm.

 

Dydd Mercher 

 

·         Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 12.45.

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y ddwy Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm. 

 

 


Cyfarfod: 09/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ymarferol canlynol ar gyfer gwaith craffu deddfwriaethol yr wythnos hon a chytunodd arnynt:

 

·         bydd meicroffonau’r Aelodau perthnasol yn  weithredol yn ystod cyfnodau pan fydd gwelliannau'n cael eu cynnig yn ffurfiol a phan bleidleisir arnynt, er mwyn osgoi oedi;

 

·         at ddibenion pleidleisio, cynhelir dau gyfarfod ar wahân gyda gwahanol rifau adnabod ar y ddau ddiwrnod, felly bydd angen i Aelodau fewngofnodi i'r system ddwywaith;

 

·         ddydd Mawrth, bydd toriad cyn y bleidlais gyntaf yn y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan, a thoriad byr rhwng y Pwyllgor a dechrau'r Cyfarfod Llawn; a

 

·         dydd Mercher, bydd toriad cyn y bleidlais gyntaf ym mhob un o’r trafodion Cyfnod 3, toriad byr rhwng y Cyfnod 3 cyntaf a Chwestiynau Llafar, ac eto cyn y Cyfnod 3 ar y Bil Brys.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau ar ôl diwedd trafodion y Pwyllgor o’r Senedd Gyfan ar gyfer Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), a fydd yn dechrau am 13.00.

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

 

Dydd Mercher 

 

·         Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.00.

·         Ni fydd cyfnod pleidleisio heblaw yn ystod y ddwy ddadl Cyfnod 3.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm. 

 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n arfer ei phwerau dethol, er mwyn osgoi i Gyfnod 2 o’r Bil Brys gael ei ailadrodd yng Nghyfnod 3, ac anogodd yr Aelodau i beidio ail-gyflwyno gwelliannau sydd wedi'u gwrthod yn gynhwysfawr yng Nghyfnod 2.

 

 


Cyfarfod: 02/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at newid i fusnes dydd Mawrth i symud yr egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) i ddiwedd y dydd.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm. 

 

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am frechiadau COVID-19, yn ogystal â newid bach i deitl y datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg.  Dywedodd y byddai datganiad ar frechlynnau bob wythnos hyd y gellir rhagweld.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.55pm. 

 

 


Cyfarfod: 19/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Busnes yr wythnos hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at un newid i Fusnes yr Wythnos Hon – bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud y datganiad ar Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn lle'r Gweinidog.

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.35pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm. 

 

 


Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Busnes yr wythnos hon

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at wahanol ychwanegiadau i Fusnes yr Wythnos Hon, gan gynnwys atal Rheolau Sefydlog dros dro ddwy waith er mwyn caniatáu i rai eitemau gael eu cynnal:

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Strategaeth Frechu COVID-19 (45 munud)

·         Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dros Dro (5 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020

·         Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dros Dro (5 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (30 munud)

Byddai'r amser ar gyfer y ddadl ar y gyllideb yn gostwng o 90 munud i 60 munud, a’r amseroedd unigol ar gyfer yr Aelodau a'r Gweinidog yn cael eu haddasu’n unol â hynny.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes fod dadl Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf.

 

Rhith-gyfarfodydd

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Cyfarfod Llawn yn parhau i fod yn rhithwir am y tro.

 

 


Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.25pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau amrywiol i Fusnes yr Wythnos Hon:

 

 

·         ychwanegu dau gynnig i atal y Rheolau Sefydlog;

·         ychwanegu datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar Bontio'r UE;

·         ychwanegu dadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020;

·         ychwanegu dadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020;

·         ychwanegu dadl ar Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020;

·         ychwanegu dadl ar lefelau newydd o gyfyngiadau i ymateb i bandemig y coronafeirws;

·         datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Gohiriwyd cyhoeddi'r polisi cenedlaethol ar drosglwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd tan fis Ionawr 2021;

·         mae'r ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach wedi'i gohirio.

 

 

Cytunodd y Pwyllgor mai trefn y Dadleuon Byr a drefnwyd ar gyfer 16 Rhagfyr fyddai Andrew RT Davies yn gyntaf a Neil Hamilton yn ail.

 

Trafododd y Pwyllgor y tebygolrwydd y bydd y Senedd yn cael ei hadalw rywbryd rhwng diwedd y tymor a 31 Rhagfyr i drafod materion yn ymwneud ag ymadael â'r UE, a chytunodd y dylai unrhyw gyfarfod adalw ddigwydd mewn fformat rhithwir.

 

 


Cyfarfod: 08/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 35

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o bara’n hwyrach na 7.10pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Cynhelir Amser Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o bara’n hwyrach na 7.20pm. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau amrywiol i Fusnes yr Wythnos Hon:

 

·         ychwanegu dadl ar y cyfyngiadau Coronafeirws newydd i agenda dydd Mawrth, ochr yn ochr â chynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro, er mwyn caniatáu iddi ddigwydd;

·         y datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mae’r diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd a'r ddadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20 ill dau wedi'u gostwng mewn amser o 45 i 30 munud; a;

·         Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 wedi’i ohirio.

 

Dadl ar Gyfyngiadau Coronafeirws

 

Amlygodd y Llywydd fod cyfanswm o 17 o welliannau wedi’u cyflwyno i ddadl dydd Mawrth, a 5 i ddadl y Ceidwadwyr ddydd Mercher, ac y gallai ddefnyddio ei phwerau dewis, yn ôl yr arfer.

 

Adroddiad safonau

 

Er mwyn cynnal busnes yn iawn, cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddadl ar yr Adroddiad Safonau fel yr eitem olaf cyn yr amser pleidleisio.

 

 


Cyfarfod: 01/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 38

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i Fusnes yr Wythnos Hon:

 

·         Mae'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ailadeiladu economaidd wedi'i dynnu'n ôl.

·         Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Farchnad Fewnol wedi'i ohirio tan 8 Rhagfyr.

·         Mae datganiad gan y Prif Weinidog ar gyfyngiadau Coronafeirws mis Rhagfyr wedi cael ei ychwanegu fel yr eitem olaf o fusnes.

 

 

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 5.40pm. 

 

Dydd Mercher 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.15pm. 

 

 

 


Cyfarfod: 24/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 41

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw’r Rheolwyr Busnes at y ddau newid i fusnes yr wythnos hon - ychwanegu datganiad am y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a thrafod Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 yn ddiweddarach yn ystod y dydd.

 

Newid yn y Siambr

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwr Reolwyr y dylai'r Aelodau hynny sy'n eistedd wrth ymyl y seddi sy'n newid (meinciau’r Ceidwadwyr a’r llywodraeth ar hyn o bryd) hefyd adael y Siambr yn ystod y newid, a dychwelyd dim ond ar ôl i'r gloch ganu, er mwyn rhoi digon o le i’r rhai sy’n rheoli’r newid. 

 

Zoom

 

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau hynny sy'n ymuno â'r Cyfarfod Llawn yn rhithwir wneud hynny mewn da bryd, a hynny oherwydd bod Zoom yn diweddaru ac mae’n bosibl y bydd angen iddynt roi  cyfrinair.

 

 


Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw’r Rheolwyr Busnes at y ddau newid ym musnes yr wythnos hon - ychwanegiad datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar Tata Steel, a’r datganiad ar y Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru sydd bellach yn cael ei gyflwyno gan Ddirprwy Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

 

Camerâu ymlaen yn ystod y cyfnod pleidleisio

 

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes ddweud wrth yr Aelodau am gychwyn eu fideos yn ystod y cyfnod pleidleisio, fel mater o gwrteisi a threfn dda. Bydd hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i fynd i'r afael ag unrhyw faterion technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio.

 

Aelodau'n methu â phleidleisio

 

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y gellir atal y cyfarfod ar unrhyw adeg os yw’r Aelodau’n cael anhawster pleidleisio ac os bydd 3 Aelod yn gofyn am hynny.

 

Newidiadau

 

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i beidio â mynd i mewn i'r Siambr nes bod y gloch wedi canu. O'r wythnos hon ymlaen, bydd y tywyswyr yn gofyn i'r Aelodau beidio â mynd i mewn i'r Siambr tra mae gwaith glanhau ar y gweill.

 

 


Cyfarfod: 10/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 47

Cofnodion:

Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cynnig gohirio’r trafodion tan ddydd Mercher, os daw'n amlwg na fydd Cyfnod 3 yn cael ei gwblhau erbyn diwedd dydd Mawrth.

 

Egwyliau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl byr cyn y cyfnod pleidleisio (os oes gwrthwynebiad i'r cynnig o dan Eitem 4) neu ar ôl y grŵp cyntaf yng Nghyfnod 3, ac yn defnyddio ei barn ar unrhyw egwyliau ar ôl hynny. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael egwyl hwy oddeutu 7pm.

 

 


Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 50

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y nifer o newidiadau i agenda dydd Mawrth, fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol.

 

Egwyliau

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes nad oedd angen trefnu egwyliau ar gyfer yr wythnos hon, gan nad oes angen newid Aelodau mewn Cyfarfod Llawn rhithiol.

 

 


Cyfarfod: 20/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 53

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau i agenda dydd Mawrth – bydd dau ddatganiad yn awr yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, er mwyn gwneud lle i ddadl ar gyfnod atal byr coronafeirws, y mae angen atal y Rheolau Sefydlog ar ei gyfer.

 

Canllawiau ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd canllawiau diwygiedig ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid yn cael eu dosbarthu, yn dilyn ei dyfarniad yr wythnos diwethaf y dylai Aelodau ymatal rhag defnyddio deunydd hyrwyddo fel cefndir yn Zoom.

 

Pleidleisio - datganiadau llafar

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau mai dim ond fel datrysiad mewn argyfwng y gellir pleidleisio ar lafar pe bai Aelod yn cael problemau annisgwyl gyda'r ap pleidleisio. Dylai Aelodau ymuno o leoliad a dyfais a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio'r ap.

 

Newidiadau i grwpiau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn ystyried y cais gan dri Aelod i ffurfio Grŵp Cynghrair Annibynnol ar gyfer Diwygio. Nid yw grŵp Plaid Brexit yn bodoli mwyach.

 

 


Cyfarfod: 13/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 56

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at un newid i'r agenda ar gyfer heddiw – amseriad y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cynnal trefn yn y Siambr hybrid

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod, yn dilyn anhrefn yn y Siambr yr wythnos diwethaf, wedi ysgrifennu at yr Aelod dan sylw yn dweud na fyddai'n cael ei alw i siarad nes iddi gael ymddiheuriad ffurfiol. Mae hyn yn gymwys i’r trafodion hynny sy’n destun disgresiwn y Cadeirydd o ran a ddylid galw Aelod i siarad ai peidio, ac felly byddai’r Aelod yn cael ei alw i ofyn Cwestiwn 5 i'r Prif Weinidog heddiw. Cafodd y Rheolwyr Busnes eu briffio ar y gweithdrefnau ar gyfer cynnal trefn a sut y byddai'r rhain yn gweithio mewn amgylchedd hybrid.

 

Dethol gwelliannau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi gofyn i swyddogion roi arweiniad i'r Aelodau ynghylch dethol gwelliannau yn ystod cyfarfod llawn hybrid.

 

Gofynnodd y Trefnydd i'r Llywydd a ellid gwneud penderfyniadau ar ddethol yn gynharach yn yr wythnos, er mwyn helpu i baratoi ar gyfer dadleuon. Esboniodd y Llywydd ei bod yn gwneud synnwyr iddi wneud y penderfyniadau ar fore'r Cyfarfod Llawn pan fydd ganddi ddarlun llawnach o nifer y siaradwyr ac ati, ac y byddai’r materion a godir mewn gwelliant, yn amlach na pheidio, yn cael eu codi yn y ddadl p'un a gaiff gwelliant ei ddethol ai peidio.

 

Gwasanaethau Clyweledol (AV)

 

Mae Jenny Rathbone wedi gofyn a allai ddangos deunydd clyweledol yn ystod y Ddadl Aelod ddydd Mercher. O ystyried yr anawsterau ymarferol, mae'r Llywydd wedi penderfynu na ellir defnyddio deunydd clyweledol mewn Cyfarfod Llawn hybrid na rhithwir.

 

 

 


Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 59

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth yr Aelodau ei bod wedi diweddaru teitl datganiad y Cwnsler Cyffredinol ar y papur Saesneg.

 

Dethol gwelliannau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y gallai, oherwydd nifer y gwelliannau a gyflwynwyd yr wythnos hon, ddefnyddio ei phwerau i beidio â dethol gwelliannau lle mae'n credu ei bod yn briodol i gynnal busnes y Senedd yn briodol.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd fod dadl y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf' hefyd wedi denu dau welliant, na fydd yn eu dethol yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii).

 

Trefn yn y Siambr/ar Zoom

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn trin rhagor o achosion o Aelodau'n agor eu meicroffonau eu hunain pan na elwir arnynt, fel mater o drefn, ac y bydd yn gwneud cyhoeddiad i'r perwyl hwnnw ar hyn cyn y cyfarfod llawn heddiw.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 62

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes benderfyniad y Llywydd i barhau â Chyfarfodydd Llawn hybrid yr wythnos hon, yn dilyn ymgynghoriad anffurfiol â’r Rheolwyr Busnes.

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai Aelodau meinciau cefn Llafur ac aelodau'r llywodraeth yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd hybrid o bell yr wythnos hon.

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i fusnes dydd Mawrth yn y copi diwygiedig o Fusnes yr Wythnos Hon a ddosbarthwyd ddoe:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am Gyfyngiadau Lleol y Coronafeirws wedi cael ei symud yn ddiweddarach yn yr agenda.
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi'i ohirio tan 13 Hydref.
  • Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd wedi'i ohirio tan 6 Hydref.

 

Dywedodd y Trefnydd hefyd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd newid pellach i symud y rheoliadau iechyd cyhoeddus i ddod yn gynharach yn y dydd.

 

 


Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 65

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i fusnes dydd Mawrth: ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; gohirio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020; a thynnu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 yn ôl.

 

Egwyl / newid

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gael un egwyl dydd Mawrth a dau egwyl dydd Mercher.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y gloch yn cael ei chanu ar ddiwedd pob egwyl, i roi rhybudd y gall Aelodau ddod i mewn i'r Siambr a bod busnes ar fin ailddechrau.

 

Terfyn amser Datganiadau 90 Eiliad

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau 90 eiliad fydd 10am – yr un peth â chwestiynau amserol. Os nad yw pob slot ar gyfer y diwrnod hwnnw yn cael eu llenwi, gall y Llywydd ddefnyddio ei disgresiwn i dderbyn cais hwyr.

 

Gwelliannau i gynigion

 

Yn y sefyllfa bresennol ac o ystyried hyd y dyddiau busnes, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn defnyddio ei phŵer i ddad-ddethol gwelliannau pan fydd o’r farn bod hynny’n briodol at ddibenion cynnal busnes y Senedd yn gywir.

 

 


Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 68

Cofnodion:

Amseru ar gyfer datganiadau

 

Ymgynghorodd y Llywydd â'r Rheolwyr Busnes a chadarnhaodd y dylai llefarwyr siarad unwaith am uchafswm o bum munud yn ystod datganiadau. Cadarnhaodd hefyd fod pob Aelod arall yn parhau i gael ei gyfyngu i un funud yr un mewn cyfarfodydd rhithwir a hybrid, ac y bydd yn dychwelyd i alw'r Ceidwadwyr yn gyntaf bob amser ar ddatganiadau.

 

Amseru ar gyfer Cwestiynau Llafar

Cadarnhaodd y Llywydd y bydd yr holl gwestiynau atodol yn parhau i gael eu cyfyngu i un funud.

 

Cadarnhaodd y Llywydd hefyd y bydd cwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr yn parhau i gael eu cyfyngu i un funud y cwestiwn (3 chwestiwn i'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru a 2 i Blaid Brexit).

 

Mygdau yn y Siambr

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y gellir gwisgo mygydau yn y Siambr, ond nad oes eu hangen, ac y dylai Aelodau eu tynnu wrth siarad.

 

 


Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 71

Cofnodion:

Cododd y Trefnydd y mater o ddau Aelod yn methu â phleidleisio ar wahanol adegau yr wythnos diwethaf. Esboniodd y Llywydd ei bod yn bosibl i'r Aelodau gael eu cynnwys yn y system yn electronig gan glerc, pe bai un neu ddau ohonynt yn profi problem anorchfygol. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan eu pleidlais ar lafar tra bod y bleidlais yn agored. Bydd y Llywydd yn defnyddio hyn pan fydd hi'n ystyried ei bod yn angenrheidiol, a phe bai problem ar raddfa fwy eang, byddai'n troi at bleidleisio wedi'i bwysoli. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd barhau â'r arfer cyfredol o beidio â chaniatáu ymyriadau ac eithrio mewn slot penodol tuag at ddiwedd dadl.

 

Aelodau Annibynnol

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes gan na all Neil Hamilton fod yn y Cyfarfod Llawn ei hun ddydd Mercher, er ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn y balot, y cynigir ei le i Neil McEvoy (yr Aelod arall nad yw mewn grŵp, a oedd wedi mynegi yr hoffai fod yn bresennol yn bersonol).

 

Rheoliadau

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth wedi tynnu'r cynigion canlynol yn ôl:

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020; a
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020.

Y rheswm am hyn yw bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a osodwyd ddydd Gwener yn eu diddymu.

 

Amser dechrau ac egwyl

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael egwyl tua 12.30, ar ôl cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol. Cytunwyd hefyd i gael egwyl byr ar ôl busnes y llywodraeth, tua 15.30.

 

Mewn ymateb i gais gan y Trefnydd, cytunodd y Llywydd y gellir cyfnewid Gweinidogion yn ystod y ddau egwyl, fel y gall mwyafrif y Gweinidogion arweiniol, neu'r rhan fwyaf, gymryd rhan yn y Siambr.

 

 


Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 74

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu gwneud datganiad ar Srebrenica cyn dechrau'r Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog a David Melding hefyd yn cael eu galw i wneud datganiadau byr.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn cyflwyno Laura Anne Jones fel Aelod newydd o'r Bumed Senedd ac yn ei gwahodd i wneud anerchiad byr.

 

Amser dechrau ac egwyl

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn gychwyn am 11.00am ac y dylai'r egwyl fod am tua 12.45pm, ar ôl Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i'r Cyfarfod Llawn gychwyn yn gynharach am 10.00am yr wythnos nesaf.

 

 

Cwestiynau Llefarwyr ar ddatganiadau Gweinidogol

 

Ymgynghorodd y Llywydd â Rheolwyr Busnes a nodi y bydd y trefniadau ar gyfer yr wythnos hon yn aros fel yr oeddent cyn cyflwyno'r Cyfarfod Llawn rhithwir: 10 munud neu 1000 o eiriau (pa un bynnag sydd fwyaf) i Weinidogion wneud eu datganiad a hyd at 5 munud yr un i lefarwyr grwpiau i ofyn un cyfres o gwestiynau.

 

Bydd y trefniadau ar gyfer Cwestiynau Llafar hefyd yn aros yr un fath ag yr oeddent cyn cyflwyno'r Cyfarfod Llawn rhithwir: Bydd llefarwyr y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cael eu galw i ofyn 3 chwestiwn heb rybudd i'r Gweinidog. Bydd llefarwyr Plaid Brexit yn cael eu galw i ofyn 2 gwestiwn heb rybudd i 3 Gweinidog o’u dewis. Bydd yr holl gwestiynau hyn hyd at un funud yr un.

 

 

Canllawiau Cyfarfod Llawn hybrid

 

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn dosbarthu canllawiau i'r Aelodau y prynhawn yma.

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd o'r canlynol:

 

  • cynllun seddi newydd sy'n dynodi seddi penodol yn unol ag ymbellhau cymdeithasol, a chafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa i hysbysu swyddogion o enwau eu Haelodau a fydd yn gorfforol bresennol yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon a ble y byddant yn eistedd;
  • pe bai'r system bleidleisio electronig newydd yn methu am unrhyw reswm, y system wrth gefn fydd y dull pleidleisio wedi'i bwysoli. Gofynnwyd i Reolwyr Busnes ddarparu enw eu pleidleisiwr enwebedig yn yr un modd ag y maent ar gyfer wythnosau blaenorol; a
  • cyfranogiad cyfartal i'r Aelodau sy'n cymryd rhan o bell ac yn y Siambr, ac na ddylai unrhyw Aelod fod â mwy o siawns o gael ei alw.

 

Aelodau Annibynnol:

Roedd y Llywydd wedi derbyn ymatebion gan Aelodau Annibynnol i'w llythyr yn egluro'r uchafswm presenoldeb oherwydd ymbellau cymdeithasol yn y Siambr ac yn gofyn iddynt enwebu rhyngddynt un Aelod i fod yn gorfforol bresennol bob wythnos. Mynegodd dau Aelod eu bod yn dymuno bod yn gorfforol bresennol yn y ddau gyfarfod, ac y byddai'r ddau arall yn bresennol yn rhithwir. 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Swyddfa Gyflwyno gynnal balot ar gyfer unrhyw Aelodau Annibynnol sy'n dymuno bod yn gorfforol bresennol, a chreu system gylchdro sy'n caniatáu i eraill fod yn bresennol mewn sesiynau diweddarach.

Bydd unrhyw ddargyfeiriad yn ystod y Cyfarfod Llawn o'r uchafswm y cytunwyd arno ar niferoedd yn unol â rheoliadau COVID yn cael ei drin fel mater o drefn.

 

Cyfnod 3

 

Dywedodd y Llywydd wrth yr Aelodau, oherwydd y rheolau ynghylch pleidleisio o bell, y byddai egwyl o 5 munud ar ôl y ddwy ddadl yn ystod Cyfnod 3, cyn pleidleisio ar y gwelliannau.

 

 


Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 77

Cofnodion:

Amser dechrau ac egwyl

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r amser dechrau aros yn 11.00 ac y dylai'r egwyl ddod ar ôl y cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, am tua 13.15.

 

 


Cyfarfod: 22/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 80

Cofnodion:

Cwestiynau Llafar

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y caiff yr holl gwestiynau atodol eu cyfyngu i un funud. Bydd Arweinwyr / Llefarwyr yn cael tri chwestiwn (Ceidwadwyr a Phlaid Cymru) neu ddau gwestiwn (Plaid Brexit) fel o'r blaen, ond caiff pob cwestiwn hefyd ei gyfyngu i un funud.

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y caiff cyfraniadau aelodau eu cyfyngu i un funud a'r disgwyliad yw y bydd y Gweinidog hefyd yn cadw ei hymatebion yn gryno.

 

Egwyl

 

Cytunodd y Trefnydd i symud y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes i fod ar ôl y Cwestiynau i'r Prif Weinidog, a chytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r egwyl ddod wedyn, ar ôl y cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Materion Gwledig, am tua 13:00.

 

Trefn dadleuon

 

Gofynnodd Caroline Jones i ddadl Plaid Brexit gael ei hamserlennu cyn dadl y Blaid Geidwadol ar agenda dydd Mercher: Cytunodd y Rheolwyr Busnes.

 

 


Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 83

Cofnodion:

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes yr wythnos hon.

 

Ymyriadau

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd, cyn i'r siaradwr olaf ymateb i'r ddadl, yn cymryd cyfraniadau o un funud gan Aelodau a fydd am ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau sydd eisoes wedi siarad.

 

Sut i Ymuno

 

Hysbyswyd y Pwyllgor Busnes, yn wahanol i'r wythnosau blaenorol a gan fod hyd at 60  Aelod yn bresennol erbyn hyn, y byddai'r swyddogion TGCh yn canolbwyntio eu hadnoddau ar sicrhau bod y Prif Weinidog ac Arweinwyr y Pleidiau sy'n siarad ar ddatganiad y Prif Weinidog wedi ymuno â'r cyfarfod cyn yr amser cychwyn. Bydd Rheolwyr Cyfrifon TGCh wrth law fel bob amser i gynorthwyo unrhyw Aelodau eraill i ymuno.

 

Egwyl

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael yr egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20. Fodd bynnag, os na ddewisir unrhyw Gwestiynau Amserol, bydd yr egwyl yn gynharach.

 

 


Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 86

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at agenda dydd Mercher, a nododd y bydd yn cynnwys diweddariad ar dwristiaeth.

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â gofyn unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Ymyriadau

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i beidio ag anfon negeseuon Zoom at bawb, gan fod y rhain yn cael eu darlledu. Bydd hi'n galw i drefn unrhyw Aelodau sy'n gwneud hynny o'r wythnos hon ymlaen.

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y bydd, cyn i'r siaradwr olaf ymateb i'r ddadl, yn cymryd cyfraniadau o un funud gan Aelodau a fydd am ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd eisoes wedi siarad.

 

Sut i Ymuno

 

Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes hysbysu'r Aelodau bod angen iddynt ddilyn yr un patrwm â'r wythnos diwethaf - i hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Siambr pwy fydd yn bresennol, ac i gael eu ceisiadau siarad i mewn erbyn diwedd prynhawn dydd Mawrth os yw hynny'n bosibl.

 

Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau bod angen iddynt ymuno â'r cyfarfod am 10.30am (neu hanner awr cyn yr amser cychwyn os ydynt ond yn ymuno ar gyfer sesiwn y prynhawn), fan bellaf, i ganiatáu amser ar gyfer gwiriadau TG. Bydd angen i Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl 10.50am (neu 10 munud cyn dechrau unrhyw sesiwn) aros nes y bydd y cyfarfod wedi dechrau.

 

Egwyl

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael yr egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20.

 

 


Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 89

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar Ddigartrefedd at gyfarfod dydd Mercher. Dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai datganiad gan y Gweinidog Addysg yn cael ei ychwanegu at yr agenda brynhawn heddiw.  

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. 

 

Ymyriadau

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd, fel y digwyddodd yn nadl y llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn diwethaf, yn ymdrin ag ymyriadau yn wahanol i'r ffordd y byddai mewn cyfarfod arferol. Yn hytrach nag ymyriadau, cyn i'r siaradwr olaf ymateb i ddadl, bydd y Llywydd yn cymryd cyfraniadau un funud gan Aelodau sy'n ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd eisoes wedi siarad. 

 

Sut i Ymuno

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes, er y bydd hawl i'r holl 60 o Aelodau fod yn bresennol, bod angen i grwpiau ac aelodau annibynnol hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Siambr o hyd o bwy fydd yn bresennol. Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes annog Aelodau i gyflwyno eu ceisiadau i siarad erbyn diwedd dydd Mawrth os yn bosibl. 

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes hefyd sicrhau bod Aelodau yn ymwybodol fod angen iddynt ymuno â'r cyfarfod am 10.30 (neu hanner awr cyn yr amser dechrau os ydynt yn ymuno â sesiwn y prynhawn yn unig), ar yr hwyraf, er mwyn caniatáu amser ar gyfer gwiriadau TG. Bydd angen i Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl 10.50am (neu 10 munud cyn dechrau sesiwn y prynhawn) aros nes y bydd y cyfarfod wedi dechrau.  

 

Egwyl

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal yr egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20.  

 

 

 


Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 92

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes bod y llywodraeth yn bwriadu cyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatau i ddadl ar 'Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod' gael ei chynnal ddydd Mercher. Er mwyn gwneud hynny, bydd y datganiadau gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi,  Trafnidiaeth a Gogledd Cynmru yn cael eu cyfyngu i 45 munud, a datganiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gael ei dynnu yn ôl.

 

Mynegodd y Rheolwyr Busnes eu siom na fydd datganiad llafar bellach gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a chytunodd y Trefnydd i gyfleu hyn i'r Gweinidog.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r amser terfynol ar gyfer cyflwyno gwelliannau i'r cynnig fydd 6.00pm dydd Mawrth, ac y bydd yn dethol gwelliannau ar sail annog cynnal busnes y cyfarfod llawn mewn cyd-destun rhithwir yn drefnus. Roedd, felly, yn annog grwpiau i ystyried nifer y gwelliannau y byddant yn eu cyflwyno. 

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd, yn hytrach nag ymyriadau, cyn i'r Prif Weindog ymateb i'r ddadl, yn cymryd cyfraniadau o yn funud gan Aelodau a fydd am ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd eisoes wedi siarad. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu nodyn i'r Aelodau yn esbonio hyn.

 

Grwpio rheoliadau

 

Gofynnodd Darren Millar i'r ddwy set o reoliadau Covid-19 gael eu grwpio i'w trafod gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân, ac felly caiff y cynnig i grwpio ei newid yn unol â hynny.

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

 


Cyfarfod: 11/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 95

Cofnodion:

Adborth o Gyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwr Busnes atgoffa'r Aelodau o'r cyfyngiadau amser wrth siarad, ac i fod yn gryno.

 

Cwestiynau Amserol

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai Cwestiynau Amserol barhau i gael eu hamserlennu ar ôl Datganiad y Prif Weinidog, ac y dylid gwneud unrhyw benderfyniad i symud cwestiwn yn gynharach yn y sesiwn gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes drwy e-bost.

 

Trefn siaradwyr ar ddatganiadau

Cadarnhaodd y Llywydd o ran datganiadau, y bydd y Ceidwadwyr yn cael eu galw gyntaf chwe gwaith am bob pum gwaith y bydd Plaid Cymru yn cael ei galw gyntaf. Mae hyn yn unol â'r dyraniad arferol a ddefnyddir o ran cwestiynau Arweinwyr a llefarwyr.

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Galw yn ôl

Gofynnodd Sian Gwenllian am alw'r Senedd yn ôl bore yfory, er mwyn trafod rheoliadau newydd Covid-19 sydd yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr, a'r gwahaniaeth yn null gweithredu'r ddwy lywodraeth. Nid oedd y Rheolwr Busnes eraill yn cytuno fod angen galw'r Senedd yn ôl cyn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher felly barn y mwyafrif oedd yn erbyn y cynnig.

 

 


Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 98

Cofnodion:

Adborth o'r Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes fod cyflymder y cyfarfod wedi gwella llawer, oherwydd y terfynau amser newydd ar gyfer cyfraniadau ar ddatganiadau.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynyddu nifer yr Aelodau Plaid Cymru i 5 er mwyn rhoi gwell adlewyrchiad o faint cymharol grwpiau. Fel arall, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddilyn yr un fformat a gweithdrefnau ar gyfer cyfarfod yr wythnos hon.

 

Mewn ymateb i gais gan Sian Gwenllian, cytunodd y Llywydd i ystyried a ddylid galw Aelodau am yn ail i ofyn cwestiynau ar ddatganiadau. Nododd Darren Millar ei fod yn gwrthwynebu unrhyw newid.

 

Cwestiynau Amserol

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn gwneud penderfyniad ar unrhyw gwestiynau amserol a gyflwynir yr wythnos hon cyn gynted â phosibl ar ôl y terfyn amser am 6.00pm, ac y bydd yr Aelodau a'r llywodraeth yn cael eu hysbysu'r noson honno.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gymryd y Cwestiynau Amserol ar ôl datganiad y Prif Weinidog. Bydd unrhyw Weinidogion sy'n bresennol i ateb cwestiynau amserol yn unig yn ychwanegol at ddyraniad arferol Llafur / llywodraeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â gofyn unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion am bapur ar opsiynau ar gyfer datblygu busnes y Cyfarfod Llawn dros yr wythnosau nesaf.

 

 


Cyfarfod: 27/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 101

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod yr holl ddatganiadau wedi'u hymestyn o 45 munud i 60 munud yr un.

 

Adborth o gyfarfod llawn yr wythnos diwethaf

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y LLywydd fod angen i'r Aelodau fod yn ddisgybledig wrth hysbysu swyddogion ynghylch pwy fydd yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn, ac o ran cyrraedd hanner awr cyn i'r cyfarfod ddechrau.

 

O ystyried bod y Cyfarfodydd Llawn yn ymestyn o ran hyd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i gael seibiant technegol hanner ffordd drwy'r cyfarfod. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i'r dechnoleg gael ei hailosod hanner ffordd drwy'r cyfarfod.

 

Pwynt o Drefn - iaith anghwrtais

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd ynghylch defnyddio iaith anghwrtais. Mae'r Gweinidog wedi ymateb i gadarnhau y bydd yn annerch y Cynulliad ar y mater hwn ar y cyfle nesaf sydd ar gael. Bydd y Llywydd yn codi'r pwynt o drefn ar ddechrau Cyfarfod Llawn dydd Mercher.

 

Hyd y cwestiynau

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes hyd y cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, a chytunwyd i osod terfynau amser ar gyfer cwestiynau ar ddatganiadau. Cytunwyd i ganiatáu i lefarwyr ofyn dwy set o gwestiynau, yn yr un modd ag arweinwyr pleidiau, ac i'r ddwy set ar gyfer arweinwyr plaid a llefarwyr gael eu cyfyngu i 2 funud yr un. Caniateir un cyfraniad 3 munud i arweinydd a llefarwyr Plaid Brexit. Cyfyngir yr holl gyfraniadau eraill i un funud yr un. Disgwylir i hyd atebion y Gweinidogion fod yn gymesur â hyd y cwestiynau a gaiff eu gofyn.

 

 


Cyfarfod: 17/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 104

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddraf i'r Pwyllgor Busnes ynghylch ychwanegu dau ddatganiad ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, a bod yr holl ddatganiadau wedi'u hymestyn i 45 munud yr un.

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) (45 Munud)

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes hefyd fod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi'u gohirio tan 29 Ebrill fel y gellir eu trafod ochr yn ochr â'r rheoliadau a fydd yn eu diwygio.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher yr wythnos nesaf, ac y dylai ddechrau am 1.30pm. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd na fydd unrhyw doriad yn y trafodion.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â rhoi unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Nifer yr Aelodau'n bresennol:

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i barhau gyda dyrannu Aelodau ar gyfer pob grŵp o'r Cyfarfod Llawn diwethaf: 12 Llafur a'r llywodraeth, 6 Ceidwadwyr, 4 Plaid Cymru a 2 Brexit, gan roi uchafswm o 28 yn bresennol pe bai pob Aelod annibynnol yn bresennol.

 

Cytunwyd hefyd i ganiatáu i aelod arall o'r pleidiau gymryd lle eu harweinwyr pleidiau (gan gynnwys y Prif Weinidog) ar ôl yr eitem gyntaf.

 

Gofynnodd y Llywydd i swyddogion anfon nodyn at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o ymddygiad yn ystod cyfarfodydd Zoom.

 

 


Cyfarfod: 03/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 107

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes fod y llywodraeth wedi grwpio'r egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gyda'i gilydd i'w trafod.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal Cyfarfod Llawn ddydd Mercher yr wythnos nesaf, ac y dylai ddechrau am 1.30pm.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y dylid darlledu'r Cyfarfod Llawn nesaf yn fyw ac y dylid cael egwyl fer (tua 15 munud) cyn y ddadl Cyfnod 1 i ganiatáu egwyl fer, ac ar gyfer newid Aelodau os oes angen. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes fynd yn ôl at eu grwpiau i drafod nifer eu Haelodau a fyddai'n cyfnewid yn ystod yr egwyliau hyn, gan gynghori na ddylai fod yn fwy na hanner, ac os yn bosibl llawer llai na hynny.

Gofynnodd y Llywydd hefyd i’r Rheolwyr Busnes roi adborth i'w grwpiau y dylai ail siaradwyr ar eitemau addasu eu cwestiynau er mwyn osgoi gofyn cwestiynau a ofynnwyd eisoes, fel y gall cyfarfodydd rhithwir ddefnyddio amser yn fwy effeithlon.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio gofyn unrhyw gwestiynau ynghylch y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

Nifer yr Aelodau sy'n bresennol:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y gallai rhagor o Aelodau fod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn, o ystyried: nid yw pellter cymdeithasol yn broblem bellach; dangoswyd bod y system TG yn gweithio'n llwyddiannus yr wythnos diwethaf; a, bydd pleidleisiau yn cael eu pwysoli. Cytunwyd i ddyblu'r dyraniad ar gyfer pob grŵp: 12 Llafur a’r llywodraeth, 6 Ceidwadwr, 4 Plaid Cymru a 2 Plaid Brexit, gan roi uchafswm o 28 yn bresennol pe bai pob Aelod annibynnol yn mynychu.

Cyfnod 1 o’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Nid oedd Darren Millar na Caroline Jones yn credu bod y ddadl yn briodol o dan yr amgylchiadau presennol. Roedd Sian Gwenllian yn hapus i'r ddadl gael ei chynnal er ei bod yn cydymdeimlo â'r safbwyntiau a fynegwyd. Nododd y Rheolwyr Busnes, gan mai busnes y llywodraeth yw hwn, mai mater i'r llywodraeth yn unig yw'r amserlennu a phwysleisiodd y Trefnydd natur hanfodol y Bil o ran ei amseriad.

Er mwyn caniatáu i'r tri chadeirydd pwyllgor gael eu galw yn y ddadl Cyfnod 1, cytunodd y Trefnydd i'r cais gan y Rheolwyr Busnes iddo gael ei ymestyn i'r hyd arferol o 60 munud.

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai pleidleisio’n digwydd drwy bwysoli pleidleisiau a thrwy alw cofrestr yr Aelodau, a bydd angen i grwpiau plaid nodi ymlaen llaw pa rai o'r Aelodau presennol fydd yn pleidleisio ar ran eu grŵp.

Adborth o'r Cyfarfod Llawn rhithwir

Roedd y Rheolwyr Busnes yn teimlo bod y Cyfarfod Llawn rhithwir wedi mynd yn dda iawn, a chytunwyd i anfon llythyr ffurfiol o ddiolch at holl staff y comisiwn a gymerodd ran.

 

 


Cyfarfod: 27/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 110

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ddydd Mercher nesaf am 2pm, yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch argaeledd Gweinidogion. Byddai'r cyfarfod ar ffurf 'Senedd Frys' gyda llai o bresenoldeb yn unol â'r cytundebau rhwng y grwpiau. Cytunwyd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithiol, trwy gynhadledd fideo, ac y byddai'n cael ei gadw mor fyr â phosibl. I'r perwyl hwn, cytunodd y Trefnydd y byddai'r amser ar gyfer pob datganiad yn cael ei gyfyngu i 30 munud. Byddai unrhyw bleidleisiau yr oedd angen eu cynnal yn bleidleisiau wedi'u pwysoli ac yn ôl rhestr bresenoldeb. Cytunwyd y byddai hwn yn gyfarfod ffurfiol o'r Cynulliad, yn ddarostyngedig i Reolau Sefydlog fel arfer, ac felly'n gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ganfod pa Aelodau fydd yn bresennol cyn gynted â phosibl, fel y gellir cynnal prawf TGCh. Gofynwyd i'r Llywydd gysylltu â'r pedwar Aelod annibynnol ynghylch y cyfarfod.

 

 

 


Cyfarfod: 23/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 113

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y cynnig i atal Rheolau Sefydlog ar ddechrau’r cyfarfod yn caniatau i gwestiynau Gweinidogol beidio â chael eu gofyn – mae Gweinidogion, yn hytrach, wedi cytuno i ddarparu atebion ysgrifenedig. Bydd y cynnig hefyd yn caniatau i fusnes a amserlenwyd ar gyfer dydd Mercher gael ei drafod dydd Mawrth.

 

Dywedodd y Trefnydd hefyd wrth y Rheolwyr Busnes fod angen i’r Gweinidog Addysg fynd i gyfarfod pedairochrog, felly mae’r llywodraeth wedi cyfnewid ei Datganiad hi â Datganiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Awgrymodd hefyd y dylid cynnwys egwyl i gael cinio yn ystod busnes dydd Mawrth.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd seddi penodol ar gyfer cyfarfod dydd Mawrth, er mwyn caniatáu ymbellhau cymdeithasol yn y Siambr. Dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd nad oedd am gael mwy na hanner cant y cant o’r Aelodau yn y Siambr ar unrhyw un adeg. Caiff yr Aelodau eu hannog i ganfod sedd yn agos at eu sedd benodedig o fewn eu grŵp plaid os yn bosibl. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn darwahanu’r cyfnod pleidleisio fel nad oedd angen i’r holl Aelodau fod yn y Siambr ar yr un pryd.

 

Cytunodd y Llywydd i gynnig y caiff cynigion Cyfnod 1 a Phenderfyniad Ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) eu grwpio ar gyfer y ddadl a’r bleidlais.

 

Dyweodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd na fydd yn derbyn unrhyw Gwestiynau Amserol, gan ei bod o’r farn y gellir codi’r holl faterion naill ai o dan y Cwestiynau i’r Prif Weinidog neu ddatganiadau perthnasol.

 

Dydd Mawrth

 

·         Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 10am.

 

·         Ni fydd y Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 18.10pm.

 

Dydd Mercher

 

Nid oes unrhyw fusnes dydd Mercher.

 

 


Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 116

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes newidiadau'r llywodraeth gan groesawu'r dull o ganolbwyntio ar y coronafirws. Penderfynodd y Rheolwyr Busnes gau’r orielau cyhoeddus, gan y gallai’r Cynulliad parhau i gyfarfod yn gyhoeddus drwy ddarlledu a’r cofnod.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio pob busnes nad yw'n fusnes y llywodraeth yfory ar wahân i Gwestiynau Amserol.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 119

Cofnodion:

Cynigiodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y dylai'r Cyfarfod Llawn ddechrau am 1pm ddydd Mawrth, yng ngoleuni'r busnes swmpus ac, yn benodol, hyd tebygol dadl Cyfnod 3. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cynnig hwn.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad yw'n credu y dylai'r Cyfarfod Llawn eistedd lawer yn hwyrach na 10pm. Esboniodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mai bwriad y llywodraeth, pe na bai Cyfnod 3 yn cael ei gwblhau ddydd Mawrth, yw symud cynnig gweithdrefnol i ohirio gweddill yr eitem tan ar ôl cwestiynau llafar ddydd Mercher.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd egwyl o 10 munud cyn i Gyfnod 3 ddechrau ac yna egwyl arall am gyfnod hirach o amser rywbryd ar ôl 7.30, yn dibynnu ar gynnydd.

 

Dywedodd y Rheolwyr Busnes eu bod yn gresynu y byddai'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig a gofynnodd a ellid aildrefnu'r datganiad i ddiwrnod arall. Nodwyd hefyd nad oedd parhau â chyfarfodydd hwyr fel hyn yn gynaliadwy i'r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu

 

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 122

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd fod disgwyl i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gymryd rhan mewn cyfarfod COBRA brynhawn dydd Mercher, a gofynnodd a fyddai'r Rheolwyr Busnes yn cytuno i aildrefnu busnes fel y cynhelir dadl y Ceidwadwyr yn syth ar ôl y cwestiynau llafar am 3pm. Byddai hynny'n galluogi'r Gweinidog i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr a chymryd rhan yng nghyfarfod COBRA. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i aildrefnu busnes yn unol â hynny.

 

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 


Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 125
  • Cyfyngedig 126

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes na chafwyd unrhyw gwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol heddiw, yn rhinwedd ei swydd fel swyddog cyfreithiol.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn egluro'r rhesymau dros beidio â chyflwyno cynnig ar gyfer y ddadl ar adroddiad y pwyllgor ar Fframweithiau Polisi Cyffredin: craffu ar waith y Cynulliad, a drefnwyd ar gyfer y dydd Mercher hwn.  Mynegodd y Rheolwyr Busnes eu siom na chawsant eu hysbysu mewn pryd i drefnu busnes arall yn lle dadl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Nid oeddent am weld hyn yn dod yn arferiad ar gyfer y pwyllgorau.

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd y siaradwr cyntaf o bob grŵp gwrthblaid yn cael deng munud yn ystod y ddadl ar Gyllideb Ddrafft 2020-21, a bydd gan y siaradwyr dilynol bum munud.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 28/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 129

Cofnodion:

Gofynnodd Caroline Jones a fydd datganiad gan y llywodraeth ar y coronafirws. Dywedodd y Trefnydd wrthi fod y llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig, ac y bydd yn diweddaru'r Cynulliad pe bai unrhyw newidiadau.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 21/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 132

Cofnodion:

Dydd Mawrth

  • Cynhelir y pleidleisio ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn syth ar ôl yr eitem honno.
  • Cynhelir yr holl bleidleisio arall (heblaw Cyfnod 3) cyn dadl Cyfnod 3 a bydd y pleidleisio ar Gyfnod 3 yn digwydd trwy gydol yr eitem.

 

Dydd Mercher

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 135

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 


Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 138

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

  

Dydd Mercher 

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer. 

 

 


Cyfarfod: 10/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 141

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am ei llythyr at y Llywydd ddydd Gwener ynghylch y rheoliadau Rhentu Cartref, sy'n cael eu dirymu (yn dod i rym heddiw,10 Rhagfyr 2019) ac yn cael eu disodli gan gyfres newydd o reoliadau gyda dyddiad dod i rym o 28 Chwefror 2020. 

 

Mae'r rheoliadau gwreiddiol hyn yn destun cynnig i ddirymu a gyflwynwyd gan David Melding, ac a drefnwyd i'w trafod ddydd Mercher. Dywedodd Russell George wrth y Rheolwyr Busnes fod David Melding bellach yn bwriadu tynnu'r cynnig yn ôl.  

 

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

  

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.  

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 144

Cofnodion:

Business Managers agreed to reschedule Mick Antoniw’s Short Debate to 15 January 2020.

 

The Trefnydd responded to a previous request from Darren Millar for more information on today’s statement by the Minister for Economy and Transport on Disabled People’s Employment. She explained that the statement marks the United Nations International Day of Persons with Disabilities and one year since the publication of the Welsh Government’s Inclusive Apprenticeships Disability Action Plan. The statement will also include an update on the government’s Employability Plan and programmes, the Communities for Work Plus programme, the “Working Wales” employability advice service and Employer Champions.

 

Tuesday

 

  • There will be no Voting Time. 

 

Wednesday

 

  • Voting Time will take place after the last item of business.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 147

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

  • Bydd y bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn digwydd yn syth ar ôl yr eitem.

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar bob eitem arall cyn y Ddadl Fer.

 

 

 

 


Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 150

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb Cwestiynau Llafar ar ran y Prif Weinidog, sy'n sâl.

 

Dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd datganiad llafar ychwanegol heddiw gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar TATA Steel.

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais i ohirio Dadl Fer Suzy Davies o ddydd Mercher yr wythnos hon i'r dydd Mercher cyntaf ym mis Ionawr, a chytunwyd y bydd y bleidlais ar gyfer y tymor nesaf, pan gaiff ei chynnal ym mis Rhagfyr, yn dechrau gydag ail wythnos y tymor.

 

 

 


Cyfarfod: 12/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 153

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

  • Bydd yr holl bleidleisio ac eithrio Cyfnod 3 yn digwydd cyn y Ddadl Fer.

 

Yn dilyn cais Vikki Howells yr wythnos diwethaf i symud ei Dadl Fer, nododd y Rheolwyr Busnes fod Neil Hamilton wedi cytuno i gyfnewid dyddiadau gyda hi, felly bydd ei Ddadl Fer yn cael ei chynnal ddydd Mercher.

 

Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Reolwyr Busnes fod gan Gyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau ddydd Mercher gyfanswm o 181 o welliannau mewn saith grŵp ac felly rhagwelir y bydd yn cymryd tua 3 i 4 awr. Bydd y Dirprwy Lywydd yn galw egwyl byr o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3, a chaiff alw un arall yn ystod yr eitem pe bai angen

 


Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 156

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Bydd yr holl bleidleisio ar fusnes y llywodraeth yn digwydd yn syth ar ôl eitem 3.

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau ar fusnes y Cynulliad cyn y Ddadl Fer.

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb y cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth o dan Reol Sefydlog 12.58.  

 

 


Cyfarfod: 22/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 159

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes am fwriad y llywodraeth i gyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i ddadl ar Brexit gael ei chynnal fel yr eitem olaf o fusnes cyn y Cyfnod Pleidleisio heddiw. Bydd hyn yn disodli'r 'Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Brexit (45 munud)' sydd wedi'i dynnu'n ôl yn amodol ar dderbyn y cynnig i atal Rheolau Sefydlog.

 

Datganodd y Trefnydd ei bwriad i gyflwyno'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog a'r cynnig am ddadl cyn gynted â phosibl y bore yma. Yn dilyn hynny, bydd y Llywydd yn cyfleu'r dyddiad cau ar gyfer gwelliannau i Reolwyr Busnes.

 

Soniodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes, hefyd, am y newidiadau canlynol i fusnes yr wythnos hon:

 

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025 (45 Munud)

·         Dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 (0 munud) - gohiriwyd tan 6 Tachwedd

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 15/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 162

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

  • Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

 


Cyfarfod: 08/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 165

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

  • Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

 

Bydd Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan wedi'i gynnull i drafod Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn cael ei gynnal ar ôl y Cyfarfod Llawn. Yr arwyddion ar hyn o bryd yw y gallai'r amser gorffen fod tua 10pm.

 

 


Cyfarfod: 01/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 168

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Trefnydd y bydd yn ateb cwestiynau yn lle'r Prif Weinidog.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Dirprwy Lywydd y bydd sesiwn fer o Bwyllgor y Cynulliad Cyfan yn syth ar ôl y cyfnod pleidleisio ddydd Mawrth. Mae hyn er mwyn ystyried cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau cyn ystyried Cyfnod 2 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).

 

Gofynnodd iddynt annog Aelodau i aros yn y Siambr trwy gydol y cyfarfod hwnnw - os oes llai nag 20 Aelod yn bresennol yna fydd cworwm yn y cyfarfod.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 171

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 174

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu agor cwestiwn pedwar i'r Prif Weinidog - ar Ymgyrch Yellowhammer ac Islwyn (Rhiannon Passmore) - i Aelodau ar draws y Siambr, o ystyried y lefel debygol o ddiddordeb.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd, oherwydd pwysigrwydd y ddadl, yn hyblyg o ran yr amser ar gyfer y ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), er mwyn caniatáu cymaint o siaradwyr â phosibl.

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.10pm.

Dydd Mercher

 

  • Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.10pm.

 


Cyfarfod: 16/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 177

Cofnodion:

The Llywydd informed Business Managers that following the death of former Member Rod Richards she will say a few words at the start of Plenary today. Darren Millar informed Business Managers that Paul Davies will also say a few words at the beginning of his questions to the First Minister.

 

Tuesday

 

·         Voting Time will take place as the last item of business.

Wednesday

 

·         All voting will take place before the Short Debate.

 

 


Cyfarfod: 09/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 180

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes fod datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar Ffermio Cynaliadwy a'n Tir wedi cael ei ychwanegu at  fusnes Dydd Mawrth.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

 


Cyfarfod: 02/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 183

Cofnodion:

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth yn tynnu'r datganiad llafar gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar Fesurau Datblygu Economaidd yn ôl.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 186

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
  • Bydd egwyl o 5 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

 

Dydd Mercher

 

  • Bydd y bleidlais ar y ddadl ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru yn digwydd yn syth ar ôl yr eitem honno, a bydd y cyfnod pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes y Cynulliad yn digwydd cyn y Ddadl Fer.

 


Cyfarfod: 18/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 189

Cofnodion:

Tuesday

 

·         Voting Time will take place after the last item of business.

 

Wednesday

 

·         All voting will take place before the Short Debate.

 


Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 192

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 04/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 195

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 198

Cofnodion:

Tuesday

 

·         Voting Time will take place after the last item of business.

 

Wednesday

 

·         The Statement by the Chair of the Public Accounts Committee: Scrutiny of Accounts 2017-18 has been withdrawn.

·         All voting will take place before the short debate.


Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 201

Cofnodion:

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 6.20pm.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.00pm.

 

 


Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 204

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd arweinydd y grŵp UKIP, yn dilyn trafodaethau ar ôl cyfarfod yr wythnos diwethaf, yn cael ei alw i ofyn dau gwestiwn arweinydd i'r Prif Weinidog bob wythnos, a gall UKIP ofyn dau gwestiwn llefarwyr ar dair sesiwn cwestiynau llafar o'u dewis hwy. Ni fyddant yn cael eu galw i ofyn cwestiynau llefarwyr i Weinidogion eraill. Pan na fydd ganddynt gwestiynau llefarwyr, bydd y Llywydd yn gwneud pob ymdrech i'w galw i ofyn cwestiynau atodol lle bo hynny'n bosibl. Bydd UKIP yn hysbysu'r Llywydd erbyn diwedd y dydd heddiw o'u dewis o dri slot cwestiynau llafar; er eu bod yn rhydd i newid eu dewisiadau ar ddechrau unrhyw dymor, bydd angen iddynt roi gwybod i'r Llywydd am unrhyw newidiadau.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd adolygiad o'r Cod Ymddygiad i Ymwelwyr yn cael ei gynnal, yn enwedig mewn perthynas â'r oriel gyhoeddus, yn dilyn y ddadl ar newid yn yr hinsawdd yr wythnos diwethaf.

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl y ddadl ar 'Fodel Gofal Sylfaenol i Gymru', a chyn anerchiadau'r Llywydd a'r Prif Weinidog i nodi ugain mlynedd ers datganoli.

 

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 6.05pm.

Dydd Mercher

 

·         Nododd y Rheolwyr Busnes fod Plaid Cymru wedi cyflwyno dwy ddadl 30 munud ac wedi tynnu un yn ôl, ac felly bydd ei dadl bellach yn para 60 munud.

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 7.00pm.

 

 


Cyfarfod: 30/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 207

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Yn dilyn cynnig a basiwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Ebrill a oedd yn atal Gareth Bennett o drafodion y Cynulliad am gyfnod o saith diwrnod calendr, gan ddechrau ddoe, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd yn galw Aelod arall o UKIP i ofyn Cwestiynau'r Arweinwyr yn ei le heddiw.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 210

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd ffotograffydd allanol yn y Cyfarfod Llawn heddiw ar gyfer dechrau'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i drefnu dadl ar ei 'Adroddiad 01-19' yn ystod Cyfarfod Llawn yfory. Bydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro yn cael ei gyflwyno yn enw'r Llywydd, fel rhagflaenydd i'r ddadl.

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 


Cyfarfod: 26/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 213

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 216

Cofnodion:

 

Dydd Mawrth

 

·         Yn dilyn yr ymosodiadau yn Christchurch ac Utrecht, bydd y Dirprwy Lywydd yn dweud ychydig o eiriau ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw a bydd yn gwahodd yr Aelodau i ymuno â hi mewn munud o dawelwch.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar gyfer eitemau heblaw'r Cyfnod 3 ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

·         Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.

 

 

 


Cyfarfod: 12/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 219

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Dydd Mawrth

 

·         Gwnaeth y Llywodraeth y newidiadau canlynol i fusnes y Cyfarfod Llawn heddiw, dosbarthwyd copïau caled diwygiedig o 'Fusnes yr Wythnos Hon':

-     Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Strategaeth Dwristiaeth (45 munud) - Tynnwyd yn ôl

-     Bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y cyflwyno'r datganiad llafar, 'Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol' (45 munud)

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o barhau y tu hwnt i 18.05pm.

 

Dydd Mercher

 

 

·         Bydd yr holl bleidleisio ac eithrio'r ddadl Cyfnod 3 yn digwydd cyn y ddadl fer.

 

·         Ni fydd egwyl cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

 

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 222

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog heddiw, gan y bydd yn absennol o ddechrau'r Cyfarfod Llawn

 

·         Mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu trafodaeth ar “Drafodaethau Ymadael â'r UE” fel yr eitem olaf o fusnes yn y Cyfarfod Llawn heddiw. Mae cynnig sydd bron yn union yr un fath wedi'i gyflwyno yn Senedd yr Alban a chynhelir dadl a phleidlais 90 munud i gyd-redeg mor agos â phosibl gyda Senedd yr Alban. Caiff y ddadl honno ei ffrydio'n fyw mewn rhai rhannau penodol o'r Senedd. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau fyddai 1.30pm heddiw.

 

·         Mae'r Llywodraeth wedi gohirio'r datganiadau canlynol tan 12 Mawrth 2019 i gynnwys y ddadl:

 

-     Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Prentisiaethau: Buddsoddi Mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol (45 munud)

-     Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoli'r Risg o Lifogydd ac Erydu Arfordirol (45 munud)

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 19/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 225

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Ychwanegodd y Llywodraeth ddatganiad gan y Prif Weinidog at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw: Y datblygiadau diweddaraf yn negodiadau Brexit Llywodraeth y DU

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

Dydd Mercher

 

·         Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith bod Aelod Annibynnol wedi cyflwyno dau welliant i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nododd y Llywydd nad oedd eto wedi penderfynu a ddylid dewis y gwelliannau, ond nad oedd, yn hanesyddol wedi gwneud hynny.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 228

Cofnodion:

 

Dydd Mawrth

 

·         Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n croesawu Delyth Jewell, Aelod newydd y Cynulliad dros Ranbarth Dwyrain De Cymru, ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw a'i gwahodd i ddweud ychydig eiriau.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

 

·         Fel yr Aelod Cyfrifol, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael cydsyniad Gweinidog y Goron ddoe, a'u hatgoffa bod y datganiad rhagarweiniol wedi'i drefnu ar gyfer yfory.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 05/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 231

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Mae'r Llywodraeth wedi ychwanegu dau ddatganiad i agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw:

-     Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd a Chysgu Allan

-     Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Cymru.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

Dydd Mercher

 

·         Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai dehonglydd BSL yn yr oriel gyhoeddus yn ystod 'Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb'. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai o gymorth be bai'r Aelodau hynny sy'n siarad yn y ddadl, yn ogystal â'r Gweinidog sy'n ymateb, yn darparu unrhyw nodiadau siarad ymlaen llaw drwy'r Pwyllgor Deisebau neu flwch e-bost Plenary Requests, y Cyfarfod Llawn, y gellir eu rhannu gyda'r cyfieithydd.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 


Cyfarfod: 29/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 234

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Bydd y Llywodraeth yn ychwanegu cynnig i Atal y Rheolau Sefydlog at agenda’r Cyfarfod Llawn heddiw fel yr eitem olaf o fusnes, ac os cytunir arno bydd yn galluogi dadl 60 munud ar ‘Y Rhagolygon o ran bargen Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin’ yn y Cyfarfod Llawn yfory. Os bydd yr Aelodau’n pleidleisio o blaid trefnu’r ddadl, cynigir y caiff ei gyflwyno mor fuan â phosibl bore yfory, ar ôl i ganlyniad y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ddod yn hysbys, a bod y Llywydd yn ceisio caniatáu ffenestr o o leiaf 2 awr i Aelodau gyflwyno newidiadau. Byddai hefyd yn cael ei ychwanegu fel yr eitem olaf o fusnes yfory i sicrhau’r ffenestr fwyaf bosibl i’r Aelodau ystyried y cynnig a chyflwyno gwelliannau.

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

Dydd Mercher

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

  • Os derbynnir y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i alluogi dadl ar ‘Y Rhagolygon o ran bargen Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin’ yn y Cyfarfod Llawn heddiw, mae’r Cyfarfod Llawn yfory yn annhebygol o barhau yn hwy na 7.20pm.

 

 

 


Cyfarfod: 22/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 237

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Nododd y Trefnydd fod y rhan fwyaf o fusnes dydd Mawrth wedi'i ohirio tan yr wythnos nesaf er mwyn gwneud lle am gyfres o ddatganiadau ar baratoadau Llywodraeth Cymru am Brexit dim bargen, a'i bod wedi gofyn am gopïau o'r datganiadau llafar hyn i gael eu dosbarthu i lefarwyr yn gynharach yn ystod y dydd nag arfer os yn bosibl.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

 

  • Atgoffodd Rhun ap Iorwerth Reolwyr Busnes y bydd cangen CPA Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn y Siambr heno.

 

Dydd Mercher

 

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 240

Cofnodion:

Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

  • Bydd y Cyfarfod Llawn heddiw yn dechrau am 12.45pm gyda theyrngedau i Steffan Lewis AC. Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y byddai'n agor y sesiwn ac yna'n galw am funud o dawelwch, i ddechrau gyda chaniad y gloch; caiff ffotograff o Steffan ei ddangos ar y sgriniau drwy gydol y sesiwn.  Dywedodd y Llywydd y byddai'n galw ar Arweinydd Plaid Cymru, y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau eraill, ac yna bobl eraill. Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y Cyfarfod Llawn am hyd at 10 munud cyn ailddechrau ar y busnes arferol. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai aelodau o deulu Steffan yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus ar gyfer y teyrngedau. 
  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

  • Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.

 

Cwestiynau'r Llefarwyr i'r Cwnsler Cyffredinol

Wedi trafod â'r Rheolwyr Busnes, penderfynodd y Llywydd y dylid cael slot amser Cwestiynau'r Llefarwyr yn ystod Cwestiynau Llafar y Cynulliad i holi'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit.

Cododd Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o gael sesiynau Cwestiynau Llafar ar wahân ar gyfer rôl y Cwnsler Cyffredinol a rôl Gweinidog Brexit fel ei gilydd, a nodwyd y byddai'n ddefnyddiol cael nodyn pellach gan Lywodraeth Cymru yn esbonio rôl a statws y Cwnsler Cyffredinol a rôl a statws Gweinidog Brexit.

Hefyd, cododd y Rheolwyr Busnes y mater o ran sut y gallent ofyn cwestiynau llafar i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip.

Nododd y Trefnydd y bydd dogfen yn cynnwys Cyfrifoldebau Gweinidogion yn cael ei hanfon heddiw, ond dywedodd na fyddai'n nodi sut y câi'r rhaniad ei wneud yng nghyfrifoldebau Gweinidogion a'u Dirprwyon. Gofynnodd Rheolwyr Busnes i Lywodraeth Cymru ystyried ymhellach y gwahaniaeth cyfrifoldebau rhyngddynt mewn sesiynau Cwestiynau Llafar, yn enwedig ar gyfer cwestiynau'r llefarwyr. Nododd y Rheolwyr Busnes eu tybiaeth y dylid cyfeirio holl gwestiynau'r llefarwyr at y Gweinidog perthnasol yn y cyfamser.

 

 


Cyfarfod: 08/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 243

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Dydd Mawrth

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y ddadl fer.

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 246

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y bydd yn galw Aelod o bob plaid i siarad ar ddatganiad ymddiswyddo'r Prif Weinidog. Hefyd, soniodd y Llywydd am y posibilrwydd o alw Andrew RT Davies a Leanne Wood fel cyn-arweinwyr plaid a wasanaethodd am gyfran sylweddol o gyfnod y Prif Weinidog yn y swydd, yn ogystal ag un Aelod hirdymor arall o'r blaid Lafur, petai'r Aelodau hynny yn dymuno siarad.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar fusnes y Llywodraeth ar ôl eitem 5 (Cyfnod 4 y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), a chynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar fusnes y Cynulliad cyn y ddadl fer.

 


Cyfarfod: 04/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Papur i’w nodi: Canllawiau - Dadleuon ar y Cytundeb Ymadael â’r UE a’r Datganiad Gwleidyddol, ac ar y Gyllideb Ddrafft 2019-20

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 249

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.

 


Cyfarfod: 04/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr wythnos hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 252

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb Cwestiynau’r Prif Weinidog ar ei ran heddiw yn ei absenoldeb.

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl y Ddadl Fer a chyn trafodion Cyfnod 3.

 

·         Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.

 


Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Busnes yr Wythnos Hon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 255

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

·         Bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog ar ran y Prif Weinidog heddiw yn ei absenoldeb.

 

·         Dywedodd y Llywydd fod Gweinidogion yn gwneud datganiadau rhy hir yn y Cyfarfod Llawn a all gymryd dros draean o'r amser a neilltuwyd ar gyfer yr eitem honno. Atgoffodd y Llywydd Arweinydd y Tŷ am yr arferiad na ddylai datganiadau Gweinidogion fod yn fwy na 10 munud.

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes

 

Dydd Mercher

 

·         Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.