Cyfarfodydd

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (20 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/03/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (22 Chwefror 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (3 Ionawr 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-31-17 Papur 4 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Frances Duffy - Cyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol ac Arloesi, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr y GIG a Frances Duffy, Cyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol ac Arloesedd, Llywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a gododd o adroddiadau'r Pwyllgor blaenorol a'r Pwyllgor hwn ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon rhagor o wybodaeth am y llinellau amser ar gyfer cyflwyno'r system genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol (WCCIS) a system arlwyo Cymru Gyfan.

 

 

 


Cyfarfod: 04/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd i ailedrych arni pan gyhoeddir adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru, y bwriedir gwneud hynny ym mis Ionawr 2018.

 


Cyfarfod: 09/10/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (29 Medi 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/07/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (6 Gorffennaf 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-16-17 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-16-17 Papur 2 - Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am adroddiad cynnydd yn ystod tymor yr hydref 2017.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid ceisio cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr amser o ran bwriad Llywodraeth Cymru i weithio gyda byrddau iechyd i ymchwilio i hyfforddiant gorfodol ar gyfer maeth.

 


Cyfarfod: 20/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 1.)

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Lansio adroddiad y Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor yn lansio ei adroddiad ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd.

 


Cyfarfod: 27/02/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-07-17 Papur 8 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 06/02/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-05-17 Papur 3 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd Aelodau'r adroddiad drafft a gwneud nifer o awgrymiadau a fydd yn cael eu hymgorffori mewn fersiwn ddrafft arall. Trefnir bod y Pwyllgor yn ystyried hyn ymhellach.

 


Cyfarfod: 09/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (14 Rhagfyr 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion: Y Prif Faterion

PAC(5)-13-16 Papur 6 - Dadansoddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru o gwestiynau a ofynnwyd i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre

PAC(5)-13–16 Papur 7 – Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

PAC(5)-13-16 Papur 8 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

PAC(5)-13-16 Papur 9 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(5)-13-16 Papur 10 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

PAC(5)-13-16 Papur 11 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

PAC(5)-13-16 Papur 12 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

PAC(5)-13-16 Papur 13 - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

PAC(5)-13-16 Papur 14 - Ymddiriedolaeth GIG Felindre

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cafodd y papurau eu nodi.

8.2 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi eu canfyddiadau mewn adroddiad byr.

 


Cyfarfod: 07/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (26 Hydref 2016)


Cyfarfod: 07/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (20 Hydref 2016)


Cyfarfod: 31/10/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau (17 Hydref 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/10/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

PAC(5)-06-16 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ddychwelyd at y mater ar ôl cael yr holl wybodaeth ychwanegol.

6.2 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft yn amodol ar gynnwys un neu ddau o gwestiynau ychwanegol.

6.3 Awgrymodd Aelodau feysydd ar gyfer argymhellion posibl ar gyfer adroddiad y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 17/10/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Byrddau Iechyd

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil
Nodyn Cyngor Technegol (1) – Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

 

 

Lynda Williams – Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Anthony Haywood – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfleusterau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Rhiannon Jones – Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Helen Ward – Pennaeth Deieteg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Colin Phillpott – Rheolwr Cyfleusterau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Holodd y Pwyllgor Lynda Williams, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Anthony Hayward, Cyfarwyddwr Cyfleusterau Cynorthwyol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Liz Waters, Nyrs Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Nyrsio'r Gymdeithas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Colin Phillpott, Rheolwr Cyfleusterau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.

 


Cyfarfod: 17/10/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-06-16 Papur 1

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Yr Athro Jean White - Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holodd y Pwyllgor Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr y GIG a'r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i ysgrifennu at y Pwyllgor ar ddiwedd mis Tachwedd gyda rhagor o wybodaeth am:

·       Y cynllun prosiect diwygiedig ar gyfer y nyrs wybodeg newydd a fydd yn ymgymryd â'r swydd ar ddiwedd mis Hydref; a

·       Canlyniad yr ystyriaeth ar gyfer achos busnes dros gaffael system arlwyo TG o'r cyfarfod Bwrdd Gwybodeg Cenedlaethol.

4.3 Yn ogystal, yn dilyn tystiolaeth gynharach, byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch i bwy mae Grŵp Fframwaith Bwydlenni Ysbytai Cymru Gyfan yn atebol.

 

 

 


Cyfarfod: 19/09/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 9 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 10 – Llythyr oddi wrth y Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru at Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 11 – Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Deisebau ac Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai a'r ohebiaeth gysylltiedig.