Cyfarfodydd

P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil yr ystyriaeth weithredol a roddir i welliannau ar yr A487 yng Ngheredigion a phroffil uwch y mater drwy'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y safleoedd sy'n cael eu datblygu yn y maes hwn yn dilyn cam cyntaf y rhaglen Mannau Cyfyng, ac am ei farn mewn perthynas â'r strategaeth nwyddau newydd a rennir gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 19/09/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan gytuno i ofyn am farn y deisebydd ar y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd.

 


Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar hyd Cefnffordd Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth yr A487, i Gynnwys Mannau Pasio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y trafodaethau rhwng swyddogion a Chyngor Ceredigion ynghylch mesurau pellach posibl i wella'r A487.

 

 


Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffyrdd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, I Gynnwys Lle i Fynd Heibio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gysylltu â'r deisebydd i ofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau apellach ynghylch y wybopdaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

 

·         Yn gofyn am amserlen fwy penodol ar gyfer yr adolygiad y mae ei swyddogion yn ei gynnal ar hyn o bryd, ac yn gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod cyn gynted ag y mae canlyniadau’r adolygiad ar gael; ac

·         Gan ddwyn i’w sylw sylwadau penodol y deisebydd sy’n gofyn am astudiaeth o ddarpariaeth lonydd goddiweddyd diogel, ac yn gofyn a fyddai modd iddynt gael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad.