Cyfarfodydd

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (4 Mawrth 2020)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd (17 Ionawr 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/01/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

 


Cyfarfod: 11/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (20 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-23-17 Papur 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 5 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor a nododd y bydd y Cadeirydd yn anfon copi o'r ymateb at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

7.2 Cytunodd yr Aelodau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ystod y  gwanwyn 2018 ond yn y cyfamser, bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau a godwyd.

 


Cyfarfod: 13/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-09-17 Papur 2 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

7.2 Awgrymwyd gwneud ychydig o fân newidiadau a bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei hanfon drwy     e-bost at yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 06/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-08-17 Papur 2 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Gohiriodd y Pwyllgor y drafodaeth ynghylch yr adroddiad drafft tan y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 16/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Llywodraeth Cymru (6 Ionawr 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i gyhoeddi adroddiad byr yn dilyn eu sesiynau tystiolaeth.

 


Cyfarfod: 12/12/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Briff Ymchwil

PAC(5)-13-16 Papur 1 - Llythyr gan Lywodraeth Cymru

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Matthew Quinn - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru

James Morris - Pennaeth y Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, yr Economi, Sgiliau a Grŵp Adnoddau Naturiol, Matthew Quinn, Cyfarwyddwr, Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a

James Morris, Pennaeth Tîm Erydu Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol, Llywodraeth Cymru ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

Cytunodd James Price i:

·       Anfon nodyn ar y posibilrwydd y gallai caniatâd cynllunio yn y dyfodol gynnwys cyfyngiadau ar ddatblygwyr i blannu coed, cyfyngu ar y defnydd o bafin bloc er enghraifft, i leihau effaith llifogydd.

·       Anfon nodyn ar y realiti bod adeiladu wedi digwydd ar dir gwael agored i lifogydd a bod posibilrwydd y bydd datblygiadau pellach yn digwydd yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 28/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Jeremy Parr - Pennaeth Rheoli Peryglon Gweithredol a Llifogydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

Jean-Francois Dulong - Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Jeremy Parr, Rheolwr Llifogydd a Risg Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, a

Jean-Francois Dulong, Swyddog Llifogydd a Dŵr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trafod rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 28/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 31/10/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Gohebiaeth

PAC(5)-07-16 Papur 3 – Llythyr gan y Cadeirydd i Lywodraeth Cymru (26 Medi 2016)

PAC(5)-07-16 Papur 4 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru i’r Cadeirydd (24 Hydref 2016)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn gan edrych yn benodol ar y trosolwg strategol.

 


Cyfarfod: 19/09/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-03-16 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cenedlaethol Cymru
PAC(5)-03-16 Papur 4 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cenedlaethol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

5.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.