Cyfarfodydd

Cyllideb Llywodraeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/05/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Dull o gynnal gwaith craffu

Papur ategol:

Papur 5 – Dull ar gyfer craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Yn wyneb y cyfyngiadau cymdeithasol presennol oherwydd COVID-19, cytunodd yr Aelodau i ymgymryd â mentrau ymgysylltu ar-lein er mwyn cynnwys rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn y broses o graffu ar y gyllideb ddrafft, yn hytrach na chynnal digwyddiad i randdeiliaid. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ofyn am ddadl a gynigiwyd gan y Pwyllgor cyn toriad yr haf ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru. Bwriedir i’r hyn sy’n deillio o’r mentrau ymgysylltu ar-lein i lywio'r ddadl. 

 


Cyfarfod: 03/07/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 PTN2 - Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at Suzy Davies AC - Diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 - 27 Mehefin 2019

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/07/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 PTN1 - Llythyr at y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd - Diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 - 27 Mehefin 2019

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/07/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21: Dull o gynnal gwaith craffu

Papur 1 – Dull o gynnal gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y dull o gynnal gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

 


Cyfarfod: 23/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

Papur 5 – Dulliau o ymgysylltu â rhanddeiliaid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor amrywiaeth o opsiynau ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn perthynas â chraffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

 

 


Cyfarfod: 01/05/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Dull ar gyfer Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru

Papur 3 – Dull ar gyfer craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru, a chytuno i wneud y canlynol:

·         cynnal digwyddiad rhanddeiliaid yn y canolbarth ar 27 Mehefin 2019;

·         ysgrifennu at bwyllgorau polisi eraill, gan nodi nifer o themâu ar gyfer gwaith craffu;

·         cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddisgwyliadau rhanddeiliaid o gyllideb ddrafft 2020-21 i lywio gwaith craffu'r Pwyllgor, sydd i'w wneud dros doriad yr haf;

·         rhoi cyngor arbenigol mewn perthynas â'r polisi treth.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN5 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - Goblygiadau ar gyfer Cyllidebau 2019-2020 a 2020-2021 - 7 Mehefin 2018

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/09/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025: Taro Bargen ym Mhroses Gyllidebol Llywodraeth Cymru: Edrych Ymlaen at 2021-22: Sesiwn friffio anffurfiol

Michael Trickey, Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025

 

Papur 6 - Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025: Dewisiadau Cyfaddawdu Cyllidebol Llywodraeth Cymru: edrych ymlaen at 2021-22

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio anffurfiol gan Michael Trickey a Dr Daria Luchinskaya o Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 ynghylch ei adroddiad 'Taro Bargen ym Mhroses Gyllidebol Llywodraeth Cymru: Edrych Ymlaen at 2021-22'.

 


Cyfarfod: 05/10/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Trosolwg o'r broses gyllidebu

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio am broses y gyllideb.

 


Cyfarfod: 21/09/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Y diweddaraf am weithdrefnau'r gyllideb o ystyried trethi datganoledig

Papur 1 - Y diweddaraf am weithdrefnau'r gyllideb o ystyried trethi datganoledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur.