Cyfarfodydd

NDM6048 - Dadl y Llywodraeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

Dadl: Ail enwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

NDM6055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod yr enw Cymraeg 'Senedd' wedi ennill cefnogaeth a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd yn gyffredinol.
 
Gwelliant 2 -  Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cytuno y dylai'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried defnyddio, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yr enw 'Senedd'.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.05

Tynnwyd gwelliannau 1 a 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27 ar ddiwedd y ddadl.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 13)

Dadl: Ail-enwi’r Cynulliad Cenedlaethol yn "Senedd" - WEDI EI GOHIRIO TAN 5 GORFFENNAF

NDM6048 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno:

 

(a) Y dylid newid ei enw i "Senedd Cymru" ar y cyfle cyntaf; ac

 

(b) Y dylai gael ei adnabod yn answyddogol gan yr enw hwnnw hyd nes y gall enw o'r fath gael ei ffurfioli.

 

Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

 

2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.

 

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2016.