Cyfarfodydd
Deddfwriaeth - Y Bumed Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.
Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes am ragor o wybodaeth am amserlen y Bil Heddlu, Troseddu,
Dedfrydu a Llysoedd a chytunodd y Trefnydd i ddosbarthu nodyn gyda mwy o
wybodaeth.
Cyfarfod: 23/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
a chytunodd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Rhif 3) ar y Bil Cam-drin Domestig i graffu arno.
Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 09/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Trefniadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylai adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
gael ei ddwyn i sylw Aelodau newydd o’r Senedd.
Nododd y
Pwyllgor hefyd y goblygiadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth ar ddechrau'r
Chweched Senedd, ac yn benodol, unrhyw oedi wrth sefydlu'r pwyllgor cyfrifol
newydd o dan Reol Sefydlog 21.
Cyfarfod: 09/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 23/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a
chytunodd i:
- gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil
Lles Anifeiliaid (Dedfrydu) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a
Chyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion
Gwledig i graffu arno gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 25
Mawrth 2021;
- cyfeirio'r Memorandwm ar Fil y
Lluoedd Arfog at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i
graffu arno gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 25 Mawrth
2021;
- cyfeirio'r Memorandwm Atodol
(Rhif 2) ar y Bil Amgylchedd yn ffurfiol at y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Materion Gwledig i graffu arno gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad
ar 18 Mawrth 2021; a
- nodi dyddiadau'r ddadl ar y
cynnig cydsyniad deddfwriaethol arfaethedig ar gyfer y Bil Ardrethu
Annomestig (Rhestri) (Rhif 2) (2 Mawrth) a'r Bil Cam-drin Domestig a'r Bil
Gwasanaethau Ariannol (y ddwy ar 16 Mawrth).
Cyfarfod: 23/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 02/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) - Effaith ar Fusnes y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes mewn egwyddor y dylai'r Senedd ddechrau ar gyfnod o doriad o 7
Ebrill tan 28 Ebrill 2021 a elwir yn gyfnod 'cyn y diddymiad', ac y dylai
busnes y Senedd yn ystod y cyfnod hwn gael ei gyfyngu i'r hyn sy'n gysylltiedig
â dibenion penodol y diddymiad byrrach fel yr amlinellir yn y Bil.
Nododd y
Pwyllgor, pe bai'r Bil yn cael ei basio, y bydd cynigion manwl yn cael eu
cyflwyno i'r Pwyllgor Busnes yn ei gyfarfod naill ai ar 22 Chwefror neu 1
Mawrth.
Cytunodd y
Trefnydd i ddosbarthu canllawiau 'purdah' Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfnod yr
etholiad (toriad cyn y diddymiad a’r diddymiad) i Reolwyr Busnes.
Cyfarfod: 02/02/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 19/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 12/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 08/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Cynigion Cydsyniad Offeryn Statudol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
- Cyfyngedig 38
- Cyfyngedig 39
- Cyfyngedig 40
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
Rhoddodd y
Llywydd wybod i Reolwyr Busnes y bydd yn ymateb i gadeirydd y Pwyllgor
Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y mater hwn, ac yn anfon copi at y
Pwyllgor Busnes.
Cyfarfod: 08/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y
Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
a’r Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer
adrodd o 11 Ionawr 2021, a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil
yr Amgylchedd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a’r
Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer
adrodd o 4 Chwefror 2021.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol ar Fil y Farchnad Fewnol at bwyllgor.
Cyfarfod: 08/12/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 24/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 24/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 51
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y bydd angen i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y Gorchymyn erbyn dydd Iau 3 Rhagfyr.
Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 10/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil
Gwasanaethau Ariannol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, a'r Memorandwm Atodol ar y Bil
Masnach at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol
ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Rhagfyr ar gyfer y ddau Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol.
Cyfarfod: 10/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 63
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i barhau i adolygu'r broses.
Cyfarfod: 20/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
a chytunodd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Rhif 4) ar y Bil Pysgodfeydd i graffu arno.
Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Rheoliadau Coronafeirws
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y papur a daeth i'r casgliad bod byrhau amserlenni cyffredinol
ar gyfer trafod Rheoliadau, ar y cyd ag argaeledd cyfleoedd eraill i drafod
Rheoliadau newydd, yn un ffordd ymlaen.
Dywedodd y
Trefnydd wrth Reolwyr Busnes nad oedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y
Fflint a Wrecsam) 2020 wedi newid yn sylweddol o reoliadau Rhif 15, ac eithrio
lleoliad.
Gofynnodd y
Pwyllgor Busnes i swyddogion ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ganfod dull y gellir ystyried rheoliadau tebyg yn
y Cyfarfod Llawn yr wythnos ar ôl iddynt ddod i rym yn y dyfodol.
Cyfarfod: 06/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 76
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, a
dyddiad y ddadl arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn o 3 Tachwedd ar gyfer y Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) a 6
Hydref ar gyfer y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd.
Cyfeiriodd
y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y DU at
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda terfyn amser ar
gyfer cyflwyno adroddiad ar 19 Tachwedd 2020.
Cytunodd y
Pwyllgor i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y
Bil Amaethyddiaeth i graffu arno.
Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 22/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 83
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
a dyddiad arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer y memorandwm cydsyniad
deddfwriaethol ar y Bil Tân a Diogelwch.
Cytunodd y
Pwyllgor i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y
Bil Pysgodfeydd i graffu arno.
Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 86
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol.
Cytunodd y
Pwyllgor i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin
Domestig i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad o 5 Tachwedd.
Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
Ardrethu Annomestig (Rhestri) (Rhif 2) i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau
ar gyfer cyflwyno adroddiad o 5 Tachwedd.
Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 93
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gais y pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol ar 20 Gorffennaf.
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer y Bil Rhentu
Cartrefi (Diwygio) (Cymru), gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd ar Gyfnod 1 ar 2
Hydref 2020 ac ar Gyfnod 2 ar 4 Rhagfyr 2020.
Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 98
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gyda therfyn amser ar gyfer adrodd ar gyfer Cyfnod
1, sef 4 Rhagfyr 2020 ac ar gyfer Cyfnod 2, sef 5 Chwefror 2021.
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf Coronafirws 2020) (Cymru) 2020
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 101
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau o ddydd Gwener 10 Gorffennaf, i'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad roi adroddiad ar y rheoliadau.
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Rheoliadau Gofynion Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7 (5) o Atodlen 17 i Ddeddf Coronafirws 2020) (Cymru) 2020
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 106
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau o ddydd Gwener 10 Gorffennaf, i'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad roi adroddiad ar y rheoliadau.
Cyfarfod: 29/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 109
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau o ddydd Gwener 10 Gorffennaf, i'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad roi adroddiad ar y rheoliadau.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 08/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 116
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes y papur a chytunwyd i ddod â'r dyddiad cau ymlaen ar gyfer
adrodd ar Femorandwm y Bil Cyllid o 2 Gorffennaf i 18 Mehefin, oherwydd bod
amserlen Senedd y DU wedi'i chyflymu.
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 119
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor ar derfyn amser cyflwyno
adroddiad o ddydd Iau 12 Mehefin ar gyfer y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a'r Cyfansoddiad ar gyfer Rheoliadau Rhif 4 a Rheoliadau Rhif 5. Cytunodd y
Trefnydd i ystyried a allai unrhyw reoliadau yn y dyfodol gael eu hamserlennu
i'w trafod yn gynt, a chaniatáu ychydig o amser i'r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad.
Cyfarfod: 01/06/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 126
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil
Amgylchedd i 2 Gorffennaf.
Cyfarfod: 18/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 129
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar derfyn amser
Cyfnod 2 o 9 Hydref 2020, ac y dylai'r cyfnod o gyflwyno gwelliannau ailagor yn
ystod wythnos olaf toriad yr haf fel y cynigiodd y pwyllgor.
Cyfarfod: 11/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 134
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef dydd Iau 14 Mai, i'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar Reoliadau Taliadau
Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Llythyr gan y Prif Weinidog
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 137
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef dydd Iau 14 Mai, i'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd ar Reoliadau Diogelu
Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Cyfarfod: 04/05/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 27/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 27/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Amserlen ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 144
- Cyfyngedig 145
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyrau gan y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol a chytunwyd i atal trafodion Cyfnod 2 dros dro, gan gynnwys
peidio â chyflwyno gwelliannau. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn
gobeithio dod â chynnig am amserlen newydd i'r pwyllgor yn y dyfodol agos.
Cyfarfod: 17/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 148
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a
chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf, unwaith y bydd y Cabinet
wedi trafod y rhaglen ddeddfwriaethol yr wythnos nesaf.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes hefyd i swyddogion
ymchwilio i sut y gallai trafodion Cyfnod 2 weithio yn yr amgylchiadau
presennol, naill ai'n rhithiol neu'n bersonol gan barchu rheolau ymbellhau
cymdeithasol yr un pryd.
Cyfarfod: 17/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 03/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 03/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Papur i'w nodi - Deddfwriaeth yng ngoleuni COVD-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 155
Cofnodion:
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.
Cyfarfod: 03/04/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Ymdrin ag Offerynnau Statudol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 158
- Cyfyngedig 159
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur
a'r llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
Cytunwyd ar y broses a gynigiwyd yn y papur ar gyfer ystyried ac adrodd ar
Offerynnau Statudol.
Cytunwyd hefyd i ysgrifennu at y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ddweud y bydd y Pwyllgor
Busnes yn ystyried gwaith pwyllgorau yn ehangach yn ei gyfarfod nesaf, ac y
bydd yn adolygu rôl y Pwyllgor hwnnw bryd hynny.
Cyfarfod: 27/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 27/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 164
Cofnodion:
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes beidio â gosod
amserlen ar gyfer ystyried y rheoliadau hyn.
Cyfarfod: 23/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 169
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil
Gwasanaethau Bysiau (Cymru) gyda 13 Gorffennaf 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer
adrodd ar Gyfnod 1 a 16 Hydref 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar Gyfnod
2. Nododd y Rheolwyr Busnes y tebygolrwydd uchel y byddai angen i'r amserlen
hon newid hefyd.
Cyfarfod: 17/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 174
Cofnodion:
Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 177
Cofnodion:
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytuno
ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
gyda 22 Mai 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Cam 1 a 16 Gorffennaf
2020 fel dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Cam 2.
Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn
bwriadu cyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol ychydig cyn toriad yr haf. Gan
fod y Rheolwyr Busnes am leihau'r pwysau amserlennu ar y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau, cytunwyd i ysgrifennu at y pwyllgor hwnnw ac at
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch y Bil
Partneriaeth Gymdeithasol.
Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Papur i'w nodi - llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 182
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr.
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 28/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 14/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Papur i’w nodi: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 191
Cofnodion:
Nodwyd y
llythyr gan y Rheolwyr Busnes, a chytunwyd eto i edrych ar yr adeg sydd ar gael
ar gyfer cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 fel rhan o'u gwaith etifeddiaeth.
Cyfarfod: 07/01/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 196
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddyddiad cau o dydd Iau 5
Rhagfyr i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor
Cyllid adrodd ar y Gorchymyn drafft.
Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 05/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyrau gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 203
- Cyfyngedig 204
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol adrodd ar Reoliadau
Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2019,
a Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael
â'r UE) 2019 erbyn dydd Iau 21 Tachwedd.
Cyfarfod: 08/10/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 24/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 16/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 02/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 25/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 18/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 30/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 227
Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 230
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol i bwyllgor i graffu ymhellach arno, o ystyried amserlen Seneddol dynn y
Bil yn San Steffan, ond nodwyd y gallai'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ei ystyried yn ei gyfarfod ddydd Iau. Nododd y Rheolwyr Busnes fod y ddadl yn y
Cyfarfod Llawn ar gyfer y Memorandwm wedi'i threfnu ar gyfer 12 Mawrth.
Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Amserlen ar gyfer ystyried y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 233
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg i ystyried ei egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i
ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig.
Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 19/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 240
Cyfarfod: 05/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 22/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 247
- Cyfyngedig 248
- Cyfyngedig 249
Cofnodion:
Cadeiriodd y Dirprwy Lywydd yr eitem hon, gan
mai'r Llywydd yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.
Yn dilyn y ddau ymateb a gafwyd gan y Pwyllgor
MCD a'r Pwyllgor NHAMG, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r
Bil at y Pwyllgor MCD ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, ond cytunodd i ddychwelyd
maes o law i'r amserlen a gynigiwyd yn sgil y sylwadau yn llythyr y Pwyllgor
MCD ynghylch cael ymestyn yr amserlen ar gyfer Craffu Cyfnod 1.
Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 08/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Deddfwriaeth
Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Deddfwriaeth