Cyfarfodydd

P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd y cadarnhad a dderbyniwyd oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar ei fwriad i wneud darlledu cyfarfodydd Cynghorau yn ofyniad statudol.

 

 


Cyfarfod: 17/01/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'n bwriadu mynd ati i orfodi'r drefn o recordio trafodion.

 

 


Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a yw'n bwriadu datblygu y ddarpariaeth a gynlluniwyd yn flaenorol i'w gwneud yn orfodol i Awdurdodau Lleol ddarlledu cyfarfodydd ac, os felly, sut.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd er mwyn rhoi cyfle i’r Pwyllgor nesaf ystyried y ddeiseb ymhellach.