Cyfarfodydd

Crynodeb o'r ymadawiadau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/06/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Crynodeb o ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

ARAC (23-03) Papur 7 – Crynodeb o ymadawiadau

 

9.1 Nododd y Pwyllgor ddau achos o wyro oddi ar y gweithdrefnau caffael arferol ac ni chodwyd unrhyw bryderon.

 


Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)

Crynodeb Gwyro

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

ARAC (23-02) Papur 13 – Crynodeb gwyro

17.1 Nododd y Pwyllgor un achos o wyro oddi ar y gweithdrefnau caffael arferol ac ni chodwyd unrhyw bryderon.

 


Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Crynodeb o'r Ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 7 – Crynodeb o ymadawiadau
 

9.1 Nododd y Pwyllgor dri achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol. 

9.2 Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch adnewyddu cytundeb y Gwasanaeth Darlledu, nododd Arwyn y bydd y Comisiwn yn parhau i geisio gwelliannau i'r gwasanaeth yn ystod trafodaethau rheolaidd â'r contractwr. Bydd hyn yn cynnwys trafodaethau ynghylch uwchraddio Senedd TV.


Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Crynodeb o ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

ARAC (22-03) Papur 7 – Crynodeb o ymadawiadau

8.1 Nododd y Pwyllgor un achos o wyro oddi ar y gweithdrefnau caffael arferol.

 


Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)

Crynodeb o'r achosion o wyro oddi wrth y gweithdrefnau arferol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

ARAC (22-02) Papur 13 – Crynodeb o ymadawiadau

16.1 Nododd y Pwyllgor bedwar achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol. 

 


Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Crynodeb o ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

ARAC (22-01) Papur 9 – Crynodeb o ymadawiadau

11.1 Nododd y Pwyllgor bum achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol.

 


Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)

Caffael - gwariant gyda chyflenwyr o Gymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

ARAC (22-01) Papur 8 - Gwariant Cymru

10.1 Croesawodd y Cadeirydd Jan Koziel a diolchodd iddo am ei bapur, a oedd yn fersiwn wedi'i diweddaru o bapur a rannodd gyda'r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2021.

10.2 Disgrifiodd Jan sut roedd y rhan fwyaf o'r gwariant ar gontractau yn parhau gyda TGCh a Rheoli Ystadau a Chyfleusterau. Tynnodd sylw at y ffaith bod y 38 y cant o'r gwariant gyda chyflenwyr o Gymru a adroddwyd ym mis Gorffennaf 2021 wedi cynyddu i 44 y cant yn y flwyddyn hyd yma, gyda tharged o 50 y cant erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

10.3 Er mwyn cyflawni'r targed arfaethedig, byddai ei dîm yn parhau i ddadansoddi'r farchnad er mwyn dod o hyd i gyflenwyr o Gymru a chychwyn trafodaethau wedi'u targedu gyda chyflenwyr posibl. Byddent yn ystyried ailstrwythuro contractau i lotiau llai (lle bo hynny'n ymarferol) ac yn anfon hysbysiadau contract i Siambrau Cymru i'w rhannu â'u haelodau. Gallai'r gweithgarwch hwn arwain at fwy o geisiadau tendro gan ddarpar gyflenwyr o Gymru ond atgoffodd Jan y Pwyllgor y byddai'r holl gyflenwyr yn cael eu trin yn deg yn ystod y broses dendro ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol.

10.4 Cyfeiriodd Jan at y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a deddfwriaeth arall yn y DU sy’n hyrwyddo pwyslais ar gyflenwyr lleol a gwerth cymdeithasol. Dywedodd fod telerau ac amodau'r Comisiwn eisoes yn cynnwys cymal telerau cyflogaeth deg, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr sicrhau bod eu gweithwyr yn cael eu trin yn deg a'u talu uwchlaw'r cyflog byw.

10.5 Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad hwn a chanmolodd Jan a'i dîm am eu gwaith yn y maes hwn. Gwnaethant nodi y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu contractau ond dywedon nhw y dylid cymryd gofal oherwydd gallai hyn gyfyngu ar y raddfa a chyfleoedd gwerth am arian. Gwnaethant awgrymu hefyd y dylid mesur y niferoedd a gyflogir yng Nghymru o ganlyniad i ddyfarnu contract yn hytrach na mesur lleoliad swyddfeydd cyflenwyr. Awgrymwyd hefyd bod Jan yn ystyried gweithio gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach a cheisio cymariaethau ag awdurdodau lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill.

10.6 Croesawodd Jan awgrymiadau gan y Pwyllgor ynghylch y contract darlledu a chafwyd trafodaeth ynglŷn â sut y gallai cynnal diwrnod agored i ddangos y cyfleusterau fod o fudd i ddarpar gyflenwyr. Cytunodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr ymarfer caffael darlledu maes o law, o bosibl y tu allan i'r Pwyllgor yn dibynnu ar amser. Awgrymodd Ann Beynon y gellid cysylltu â Busnes Cymru hefyd i helpu i drefnu unrhyw ddigwyddiadau diwrnod agored.


Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Crynodeb o ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

ARAC (03-21) Papur 6 – Crynodeb o ymadawiadau

7.1         Nodwyd tri achos o ymadael  â gweithdrefnau caffael arferol.

 


Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Crynodeb ymadael

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

ARAC (02-21) Papur 13 – Crynodeb ymadael

15.1      Mynegodd y Pwyllgor bryder nad oedd y Comisiwn wedi profi’r farchnad ar gyfer gwasanaeth i gynnig hyfforddiant ac adnoddau dysgu a datblygu. Roedd Ann Beynon hefyd am roi ar gofnod bod pryderon tebyg wedi’u mynegi gan aelodau o Bwyllgor Cynghori’r Comisiwn ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu. Mewn ymateb, nododd Dave y pryderon ac eglurodd fod y penderfyniad wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o’r farchnad, ansawdd a gwerth am arian y cynnyrch, y cynnig ar-lein a’r posibilrwydd o wneud arbedion. Ychwanegodd fod y ffaith bod seneddau eraill hefyd yn defnyddio’r cynnyrch hwn yn cynnig cyfleoedd da i gydweithio.

 


Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 19)

Crynodeb o'r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

17.1    Ni chafwyd unrhyw sylwadau na chwestiynau ar yr ymadawiadau.

 

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 23 Ebrill 2021.


Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Crynodeb o'r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

ARAC (05-20) Papur 9 – Crynodeb o’r ymadawiadau

 

15.1 Byddai'r eitem hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor.


Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Crynodeb o’r Ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 35

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 12 – Crynodeb o’r ymadawiadau

15.1 Nododd y Pwyllgor yr ymadawiadau o weithdrefnau caffael arferol a amlinellwyd yn y papur.


Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)

Crynodeb o’r Ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 38

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 10 – Crynodeb o’r ymadawiadau

17.1     Nododd y Pwyllgor y gwyriadau oddi ar y gweithdrefnau caffael arferol a nodwyd yn y papur.

 


Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)

Crynodeb o’r Ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 41

Cofnodion:

ACARAC (03-19) Papur 14 – Crynodeb o’r ymadawiadau

13.1     Nododd y Pwyllgor yr ymadawiadau a restrir yn yr adroddiad.

 


Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)

Crynodeb o'r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

ACARAC (02-19) Papur 16 – Crynodeb o’r ymadawiadau

13.1     Nododd y Pwyllgor fod tri wedi ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol.

 


Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)

Crynodeb o'r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 47

Cofnodion:

ACARAC (01-19) Papur 14 – Crynodeb o’r ymadawiadau

12.1    Nodwyd bod tri wedi ymadael â'r gweithdrefnau caffael arferol.

 


Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)

Crynodeb o'r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 50

Cofnodion:

ACARAC (05-18) Papur 12- Crynodeb o'r ymadawiadau

13.1     Bu pedwar ymadawiad o'r weithdrefn gaffael arferol i adrodd i'r Pwyllgor: porth cyngor Adnoddau Dynol a Chyfraith Cyflogaeth; hyfforddiant partneriaeth Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ac Adnoddau Dynol; Trwydded Mynediad Cyfryngau; a'r ymgyrch 20 mlwyddiant.  Nododd y Pwyllgor fod y pedwar ymadawiad i gyd yn briodol ond roedd wedi'i siomi bod yr ymgyrch 20 mlwyddiant ond wedi denu un cynnig/bid.

 


Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Crynodeb o’r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 53

Cofnodion:

ACARAC (04-18) Papur 6 – Crynodeb o’r ymadawiadau

6.1     Cadarnhaodd y Pwyllgor ddau wyriad o'r gweithdrefnau caffael arferol a gyflwynwyd yn y papur, a oedd ar gyfer cymorth caledwedd TG a hyfforddiant urddas a pharch.

6.2     Yn ystod y drafodaeth hon, nododd y Pwyllgor y rheolaethau a’r gwaith cynllunio ynghylch defnyddio cyllideb dysgu a datblygu’r Comisiwn.

 


Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Crynodeb o’r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 56

Cofnodion:

ACARAC (03-18) Papur 12 – Crynodeb o’r ymadawiadau

11.1     Nid oedd unrhyw achos o ymadael â'r gweithdrefnau caffael arferol wedi'u nodi i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)

Crynodeb o’r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 59

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 18 – Crynodeb o’r ymadawiadau

18.1     Nododd y Pwyllgor dri achos o ymadael â'r weithdrefn gaffael arferol. Dywedodd Dave wrth y Pwyllgor fod y contract Cyfresi Corfforaethol wedi ymestyn oherwydd absenoldeb cyflenwyr allanol ar y Fframwaith Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

18.2     Mewn ymateb i gwestiwn am feincnodi cydraddoldeb rhyw, dywedodd Manon ei bod yn bwysig i'r Comisiwn ganolbwyntio ar gydraddoldeb ac arwain drwy esiampl. Cadarnhaodd nad oedd y Comisiwn wedi ymrwymo eto i gymryd rhan yn y blynyddoedd i ddod.

 


Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)

Crynodeb o’r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 62

Cofnodion:

ACARAC (01-18) Papur 12 – Crynodeb o’r ymadawiadau

10.1     Nododd y Pwyllgor un achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol.   

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Crynodeb o’r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 65

Cofnodion:

ACARAC (01-17) Papur 18 - Crynodeb o’r ymadawiadau

14.1     Nododd y Pwyllgor bedwar achos o ymadael o’r gweithdrefnau caffael arferol.   


Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)

Crynodeb o'r ymadawiadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 68

Cofnodion:

ACARAC (03-17) Papur 19 – Crynodeb o’r ymadawiadau 

18.1     Nododd y Pwyllgor bum achos o ymadael â'r gweithdrefnau caffael arferol.  Cadarnhaodd Dave mai'r wlad sy'n cynnal Cynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad sy'n talu am y llety bob amser.  Nodwyd hefyd fod mwy o achosion o ymadael a'r gweithdrefnau arferol yn cael eu nodi oherwydd y rheolaethau gwell yn sgil y system gyllid newydd. Croesawyd awgrym Manon y dylid monitro'r rhain yn agos. 

 


Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Papurau i'w nodi ac unrhyw fater arall

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 71

Cofnodion:

ACARAC (31) Papur 19 - Crynodeb o'r ymadawiadau

ACARAC (31) Papur 20 - Blaenraglen waith

15.1     Nododd y Pwyllgor dri achos o ymadael o’r gweithdrefnau caffael arferol.

15.2     Ymhellach i bwyntiau a godwyd yn yr arolwg effeithiolrwydd, byddai pob cyfarfod yn y dyfodol yn cael ei ymestyn 30 munud a byddai dyddiad ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf yn cael ei gadarnhau. 

15.3     Daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben drwy ddiolch i bawb am eu papurau, a’u cyfraniadau.  Rhoddodd ddiolch arbennig i David Melding am ei ymroddiad a’i gyfraniad at waith y Pwyllgor dros y flwyddyn ddiwethaf.

15.4     Croesawodd hefyd sylwadau Rheon Tomos, ac roedd yn annog pobl eraill i fod yn sylwedyddion mewn pwyllgorau archwilio.

Camau i’w cymryd

-        Y tîm clercio i ychwanegu adroddiad y Dangosyddion Perfformiad Allweddol at y Flaenraglen Waith - yn y cyfarfod cyntaf ar ôl cyhoeddi’r adroddiad.

-        Ymestyn pob cyfarfod yn y dyfodol 30 munud.

-        Cytuno ar ddyddiad y cyfarfod ym mis Gorffennaf ac anfon gwahoddiadau i’r cyfarfod.

-        Casglu adborth gan Rheon Tomos ar ddysgu cyfunol yn sgîl ei bresenoldeb mewn cyfarfodydd Pwyllgorau Archwilio mewn sefydliadau eraill.

Sesiwn breifat

Cynhaliodd aelodau’r Pwyllgor sesiwn breifat, ac roedd Gareth Watts yn bresennol ynddi. Ni chymerwyd cofnodion o’r cyfarfod.

 

Disgwylir i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 25 Ebrill 2016.