Cyfarfodydd
Cylch gorchwyl y Pwyllgor
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Adolygu cylch gorchwyl y pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
ARAC (22-06)
Papur 10 – Y Cylch Gorchwyl presennol
14.1 Cytunodd y
Pwyllgor nad oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i'w gylch gorchwyl.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 20)
Adolygiad o gylch gorchwyl y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 11 – Cylch
gorchwyl presennol
20.1 Nododd y Pwyllgor y cylch
gorchwyl wedi'i ddiweddaru.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Adolygiad o gylch gorchwyl y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
ARAC (05-20)
Papur 8 - Cylch Gorchwyl ARAC
14.1
Cyflwynodd
y Cadeirydd y cylch gorchwyl ar gyfer ei adolygiad rheolaidd. Cytunwyd y dylid
ychwanegu rhannu papurau ac adroddiadau perthnasol gan gyrff fel REWAC,
Comisiwn y Senedd ac Archwilio Cymru, ac y dylid cadw cofnod o'r wybodaeth a
anfonir at aelodau'r Pwyllgor.
14.2
Byddai
fersiwn ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu i'w chymeradwyo cyn ei chyhoeddi.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 15 –Cylch gorchwyl
diwygiedig
12.1
Derbyniodd y
Pwyllgor yr un newid yn y cylch gorchwyl.
Byddai’r fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi ar wefan ACARAC.
12.2
Roedd y Cadeirydd am
gofnodi y byddai croeso i staff y Comisiwn ddod i gyfarfodydd yn y dyfodol fel
cyfleoedd datblygu, os oedd Manon a'r Cyfarwyddwyr yn teimlo bod hynny’n
briodol.
Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Adolygiad o gylch gorchwyl y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
ACARAC (01-17) Papur 13 – Cylch Gorchwyl
11.1 Byddai'r tîm clercio yn gwneud y newidiadau a awgrymwyd i'r Cylch Gorchwyl.
Cam i’w gymryd
-
Y tîm clercio i
ychwanegu Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth i'r Cylch Gorchwyl
o dan ofynion gwybodaeth.
Cyfarfod: 14/04/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Cylch gorchwyl y Bwrdd Rheoli a’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
- Cyfyngedig 18
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Cyflwynodd
Dave Tosh gylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bwrdd Rheoli a’r Bwrdd Buddsoddi
ac Adnoddau. Cafodd y rhain eu trafod er mwyn sicrhau eu bod yn disgrifio’r
cyfrifoldebau presennol a’r aelodaeth yn gywir. Cytunwyd ar gylch gorchwyl y
ddau fwrdd, gydag eglurhad ynghylch cyfraniad y Bwrdd Rheoli i feddwl yn
strategol.
Ystyriodd
y Bwrdd hefyd y manteision o barhau â’r Grŵp Senarios, a sefydlwyd i
ganolbwyntio ar oblygiadau’r pontio i’r Pumed Cynulliad. Penderfynwyd y dylai’r
Bwrdd Rheoli gymryd y cyfrifoldeb ychwanegol o ran y rôl cynllunio Senario.
Cytunwyd
hefyd y byddai’r Bwrdd Rheoli yn ymdrechu i gyrraedd sefyllfa fwy diffiniol o
ran swyddi yn ystod y gwaith o gynllunio capasiti, fel y gall Penaethiaid
Gwasanaethau wneud penderfyniadau yn nes ymlaen, yn hytrach na gorfod
cyfeirio’n ôl at y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau mewn achosion sy’n glir.
Camau i’w cymryd:
·
Dave
Tosh i ddiweddaru’r cylchoedd gorchwyl fel y nodwyd uchod, gan adlewyrchu’r
cyswllt rhwng adnoddau mewnol a phenderfyniadau buddsoddi, a hefyd i egluro’r
lefelau y mae angen i faterion gael eu dwyn i sylw’r Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau (croesgyfeirio at y cynllun dirprwyo). Dylai’r adolygiad o bapurau’r
Comisiwn gael ei ychwanegu at y grid eitemau sefydlog;
·
Dave
Tosh ac Anna Daniel i gytuno ar y geiriad o ran y byrddau rhaglenni; ac
Blaengynllun
y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau i gael ei gynnwys yn y nodyn o’r cyfarfod i’r
Bwrdd Rheoli.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adolygiad o’r Cylch Gorchwyl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 13 – Cylch Gorchwyl Mehefin
2015
10.1 Yn dilyn cwrs hyfforddi diweddar, awgrymwyd y
dylai fformat y Cylch Gorchwyl gael ei ddiwygio a’i ddosbarthu y tu allan i’r
Pwyllgor i’w gymeradwyo.
Cam i’w gymryd
-
Adnewyddu
cynnwys a fformat y Cylch Gorchwyl, ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor a’i
gyhoeddi.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Adolygu cylch gorchwyl y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
ACARAC (26) Papur 17 - Papur Esboniadol a Chylch
Gorchwyl 2013-14
15.1
Byddai Cylch Gorchwyl diwygiedig yn cael ei ddosbarthu
cyn cyfarfod mis Ebrill i aelodau ei gymeradwyo. Byddai'n cynnwys teitlau swyddi newydd y rhai
sy'n dod i'r cyfarfod, cyflwyniad blynyddol Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn
y Cynulliad, a'r drafodaeth o grynodebau ymadael a rhaglenni newid allweddol.
Camau gweithredu
-
Y tîm Clercio i ddrafftio a
chylchredeg Cylch Gorchwyl ACARAC i'w gytuno y tu allan i'r Pwyllgor.