Cyfarfodydd

CLA649 - Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

NDM5973 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016. 

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
- Dim pwyntiau adrodd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.12

NDM5973 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 08/02/2016 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.11)

CLA649 - Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

Y weithdrefn gadarnhaol; Fe'u gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi: Fe'u gosodwyd ar: dyddiad heb ei nodi; Dyddiad dod i rym: 1 Mai 2016