Cyfarfodydd

Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol: Ystyried y rheolau mewn perthynas â lobïo mewn Seneddau eraill

SOC(4)-02-16 Papur 1

Dogfennau ategol:

  • SOC(4)-02-16 P1 - Cross party Groups (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

2.1 Ystyriodd yr Aelodau’r papur a chytunwyd i gynnwys cyfeiriad ato yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5b)

5b SOC(4)-05-13 - Papur 4 - Adroddiad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol - Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5a)

5a SOC(4)-05-13 - Papur 3 - Adroddiad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol - Llythyr gan y Llywydd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/04/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ystyried adroddiad drafft ar Grwpiau Lobïo a Thrawsbleidiol

SOC(4)-03-13 – Papur preifat 1

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

2.2 Yn amodol ar ddosbarthu fersiwn glân terfynol gyda mân newidiadau, cytunwyd ar yr adroddiad.

 

2.3 Nododd y Cadeirydd y disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi ddydd Iau 2 Mai ac y byddai dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu maes o law, gyda’r bwriad o wahodd y Cynulliad i gefnogi ei argymhellion.


Cyfarfod: 12/03/2013 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ystyried adroddiad drafft ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol

SOC(4)-02-13 – Papur Preifat 1

SOC(4)-02-13 - Papur Preifat 2

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16

Cofnodion:

2.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

2.2 Nododd y Comisiynydd nad oedd diffygion mawr yn y system bresennol ond bod angen rhyw ddull o gofnodi gweithgarwch lobïo.

 

2.3Trafododd y Pwyllgor y dewisiadau posibl o ran cofrestru gwybodaeth am weithgarwch lobïo. Cytunodd y Pwyllgor ar un o’r dewisiadau a gynigiwyd ac ar welliannau i’r canllawiau drafft ar lobïo a hygyrchedd i Aelodau.

 

2.4 Ystyriodd yr Aelodau’r rheolau drafft ar gyfer gweithredu’r Grwpiau Trawsbleidiol.

 

2.5 Caiff yr adroddiad drafft ei ddiwygio i gynnwys sylwadau’r Aelodau cyn i’r Cadeirydd ei gyfeirio at y Llywydd.


Cyfarfod: 12/06/2012 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 SOC(4)-03-12 - Papur 1 - Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/06/2012 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Arolwg o'r Gweithdrefnau Safonau: Ystyried cynigion Cyfnod 2, gan gynnwys trefniadau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau lobïo

Gerard Elias QC, y Comisiynydd Safonau

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y bydd y Weithdrefn Gwynion ddiwygiedig yn cael ei gosod ar 20 Mehefin.

 

Rhoddodd y Comisiynydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y cynigion ar gyfer cyfnod 2 o’r Adolygiad o’r Gweithdrefnau Safonau.

 

Nododd y Comisiynydd y bydd Cod Ymddygiad Aelodau’r Cynulliad yn cael ei ystyried yn ystod y cyfnod hwn o’r broses adolygu, i gynnwys ymddygiad personol a lobïo; defnyddio adnoddau’r Cynulliad; cysylltiad rhwng Aelodau a staff; cyflogau, treuliau a materion cyyslltiedig; perthynas Aelodau â’r Comisiwn; a chwestiynau am gyfrinachedd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys ystyried materion sy’n ymwneud â lobïo a chosbau.

 

Roedd y Comisiynydd yn disgwyl y bydd angen cyfnod o naw mis er mwyn cynnal ymgynghoriad eang er mwyn nodi unrhyw broblemau a materion, gan gynnwys ymgynghori â’r holl Aelodau. Bydd y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiad ar ei argymhellion a’r rhesymau drostynt i’r Pwyllgor erbyn mis Mawrth 2013.

 

Cytunwyd y dylid ystyried trefniadau mewn perthynas â lobïo’n syth fel rhan o’r adolygiad, er i’r Comisiynydd nodi nad oedd unrhyw gŵyn am lobïo wedi’i gwneud iddo yn y 18 mis ers iddo fod yn y swydd. Bydd y Comisiynydd yn cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr, gan gynnwys yn fewnol gydag Aelodau a’r Llywodraeth, dros gyfnod yr haf, a chyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor ar 9 Hydref yn nodi a yw’r trefniadau presennol yn ddigon cadarn.

 

Mewn perthynas â chosbau, roedd y Comisiynydd wedi cael rhai sylwadau am adolygu’r trefniadau presennol a byddai’n croesawu barn cynnar y Pwyllgor am yr hyn yr oedd yn ystyried i fod yn briodol. Cytunodd y Pwyllgor bod angen pwerau disgresiwn cryfach ym maes cosbau.