Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tai a Chynllunio
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai a Chynllunio sy’n ymwneud â Darpariaethau Prynu Gorfodol ac ati
NDM5995 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2016 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(i).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/housingandplanning.html
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2)
Adroddiad
y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5995 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai senedd y DU ystyried y darpariaethau yn
y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, i'r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
0 |
0 |
52 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Cyfarfod: 02/03/2016 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Tai a Chynllunio
Dogfennau ategol:
- Nodyn Briffio Cyfreithiol (Saesneg yn unig)
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – y Bil Tai a Chynllunio (Saesneg yn unig)
- Gwybodaeth a gafwyd gan Gymdeithas y Gyfraith (Saeneg yn unig)
- Gwybodaeth a gafwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water (Saesneg yn unig)
- Gwybodaeth a gafwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
5.1 Trafododd yr Aelod y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol – Bil Tai a Chynllunio
Cyfarfod: 25/02/2016 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – y Bil Tai a Chynllunio
Dogfennau ategol:
- Papur 5 (Saesneg yn unig)
- Papur 6 - Gwybodaeth a gafwyd gan Gymdeithas y Gyfraith (Saeneg yn unig)
- Papur 7 - Gwybodaeth a gafwyd gan Dŵr Cymru Welsh Water (Saesneg yn unig)
- Papur 8 - Gwybodaeth a gafwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) (Saesneg yn unig)
Cofnodion:
6.1 Cytunodd yr Aelod i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir
NDM5968 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n
ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir, i'r graddau y maent yn dod o
dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried
gan Senedd y Deyrnas Unedig.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/housingandplanning.html (Saesneg yn
unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM5968 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac
estyn lesddaliadau hir, i'r graddau y maent yn dod o dan gymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y
Deyrnas Unedig.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.