Cyfarfodydd

P-04-658 Derwen Brimmon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04 658 Derwen Brimmon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a’r deisebwr. O ystyried yr ymateb cadarnhaol gan Ysgrifennydd y Cabinet newydd a’r sicrwydd blaenorol a roddwyd o ran amddiffyn Derwen Brimmon, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-658 Derwen Brimmon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

·         Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i'r deisebwyr.

·         Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn ei barn am sylwadau pellach y deisebydd ac yn benodol am:

o   y ffens atal moch daear a fydd o bosibl yn peryglu'r gwreiddiau;

o   y diffyg gwybodaeth ynghylch cofrestru'r goeden gyda Choed Cadw yn 2009; a

o   natur yr 'ychydig waith' sydd ei angen yn yr ardal diogelu gwreiddiau 15 metr.

 

 


Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-658 Derwen Brimmon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod Mr Lloyd Jones ac wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i'r deisebwyr.

 

Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae wedi bod i weld y goeden gyda Mr Lloyd Jones ac wedi gwneud sylwadau mewn cyfarfod ymchwiliad cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Drenewydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi nodi a yw'n cefnogi gwarchod y goeden a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau y caiff ei gwarchod.