Cyfarfodydd
Diweddaraf am y gyllideb
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
Cofnodion:
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
8.1 Roedd Nia
Morgan, Manon Antoniazzi a Ken Skates wedi rhoi tystiolaeth yn ddiweddar i’r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid. Roedd
gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys copïau o adroddiadau ac ymatebion y
Comisiwn, wedi’i rhoi i aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod hwn, ar 8 Tachwedd.
Bydd copi o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus,
y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi erbyn dechrau Rhagfyr, yn cael ei rannu
hefyd.
8.2 Nododd y
Pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol gan y Pwyllgor Cyllid yn benodol, gan
ychwanegu bod yr aelodau wedi croesawu'r holl wybodaeth ychwanegol a anfonwyd
atynt. Hefyd, diolchodd y Pwyllgor i Nia am y sesiynau briffio a'r gefnogaeth a
gafwyd ganddi y tu allan i'r cyfarfodydd ffurfiol.
Cam i’w
gymryd:
· Y tîm clercio i ddosbarthu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus pan fydd ar gael.
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
ARAC (22-06)
Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2022-23 a chyllideb
2023-24
7.1 Disgrifiodd
Nia Morgan y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2022-23, gan gynnwys
manylion y cyllidebau atodol. Roedd y papur hefyd yn amlinellu manylion
cyllideb 2023-24, a chafwyd cadarnhad gan Nia fod y gyllideb hon wedi’i
chymeradwyo yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Tachwedd.
7.2 Mewn ymateb i
gwestiynau gan y Pwyllgor, rhannodd Nia a Manon fanylion ychwanegol am y
buddsoddiad mewn cyfleusterau, sy’n cynnwys gwaith hanfodol i gynnal a chadw
adeiladau a chryfhau pwynt bregus a nodwyd gan y tîm Diogelwch yn ystod protest
diweddar.
7.3 Hefyd,
rhannodd Arwyn ragor o fanylion am y buddsoddiad mewn adnoddau ar gyfer
datblygu’r gwaith o ymgysylltu ag etholwyr, a oedd yn cynnwys system Rheoli
Perthynas â Chwsmeriaid ac adnodd ymgysylltu ar-lein. Bydd hyn yn hwyluso’r
gwaith ymgysylltu, yn ogystal â’r gwaith o gasglu tystiolaeth ac ymatebion i
ymgyngoriadau, i helpu i lywio gwaith Pwyllgorau'r Senedd a nodi adborth ar
brofiadau ymwelwyr â'r ystâd.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ac uwchraddio'r system gyllid
Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
17.1 Cadarnhaodd Nia ei bod yn rhy gynnar i gadarnhau’r
ffigur alldro terfynol ar gyfer 2021-22 ac nad oedd unrhyw faterion i’w nodi
o’r archwiliad interim o’r cyfrifon. Soniodd am rai pwysau ychwanegol a
achoswyd gan rai meysydd gwasanaeth yn dychwelyd ffurflenni gwybodaeth ariannol
yn hwyr.
17.2 Dywedodd Nia wrth y Pwyllgor bod y system gyllid
wedi'i huwchraddio wedi mynd yn fyw yn ôl y bwriad a'i bod yn gweithio cystal
â'r disgwyl, gyda rhai mân broblemau yn cael sylw.
17.3 Mewn
perthynas â’r gyllideb gymeradwy ar gyfer 2022-23, dywedodd Nia fod cynnig ar
gyfer cyllideb atodol am gael ei ystyried gan y Comisiwn ar 9 Mai, cyn ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cyllid. Roedd hefyd disgwyl i bapur strategaeth y
gyllideb ar gyfer 2023-24 gael ei ystyried gan y Comisiwn. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch rheoli costau'n ymwneud â chwyddiant
a chynnydd mewn Yswiriant Gwladol, dywedodd Nia fod bellach angen cais am
gyllideb atodol, er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i amsugno'r costau
ychwanegol. Ychwanegodd y byddai unrhyw arbedion a wnaed yn ystod y pandemig yn
cael eu gwrthbwyso gan y cynnydd mewn chwyddiant a chyfleustodau.
17.4 Cytunodd Nia i rannu papurau â’r Pwyllgor ar y
gyllideb atodol a strategaeth y gyllideb ar gyfer 2023-24 ar ôl iddynt gael eu
hystyried gan Gomisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Cyllid.
17.5 Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am y
cynllun gwresogi rhanbarth. Roedd Ed yn ymwybodol o rai datblygiadau ar
seilwaith i gefnogi'r cynllun, a nododd bod dyddiad lansio’r prosiect i fynd yn
fyw i'w gadarnhau. Cytunodd i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor pan
fydd ar gael.
17.6 Fe wnaeth y Cadeirydd gydnabod yr ymdrech a wnaed i
reoli cyllid a chynllunio cyllidebau, yn enwedig gan ei bod yn dod yn fwyfwy
anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol. Nododd hefyd y byddai pwysau adnoddau yn
parhau i fod yn thema i'w thrafod yn y dyfodol. Roedd ef, ac aelodau'r
Pwyllgor, hefyd yn falch bod y system gyllid newydd ar waith ac yn gweithio'n
dda.
Camau i’w cymryd
· Nia Morgan i rannu papurau â’r Pwyllgor ar y
gyllideb atodol a strategaeth y gyllideb ar gyfer 2023-24 ar ôl iddynt gael eu
hystyried gan Gomisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Cyllid.
· Ed Williams i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r
Pwyllgor am y cynllun gwresogi rhanbarth pan fydd ar gael.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y system gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
ARAC (22-01) Papur 12 – uwchraddio’r system gyllid
14.1 Eitem olaf Nia oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor am statws y prosiect i uwchraddio'r system gyllid ac, ar gais y
Cadeirydd, i ganolbwyntio'n benodol ar liniaru risgiau cysylltiedig.
14.2 Fel Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer y prosiect,
cadarnhaodd Nia ei bod yn gyfforddus gyda'r camau lliniaru sydd ar waith, gan
gynnwys profion trylwyr gan ddefnyddwyr a'r cynllun wrth gefn i ddychwelyd yn
ôl i'r system bresennol pe bai materion yn codi i atal y bwriad i fynd yn fyw
ym mis Ebrill 2022. Atgoffodd y Pwyllgor mai uwchraddio oedd hwn yn hytrach na
gosod system hollol newydd sy’n lleihau rhai o'r risgiau gweithredu. Dywedodd
Nia hefyd mai’r partneriaid cymorth meddalwedd a ddefnyddiwyd gan y Comisiwn a
oedd wedi rheoli’r gosodiad gwreiddiol yn 2017. Ar ôl ennill y cystadleuaeth
ail-dendro ar gyfer y contract cymorth yn 2018, byddent yn rheoli'r gwaith o symud
data i'r amgylchedd byw ac yn darparu cymorth ychwanegol os oes angen ar ôl y
dyddiad pan fyddwn yn mynd yn fyw.
14.3 Er mwyn uwchraddio'r system, mae'r Comisiwn yn
dibynnu ar ei bartner datblygu trydydd parti, a bydd yn parhau i weithio ochr
yn ochr â hwy. Drwy gydweithio, byddai'r ddwy ochr yn sicrhau bod gwersi'n cael
eu dysgu o brofiadau yn y gorffennol o uwchraddio’r system. Er mwyn sicrhau bod
disgwyliadau ar bob ochr yn cael eu bodloni, byddai deialog barhaus yn cael ei
gynnal gyda'r datblygwyr a chydweithredu agos â chydweithwyr caffael i sicrhau
bod arferion rheoli contract cryf ar waith.
14.4 Roedd y Cadeirydd yn fodlon â’r cynnydd a lliniaru
risgiau, gan nodi'r goblygiadau pe na bai'r broses weithredu’n mynd yn ôl y
bwriad. Ailadroddodd hefyd y byddai angen i Archwilio Cymru gael mynediad at yr
hen system ar gyfer yr archwiliad interim cyn i'r system newydd fynd yn fyw.
Byddai Gareth Lucey yn gweithio'n agos gyda Nia ar hyn.
14.5 Tynnodd Gareth Watts sylw at y ffaith y byddai'r
gwaith hwn o uwchraddio'r system yn cael ei gynnwys yn ei gynllun archwilio ar
ôl gweithredu. Byddai hyn yn canolbwyntio ar adolygu uniondeb y data a'u
trosglwyddiad gan y byddai’r strwythur codio yn aros yr un fath.
14.6 Yna, trafododd y Pwyllgor fater ymarferoldeb
dwyieithog systemau TG yn fwy cyffredinol. Dywedodd Arwyn Jones ei fod yn
gweithio gyda sefydliad o'r enw y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng
Nghymru a chytunodd i rannu manylion ei haelodaeth gydag Ann Beynon ac adrodd
yn ôl ar unrhyw wybodaeth angenrheidiol i’r Pwyllgor.
Camau i’w cymryd
· Rhoi rhagor o fanylion i Ann Beynon am y
Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (mewn perthynas â darpariaeth
ddwyieithog o fewn systemau TG)
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Adolygiad Blynyddol o bolisïau a systemau cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
ARAC (22-01) Papur 11 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau
Cyfrifyddu
13.1 Cyflwynodd Nia y papur a oedd yn nodi sut yr oedd y
tîm Cyllid wedi cynnal ei adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu. Cyfeiriodd
y Pwyllgor at yr Atodiad a oedd yn amlinellu'r pwyntiau i'w nodi. Roedd yr
adolygiad wedi ymdrin â newidiadau allanol megis safonau cyfrifyddu, yn ogystal
â newidiadau i drefniadau mewnol ac adroddiad archwilio allanol a llythyr rheoli
Archwilio Cymru.
13.2 Cadarnhaodd Nia mai dim ond mân newidiadau a oedd â
goblygiadau i'w datgelu yng nghyfrifon 2021-22 y Comisiwn. Nododd fod camau
eisoes wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r mater a godwyd gan Archwilio Cymru yn
ystod archwiliad 2020-21, yn ymwneud ag eitemau o wariant cyfalaf. Newidiadau
i'r cyfrifon sy'n adlewyrchu IFRS 16 – Byddai prydlesau’n cael eu gweithredu yn
ystod 2022-23.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
ARAC (22-01) Papur 10 – Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
12.1 Cyflwynodd Nia y papur a oedd yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf arferol am gyllid i'r Pwyllgor. Mewn perthynas â chyllideb
weithredol gymeradwy 2021-22, y sefyllfa alldro a ragwelir ar ddiwedd mis
Rhagfyr oedd tanwariant o 1.0 y cant, a oedd o fewn yr ystod targed ariannol
corfforaethol o 0 y cant i 1.5 y cant. Roedd y tanwariant a oedd yn weddill yn
gweithredu fel arian wrth gefn yn erbyn cynnydd annisgwyl yn y ddarpariaeth ar
gyfer gwyliau blynyddol a gronnwyd ac unrhyw geisiadau brys am gyllid yn hwyr
yn y flwyddyn ariannol.
12.2 Tynnodd Nia sylw at y ffaith nad oedd cyllideb
2022-23 yn adlewyrchu effaith IFRS 16 (Prydlesau) gan nodi, yn amodol ar ddim
oedi pellach o ran gweithredu gan Drysorlys EM, y byddai'r effaith yn cael ei
hadlewyrchu yng Nghyllideb Atodol gyntaf y Comisiwn ar gyfer 2022-23. Byddai'r
gwaith paratoi yn dechrau ym mis Mawrth/Ebrill 2022 ar strategaeth gyllideb
2023-24.
12.3 Diolchodd y Pwyllgor i Nia am y wybodaeth ddiweddaraf ac am y wybodaeth yr
oedd wedi'i rhannu y tu allan i'r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor wybodaeth am
golledion a thaliadau arbennig.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Diweddariad cyllidol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
ARAC
(02-21) Papur 11 – Diweddariad cyllidol
12.1
Amlinellodd Nia Morgan y sefyllfa gyllidol
ddiweddaraf ar gyfer 2021-22 a’r sefyllfa gyllidol ddisgwyliedig ar gyfer
2021-22 a 2022-23. Disgwyliwyd mai 0.4 y cant fyddai alldro'r gyllideb
weithredol erbyn diwedd y flwyddyn, a oedd ymhell o fewn y targed o rhwng 0 y
cant ac 1.5 y cant.
12.2 Mewn
ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch cronni gwyliau, cadarnhaodd Nia fod
y cyfnod estynedig pan oedd gwaith y Comisiwn wedi’i oedi yn ystod y Nadolig
wedi gostwng y ffigur gofynnol o ran cronni gwyliau blynyddol, a bod y ffigur
yn y cyfrifon yn addasiad cyfrifyddol yn unig.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
12.1 Cyflwynodd Nia y papur hwn a amlinellodd yr
adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu i sicrhau eu perthnasedd parhaus wrth
gefnogi busnes y Senedd. Defnyddiodd y tîm Cyllid y wybodaeth ddiweddaraf sydd
ar gael gan Drysorlys Ei Mawrhydi a buont yn gweithio gyda gwasanaethau ar draws
y Comisiwn, gan nodi unrhyw newidiadau sylweddol. Roedd y meysydd a adolygwyd
yn cynnwys newidiadau allanol megis newidiadau i’r safonau cyfrifyddu,
newidiadau i fusnes mewnol ac adroddiad archwilio allanol a llythyr rheoli
Archwilio Cymru.
12.2 Er bod yr adolygiad yn parhau, nid oedd
unrhyw newidiadau disgwyliedig i'r safonau cyfrifyddu y byddai angen eu
hadlewyrchu yn y polisïau cyfrifyddu a gymhwyswyd gan y Comisiwn ar gyfer
2020-21, ar wahân i'r Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16. Yn dilyn cryn
oedi, cadarnhaodd Trysorlys EM ym mis Tachwedd 2020 fod y Bwrdd Cynghori ar
Adroddiadau Ariannol wedi cytuno na fyddai IFRS 16 yn cael ei weithredu'n
orfodol o 1 Ebrill 2021. Yn lle hynny, y dyddiad gweithredol bellach fyddai 1
Ebrill 2022. Bydd yr oedi pellach hwn i'w weithredu yn golygu na fydd IFRS 16
yn effeithio ar gyllideb y Comisiwn tan 2022-23. Penderfynodd y Comisiwn beidio
â mabwysiadu IFRS yn gynnar (yn 2021-22). Yn amodol ar ganllawiau pellach gan
Drysorlys EM, bydd yr effaith yn cael ei hadlewyrchu yng Nghyllideb Ddrafft y
Comisiwn ar gyfer 2022-23 neu yn ei Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2022-23.
12.3 Diolchodd y Pwyllgor i Nia a'i thîm am eu
hadolygiad manwl. Awgrymodd y gallai trafodaethau ag Archwilio Cymru fod yn
ddefnyddiol i leihau dyblygu ymdrechion ar draws sefydliadau sector cyhoeddus
Cymru o ran dadansoddi newidiadau i bolisïau cyfrifyddu a'r Llawlyfr Adrodd
Ariannol (FReM).
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
11.1 Amlinellodd Nia Morgan mai targed ariannol
corfforaethol 2020-21 oedd cyflwyno adroddiad archwilio diamod ac alldro
gweithredol diwedd blwyddyn rhwng 0 y cant a 1.5 cant o'r gyllideb weithredol
gymeradwy. Cadarnhaodd fod rhagolwg y sefyllfa alldro ar ddiwedd mis Ionawr
ymhell o fewn y targed hwn, sef 0.4 y cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy.
Wrth i'r tanwariant aros yn dynn, byddai'r Bwrdd Gweithredol a'r tîm Arwain yn
parhau i asesu ceisiadau am adnoddau prosiect gyda'r bwriad o gynnal lefel isel
y tanwariant tan ddiwedd y flwyddyn. Roedd treialu gwahanol gyfluniadau ar
gyfer gweithfannau wedi bod yn faes gwariant annisgwyl ychwanegol a bydd yn
eitem o wariant y cyllidebir ar ei gyfer yn y blynyddoedd i ddod, os yw’r
peilot yn llwyddiannus.
11.2 Dylai Comisiwn y Senedd gael gwared ar
ddangosyddion perfformiad allweddol yn y dyfodol a osodir i leihau tanwariant a
chanolbwyntio, yn hytrach, ar ddefnyddio adnoddau ariannol mor effeithlon â
phosibl. Gwneir gwaith yn ystod 2021-22 i ddatblygu cynigion i drafod â'r
Comisiwn dargedau ariannol corfforaethol priodol ar gyfer y Chweched Senedd.
11.3 Cymeradwyodd y Comisiwn ail Gyllideb Atodol
ym mis Rhagfyr. Fel y’i nodwyd yng nghyfarfod mis Tachwedd, roedd rhan o'r ail
Gyllideb Atodol hon ar gyfer cynyddu cyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol
(AME) o £1.6 miliwn i £2.0 miliwn i adlewyrchu amcangyfrif yr Actiwari o'r
cynnydd yng nghostau cyllid pensiwn yr Aelodau.
11.4 Yna fe droes Nia at gyllideb 2021-22, sy’n
ymwneud â blwyddyn gyntaf y Chweched Senedd a fydd yn cael ei goruchwylio gan y
Comisiwn newydd sydd i’w benodi yn haf 2021. Gyda'r oedi cyn gweithredu Safon
Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 (Prydlesau) oherwydd effaith Covid-19
cafodd cyllideb 2021-22 ei chyflwyno heb unrhyw ddata IFRS 16. Mae mwy o
fanylion am hyn ym mharagraff 12.2.
11.5 Diolchodd y Pwyllgor i Nia am y diweddariad
hwn a nododd y ganmoliaeth a'r gydnabyddiaeth haeddiannol gan y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus. Roedd y gwaith a wnaed i gyflwyno cyllideb y dyfodol yn
rhagorol a chytunodd Nia i rannu â'r Pwyllgor wybodaeth am unrhyw arbedion neu
wariant ychwanegol oherwydd y pandemig maes o law.
Camau gweithredu
• Nia i rannu ag ARAC ddadansoddiad o
wariant ac arbedion mewn perthynas â Covid ar ddiwedd y flwyddyn.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
ARAC (05-20)
Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol
2020-21 a chyllideb 2021-22
8.1
Cyflwynodd Nia Morgan ddiweddariad ar sefyllfa
ariannol 2020-21. Roedd yr alldro a ragwelir ar gyfer y Comisiwn yn cyfateb i
0.5 y cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy a oedd o fewn yr ystod darged o 0
y cant i 1.5 y cant.
8.2
Roedd Nia wedi rhannu lincs ag aelodau’r Pwyllgor
cyn y cyfarfod hwn i sesiynau craffu’r Comisiwn gyda Phwyllgor Cyllid a
Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd gyda gohebiaeth gysylltiedig arall. Un
maes y gofynnodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ragor o wybodaeth amdano oedd
ailosod y ffenestri yn Nhŷ Hywel. Eglurodd Nia y
byddai astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal ar gyfer dull graddol, y
byddai penderfyniad yn debygol o gael ei ohirio hyd nes i'r Comisiwn newydd
gael ei benodi. Mewn ymateb i aelodau'r Pwyllgor yn annog ymgysylltiad cynnar â
darpar gyflenwyr o Gymru, rhoddodd Dave sicrwydd fod hyn yn cael ei wneud.
8.3
Maes arall a godwyd yn y sesiynau craffu oedd
effaith gwyliau blynyddol cronedig a fyddai'n arwain at yr angen am addasiad
cyfrifyddu sylweddol. Trafododd y Pwyllgor yr effaith o ran lles staff, yn
enwedig y rhai na allant gymryd gwyliau oherwydd pwysau gwaith. Dywedodd Nia y
gofynnwyd i Benaethiaid Gwasanaethau annog eu staff i gymryd gwyliau dros
gyfnod y Nadolig ac y byddai eitem ar y dudalen newyddion hefyd yn cael ei chyhoeddi.
8.4
Diolchodd y Pwyllgor i Nia a'i thîm am eu gwaith
parhaus dros yr haf a'r ymdrech barhaus i sicrhau bod sefyllfa ariannol 2020-21
a chyllideb 2021-22 yn cael eu cyflwyno mewn ffordd mor gynhwysfawr.
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
ACARAC (05-19) Papur 9 – Y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ariannol
9.1
Cyflwynodd Nia yr eitem, gan ofyn i aelodau'r
Pwyllgor nodi'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2019-20 a’r sefyllfa
ariannol a ragwelir ar gyfer 2020-21 a 2021-22. Esboniodd Nia, oherwydd
amseriad y cyfarfod, nad oedd yn bosibl rhoi esboniad cywir o’r sefyllfa ar
ddiwedd y flwyddyn ar gyfer 2019-20, ond y byddai’r ffigyrau hyn yn cael eu
darparu maes o law.
9.2
Gofynnodd Nia i'r Pwyllgor nodi bod cyllideb
atodol wrthi’n cael ei thrafod gan y Comisiwn, mewn perthynas â'r oedi wrth
weithredu newidiadau i IFRS16 - Prydlesi, a oedd i fod i ddod i rym ar 1 Ebrill
2020. Gohiriwyd hyn tan 1 Ebrill 2021. Mewn ymateb i gwestiynau gan y
Cadeirydd, ychwanegodd Nia fod y newid hwn wedi cael effaith sylweddol ar
alldro 2020-21, felly roedd angen cyllideb atodol.
9.3
Mewn ymateb i gwestiynau am gyfrifo
darpariaeth gwyliau blynyddol staff y Comisiwn, rhoddodd Nia sicrwydd nad oedd
hyn yn fater arwyddocaol ond bod y safonau cyfrifyddu yn ei gwneud yn ofynnol
i’r ddarpariaeth hon gael ei chynnwys yn y cyfrifon adnoddau.
9.4
Diolchodd y Pwyllgor i Nia am y wybodaeth
ddiweddaraf.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Y diweddaraf am y gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am
sefyllfa ariannol 2019-20 a chyllideb 2020-21
7.1
Cyflwynodd Nia yr eitem, gan ofyn i aelodau'r Pwyllgor
nodi'r sefyllfa ariannol gyfredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.
7.2
Tynnodd Nia sylw at y newid yng nghyflwyniad y
gyllideb i adlewyrchu na fyddai'r Comisiwn bellach yn defnyddio unrhyw
danwariant sy'n codi o gyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau i ariannu gwaith
prosiect. Roedd y Pwyllgor yn dawel eu meddwl o glywed hynny, gan mai hon oedd
y flwyddyn gyntaf o gyflwyno'r gyllideb fel hyn, a byddai'n destun adolygiad
parhaus.
7.3
Mewn ymateb i gwestiynau ar y cynnydd yng
nghanrannau trosiant staff, eglurodd Nia fod y cyfartaledd hwn yn dod â'r
Comisiwn yn unol yn agosach â chyfartaledd y sector cyhoeddus ac nad oedd yn
peri pryder i uwch-reolwyr ar hyn o bryd.
7.4
Holodd y
Pwyllgor swyddogion ynghylch y gwariant ar yr ystâd a dyfodol Tŷ Hywel.
Hysbysodd Dave y Pwyllgor, o dan y trefniadau cyfredol, fod angen lefel y
buddsoddiad i gynnal a chadw'r adeilad.
7.5
Wrth
ymateb i gwestiynau ynghylch y targed arbedion gwerth am arian, nododd Nia fod
y wybodaeth hon bellach yn cael ei chasglu at ddibenion monitro mewnol yn unig.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36
Cofnodion:
ACARAC (05-19) Papur 7 – Diweddariad ar
Sefyllfa Ariannol 2019-20 a Chyllideb 2020-21
9.1
Aeth Nia drwy’r papur gyda’r Aelodau, gan nodi’r
sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2019-20, a chyflwyno’r wybodaeth
ddiweddaraf am y gwaith i gymeradwyo cynigion cyllideb 2020-21.
9.2
Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y wybodaeth a
nododd y Pwyllgor y papur.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
- Cyfyngedig 40
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
ACARAC
(01-19) Papur 13 - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyllid
11.1
Mewn ymateb i
gwestiynau gan y Cadeirydd, cadarnhaodd Suzy fod cyllideb y Penderfyniad yn
cyd-fynd â disgwyliadau Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y
Cynulliad. Disgrifiodd hefyd sut y cafodd argymhellion y Pwyllgor Cyllid eu
hystyried. Esboniodd Suzy a Nia eu bod yn cytuno mewn egwyddor â'r argymhelliad
i olrhain Cronfa Gyfunol Cymru wrth bennu cyllideb y Cynulliad. Fodd bynnag,
nododd y Pwyllgor yr her gan na fyddai'r ffigurau ar gael mewn pryd i bennu'r
cyllidebau a bod risg posibl o ran enw da.
11.2
Llongyfarchodd y
Cadeirydd Nia a'i thîm am werth am arian a pherfformiad taliadau prydlon. Pan
ofynnwyd, cadarnhaodd Nia na fu unrhyw amrywiadau sylweddol yn erbyn cyllidebau
wedi'u pennu ar gyfer rhaglenni a phrosiectau.
11.3
Nododd Nia hefyd y
gallai'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn arwain at gyllideb atodol ar gyfer
2019-20. Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi
cael gwybod am hyn.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 7 - Y wybodaeth
ddiweddaraf gan y tîm Cyllid
ACARAC (02-18) Papur 7 – Atodiad A
9.1
Amlinellodd Nia y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2017-18 a'r
sefyllfa a ragwelir ar gyfer 2018-19 a 2019-20.
Roedd yn rhagweld, gyda chymorth blaenoriaethu gwariant cadarn gan y
Bwrdd Gweithredol, y byddai'r Comisiwn o fewn y targed
heriol o 0.5% ar ddiwedd y flwyddyn.
9.2
Roedd Cyllid a Thollau EM yn cynnal
archwiliad o drefniadau tâl y Comisiwn a oedd wedi gorfod dargyfeirio rhai
adnoddau o fen y tîm Cyllid. Byddai'r broses yn cymryd rhwng 12 a 18 mis ac nid
oedd disgwyl iddo effeithio ar amserlen yr archwiliad.
9.3
Trafododd y Pwyllgor y goblygiadau ar gyfer
cyllideb y Comisiwn o ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Danwariant Penderfyniad y
Bwrdd Taliadau ac ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau ar gynigion sy'n deillio o'r
adolygiad ar gymorth staffio i Aelodau.
9.4
Diolchodd y Pwyllgor i Nia am adroddiad
rhagorol.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
- Cyfyngedig 49
- Cyfyngedig 50
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
ACARAC (01-18) Papur 5 – Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu
Eitem 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
ACARAC (01-18) Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid
6.1
Cyflwynodd Nia'r ddau
bapur a chroesawodd gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf.
6.2
Nododd y Pwyllgor bapur
yr adolygiad o bolisïau cyfrifyddu Pan ofynnwyd iddynt, cadarnhaodd
cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn fodlon ar driniaeth
dadfeiliadau a amlinellwyd yn y papur.
6.3
Roedd y sefyllfa
ariannol gyfredol yn dal i fod yn heriol. Fodd bynnag, ers cyfarfod mis Tachwedd,
rhoddwyd tasg i'r Cyfarwyddwyr ganfod arbedion, gan gynnwys gohirio rhywfaint
o'r gwariant tan 2018-19 i ddarparu lefel wrth gefn a hyblygrwydd yn 2017-18,
gan gydnabod y byddai hyn yn effeithio ar gyllideb 2018-19. Bydd y Bwrdd
Buddsoddi ac Adnoddau yn ystyried cyn bo hir a fydd rhai o'r prosiectau a
ohiriwyd, megis y cylch newid peiriannau TGCh, yn gallu parhau yn 2017-18.
6.4
Byddai offeryn
blaenoriaethu a ddatblygwyd gan Dave a Gareth Watts yn cynorthwyo â
phenderfyniadau cyllido yn y dyfodol. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch y sail a'r meini prawf ar gyfer blaenoriaethu yng
nghyfarfod mis Ebrill.
6.5
Eglurodd Nia yr angen am
gyllideb atodol i dalu am y diffyg a achoswyd gan gynnydd yn rhagolygon Adran
Actiwari'r Llywodraeth o gost y cyllid pensiwn. Cyflwynwyd Memorandwm
Esboniadol i'r Pwyllgor Cyllid ym mis Rhagfyr.
6.6
Cadarnhaodd Dave fod
arbedion wedi'u negodi mewn perthynas â rhai cytundebau heb unrhyw newid i
safon y gwasanaeth. Cyfeiriodd Nia at yr arbedion gwerth am arian yn deillio o
arbedion effeithlonrwydd busnes, ond rhybuddiodd y byddai arbedion mewn meysydd
megis caffael yn fwy anodd yn y dyfodol oni bai fod newidiadau sylweddol i
ddarpariaeth gwasanaethau. Mewn ymateb i gwestiynau am yr ardoll brentisiaeth,
cytunodd Nia i gadarnhau a ddylai cyflogres Aelodau, fel cyflogeion unigol,
gael eu trin ar wahân neu ar y cyd o ran y trothwy £3 miliwn.
6.7
Gwahoddwyd y Pwyllgor i
anfon unrhyw sylwadau i Nia mewn llythyr yr oedd disgwyl iddo gael ei anfon i'r
Pwyllgor Cyllid yn dilyn lansiad ei ymchwiliad i sut yr oedd cyllideb gwariant
Seneddau eraill yn cysylltu â chyflog a lwfans Aelodau.
Camau i’w cymryd
-
Dave a Gareth Watts i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y meini prawf blaenoriaethu a'r
modd y caiff ei weithredu yng nghyfarfod mis Ebrill.
-
Nia i egluro a yw'r
ardoll brentisiaeth yn berthnasol i Aelodau'r Cynulliad fel cyflogwyr.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 11 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid
8.1
Gofynnodd
Nia i’r Pwyllgor nodi’r diweddariad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf ar gyfer 2017-18, a oedd yn cael ei monitro gan yr IRB bob
pythefnos.
8.2
Roedd
y Pwyllgor yn croesawu’r papur cynhwysfawr hwn ac yn cydnabod y pwysau ariannol
y mae’r sefydliad yn ei wynebu.
Camau i’w cymryd
-
Nia i roi manylion am
fodelu cyllideb i aelodau’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 13 - Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb
12.1
Oherwydd amserlennu cynnar y cyfarfod hwn, ni
allai Nia ddarparu gwybodaeth am y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn i'r Pwyllgor
gan nad oedd yr addasiadau cyfrifo wedi'u prosesu eto.
12.2
Byddai cyfarfod cynllunio capasiti y Bwrdd
Rheoli yn llywio'r gofynion ar y gyllideb ar gyfer 2017-18 ymhellach a byddai
hyn hefyd yn cael ei fonitro'n agos gan y Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi.
Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
Llywodraethu'r Comisiwn
ACARAC (01-17) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a'r gyllideb
ACARAC (01-17) Papur 8 - Polisïau cyfrifyddu - adolygiad blynyddol
6.1
Cyflwynodd Nia Morgan y ddwy eitem hyn.
Cafodd y targedau ariannol corfforaethol ar gyfer 2016-17 eu hadolygu
a'u diweddaru mewn cyfarfod o'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau a gynhaliwyd yn ddiweddar. Diwygiwyd y targed tanwario diwedd blwyddyn o
1.0% i 0.5%, a phennwyd targedau llymach ar gyfer targedau talu'n brydlon. Hefyd, soniodd Nia am y newidiadau yn staff y
tîm Cyllid.
6.2 Byddai'r targed tanwario diwygiedig o lai na 0.5% yn her,
ond mewn cyfarfod o'r Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd yn ddiweddar roedd Nia wedi
dweud wrth Benaethiaid y Gwasanaethau fod yr wythnosau sy'n weddill o'r
flwyddyn ariannol gyfredol yn gyfnod hollbwysig o ran rheoli cyllidebau eu
gwasanaethau. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y posibilrwydd y gallai targed o'r
fath yn cynyddu'r risg o orwario.
6.3 Croesawodd y Pwyllgor yr adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu gan
ddiolch i Nia am y papur cynhwysfawr.
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
12.0
Y
wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb 2016-17
ACARAC
(05-16) Papur 16 - Y wybodaeth ddiweddar am
Gyllid
12.1
Dywedodd
Nia wrth y Pwyllgor fod y tanwariant targed o 1% ar y trywydd iawn ac y
byddai'n gweithio'n agos gyda Swyddfa Archwilio Cymru i benderfynu yn llawn a
oedd unrhyw oblygiadau cyfalaf ar gyfer y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer
ailgyflunio Tŷ Hywel.
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor Cyllid (CC) a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
- Cyfyngedig 72
- Cyfyngedig 73
- Cyfyngedig 74
- Cyfyngedig 75
- Cyfyngedig 76
Cofnodion:
11.0
Y
wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor Cyllid (CC) a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
(PAC)
ACARAC
(05-16) Papur 15 - y wybodaeth
ddiweddaraf am FC a PAC
ACARAC
(05-16) Papur 15 - Atodiad 1 Llythyr at PAC
ACARAC
(05-16) Papur 15 - Atodiad 1 Llythyr at PAC
ACARAC
(05-16) Papur 15 - Atodiad i Gyllideb FC 2017-18
ACARAC
(05-16) Papur 15 - Atodiad 3 Adroddiad FC
ACARAC (05-16) Papur 15 - Atodiad 4 Y
wybodaeth ddiweddaraf am FC a PAC
11.1
Diolchodd Nia Morgan i
Suzy a'r Pwyllgor am eu cymorth i baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Dywedodd fod
dau ymateb arall i fod i gael eu hanfon at y Pwyllgor Cyllid.
11.2
Croesawodd
y Pwyllgor yr adborth ac roeddent yn falch bod y paratoadau wedi bod yn
fuddiol.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Polisïau cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 79
Cofnodion:
ACARAC (32) Papur 13 -
Polisïau cyfrifyddu
11.1 Nododd y Pwyllgor y
papur hwn er gwybodaeth ac amlinellodd Nia'r mân newidiadau a wnaed
ganddi.
11.2 Mewn perthynas â phrynu
offer TG yn ôl y gofyn, rhoes Dave sicrwydd i'r Pwyllgor fod prisiau'n cael eu
gwirio i sicrhau eu bod yn gystadleuol.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 82
Cofnodion:
ACARAC (32) Papur 12 - Y
wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb
10.1 Cyflwynodd Nia bapur yn
nodi'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2015-16. Roedd y papur hefyd yn cynnwys y wybodaeth
ddiweddaraf am y gwaith i gyflawni cyllidebau yn y dyfodol.
10.2 Cafwyd rhagor o fanylion gan Claire am
oblygiadau'r cynllun ymadael gwirfoddol a'r cynlluniau ehangach i ailstrwythuro
rhai timau yn ystod y Pumed Cynulliad er mwyn sicrhau effaith gadarnhaol o
ganlyniad i'r cynllun. Dywedodd y
Cadeirydd fod y broses a ddilynwyd i bob golwg yn un gadarn, gyda sicrwydd
annibynnol yn rhan o'r broses.
10.3 Eglurodd Nia na phennwyd
targed arbed gwerth am arian ar gyfer 2016-17 gan nad oed angen adnewyddu
contractau mawr, ond byddai cyfarfodydd rheolaidd â thimoedd Ystadau a Rheoli
Cyfleusterau a TGCh yn debygol o nodi rhai arbedion ar wahân neu arbedion
effeithlonrwydd. Eglurodd Claire rôl y
Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau wrth benderfynu sut i ddefnyddio'r arbedion a
gafwyd orau.
10.4 Hefyd, hysbysodd Nia'r
Pwyllgor fod ei thîm yn wynebu ychydig fisoedd heriol gan ei bod yn debygol y
byddai strategaeth gyllideb newydd yn cael ei chyflwyno i Gomisiwn newydd y
Cynulliad ym mis Mehefin.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 85
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 14 - Y wybodaeth
ddiweddaraf am Gyllid
12.1 Cyflwynodd Nicola y papur hwn a oedd yn
nodi’r sefyllfa ariannol ar gyfer 2015-16.
12.2 Roedd y Pwyllgor yn croesawu cynnwys llythyr
a anfonwyd gan y Dirprwy Lywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac
yn canmol y Cynulliad am ei berfformiad o ran talu’n brydlon.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Trosolwg o'r cyfrifon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 88
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 8 - Cyfrifon blynyddol
2015-16
6.1
Cyflwynodd
Nicola y papur hwn a dywedodd wrth y pwyllgor fod cyfres interim o gyfrifon
wedi cael eu cyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru. Yn dilyn gweithdy a gynhaliwyd gan y Swyddfa
ar gyfer Penaethiaid Adnoddau, byddai’n cael gweld cyfrifon interim gan gyrff
eraill yn y sector cyhoeddus.
6.2
Holodd
aelodau’r Pwyllgor sut y caiff tâl gwyliau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad ei
drin yn y cyfrifon, a chadarnhaodd Nicola y byddai’n diweddaru’r Pwyllgor ar ôl
i gynnydd pellach gael ei wneud gyda Swyddfa Archwilio Cymru.
6.3
Trafodwyd
y defnydd o'r Pierhead hefyd. Roedd yr
adeilad yn cael ei ddefnyddio'n aml ac mae’r gofod digwyddiadau yn llawn tan
fis Mawrth 2018. Pan holwyd ynghylch y
gwaith sy’n angenrheidiol i gynnal yr adeilad, cadarnhaodd swyddogion bod y
blaengynllun gwaith cynnal a chadw ar gyfer y 10 mlynedd nesaf yn seiliedig ar
gyngor arbenigol.
6.4
At ei
gilydd, mae’r pwyllgor yn fodlon ar y diweddariad i’r Llythyr Rheoli 2014-15
a’r amserlen a nodir yn y papur.
Cam i’w
gymryd
-
Nicola i
roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am sut y caiff tâl gwyliau Staff
Cymorth Aelodau'r Cynulliad i drin yn y cyfrifon.
Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 91
Cofnodion:
ACARAC (30) Papur 10 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb
11.1 Rhoddodd Nicola grynodeb
o’r sefyllfa ariannol ar gyfer 2015-16 a chadarnhaodd fod cyllideb 2016-17 wedi
ei chymeradwyo gan y Cynulliad. Roedd y
Pwyllgor Cyllid wedi craffu ar y gyllideb yn drylwyr, gyda lefel uwch o her i
rai llinellau yn y gyllideb nag o'r blaen, a chafodd eu holl argymhellion eu
derbyn. Byddai arbedion caffael 2015-16
yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd y contractau gwerth is sy’n dod i
ben yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
11.2 Dywedodd Claire fod y
flwyddyn ariannol hon yn cael ei hystyried yn flwyddyn drosiannol ar gyfer y
dull Gwerth am Arian. Roedd adolygiad o
gapasiti arall wedi'i drefnu ar gyfer diwedd mis Tachwedd.
11.3 Gofynnodd y Cadeirydd am
y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Busnes pan fydd
hynny'n briodol.
Camau gweithredu
-
Dave i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Busnes
pan fydd hynny'n briodol.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Polisïau cyfrifyddu: llinell amser a phroses
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 94
Cofnodion:
ACARAC (26) Papur 13 - Polisïau cyfrifyddu - adolygiad
blynyddol
11.1
Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad
2014-15 o bolisïau cyfrifyddu. Adolygwyd y newidiadau allanol a mewnol i
sicrhau perthnasedd parhaus wrth gefnogi busnes y Cynulliad.
11.2
Soniodd Nicola fod Swyddfa Archwilio Cymru heb gadarnhau'r datgeliad i TGCh
ar gyfer y driniaeth arfaethedig o asedau, ond bod trafodaethau ar y gweill
eto. Nododd y Pwyllgor yr hyfforddiant
a'r canllawiau a gynigir i reolwyr asedau. Gofynnodd Eric i'r eitem hon gael ei
hychwanegu at Flaenraglen Waith y Pwyllgor yn flynyddol.
Camau gweithredu
-
Roedd y tîm Clercio i ychwanegu adolygu polisïau
cyfrifyddu fel eitem flynyddol i'r Flaenraglen Waith.