Cyfarfodydd

Craffu ar y gyllideb

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Craffu Ariannol yn ystod y Flwyddyn gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Dean Medcraft, Director, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

Simon Jones, Director, Cyfarwyddwr Seilwaith yr Economi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ken Skates AC, Simon Jones a Dean Meadcraft gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o fanylion am Ffordd Liniaru’r M4 - trin TAW wrth adrodd ynghylch amcangyfrifon costau.  Cytunodd y Gweinidog hefyd i ddarparu rhagor o fanylion am Gomisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru


Cyfarfod: 17/07/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafodaeth ar y Dystiolaeth am Graffu Ariannol yn ystod y Flwyddyn

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth am graffu ariannol yn ystod y flwyddyn.


Cyfarfod: 21/11/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Craffu ar y gyllideb gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd

Marcella Maxwell, Pennaeth Cynllun Gweithredu ar yr Economi

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Atebodd Ken Skates AC, Simon Jones, Marcella Maxwell, a Dean Medcraft gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

7.2 Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno i roi manylion pellach i'r Pwyllgor fel y trafodwyd yn y cyfarfod

 


Cyfarfod: 07/11/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu ar y gyllideb gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Eluned Morgan ac Andrew Clark gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

2.2 Cytunodd Andrew Clark i roi rhagor o fanylion am gynllun Cymunedau am Waith


Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Craffu ar y gyllideb: ymgymryd â gwaith craffu ar y gyllideb a goruchwylio ariannol; datblygu arfer da a gwneud gwahaniaeth

Papur 4 - Craffu ar y Gyllideb: Ymgymryd â Chraffu ar y Gyllideb a Throsolwg Ariannol; Datblygu Arfer Da a Gwneud Gwahaniaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cyflwynodd Alex Brazier, Aelod Cyswllt o Global Partners Governance, sesiwn hyfforddi ynghylch craffu ar y gyllideb: ymgymryd â gwaith craffu ar y gyllideb a goruchwylio ariannol; datblygu arfer da a gwneud gwahaniaeth.

 


Cyfarfod: 23/03/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Sesiwn Ymgysylltu ag Ysgol Bassaleg

Cofnodion:

8.1 Aeth y Pwyllgor i Ysgol Bassaleg ar gyfer sesiwn ymgysylltu ynghylch pwerau cyllidol datganoledig.

 


Cyfarfod: 02/12/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Trafod Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid

CYPE(4)-30-15 – Papur preifat 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am adborth ar broses y gyllideb a chraffu ariannol ar ddeddfwriaeth. Cytunwyd i gyflwyno eu barn yn ysgrifenedig.