Cyfarfodydd

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/07/2016 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor at yr Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 16/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC

NDM6009 Christine Chapman (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

2. Yn cytuno y dylai'r BBC, os yw'n derbyn argymhelliad y pwyllgor, osod adroddiadau blynyddol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad. 

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.46

NDM6009 Christine Chapman (Cwm Cynon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

2. Yn cytuno y dylai'r BBC, os yw'n derbyn argymhelliad y pwyllgor, osod adroddiadau blynyddol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Trafod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC

PAC(4)-08-16 Papur 7

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Gwnaeth yr Aelodau nodi a chroesawu’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth drafft diwygiedig ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC.

5.2 Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi diolch iddi am wahodd y Pwyllgor i drafod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ac i roi gwybod hefyd y bydd adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor yn cynnwys argymhelliad y dylai’r pwyllgor dilynol ystyried cynnwys cyfrifon y BBC fel rhan o’i waith blynyddol yn craffu ar gyfrifon.

 


Cyfarfod: 25/02/2016 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft â rhai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Trafod y memorandwm dealltwriaeth diwygiedig drafft sy’n ymwneud â’r Adolygiad o Siarter y BBC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried y Memorandwm drafft diwygiedig.

 


Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 02/12/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC - trafod themâu allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad.

 


Cyfarfod: 02/12/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 8 - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Curon Davies, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Colin Nosworthy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Aled Powell, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

  • Curon Davies, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
  • Colin Nosworthy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
  • Aled Powell, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

2.2 Cytunodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ddarparu

·         rhagor o wybodaeth am ddarlledwr aml-lwyfan newydd a chyflwyno ardoll ar gyfer ffynonellau cyllid amgen;

·         manylion am sut y byddai system reoleiddio yng Nghymru yn gweithio yn ymarferol.

 


Cyfarfod: 26/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiwn 7

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn Eitem 3.

 


Cyfarfod: 26/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 7 - BBC

Yr Arglwydd Hall o Birkenhead CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol, BBC

Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Yr Arglwydd Hall o Birkenhead CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol, BBC

·         Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales

 

3.2 Cytunodd Rhodri Talfan Davies i ddarparu manylion i’r Pwyllgor am arolygon olrhain BBC Cymru Wales sy'n monitro'r defnydd cyffredinol o’r cyfryngau yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 5 a 6

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.

 


Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 6

Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru

Dr John Geraint, Green Bay Media

Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig

Yr Athro Tom O'Malley, Prifysgol Aberystwyth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru

·         Dr John Geraint, Green Bay Media

·         Angela Graham, Sefydliad Materion Cymreig

·         Yr Athro Tom O’Malley, Prifysgol Aberystwyth

 


Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 5 - Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

·         Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

 

Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

·         Barn Llywodraeth Cymru ar p’un a yw’r BBC wedi ymateb yn ddigonol i argymhellion Adroddiad King;

·         manylion am waith Panel Cynghori ar Ddarlledu Llywodraeth Cymru, a’r allbynnau ohono;

·         yr ohebiaeth sy’n ymwneud â galwad Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu cyllideb S4C;

·         y cyllid ar gyfer BBC Alba a’r gymhariaeth â’r cyllid ar gyfer S4C;

·         ffigurau sy’n ymwneud â’r cwmnïau cynhyrchu a chadwyni cyflenwi sydd wedi elwa o symud cynhyrchu allan o Lundain i Gymru;

·         y sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud o ran y newidiadau arfaethedig i’r Telerau Masnach rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a chynhyrchwyr annibynnol;

yr ohebiaeth yn ymwneud â phryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau i ffi’r drwydded ym mis Gorffennaf 2015

 


Cyfarfod: 12/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiwn dystiolaeth 3 a sesiwn dystiolaeth 4.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3.

 


Cyfarfod: 12/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 4 - TAC a PACT

Iestyn Garlick, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

Gareth Williams, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

John McVay, Cynghrair y Cynhyrchwyr Sinema a Theledu (PACT)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Iestyn Garlick, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

·         Gareth Williams, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

·         John McVay, Producers Alliance for Cinema and Television (PACT)

 

3.2 Cytunodd TAC i geisio darparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am gyllid BBC Alba, ac a fydd S4C a BBC Alba yn cael eu trin yn debyg yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 12/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 3 - Ymddiriedolaeth y BBC

Rona Fairhead, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth y BBC

Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth y BBC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Rona Fairhead, Cadeirydd, Ymddiriedolaeth y BBC

·         Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth y BBC

 

2.2 Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i ddarparu i’r Pwyllgor adroddiadau monitro yr Ymddiriedolaeth, neu grynodeb o’r adroddiadau, sy’n asesu’r cynnydd a wnaed mewn perthynas ag Adroddiad King ym mis Mehefin 2008.

 

 


Cyfarfod: 12/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymatebion i’r Ymgynghoriad: Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiynau 1 a 2

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 


Cyfarfod: 04/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 2 - BECTU, Equity ac Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ)

Simon Curtis, Equity

David Donovan, BECTU

Paul Siegert, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

    3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Simon Curtis, Equity

·         David Donovan, BECTU

·         Paul Siegert, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr

 


Cyfarfod: 04/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC: sesiwn dystiolaeth 1 - S4C

·         Huw Jones, Cadeirydd, S4C

·         Ian Jones, Prif Weithredwr, S4C

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Huw Jones, Cadeirydd S4C

·         Ian Jones, Prif Weithredwr S4C

 

2.2 Datganodd Alun Davies AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Roedd yn arfer gweithio yn S4C.

 

2.3 S4C agreed to provide the Committee with a copy of their document ‘S4C: Looking to the Future’.

 

 

 


Cyfarfod: 22/10/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC - trafod gwaith yn y dyfodol

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor fanylion pellach ynghylch yr ymchwiliad i'r adolygiad o Siarter y BBC. Cytunwyd y dylid gwahodd pobl/sefydliadau ychwanegol i roi tystiolaeth.

 


Cyfarfod: 24/09/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC - ystyried y papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC.