Cyfarfodydd

Bil Cymru Drafft

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/01/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Bil Cymru Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 13/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Bil Cymru Drafft

NDM5911 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft.

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft

Bil Cymru drafft

Pecyn y Cyfarfod Llawn ar Fil Cymru drafft

NDM5912 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r amserlen bresennol ar gyfer Bil Cymru drafft, y dylai ymrwymo i gydgrynhoi cyfraith gyfansoddiadol Cymru yn ddwyieithog yn ystod y Senedd bresennol.

NDM5913 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gael gwared â'r prawf angenrheidrwydd neu osod prawf yn seiliedig ar briodoldeb yn ei le.

NDM5914 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio y Bil Cymru drafft i gynnwys system i ofyn am gydsyniadau Gweinidog y Goron sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998.

Deddf yr Alban 1998 (Saesneg yn unig)

NDM5915 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i leihau'n sylweddol nifer y cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol mewn ffordd sy'n cyd-fynd â deddfwrfa aeddfed, effeithiol ac atebol a fydd yn cael pwerau treth incwm.

NDM5916 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys awdurdodaeth benodol fel bod Deddfau Cymru yn berthnasol i Gymru yn unig ac yn addasu cyfraith Cymru a Lloegr fel sy'n briodol i'w gorfodi o fewn rheswm.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.59

NDM5911 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5912 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r amserlen bresennol ar gyfer Bil Cymru drafft, y dylai ymrwymo i gydgrynhoi cyfraith gyfansoddiadol Cymru yn ddwyieithog yn ystod y Senedd bresennol.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5913 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gael gwared â'r prawf angenrheidrwydd neu osod prawf yn seiliedig ar briodoldeb yn ei le.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5914 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys system i ofyn am gydsyniadau Gweinidog y Goron sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5915 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i leihau'n sylweddol nifer y cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol mewn ffordd sy'n cyd-fynd â deddfwrfa aeddfed, effeithiol ac atebol a fydd yn cael pwerau treth incwm.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5916 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys awdurdodaeth benodol fel bod Deddfau Cymru yn berthnasol i Gymru yn unig ac yn addasu cyfraith Cymru a Lloegr fel sy'n briodol i'w gorfodi o fewn rheswm.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 10/12/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Bil Drafft Cymru: Enghraifft o lythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Gwahoddir y Pwyllgor i drafod llythyr drafft i'w anfon at Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Bil Cymru drafft, a chytuno arno.

 

Dogfennau ategol:

  • Llythyr drafft i'r Ysgrifennydd Gwladol (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

7.1 The Committee agreed the draft letter to the Secretary of State for Wales in relation to the Draft Wales Bill.

 


Cyfarfod: 30/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.1)

Bil Cymru Drafft

CLA(4)-30-15 – Papur 3 – Adroddiad drafft

CLA(4)-30-15 – Papur 4 – Summary of Consultation Responses

CLA(4)-30-15 – Papur 5 – Research Service note on Income Tax

CLA(4)-30-15 – Papur 6 – Tystiolaeth atodol mewn perthynas â Bil Cymru drafft: Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/11/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru am Fil Cymru drafft

CYPE(4)-29-15 - Papur i’w nodi 1

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Bil Cymru Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 23/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.2)

Nodyn o’r Gweithdy deddfwriaeth ar Cryfhau Bil Cymru drafft

CLA(4)-29-15 – Papur 12 – Nodyn o’r Gweithdy deddfwriaeth ar Cryfhau Bil Cymru drafft

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.1)

Trafod y Dystiolaeth Lafar


Cyfarfod: 23/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.)

2. Tystiolaeth mewn perthynas â Bil Cymru drafft

(Amser a ddynodwyd: 13.30)

 

Y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru;

Geh Williams, Swyddfa Cymru;

Sue Olley, Swyddfa Cymru

 

 

CLA(4)-29-15 - Papur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil

CLA(4)-29-15 – Gwasanaethau Cyfreithiol

 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/11/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Bil Cymru drafft: trafod y canfyddiadau

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a chytuno arno.


Cyfarfod: 16/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.1)

Trafod y Dystiolaeth Llafur


Cyfarfod: 16/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

3. Tystiolaeth mewn perthynas â Bil Cymru drafft

(Amser dangosol: 14.30 - 15.30)

 

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog;

Hugh Rawlings, Cyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru

 

CLA(4)-28-15 – Papur 2 – Tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.)

2. Tystiolaeth mewn perthynas â Bil Cymru drafft

(Amser dangosol: 13.30 - 14.30)

 

Y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd;

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad;

Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad

 

CLA(4)-28-15 – Papur 1 – Tystiolaeth Ysgrifenedig

CLA (4)-28-15 – Papur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil

 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/11/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

Bil Cymru drafft: Trafod yr ymateb

E&S(4)-31-15 Papur 7

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 43

Cyfarfod: 12/11/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ffordd y Pwyllgor o ymdrin â Bil Cymru drafft

CYPE(4)-27-15 – Papur preifat 1

CYPE(4)-27-15 – Papur preifat 2 : Ymateb gan Comisiynydd Plant Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur ar Fil Cymru drafft. Cytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.


Cyfarfod: 12/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafod Bil Cymru drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1  Trafododd y Pwyllgor ei drafodaeth ar Fil Cymru drafft a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 


Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Cymru drafft: trafod effaith y Bil ar gymhwysedd deddfwriaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor effaith Bil Cymru drafft ar gymhwysedd deddfwriaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gyfrannu at ei waith craffu cyffredinol ar Fil Cymru drafft, ac i anfon copi o’r llythyr hwn at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Prif Weinidog a’r Llywydd.


Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Bil Cymru drafft

Papur 2 - Llythyr drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft.

 


Cyfarfod: 09/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Tystiolaeth mewn perthynas â Bil Cymru drafft

(Amser dangosol: 14.30 - 15.30)

 

Yr Athro Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru

Yr Athro Roger Scully, Canolfan Llywodraethiant Cymru

 

 

 


Cyfarfod: 09/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Tystiolaeth mewn perthynas â Bil Cymru drafft

(Amser dangosol: 13.35 - 14.30)

 

Yr Athro Thomas Glyn Watkin

Emyr Lewis, Partner ac Uwch Bartner Rhanbarthol, Blake Morgan

 

 

CLA(4)-27-15 – Papur 3 – Tystiolaeth Ysgrifenedig

CLA(4)-27-15 – Papur 4 – Tystiolaeth Ysgrifenedig

CLA(4)-27-15 - Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(4)-27-15 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 Ystyriaeth o Fil Cymru Drafft

Gareth Pembridge, Gwasanaethau Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

  • Blaenddalen i'r briff cyfreithiol ar Fil Cymru Drafft (Saesneg yn unig)
  • Bil Cymru Drafft - briff cyfreithiol (Saesneg yn unig)
  • Llythyr i'r Prif Weinidog ynghylch Bil Cymru Drafft
  • Dau lythyr gan y Prif Weinidog ynghylch Bil Cymru Drafft

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau’r Bil Cymru Drafft ar gylch gwaith y Pwyllgor.

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i ofyn am eglurhad ar rannau o’r Bil Cymru Drafft.


Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bil Cymru drafft: trafod effaith y Bil ar gymhwysedd deddfwriaethol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ni lwyddodd y Pwyllgor i gyrraedd yr eitem hon. Bydd yn dychwelyd ati yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Bil Cymru Drafft

Bil Cymru Drafft (Saesneg yn rhannol)

 

Papur 5 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a  Busnes y Llywodraeth

Papur 6 - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan y Prif Weinidog

Papur 7 - Llythyr pellach at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan y Prif Weinidog

Papur 8 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur 9 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Briff gan y Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 


Cyfarfod: 04/11/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Trafod Bil Cymru drafft

E&S(4)-30-15 Papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor Bil Cymru drafft.

 


Cyfarfod: 04/11/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafod Bil Cymru drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn mynd ati i ystyried Bil Cymru drafft.

 


Cyfarfod: 03/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar Fil Cymru Drafft

NNDM5861 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015 ac yn anfodlon nad yw’r model cadw pwerau presennol yn bodloni argymhellion Rhan 2 Comisiwn Silk.

Bil Cymru draft

Rhan 2 Comisiwn Silk

Cefnogir gan:                       
Elin Jones (Ceredigion)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NNDM5861 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015 ac yn anfodlon nad yw’r model cadw pwerau presennol yn bodloni argymhellion Rhan 2 Comisiwn Silk.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

12

0

52

Derbyniwyd y Cynnig.

 


Cyfarfod: 03/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Bil Cymru drafft

PAC(4)-29-15 Papur 2 – Bil Cymru Drafft – papur clawr

PAC(4)-29-15 Papur 2A – Bil Cymru Drafft – Briff gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ymchwil

PAC(4)-29-15 Papur 3 – Bil Cymru Drafft- llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r briff cyfreithiol a sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Fil Cymru drafft.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda barn y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 02/11/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.1)

Sesiwn friffio gyfreithiol ar Fil drafft Cymru.

 

CLA(4)-26-15 - Papur 5 Papur Briffio Cyfreithiol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/10/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod y ffordd o ystyried y Bil Cymru drafft

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ystyried y Bil Cymru drafft.  Caiff papur ei drafod yn y cyfarfod nesaf.


Cyfarfod: 22/10/2015 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Bil drafft Cymru - trafod y dull gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer craffu ar Fil drafft Cymru a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Bil drafft Cymru: Gohebiaeth gan y Llywydd

E&S(4)-28-15 Paper 6

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/10/2015 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.1)

Y wybodaeth ddiweddaraf: Bil Drafft Cymru

CLA(4)-24-15 – Papur 6 – Nodiadau o weithdy cyn y broses ddeddfu

CLA(4)-24-15 – Papur 7 – Nodiadau o weithdy cyn y broses ddeddfu

CLA(4)-24-15 – Papur 8 – Nodiadau o weithdy cyn y broses ddeddfu

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/09/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Bil Drafft Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nododd y Pwyllgor y papur.


Cyfarfod: 23/09/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Bil Cymru Drafft: gohebiaeth gan y Llywydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 17/09/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

10 Bil Drafft Cymru

Papur 7 - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid oddi wrth y Llywydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried ei ran yn y gwaith o graffu ar Fil drafft Cymru yn nes ymlaen.