Cyfarfodydd
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Lleoliaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/01/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.2)
5.2 Gwelliannau i'r Bil Lleoliaeth
Papurau:
CLA(4)-01-12(p5) – Llythyr i’r Gweinidog gan y Cadeirydd dyddiedig 14 Tachwedd 2011
CLA(4)-01-12(p6) – Ymateb y Prif
Weinidog dyddiedig 15 Rhagfyr 2011 (Saesneg yn unig)
Dogfennau ategol:
- CLA(4)-01-12(p5) – Llythyr i’r Gweinidog gan y Cadeirydd dyddiedig 14 Tachwedd 2011, Eitem 5.2
PDF 119 KB
- CLA(4)-01-12(p6) – Ymateb y Prif Weinidog dyddiedig 15 Rhagfyr 2011 (Saesneg yn unig), Eitem 5.2
PDF 120 KB
Cyfarfod: 04/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth
NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal
â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722
ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol
hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth
ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt
Werth Cymunedol, i'r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dogfennau Ategol
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 20 Medi 2011 yn unol
â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
I
weld copi o’r Bil Lleoliaeth:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html
Penderfyniad:
NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal
â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722
ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol
hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth
ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt
Werth Cymunedol, i'r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Lleoliaeth
NNDM4785 Huw
Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau pellach hynny y daethpwyd â hwy
gerbron yn y Bil Lleoliaeth sy’n ymwneud â Chynlluniau Adneuon Tenantiaeth a
thrwyddedu tai amlfeddiannaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ychwanegol at y
darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 a NNDM4722.
Cafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6
Gorffennaf 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Dogfennau Ategol
Gellir gweld copi o’r Mesur Seneddol Lleoliaeth
drwy ddilyn y linc:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html
Y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 07/07/2011 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth
Dogfennau ategol:
- CLA(4)-03-11 p1(w) - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Chwanegol - Y Bil Lleoliaeth, Eitem 4.
PDF 77 KB Gweld fel HTML (4./1) 61 KB
- CLA(4)-03-11 p2 - Y Bil Lleoliaeth (Saesneg yn Unig), Eitem 4.
PDF 161 KB
Cyfarfod: 14/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
4. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth
NDM4722 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig
NNDM4642, y darpariaethau ychwanegol
hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth
ynghylch pwerau cyffredinol a phwerau codi ffioedd i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru
a hawl y gymuned i brynu, i’r graddau
y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2011 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(iii).
Gellir cael
mynediad i NNDM4642 drwy’r linc a ganlyn:
I weld copi
o’r Bil Lleoliaeth:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html
Dogfennau ategol:
- Papur briffio cyfreithiol - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynglyn â’r Bil Lleoliaeth, Eitem 4.
PDF 108 KB Gweld fel HTML (4./1) 23 KB
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 25/05/2011 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Lleoliaeth
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried dau bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer gwelliannau a gyflwynwyd i’r Bil Seneddol ynghylch Addysg a’r Bil Seneddol ynghylch Lleoleiddio. Oherwydd nid oes unrhyw bwyllgorau wedi cael eu sefydlu i ystyried y memoranda hyn, cytunodd y Pwyllgor Busnes, o dan Reol Sefydlog 29.4, na ddylent gael eu cyfeirio at bwyllgorau i gael eu hystyried, felly byddant yn cael eu cyflwyno i’w trafod yn y Cyfarfod Llawn.