Cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol – y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Adroddiad Blynyddol drafft y Comisiwn a'r Datganiad Llywodraethu ar gyfer 2021-22
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 9 – Adroddiad Blynyddol
drafft 2021-22 – papur eglurhaol
ARAC (22-02)
Papur 9 – Atodiad A – drafft o Naratif yr Adroddiad Blynyddol
ARAC (22-02)
Papur 9 – Atodiad B – Datganiad Llywodraethu Blynyddol draft
11.1 Cyflwynodd Arwyn yr eitem hon a gwahoddodd aelodau’r
Pwyllgor i wneud sylw ar y naratif drafft a oedd wedi’i gynnwys yn Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon drafft y Comisiwn a'r Datganiad Llywodraethu drafft ar
gyfer 2021-22.
11.2 Amlinellodd Arwyn gynlluniau i gyflwyno’r adroddiad
mewn fformat ar-lein mwy rhyngweithiol i’w wneud yn fwy hygyrch a chyrraedd
cynulleidfa ehangach, rhywbeth yr oedd y Pwyllgor wedi bod yn awyddus i’r
Comisiwn fynd ar ei drywydd. Cyflwynodd fraslun o'r tudalennau glanio a oedd
wedi'u dylunio i gydymffurfio ag asesiad effaith hygyrchedd.
11.3 Disgrifiodd Arwyn fod y fformat hwn yn rhoi cyfle i
gynnwys lincs i fideos a chynnwys digidol, yn ogystal â’r amrywiaeth o erthyglau
a gwybodaeth bellach a grëwyd eisoes yn ystod y flwyddyn. Roedd yn ystyried bod
hyn yn ffordd wych o ailgylchu deunydd sy’n bodoli eisoes a datblygu'r
adroddiad fel ffordd o gyfathrebu yn ogystal â bodloni gofyniad llywodraethu ac
atebolrwydd.
11.4 Roedd aelodau'r Pwyllgor yn falch o weld cynlluniau
ar gyfer presenoldeb mor gadarnhaol ar-lein. O ran datblygu'r fformat i'r
dyfodol, anogwyd y tîm i sicrhau bod y lincs yn canolbwyntio ar gynnwys a
straeon oedd yn cynnwys elfen ddynol e.e. cludwr y byrllysg ar gyfer yr agoriad
swyddogol, ac ystyried trefn yr adroddiad i ganolbwyntio ar ddinasyddion.
Croesawodd Arwyn yr adborth hwn a chytunodd i'w ystyried.
11.5 Mewn ymateb i gwestiynau am gyrhaeddiad ac
ymgysylltu, dywedodd Arwyn nad oedd ffeithluniau yn cynnwys y wybodaeth hon
wedi'u cynnwys yn yr adroddiad eto. O ran y ddemograffeg ar ymgysylltu, roedd
cynlluniau ar waith i gyflwyno offer a systemau megis monitro'r cyfryngau a
rheoli'r berthynas â chwsmeriaid a fyddai'n helpu'r Comisiwn i fesur
ymgysylltiad yn well, a chyflwyno adroddiadau ar ymgysylltu yn well. Hefyd,
nododd gynlluniau ar gyfer cynyddu presenoldeb ar lwyfannau cyfryngau
cymdeithasol fel Instagram a TikTok i dargedu cynulleidfa iau, ac ar gyfer
ymgysylltu mewn ffordd fwy rhagweithiol ag ysgolion.
11.6 Cadarnhaodd Arwyn a Nia, at ddibenion archwilio, y
byddai fersiwn argraffadwy o’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn cael ei
chynhyrchu er mwyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei lofnodi ac mai dyna
fyddai’r fersiwn a fyddai’n cael ei gosod gerbron y Senedd. Ychwanegodd Nia y
byddai'r fformat a gynigir yn ei gwneud hi'n haws i ddarllenwyr sydd â
diddordeb yn y datganiadau ariannol gael mynediad at y rhan honno o'r
adroddiad.
11.7 Roedd y Cadeirydd yn falch gyda chyflwr a chynnwys y
Datganiad Llywodraethu drafft, gan nodi bod hon yn ddogfen allweddol o ran
atebolrwydd. Croesawodd yr eitemau a restrir o dan y meysydd ffocws ar gyfer
2022-23 a gofynnodd i aelodau'r Pwyllgor drosglwyddo unrhyw sylwadau ynghylch y
datganiad i'r tîm clercio. Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn cael gwybod am
drafodaethau'r Bwrdd Gweithredol ar y parodrwydd i dderbyn risg.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Trafod Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2020-21 y Comisiwn (i argymell llofnodi'r cyfrifon)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
ARAC (03-21) Papur 4 –
Papur eglurhaol – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21
ARAC (03-21 Papur 4 - Atodiad A – Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2020-21
5.1
Gwahoddodd y Cadeirydd
y swyddogion i gyflwyno'r eitem hon a thynnu sylw at unrhyw faes i'w drafod ar
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Nododd Arwyn Jones ei ddiolch i
Victoria Paris am gydgysylltu’r gwaith o’i gynhyrchu i amserlen dynn ac am y cyfraniadau
gan gydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad. Nododd hefyd ei ddiolch i Suzy Davies
a'r Comisiynwyr presennol eraill am eu cyfraniad a'u cymeradwyaeth o'r
adroddiad.
5.2
Tynnodd Arwyn sylw at
y ffaith bod y ffocws yn yr adroddiad eleni ar droi'r gwahanol ffyrdd o weithio
o ganlyniad i'r pandemig yn fusnes fel arfer. Roedd hyn yn cynnwys manylion
cynllunio ar gyfer y Chweched Senedd gyda gweithlu a oedd mor gynhyrchiol a
hyblyg â phosibl o ran y gwasanaethau a ddarperir i'r Aelodau. Gwahoddodd
sylwadau gan aelodau'r Pwyllgor.
5.3
Diolchodd y Pwyllgor
i'r staff am eu gwaith ar yr adroddiad manwl a thrylwyr iawn. Cafwyd trafodaeth
am hyd a darllenadwyedd yr adroddiad a chydnabyddiaeth gan aelodau'r Pwyllgor
bod ei gynnwys yn seiliedig ar ofynion adrodd statudol ac arfer da. Cafwyd
trafodaeth hefyd ynghylch cynlluniau ar gyfer fersiynau digidol yn y dyfodol i
wella ei ddarllenadwyedd ac i hwyluso cyrhaeddiad i gynulleidfa ehangach.
5.4
Cytunodd Manon ei bod
yn ddogfen fanwl, ac atgoffodd y Pwyllgor o'r adborth cadarnhaol a gafwyd gan
Bwyllgorau Cyllid a Chyfrifon Cyhoeddus y Senedd ar eu gwaith craffu ar
adroddiadau blaenorol.
5.5
Croesawodd Arwyn yr
adborth adeiladol ar yr adroddiad a nododd y byddai'r gwaith paratoi yn dechrau
yn gynharach y flwyddyn nesaf i ddarparu ar gyfer cynlluniau ar gyfer
cyflwyniad digidol a rhyngweithiol.
5.6
Mewn perthynas â'r cyfrifon, tynnodd Nia sylw at y ffaith
bod dadansoddiad o gostau sy'n gysylltiedig â’r etholiad wedi'i gynnwys yn y
tabl o alldro adnoddau net yn y fersiwn ddiwygiedig a gyflwynwyd i'r Pwyllgor.
Tynnodd sylw hefyd at gynnwys yr adran Adolygiad Ariannol yn naratif yr
adroddiad a oedd yn ofyniad yn y llawlyfr adrodd ariannol (FREM) newydd.
5.7
Rhoddodd y Cadeirydd
glod am gyfres foddhaol iawn o gyfrifon a chydnabu’r gwaith rheoli agos arnynt.
Mynegodd fod cynnwys, ansawdd a chywirdeb yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
wedi gwneud argraff arno, yn enwedig o ystyried ei fod wedi ei gynhyrchu'n
gynnar, yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig parhaus a'r tîm bach a’i
rhoddodd at ei gilydd.
5.8
Roedd y Pwyllgor hefyd
am gofnodi eu boddhad bod y gronfa bensiwn wedi symud oddi wrth fuddsoddi mewn
cwmnïau olew a nwy i opsiynau mwy cynaliadwy. Roeddent hefyd yn gwerthfawrogi
gweld yr ohebiaeth gyda'r Pwyllgorau Cyllid a Chyfrifon Cyhoeddus ar wariant yn
gysylltiedig â Covid.
5.9
Argymhellodd y
Pwyllgor i'r Swyddog Cyfrifyddu y dylid llofnodi'r datganiadau ariannol ar
gyfer 2020-21. Byddai llofnod electronig yn cael ei ychwanegu cyn gosod a
chyhoeddi'r adroddiad.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
ACARAC (04-19)
Papur 3 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-2019
ACARAC (04-19) Papur 3 – Atodiad A – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
2018-19
3.1
Gwahoddodd y Cadeirydd a Manon Antoniazzi sylwadau
gan aelodau'r pwyllgor ar yr adroddiad blynyddol a'r cyfrifon ac eglurwyd mai
rôl y Comisiwn oedd cymeradwyo'r elfen adroddiad blynyddol.
3.2
Ailadroddodd y Cadeirydd ei fod o’r farn bod
yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn hygyrch ac yn ddisgrifiad da iawn
o weithgaredd a chyflawniadau'r Cynulliad.
3.3
Tynnodd Hugh Widdis sylw at wall geirio yn yr
adroddiad blynyddol; cafodd y gwall ei gywiro.
3.4
Gwahoddodd y Cadeirydd Nia Morgan i wneud
sylwadau ar y cyfrifon ac i roi rhywfaint o gyd-destun i'r addasiad a wnaed i
adlewyrchu effaith dyfarniad diweddar McCloud yn y Goruchaf Lys. Roedd y
dyfarniad hwn yn gofyn am addasiad o £1 miliwn i'r swm y mae Comisiwn y
Cynulliad yn ei gydnabod mewn perthynas ag ymrwymiad cynllun pensiwn Aelodau'r
Cynulliad.
3.5
Esboniodd Nia, ar wahân i'r addasiad pensiwn,
nad oedd dim wedi newid ers i'r ISA260 gael ei gyflwyno ym mis Mehefin.
Esboniodd hefyd y broses y cytunwyd arni gyda'r actiwarïaid a SAC o amcangyfrif
effaith cyllidebol y dyfarniad pensiwn, gan y byddai ailbrisiad llawn yn costio
tua £5,000, ac nid oedd yn cael ei ystyried yn werth da am arian. Ychwanegodd
Gareth Lucey fod dull y Comisiwn o weithredu yn un synhwyrol a'i fod yn gyson
â'r amcangyfrif o addasiadau a roddwyd ar waith gan gyrff eraill y sector
cyhoeddus yr effeithir arnynt. Croesawodd y Cadeirydd y dull hwn o weithredu
a’r ffaith bod SAC wedi cytuno arno. Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y ffordd yr
ymdriniwyd â'r addasiad munud olaf.
3.6
Dywedodd Nia Morgan fod y tanwariant yn parhau
yn ôl y disgwyl. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith y byddai'r gwersi a ddysgwyd
o'r archwiliad eleni yn cael eu trafod mewn cyfarfod adolygu a drefnwyd rhwng
SAC a thîm cyllid y Comisiwn. Byddai hyn yn cynnwys trafodaethau ynghylch
amseriad yr archwiliad ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn hwyluso llofnodi'r
cyfrifon yn gynharach.
3.7
Cadarnhaodd Gareth Lucey nad oedd SAC wedi
nodi unrhyw faterion perthnasol wrth archwilio cyfrifon y Comisiwn.
3.8
Diolchodd y Cadeirydd i Nia a phawb a gymerodd
ran am eu cyfraniad at yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon ac argymhellodd yn
ffurfiol y dylai Comisiwn y Cynulliad gymeradwyo i'r Prif Weithredwr a'r Clerc,
a'r Swyddog Cyfrifyddu lofnodi'r Datganiad Cyfrifon.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
ACARAC (04-18) Papur 3 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2017-18
– papur clawr
ACARAC (04-18) Papur 3 – Atodiad A – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o
Gyfrifon 2017-18
1.1
Cyflwynodd Nia Morgan y fersiwn ddiweddaraf o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
y Comisiwn. Gofynnodd am argymhelliad gan y Pwyllgor i’r Swyddog Cyfrifyddu y
dylid llofnodi datganiadau ariannol 2017-18.
1.2
Nid oedd yr archwiliad allanol a gynhaliwyd gan SAC wedi arwain at unrhyw
addasiadau archwilio i’r cyfrifon drafft a gafodd eu hadolygu yn y cyfarfod ar
18 Mehefin 2018. Yr alldro terfynol ar gyfer 2017-18 oedd tanwariant o £0.3
miliwn yn erbyn y gyllideb, fel y nodwyd yn y cyfrifon drafft. Roedd hyn yn
danwariant o 0.6 y cant o’i gymharu â’r gyllideb o £52.5 miliwn.
1.3
Croesawodd y Pwyllgor gynnwys cryno’r adroddiad, a oedd yn cyfeirio at
adroddiadau eraill a ffynonellau eraill o wybodaeth.
1.4
Yr arwyddion cynnar oedd na fyddai’r costau archwilio gwirioneddol ar
gyfer 2017-18 yn fwy na’r ffi amcangyfrifedig o £57,958, fel y nodwyd yn y
Cynllun Archwilio, a byddai SAC yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor pe bai hyn yn
newid.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Papur 7 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2017-18
- papur cwmpasu
ACARAC (03-18) Papur 7 – Atodiad A - Adroddiad Blynyddol Drafft 2017-18
ACARAC (03-18) Papur 7 – Atodiad B - Datganiad o Gyfrifon 2017-18
4.1
Symudwyd yr eitem hon
ymlaen hefyd er mwyn sicrhau bod Ann-Marie a Craig Stephenson yn bresennol.
4.2
Roedd y Pwyllgor yn
croesawu'r ffaith bod y ddwy ddogfen wedi cael eu dosbarthu yn gynnar er mwyn
gall ystyried sylwadau a rannwyd dros e-bost.
4.3
Cyflwynodd Manon
Antoniazzi a Craig Stephenson yr adroddiad blynyddol, sydd, yn eu barn nhw, yn
gofnod tryloyw ac agored o'r prif ddigwyddiadau a materion yn ystod y flwyddyn
ariannol ddiwethaf. Nododd y Pwyllgor fod croesgyfeirio at adroddiadau ar
wahân, fel y rhai ar Amrywiaeth a Chynhwysiant a'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
wedi osgoi dyblygu ac felly wedi lleihau maint yr adroddiad cyffredinol.
4.4
Daeth y Pwyllgor i'r
casgliad fod yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn gofnod trylwyr a chywir o'r
llwyddiannau a'r heriau a wynebwyd gan y Comisiwn dros y flwyddyn a
llongyfarchodd y timau oedd yn ymwneud â'r gwaith o'i gynhyrchu. Croesawyd
hefyd fod y strwythur llywodraethu diwygiedig wedi'i gynnwys yn y Datganiad
Llywodraethu.
4.5
Mewn ymateb i gwestiynau
penodol gan y Pwyllgor, cytunodd swyddogol i ystyried pennu lefelau
goddefgarwch ar gyfer rhai o'r targedau KPI ac adolygu'r disgrifiad o gyflawni
targedau allyriadau.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Trafod materion wrth baratoi ar gyfer adroddiad blynyddol y Pwyllgor i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
ACARAC (01-18) Papur 11 - Adroddiad Blynyddol 2016-17
9.1
Roedd
adroddiad blynyddol 2016-17 wedi ei gynnwys er gwybodaeth. Gofynnodd y
Cadeirydd i aelodau'r Pwyllgor wneud unrhyw sylwadau sydd ganddynt ynghylch
strwythur, fformat a chynnwys yr adroddiad blynyddol nesaf i'r tîm clercio y tu
allan i'r cyfarfod hwn.
Camau i’w cymryd
- Aelodau'r Pwyllgor i roi gwybod i'r tîm clercio am newidiadau a awgrymwyd
i'r strwythur a'r fformat ynghyd â'r cynnwys ar gyfer yr adroddiad blynyddol
nesaf.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar danwariant Comisiwn y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
8.1
Cafodd
gohebiaeth ddiweddar rhwng Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad a Suzy Davies,
y Comisiynydd, ei dosbarthu cyn y cyfarfod.
Trafododd y Pwyllgor ffyrdd y gellid briffio'r Pwyllgor Cyllid a'r
Comisiynwyr am benderfyniadau ynglŷn â meysydd o wariant sylweddol a
blaenoriaethu mewn ffordd a fyddai'n dangos diwydrwydd dyladwy a phroses gadarn
o wneud penderfyniadau ac yn sicrhau rhagor o dryloywder yn ystod y flwyddyn.
8.2
Rhoddodd
Ann-Marie Harkin wybod am gais a wnaed gan Gadeirydd Pwyllgor Cyllid y
Cynulliad i Archwilydd Cyffredinol Cymru i wneud cymhariaeth â sefydliadau
eraill o ran cyfrifoldebau pwyllgor am graffu neu gymeradwyo penderfyniadau
gwario mawr.
Cam i’w gymryd
-
Manon i friffio ACARAC ar ôl bod yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
ACARAC (03-17) Papur 12 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft
2016-17 – papur cwmpasu
ACARAC (03-17) Papur 12 – Atodiad A Adroddiad Blynyddol a Datganiad o
Gyfrifon drafft 2016-17
9.1
Diolchodd
Manon a Nia i'r Pwyllgor am y sylwadau a roddwyd eisoes ar yr Adroddiad
Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft.
9.2
Gwnaeth
y Pwyllgor ddiolch i Manon, Nia a'u timau am gael gweld yr adroddiad yn gynnar
a'u hannog i sicrhau bod yr ystadegau yn yr adroddiad yn cyd-fynd â'r
dangosyddion perfformiad allweddol.
9.3
Byddai
fersiwn derfynol o'r adroddiad yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod mis
Gorffennaf.
Cyfarfod: 11/07/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Cofnodion:
ACARAC (04-16)
Papur 3 – Papur eglurhaol – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16
ACARAC (04-16)
Papur 4 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2015-16
Cyfarfod: 13/06/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft
Cofnodion:
ACARAC (03-16) Papur 6 -
Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon Drafft 2015-16
6.1
Llongyfarchodd aelodau’r Pwyllgor staff y Comisiwn, yn arbennig Nia a Chris
Warner, ar ansawdd ac amseroldeb yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon drafft a
gofynnwyd am i’r neges hon gael ei throsglwyddo i’r timau. Cytunodd yr Aelodau
fod yr adroddiad yn adlewyrchu sefydliad cadarnhaol, aeddfed, proffesiynol a
blaengar. Roedd y ddogfen gyfun wedi’i dosbarthu bythefnos cyn y cyfarfod a chroesawodd
y Pwyllgor y cyfle a gafwyd i ystyried a chraffu’n llawn ar y wybodaeth a
gyflwynwyd.
6.2
Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r newidiadau strwythurol diwygiedig a
gafodd eu hargymell mewn cyfarwyddyd diweddar gan Drysorlys EM a phwysleisiodd
Chris ei nod o osgoi dyblygu diangen.
6.3
Ynghyd â’r gwallau teipio yr oedd Nia eisoes wedi rhoi gwybod i’r Pwyllgor
amdanynt, a’r pwyntiau i’w hegluro a awgrymwyd yn y cyfarfod a fyddai’n cael eu
hystyried, dywedodd Nia y byddai’n croesawu unrhyw sylwadau pellach a ellid eu
hanfon ati drwy e-bost.
6.4
Dywedodd Claire hefyd ei bod yn falch ac yn llawn edmygedd o’r broses o
gasglu gwybodaeth ar gyfer yr adroddiad a diolchodd i’w thîm am ei
ymdrechion.
6.5
Roedd y Cadeirydd yn croesawu’r cyfarfod adolygu a gynhaliwyd ar ôl
cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y llynedd i drafod unrhyw wersi a
ddysgwyd, ac roedd yn cymryd yn ganiataol y byddai’r un peth yn digwydd eleni.
Ar y cyfan roedd yn fodlon ar y broses ac ar ansawdd yr adroddiad, a diolchodd
i Ian Summers am roi ei sicrwydd ychwanegol.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad blynyddol drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
ACARAC (32) Papur 11 -
Adroddiad Blynyddol drafft 2016
9.1
Gwerthfawrogodd y Cadeirydd y sylwadau a oedd wedi dod i law am yr
adroddiad blynyddol drafft. Cymeradwyodd
y Pwyllgor y ddogfen a gyflwynwyd a chytunodd y tîm clercio i drefnu i'r
adroddiad gael ei gyfieithu cyn ei gyflwyno'n ffurfiol i ysgrifenyddiaeth
Comisiwn y Cynulliad.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Amlinelliad o'r gwaith archwilio ar gyfer Datganiadau Ariannol 2014-15
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
ACARAC (26) Papur 9 – Amlinelliad Archwilio
Blynyddol
6.1
Cyfarfu Eric, Gareth, Nicola a chynrychiolwyr newydd
Swyddfa Archwilio Cymru, Ann-Marie Harkin a Matthew Coe, ym mis Ionawr, a
byddant yn cyfarfod yn rheolaidd.
Cytunwyd y byddai'r Amlinelliad draft o'r Archwiliad yn cael ei drafod
yn gynharach, yng nghyfarfodydd mis Tachwedd.
Byddent hefyd yn trafod yr amserlen ar gyfer adolygu cyfrifon interim
mewn cyfarfod yn y dyfodol.
6.2
Esboniodd Ann-Marie eu cynlluniau ar gyfer ymgymryd â
gwaith archwilio eleni, a fyddai'n cynnwys prawf ychwanegol o dreuliau
Aelodau'r Cynulliad. Digyfnewid oedd y
ffi a arfaethwyd ar gyfer 2015, a byddai'r ffi yn newid yn unol ag unrhyw newidiadau
yn yr amser a gymerasid i gwblhau gwaith.
6.3
Cadarnhaodd Nicola, gan fod cynllun archwilio 2014-15
ddod i law, ei bod yn creu amserlen fanwl i sicrhau bod staff yn ei thîm yn
gweithio i gyflwyno'r cynllun archwilio erbyn y dyddiadau allweddol.