Cyfarfodydd

P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         aros am farn y deisebwyr am lythyr cynharach y Dirprwy Weinidog a gohebiaeth Grŵp NPTC; a

·         chau'r ddeiseb os na cheir ymateb erbyn diwedd mis Ionawr.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

 

·         rannu llythyr Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot â'r Gweinidog a gofyn a yw'n dymuno ailystyried unrhyw un o'r datganiadau yn ei lythyr dyddiedig 15 Mai ynghylch effaith y toriadau; ac

·         aros am farn y deisebwyr ar lythyr cynharach y Gweinidog a'r un gan Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot.

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • aros am farn y deisebydd cyn penderfynu ar gamau pellach; ac
  • ysgrifennu at swyddogion yng Ngholeg Powys i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.

 

Cafwyd datganiad o fuddiant gan Russell George mewn perthynas â'r ddeiseb hon.