Cyfarfodydd

P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru ac, o gofio nad oedd dim pellach y gallent ei wneud i symud y mater ymlaen, cytunwyd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chytunwyd y dylid pwyso ar CBAC am ymateb i geisiadau blaenorol am wybodaeth.  Wrth wneud hynny, roedd Aelodau hefyd yn dymuno mynegi eu siom ynghylch y diffyg ymateb gan CBAC i ohebiaeth flaenorol.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         ysgrifennu eto at CBAC yn gofyn am yr ymateb sydd heb gyrraedd ynghylch gohebiaeth flaenorol;

·         ysgrifennu at CLlLC i ofyn am wybodaeth am sut y mae awdurdodau lleol yn bwrw ymlaen ag argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wasanaethau Cerdd; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo ymateb i sylwadau pellach y deisebwyr a hefyd y sail dros ei benderfyniad i beidio â defnyddio rhai o’r arian sydd ar gael i ddiogelu darpariaeth gerddoriaeth mewn ysgolion.  

 


Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ysgrifennu eto at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau pellach ynghylch llythyr diweddaraf y deisebwyr, yn arbennig ei farn ynghylch barn y grŵp gorchwyl a gorffen am ganolfannau cerddoriaeth fel model; ac

·         ysgrifennu at CBAC i ofyn am wybodaeth bellach am ei gynlluniau yn ymwneud ag adnoddau ar gyfer y Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gael ei sylwadau ar lythyr y deisebydd a llythyr Gweinidog Lloegr, yn benodol a yw'r model canolfannau addysg cerddoriaeth yn cael ei ystyried yng Nghymru; a
  • gofyn i'r Gweinidog nodi'n benodol pa gamau y cytunwyd arnynt ar gyfer cerddoriaeth yng nghynllun pum mlynedd 'Dysgu Creadigol Drwy'r Celfyddydau – Cynllun Gweithredu Cymru' y Llywodraeth.

 

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei gyhoeddi a mynegi barn fanylach ar y ddeiseb yn sgil yr adroddiad hwnnw;
  • yn y cyfamser, gofyn iddo roi mwy o fanylion am y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn unol â chais y deisebwyr; ac
  • ysgrifennu at Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn gofyn am wybodaeth am y camau y mae'n debyg eu bod wedi'u cymryd i ailgyflwyno cyllid canolog ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth.