Cyfarfodydd

P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/04/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru

NDM4962 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2012.

Noder: Gosodwyd ymateb y Prif Weinidog ar 18 Ebrill 2012.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb y Prif Weinidog

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.28.

NDM4962 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 24/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

The Committee then agreed to:

Forward the evidence gathered and detail of concerns to the UK Parliamentary Under-Secretary of State for Transport;

Add a second recommendation to the report that the Minister for Local Government and Communities reopen discussions with the UK Government on the closure issue, especially in light of events in Italy.

Forward the Committee’s report to the Welsh Affairs Committee.


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

 

ysgrifennu at weithredwyr a chyrff twristiaeth yn y Gŵyr ac Eryri a’r pedwar Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol ar y mater hwn;

 

ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a fyddai’r Llywodraeth yn fodlon cynnal asesiad risg o ddiogelwch twristiaid mewn ardaloedd arfordirol yng nghyd-destun cynigion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar gyfer dyfodol gorsafoedd gwylwyr y glannau yng Nghymru;

 

cynhyrchu adroddiad dros dro ar y pwnc, gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater;

 

ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn sut y penderfynwyd ar y cynigion sy’n ymwneud â Chymru gan nodi pryder ynghylch effaith bosibl hyn ar ddiogelwch twristiaid yng Nghymru;

 

ysgrifennu at Gymdeithas Twristiaeth Sir Benfro a sefydliadau twristiaeth y gogledd, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain, a Pharciau Cenedlaethol Cymru i ofyn am eu barn ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau - sesiwn tystiolaeth lafar

Graham Warlow – Prif Deisebydd

Steve Matthews – Yr Undeb PCS

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad ar y mater gan y deisebwyr, ac atebwyd cwestiynau gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dywedodd Joyce Watson ei bod wedi lobio i gadw Canolfan Cydgysylltu Achub ar y Môr Aberdaugleddau ar agor.

 

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth lafar.


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

Datganodd Joyce Watson, William Powell a Bethan Jenkins fuddiant gan eu bod wedi cefnogi deisebau ar bynciau cysylltiedig. 

 

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         Ddisgwyl am ymateb y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

·         Ysgrifennu at Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol a’r undebau llafur perthnasol eraill sydd â diddordeb yn y mater i ofyn am eu barn am y ddeiseb;

·         Ysgrifennu at y cyrff twristiaeth perthnasol yn Sir Benfro i ofyn am eu barn am y ddeiseb;

·         Ysgrifennu at Grŵp Morol Sir Benfro i ofyn am ei farn am y ddeiseb;

·         Ysgrifennu at awdurdodau lleol Sir Benfro, Ynys Môn ac Abertawe i ofyn am eu barn am y ddeiseb;

·         Ysgrifennu at Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i ofyn am ei farn am y ddeiseb.