Cyfarfodydd
Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/02/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
ARAC (22-01)
Papur 7 – Risg Corfforaethol
ARAC (23-01)
Papur 7 – Atodiad A – Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol
ARAC (23-01)
Papur 7 – Atodiad B – Risgiau Corfforaethol a nodwyd
8.1 Nododd y
Pwyllgor y diweddariadau a wnaed i Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn, ac
roedd wedi cytuno i ganolbwyntio ar y diweddariad ynghylch y rhaglen Ffyrdd o
Weithio (gweler eitem 7) i ddisodli’r adolygiad manwl arferol o risg.
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Archwiliad beirniadol o un risg neu fater sydd eisoes wedi'i nodi neu sy'n dod i'r amlwg - Risg Capasiti a Galluogrwydd Corfforaethol
Eitem lafar -
yn cyfeirio at HR-R-170 yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol
Cofnodion:
Eitem lafar
(yn cyfeirio at y diweddariad yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol)
11.1 Rhoddodd Ed
Williams drosolwg o’r ffordd y mae’r Comisiwn yn rheoli’r risgiau o ran capasiti
a gallu i gefnogi'r Cynllun Cyflawni Corfforaethol, sydd bellach yn
ymgorffori'r ddwy brif raglen drawsnewid, sef diwygio'r Senedd a Ffyrdd o
Weithio. Nododd fod y gwaith o gynllunio'r gweithlu yn cael ei drafod eto o
ganlyniad i hyn.
11.2 Cyfeiriodd
Ed at y diagram yn Atodiad B i bapur 3, gan dynnu sylw at y ffaith bod
cynllunio gwasanaethau, cynllunio capasiti a chynllunio ariannol yn y tymor
canolig yn rhannau annatod o'r broses lywodraethu sy’n gysylltiedig â’r gwaith
o gyflwyno'r rhaglenni trawsnewid a ‘busnes arferol’ o fewn y Cynllun Cyflawni
Corfforaethol. Cyfeiriodd hefyd at brif themâu'r rhaglen Ffyrdd o Weithio a sut
y byddai'r broses gynllunio yn helpu i sicrhau bod gan y Comisiwn y capasiti
cywir yn y mannau cywir.
11.3 Amlinellodd
Lowri Williams y gwaith y mae’r Comisiwn wedi bod yn ei wneud yn gyson ers sawl
blwyddyn i gynllunio'r gweithlu, gan gynnwys yn ystod y pandemig, pan gafodd
staff eu hadleoli i ddarparu gwasanaethau â blaenoriaeth. Ychwanegodd fod
Penaethiaid Gwasanaeth yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cynllunio capasiti mewn
ffordd effeithiol a disgrifiodd yr ymarfer manwl a gynhaliwyd yn ystod yr haf i
nodi unrhyw arbedion effeithlonrwydd posibl ac ystyried cyfleoedd i ddarparu
gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd. Hefyd, nododd Lowri yr heriau sy’n
gysylltiedig â chyfyngiadau ar gyllidebau ac ymateb i farchnad sy'n newid o ran
recriwtio, a nododd hefyd sut y byddai’r templedi cynllunio gwasanaethau newydd
yn hwyluso’r gwaith o gynllunio'r gweithlu ymlaen hyd 2024-25.
11.4 Mewn ymateb
i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor, disgrifiodd Lowri y ffyrdd y mae
gwybodaeth am sgiliau yn cael ei chasglu fel rhan o'r prosesau cynllunio a
rheoli perfformiad. Amlinellodd hefyd sut roedd gwytnwch yn cael ei gryfhau
drwy, er enghraifft, raglenni datblygu arweinyddiaeth a datblygu seneddol.
Byddai'r cynlluniau gwasanaeth newydd hefyd yn cofnodi manylion unrhyw gapasiti
ychwanegol a sgiliau newydd sydd eu hangen arnom i gyflwyno rhaglen ddiwygio'r
Senedd.
11.5 Ochr yn ochr
â’r risgiau o ran capasiti a gallu, nododd y Cadeirydd fod risgiau ehangach
hefyd wrth i'r Comisiwn weithredu ei strategaeth Ffyrdd o Weithio. Mewn ymateb
i hyn a chwestiynau eraill ynghylch rôl Swyddfa'r Rhaglen, a’r berthynas â’r
swyddfa hon, amlinellodd Ed a Manon sut y bydd yr Uned Cynllunio Strategol
newydd, sy'n cynnwys swyddi wedi'u hail-bwrpasu, yn mabwysiadu dull rheoli
portffolio mwy cyfannol wrth ymdrin â newid. Bydd y Bwrdd Gweithredol yn
goruchwylio’r broses hon, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau. Yr
Uned newydd fydd yn gyfrifol am ddatblygu mecanweithiau ar gyfer adrodd yn ôl
i'r Bwrdd Gweithredol, gan gydlynu â’r adroddiadau sy’n dod i law gan Swyddfa'r
Rhaglen. Cytunodd Ed i lunio nodyn briffio ar gyfer aelodau'r Pwyllgor i
gyflwyno manylion pellach am y ffordd y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.
Cam i’w gymryd:
· Ed i lunio papur briffio ychwanegol i'r Pwyllgor ar y trefniadau llywodraethu a newid ar gyfer gweithredu'r Cynllun Cyflawni Corfforaethol
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
ARAC (22-06)
Papur 8 - Risgiau corfforaethol
ARAC (22-06)
Papur 8 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol
ARAC (22-06)
Papur 8 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd
10.1 Nododd y
Pwyllgor y diweddariadau yng Nghofrestr Risg Corfforaethol y Comisiwn. Nododd y
Cadeirydd fod y risgiau sy’n gysylltiedig â diwygio'r Senedd, seiber-ddiogelwch
a chapasiti a gallu wedi'u trafod fel eitemau sylweddol ar yr agenda.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd - Diwygio'r Senedd
Cofnodion:
Eitem lafar (yn cyfeirio at y diweddariad yn y Gofrestr
Risg Gorfforaethol)
7.1 Gwahoddodd y
Cadeirydd Siwan Davies i gyflwyno’r eitem hon a chroesawodd Richard Thomas, Rheolwr
Gweithredu Newid Cyfansoddiadol i’r cyfarfod. Eglurodd Siwan brofiad Richard o
roi gweithgarwch diwygio blaenorol ar waith, sut yr oedd wedi cefnogi’r
Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd a’i rôl yn rheoli’r broses o
gyflawni’r cam nesaf hwn o’r agenda ddiwygio a’r risgiau cysylltiedig.
7.2 Croesawodd Siwan y cyfle hwn i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor ac i drafod y gwaith llywodraethu a’r heriau sy’n
gysylltiedig â newid trawsnewidiol hollbwysig a hollgynhwysol. Amlinellodd
elfennau amrywiol y cynigion diwygio a oedd yn cynnwys cynnydd yn nifer yr
Aelodau o 60 i 96 a phroses etholiadol wahanol.
7.3 Cafodd adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar
Ddiwygio’r Senedd, a gyhoeddwyd ar 30 Mai, ei drafod gan y Senedd yn y Cyfarfod
Llawn ar 8 Mehefin. Cynigiwyd y cynnig i gymeradwyo’r argymhellion yn yr
adroddiad, gyda 40 Aelod yn pleidleisio o blaid. Ystyriwyd ei bod yn annhebygol
y byddai unrhyw gonsensws gwleidyddol ehangach o blaid diwygio yn cael ei
gyflawni. Rhoddodd hyn fandad cryfach i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth
i ddeddfu’r cynigion diwygio erbyn 2026. Roedd disgwyl i’r Bil gael ei gyflwyno
erbyn hydref 2023, a chael Cydsyniad Brenhinol erbyn haf 2024.
7.4 Dywedodd Siwan fod swyddogion y Comisiwn wedi bod yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu trefniadau llywodraethu ar y cyd ar
yr elfennau hynny o Raglen Diwygio’r Senedd lle mae buddiannau ar y cyd a
dibyniaethau gwneud penderfyniadau yn bodoli, ac yn cefnogi cydweithio rhwng
Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd. Roedd y Llywydd wedi trafod y
trefniadau llywodraethu ar y cyd gyda’r Prif Weinidog.
7.5 Roedd Bwrdd Gweithredol y Comisiwn wedi bod yn
ystyried y trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer prosiectau Comisiwn y
Senedd, a byddai’r manylion yn cael eu cyflwyno i’r Comisiwn ym mis Gorffennaf.
Byddai trefniadau llywodraethu yn cynnwys cynllunio i gefnogi hynt deddfwriaeth
(busnes fel arfer), diwygio gwasanaethau’r Comisiwn (ffyrdd o weithio) a
diwygio busnes y Senedd. Byddai swyddogion Comisiwn y Senedd hefyd yn cefnogi
prosiect diwygio’r Bwrdd Taliadau.
7.6 Amlinellodd Siwan rai o’r heriau allweddol, gan
gynnwys y canlynol:
- yr angen i roi rhaglen drawsnewid fawr ar
waith ar gyfer y Seithfed Senedd ochr yn ochr â chyflawni busnes fel arfer yn
ystod y Chweched Senedd;
- cyfyngiadau ariannol;
- harneisio arbenigedd priodol; ac
- ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig o
ystyried bod sawl perchnogaeth a chyd-ddibyniaeth ynghlwm â phrosiectau
amrywiol.
7.7 Rhoddodd Siwan sicrwydd i’r Pwyllgor ynghylch y cynllunio
manwl sydd ar y gweill i gyflawni’r rhaglen ddiwygio a rheoli’r heriau yr oedd
wedi’u hamlinellu. Byddai’r gwaith cynllunio yn ymgorffori trefniadau
llywodraethu ar gyfer y Comisiwn, a gweithio ar y cyd â’r Bwrdd Taliadau
Annibynnol a Llywodraeth Cymru ond gyda diffiniad clir.
7.8 Roedd y Pwyllgor yn cydnabod maint rhaglen Diwygio’r Senedd a’i heffaith hollgynhwysol ar ddarparu gwasanaethau’r Comisiwn. Roedd y Cadeirydd a’r aelodau’n awyddus i helpu mewn meysydd lle gallent ychwanegu gwerth a nodwyd y byddai Diwygio’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Risg gorfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
ARAC (22-03) Papur 6 - Risgiau corfforaethol
ARAC (22-03) Papur 6 – Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr
Risg Gorfforaethol
ARAC (22-03) Papur 6 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol
a nodwyd
6.1 Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ansawdd y ddogfennaeth a’r diweddariadau a ddarparwyd, a nododd na
fu unrhyw symudiadau i’r graddfeydd risg cyffredinol ers i’r Gofrestr gael ei
chyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 29 Ebrill.
6.2 Cyfeiriodd Ed
Williams at y ffaith yr addaswyd dull y Comisiwn o ymdrin â risgiau Covid-19
mewn ymateb i ganllawiau Llywodraeth Cymru, gan nodi, er bod cyfraddau Covid-19
yn parhau i ostwng yng Nghymru, eu bod ar gynnydd mewn mannau eraill.
Disgrifiodd y canllawiau mewnol diwygiedig ar orchuddion wyneb, monitro parhaus
y system bwcio desg ac adolygiad parhaus o gynlluniau desgiau.
6.3 Mewn ymateb i
gais i amlygu newidiadau i’r naratif yn y Gofrestr, atgoffodd Kathryn Hughes y
Pwyllgor fod y maes ‘statws presennol’ yn cael ei ddiweddaru’n sylweddol cyn
pob cyfarfod a bod hwn yn cynnwys manylion am unrhyw newidiadau i’r
rheolaethau, er enghraifft.
6.4 Diolchodd y
Pwyllgor i’r swyddogion am eu diweddariadau cynhwysfawr a nododd y Cadeirydd
ymatebion cymesur y rheolwyr i'r risgiau.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd - Risgiau Diogelu Data
Eitem lafar – diweddariadau ar risgiau Diogelu Data (Legal-R-66 a
Legal-R-68) cyfeiriadau ym mhapur 11 Atodiad A
Cofnodion:
Eitem lafar
14.1 Croesawodd y Cadeirydd Matthew Richards a Jo
Grenfell i'r cyfarfod i gyflwyno’r eitem hon. Croesawodd Matthew y cyfle hwn i
roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y ddwy risg diogelu data a oedd yn
rhan o’r tîm Gwasanaethau Cyfreithiol: un yn ymwneud â’r Comisiwn a’r llall yn
ymwneud ag Aelodau o’r Senedd.
14.2 Rhoddodd Matthew y wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor am feysydd blaenoriaeth y gellid eu symud ymlaen yn awr oherwydd y
cynnydd mewn adnoddau staff yn y tîm Llywodraethu Gwybodaeth. Byddai hyn yn
cynnwys: mynd i'r afael â meysydd o wendid cymharol ynghylch cydymffurfio â
GDPR; sicrhau bod arferion cadw data yn cael eu cymhwyso mewn modd cyson; a
sesiwn hyfforddiant i ddiweddaru holl staff y Comisiwn, ac Aelodau a'u staff.
Roedd cynlluniau hefyd i ddatblygu sgiliau’r rhai sy’n gyfrifol am brosesu data
i’w galluogi i ymdrin â materion arferol yn well, gan ganiatáu i’r tîm
Llywodraethu Gwybodaeth arbenigol a chynghorwyr cyfreithiol ganolbwyntio ar
faterion mwy cymhleth.
14.3 Roedd Matthew ac Ed Williams, fel Uwch-swyddog Risg
Gwybodaeth, hefyd yn datblygu cynllun i sicrhau defnydd cyson a phriodol o
dechnoleg megis SharePoint a Teams. Byddai hyn yn rhoi mwy o eglurder, ac yn
lleihau amser yn lleoli ffynonellau gwybodaeth gorfforaethol i ymateb, er
enghraifft, i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth neu gais gwrthrych am wybodaeth neu
gwestiynau llafar/ysgrifenedig i'r Comisiwn.
14.4 Trafododd y Pwyllgor yr heriau o ran cefnogi
gwleidyddion a oedd yn rheolwyr data yn eu rhinwedd eu hunain. Cydnabuwyd y
gellid cynnig cyngor a hyfforddiant ond nid eu mandadu ac y byddai unrhyw achos
o dorri, waeth beth fo'r ffynhonnell, yn adlewyrchu'n wael ar y sefydliad.
Disgrifiodd Matthew yr hyfforddiant a oedd ar gael i'r Aelodau a'u staff yn
dilyn yr etholiad, a chynlluniau i ddarparu sesiynau hyfforddiant ac
ymwybyddiaeth yn barhaus. Hefyd, nododd gynlluniau i roi cytundebau prosesu data
ar waith yn llawn gydag Aelodau fel blaenoriaeth pan fyddai'r adnoddau
ychwanegol wedi’u rhoi ar waith, a groesawyd gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
- Cyfyngedig 24
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 11 - Risgiau corfforaethol
ARAC (22-02) Papur 11 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr
Risg Gorfforaethol
ARAC (22-02) Papur 11 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol
a nodwyd
13.1 Rhoddodd Ed y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar
sefyllfa gyffredinol y Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Roedd y risgiau wedi'u
hadolygu a'u diweddaru gan y perchnogion risg a’u hadolygu gan y Bwrdd
Gweithredol yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill. O ystyried y cynnydd mewn
gweithgarwch, gan gynnwys penderfyniadau diweddar y Bwrdd Taliadau ac
ymgynghoriad ar reolau'r Swyddog Cyfrifyddu, roedd lefel tebygolrwydd
gweddilliol y risg yn ymwneud â Fframwaith Rheoleiddio’r Aelodau wedi cynyddu,
a oedd wedi arwain at gynnydd yn lefel gyffredinol y risg. Rhoddodd Ed sicrwydd
bod y risg yn cael ei reoli'n weithredol.
13.2 Diolchodd y Pwyllgor i Ed am ei gyflwyniad a
diolchodd i’r swyddogion am y wybodaeth gynhwysfawr yn y gofrestr. Croesawodd y
Cadeirydd yn arbennig y diagram a oedd yn dangos natur ddeinamig y gofrestr
risg.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Risg gorfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
ARAC (22-01) Papur 7 - Risgiau corfforaethol
ARAC (22-01) Papur 7 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr
o Risgiau Corfforaethol
ARAC (22-01) Papur 7 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol
a nodwyd
9.1 Cyfeiriodd y Cadeirydd y Pwyllgor at y diagram yn
Atodiad B o’r papur a oedd yn nodi proffil risg y Comisiwn. Dangosodd fod yr
holl risgiau'n gostwng oherwydd y rheolaethau a oedd ar waith. Cydnabu fod
nifer o risgiau newydd wedi'u hychwanegu at y gofrestr yn ystod 2021 i adlewyrchu'r
proffil risg newidiol ac nad oedd unrhyw symudiadau yn y lefelau risg.
Diolchodd i swyddogion am y diweddariadau cynhwysfawr a ddarparwyd a gofynnodd
i'r Cyfarwyddwyr grynhoi'r diweddariadau diweddaraf ar gyfer pob un o'r
risgiau.
9.2 Mewn perthynas â'r risg Urddas a Pharch, rhoddodd
Lowri Williams y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ag Aelodau a oedd
wedi'i gynnwys yn yr arolwg diweddaraf o’r Aelodau a Staff Cymorth. Roedd yr
arolwg, a oedd eisoes wedi ennyn rhai ymatebion da, i fod i ddod i ben ddiwedd
mis Chwefror, a byddai cyfarfodydd dilynol yn cael eu cynnal i drafod yr
ymatebion. Ychwanegodd Lowri, er nad oedd gan y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau,
Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) unrhyw gyfarfodydd wedi'u cynllunio yn y
dyfodol agos, ei bod yn obeithiol y byddai'n cymryd rhan yn yr adolygiad o
bolisïau urddas a pharch.
9.3 Roedd yr asesiad risg COVID-19 wedi’i gynnwys yn y
diweddariad o dan eitem 3 ar yr agenda.
9.4 Mewn perthynas â'r risg seiberddiogelwch, cydnabu'r
Cadeirydd ei fod wedi derbyn adroddiad sicrwydd cynhwysfawr newydd drafft a
oedd wedi'i rannu ag aelodau'r Pwyllgor ac a fyddai'n llywio trafodaeth ar
arfer rheolaidd o adrodd yn y dyfodol. Ychwanegodd Arwyn Jones fod y tîm TGCh
yn bwriadu rhannu manylion ymosodiadau seiber gydag Aelodau o'r Senedd i godi
ymwybyddiaeth o'r risgiau.
9.5 Rhoddodd Siwan grynodeb o'r camau sy'n cael eu cymryd
i fynd i'r afael â risgiau o ran diogelu data, a oedd yn cynnwys recriwtio
adnoddau ychwanegol. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor, cytunwyd
y byddai'r ymchwiliad manwl a gynlluniwyd i risgiau diogelu data yng nghyfarfod
mis Ebrill yn cynnwys cyfeiriad at hyfforddiant i’r Aelodau, gan gynnwys y
nifer sy'n manteisio ar sesiynau cynefino.
9.6 O ran y tri risg trawsnewid strategol, nid oedd gan
Siwan unrhyw ddiweddariadau pellach i'w hychwanegu at y rhai yn yr adroddiad yn
Atodiad A o’r papur ond cydnabu y byddai lefelau’r risg yn agored i newid mewn
ymateb i weithgarwch penodol. Cydnabu'r Cadeirydd fod y Comisiwn wedi dod yn
fwy ymaddasol i risgiau sy'n ymwneud â newid cyfansoddiadol.
9.7 Nododd Arwyn rywfaint o gynnydd pellach i helpu i
liniaru'r risg o ran cydymffurfio â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Comisiwn lle
byddai'r Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn treialu datrysiadau i’r system
cyfieithu ar y pryd ar Teams gyda Microsoft.
Camau i’w cymryd
· Cynnwys manylion hyfforddiant diogelu data
i Aelodau a recriwtio i swyddi diogelu data yn y diweddariad risg nesaf i ARAC.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd neu sy'n dod i'r amlwg - pontio i'r Chweched Senedd
Eitem lafar
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar
lafar
9.1
Gwahoddodd y Cadeirydd
Siwan i gyflwyno'r eitem hon, a chroesawodd Sulafa Thomas, Pennaeth Cymorth y
Comisiwn a’r Aelodau i'r cyfarfod. Atgoffodd Siwan y Pwyllgor fod y risg wedi'i
hychwanegu at y Gofrestr Risg Gorfforaethol i adlewyrchu effaith bosibl
pandemig y Coronafeirws a'r ansicrwydd ynghylch dyddiad yr etholiad, cyfnod y
diddymiad a phontio i’r Chweched Senedd. Dywedodd y byddai'r risg bellach yn
cael ei chau gyda risgiau gweddilliol o ran darparu a phontio parhaus yn cael
eu rheoli ar lefel gwasanaeth.
9.2
Disgrifiodd Siwan sut
roedd ymgysylltu effeithiol â chyrff a oedd yn cynnwys y Comisiwn, y Pwyllgor
Busnes a'r Bwrdd Taliadau wedi llywio'r gwaith o gynllunio senarios a
phenderfyniadau a chanllawiau ynghylch cyfnod yr etholiad a'r diddymiad.
Anfonwyd canllawiau wedi'u diweddaru at yr Aelodau a'r staff mewn modd
cydgysylltiedig ac amserol.
9.3
Amlinellodd Siwan sut
yr oedd y gwahanol elfennau o waith wedi'u cyflawni. Roedd hyn yn amrywio o
gynllunio ar gyfer diddymu; cyfathrebu ynghylch yr etholiad, yn enwedig ar
gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed a oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf; darparu
canllawiau i Aelodau nad oeddynt yn dychwelyd a gwybodaeth gynefino ar gyfer
Aelodau newydd ac Aelodau a oedd yn dychwelyd; a chefnogi busnes cynnar y
Senedd. O ran llywodraethu, ychwanegodd Siwan fod cynllunio cynnar, sefydlu
gweithgorau a chynllunio senarios a chydgysylltydd penodol ar gyfer y prosiect
wedi bod yn ffactorau allweddol ar gyfer cyflawni'n llwyddiannus. Ychwanegodd
fod strwythurau llywodraethu presennol wedi'u defnyddio i gynnal asesiadau risg
ar gyfer gweithgareddau fel tyngu’r llw, a oedd wedi'u cynnal yn bersonol ac yn
rhithiol yn unol â dewisiadau'r Aelodau.
9.4
Er gwaethaf yr heriau
a ddaw yn sgil y pandemig, roedd y trefniadau i gefnogi busnes cynnar yn
llwyddiannus. Roedd hyn yn cynnwys Cyfarfod Llawn ar 12 Mai i benodi Llywydd,
Dirprwy Lywydd ac enwebu'r Prif Weinidog, yn ogystal â chymorth i Aelodau
gyflogi staff a chael trefn ar swyddfeydd. Roedd 100 y cant hefyd wedi cymryd
rhan mewn digwyddiadau cynefino Aelodau. Roedd y rhan fwyaf o'r adborth gan
Aelodau wedi bod yn gadarnhaol iawn ac roedd rhai gwelliannau wedi'u gwneud ar
unwaith mewn ymateb i faterion a nodwyd.
9.5
Roedd y gwaith o
bontio i'r Chweched Senedd yn parhau o ran penodi deiliaid swyddi, ffurfio
Pwyllgorau newydd y Senedd a chynlluniau ar gyfer yr agoriad Brenhinol.
Cynigiodd Siwan rannu adroddiadau cau, a fyddai'n cynnwys manylion y gwersi a
ddysgwyd, gyda'r Pwyllgor maes o law. Byddai'r rhain yn ystyried adolygiad
arfaethedig gan y Comisiwn Etholiadol.
9.6 Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am gynllunio ar gyfer adalw'r Senedd a'i Phwyllgorau yn ystod cyfnod yr etholiad, amlinellodd Siwan sut yr oedd swyddogion wedi gweithio gyda'r Pwyllgor Busnes, y Comisiwn a Llywodraeth Cymru i sefydlu meini prawf clir ar gyfer y sefyllfa hon. Roedd yn amlwg mai'r unig amgylchiadau lle byddai hyn yn angenrheidiol fyddai ar gyfer materion yn ymwneud â Covid ac unrhyw oedi i ddyddiad yr etholiad. Rhoddwyd eglurder hefyd ynghylch rheolau o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
- Cyfyngedig 36
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
ARAC (03-21) Papur 5 - Risgiau corfforaethol
ARAC (03-21) Papur 5 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr
Risg Gorfforaethol
ARAC (03-21) Papur 5 - Atodiad B - Risgiau
corfforaethol a nodwyd
8.1
Cyflwynodd Dave yr
eitem hon. Amlinellodd y cynnig i ddileu'r risg o amgylch cyfnod pontio
Etholiad y Senedd 2021 o Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn a'r bwriad i
ailasesu'r risg Coronafeirws gan y Bwrdd Gweithredol.
8.2
Rhoddodd Siwan y
wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad parhaus o'r risgiau sy'n gysylltiedig â
newid cyfansoddiadol a diwygio'r Senedd. Ychwanegodd y byddai'r risgiau'n
canolbwyntio ar ymateb y Comisiwn i benderfyniadau gwleidyddol a fyddai'n
dechrau dod i'r amlwg wrth i fusnes y Senedd fynd rhagddo yn dilyn yr etholiad.
8.3
Atgoffodd Dave y
Pwyllgor mai adroddiad cryno oedd hwn o statws y risgiau a bod y Cyfarwyddwyr
a'r Bwrdd Gweithredol yn adolygu adroddiadau manylach yn rheolaidd. Mewn ymateb
i gwestiwn ynghylch perchnogaeth, eglurodd Dave hefyd fod pob risg gorfforaethol
yn eiddo i Gyfarwyddwr arweiniol gyda mewnbwn gan y Penaethiaid Gwasanaethau
perthnasol.
8.4
Mewn perthynas â'r
risgiau sy'n gysylltiedig â Safonau Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd,
gofynnodd Ann Beynon a oedd yn werth i'r Pwyllgor ymgysylltu â'r Comisiynydd
Safonau newydd. Nododd y Cadeirydd y dylai'r Pwyllgor, gan fod y Comisiynydd yn
ddeiliad swydd annibynnol, ganolbwyntio ar adolygu'r broses o reoli risgiau
mewn perthynas â'r cymorth a ddarperir gan y Comisiwn. Atgoffodd Siwan y
Pwyllgor fod y risg hon wedi canolbwyntio ar sut yr oedd swyddogion y Comisiwn
wedi cefnogi'r Senedd i gynnal hyder y cyhoedd yn y gyfundrefn safonau, gan
gynnwys y Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Senedd a phenodi
Comisiynydd Safonau newydd. Ychwanegodd y byddai’r ffocws nawr, gan fod y ddau
hyn bellach ar waith, yn symud tuag at gefnogi'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ar
ôl ei sefydlu, i gynnal adolygiad o'r weithdrefn gwyno.
8.5
Ychwanegodd Manon,
mewn ymateb i adborth yn ystod cyfnod sefydlu Aelodau newydd, fod briff yn cael
ei baratoi i egluro rolau a chylchoedd gwaith y Comisiynydd Safonau a'r Bwrdd
Taliadau. Byddai hyn hefyd yn cynnwys manylion o ran rheolau'r Swyddog
Cyfrifyddu.
8.6
Croesawodd Suzy unrhyw
eglurder ynghylch dyletswydd y Comisiwn i gefnogi'r Bwrdd Taliadau annibynnol.
8.7
Mewn ymateb i gwestiwn
gan Suzy ynghylch y gyllideb a chefnogaeth i'r Comisiynydd Safonau, atgoffodd
Siwan y Pwyllgor ei bod yn ofyniad statudol i'r Comisiwn ddarparu adnoddau ar
gyfer swydd y Comisiynydd. Esboniodd fod Protocol yn cael ei lunio gyda'r
Comisiynydd newydd yn seiliedig ar yr egwyddor o ddull hyblyg parhaus, lle
roedd staff y Comisiwn yn mynd ar secondiad i’w swyddfa.
8.8
Mewn perthynas â'r
risg o ran Urddas a Pharch staff y Comisiwn, awgrymodd Suzy ychydig o
werthusiad drwy archwiliad mewnol ar effeithiolrwydd yr hyfforddiant a
ddatblygwyd i roi'r hyder i staff herio ymddygiad, a chytunodd y swyddogion i
ystyried hyn.
8.9 Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan Aled p ran penderfyniadau gwleidyddol ynghylch diwygio'r Senedd, rhoddodd Siwan sicrwydd y byddai fframwaith cyfansoddiadol y DU, gan gynnwys materion fel y gostyngiad yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Proses rheoli risg
Cofnodion:
Diweddariad llafar
14.1
Croesawodd y Pwyllgor y cyfle hwn i drafod y broses
rheoli risg. Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch rheoli
risgiau mewn ffordd integredig, eglurodd Dave fod trafodaethau ar lefelau
gwasanaeth, cyfarwyddiaeth a’r Bwrdd Gweithredol wedi cynnwys y cysylltiadau
a’r proffil risg cyffredinol. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod ei bod yn bosibl
nad oedd hyn yn amlwg yn yr adroddiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Cytunodd
Kathryn Hughes i edrych ar hyn mewn rhagor o fanylder.
14.2
Roedd y Cadeirydd yn fodlon bod y gofrestr yn ddeinamig,
a ddangosir gan y newidiadau yn y risgiau a’u sgoriau, a bod y risgiau sydd
wedi’u nodi, yn ogystal â’r sgoriau a roddwyd iddynt, yn briodol yn yr
amgylchiadau presennol.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Risg corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
- Cyfyngedig 43
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
ARAC (02-21) Papur 12 –
Risg corfforaethol
ARAC (02-21) Papur
12 – Atodiad A – Crynodeb o’r gofrestr risg corfforaethol
ARAC (02-21) Papur 12 – Atodiad B –
Risgiau corfforaethol sydd wedi’u nodi
13.1
Cyflwynodd Dave yr eitem hon, gan nodi bod y gofrestr
risg corfforaethol wedi’i hadolygu gan y Bwrdd Gweithredol ar 21 Ebrill, cyn
amlinellu’r newidiadau a gytunwyd. Ymatebodd swyddogion fel sydd wedi’i nodi
isod i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar risgiau penodol.
13.2
Roedd Dave yn fodlon â’r wybodaeth a nodwyd ar gyfer
disgrifio’r risg o ran diogelu data a difrifoldeb y risg hon, gan ychwanegu bod
adroddiadau llawnach yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd Gweithredol fel sail ar
gyfer ei adolygiadau. Amlinellodd yr heriau ynghylch cynnydd mewn pwysau gwaith
yn maes hwn, yn rhannol oherwydd newidiadau i weithgarwch ymgysylltu a
digwyddiadau oherwydd y pandemig, yn ogystal â’r paratoadau ar gyfer yr
etholiad a’r broses gynefino ar gyfer yr Aelodau newydd. Roedd hyn yn cynnwys
cefnogi timau ar draws y Comisiwn i gynnal asesiadau effaith a hysbysiadau
preifatrwydd, yn ogystal â chynnal ymwybyddiaeth o faterion o ran diogelu data.
13.3
O ran y risgiau sy’n gysylltiedig â chydymffurfio â
Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, eglurodd Arwyn y byddai cyfathrebu’n
effeithiol ag Aelodau, eu staff a’r grwpiau gwleidyddol i drafod materion a
oedd yn codi, yn ogystal â’r prosesau a oedd ar waith i liniaru unrhyw
effeithiau, yn lleihau effeithiau unrhyw achos o ymddwyn yn groes i’r cynllun.
Roedd yr aelodau’n gwerthfawrogi cyfyngiadau’r llwyfannau presennol a’r
ymdrechion parhaus gan y Comisiwn i ddod o hyd i ddatrysiad technegol ar gyfer
pob cyfarfod. Atgoffodd Arwyn y Pwyllgor fod y mater hwn dim ond effeithio ar
gyfarfodydd preifat, a bod cyfieithu ar y pryd yn parhau i fod ar gael ar gyfer
holl fusnes cyhoeddus a ffurfiol y Senedd. Ychwanegodd fod camau eraill wedi’u
cymryd i leihau’r posibilrwydd o ymddwyn yn groes i’r cynllun, a bod
cydweithwyr o’r tîm TGCh yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Microsoft
i geisio dod o hyd i ddatrysiad. Hefyd, ailadroddodd y clod a gafwyd gan
Gomisiynydd y Gymraeg am y ffordd hon o weithio.
13.4
Eglurodd Siwan y byddai asesiad newydd yn cael ei gynnal
mewn perthynas â’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r
Undeb Ewropeaidd a’r newid cyfansoddiadol cysylltiedig. Ychwanegodd fod yr
ansicrwydd yn bodoli ar y lefel wleidyddol, ac nid oedd unrhyw bryderon
ynghylch gallu’r Comisiwn i wasanaethu Aelodau o’r Senedd a phwyllgorau’r
Senedd.
13.5
Eglurodd Dave y byddai’r risgiau sy’n gysylltiedig â
chapasiti corfforaethol yn cael eu hadolygu yng ngoleuni blaenoriaethau’r
Comisiwn wrth iddynt ddod i’r fei, yn ogystal â chyfyngiadau cyllidebol a’r
adolygiad nesaf o gapasiti.
13.6 O ran y risgiau mewn perthynas ag urddas â pharch, nododd y Pwyllgor fod Cod Ymddygiad newydd i Aelodau wedi’i gymeradwyo a chroesawodd y camau i ychwanegu’r egwyddor ynghylch ‘parch’. Nododd Siwan y byddai’r egwyddor hon yn rhan bwysig o’r sesiynau cynefino i Aelodau, sy’n cynnwys cyfle i gwrdd â’r Comisiynydd Safonau, gan ychwanegu bod adolygiad o’r weithdrefn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Archwiliad beirniadol o risg a nodwyd neu sy'n dod i'r amlwg - Seiberddiogelwch (ynghyd â'r diweddariad ddwywaith y flwyddyn)
Cofnodion:
10.1 Croesawodd y Cadeirydd Mark Nielson, Jamie
Hancock a Tim Bernat i'r cyfarfod a gwahoddodd nhw i amlinellu manylion eu
diweddariad ar seiberddiogelwch.
10.2 Rhannodd Mark ddisgrifiad manwl o'r gwaith
yr oedd ei dîm wedi'i wneud ers y diweddariad diwethaf a lle byddent yn
canolbwyntio eu hymdrechion yn y dyfodol. Adroddodd y gwelwyd cynnydd sylweddol
yn nifer yr ymosodiadau gwe-rwydo yn ystod y pandemig ac mai e-byst yw prif
gyfrwng y cynnwys maleisus o hyd. Roedd ei dîm wedi bod yn gweithio'n agos gyda
Microsoft i wella'r trefniadau a'r paramedrau sydd ar waith o ran diogelwch.
Sefydlwyd system i gynorthwyo adferiad ar ôl unrhyw ymosodiadau seiber ac roedd
model newydd o ymddiried mewn dim yn cael ei roi ar waith.
10.3 Roedd hyfforddi staff yn parhau i fod yn
flaenoriaeth i'w dîm a byddai archwiliad mewnol a drefnwyd i’w gynnal yn
ddiweddarach yn 2021 yn profi gwydnwch craidd y systemau wrth gefn. Roedd yn
hyderus bod gan ei dîm ddigon o adnoddau i gyflawni'r tasgau sy'n ofynnol ar
hyn o bryd.
10.4 Yna holodd y Pwyllgor ynghylch lleoliad ar
gyfer storio data rhai rhaglenni.
Cadarnhaodd Mark nad oedd yr holl ddata yn y DU ond eu bod i gyd yn cael
ei gadw yn yr UE. Roedd trafodaethau
wedi cychwyn ynghylch sicrhau bod data'n aros yn y DU. Codwyd pryderon o’r
blaen ynghylch dibyniaeth y sefydliad ar wasanaeth y Cwmwl. Roedd y Pwyllgor yn
gwerthfawrogi lefel yr hyblygrwydd mae’r cwmwl yn ei chynnig ond fe erys yn fan
gwan posibl o hyd.
10.5 Nododd Mark a Dave y pryderon a godwyd
ynghylch gwasanaethau’r cwmwl, ond nodwyd y byddai'r newid i weithio o bell
wedi bod yn drafferthus pe na byddent wedi symud i wasanaeth Office365 rai
blynyddoedd yn ôl. Roedd Mark yn ymwybodol bod rhai sefydliadau wedi cael
problemau sylweddol o ganlyniad i geisio gweithredu model gwasanaeth cwmwl yn
ystod y pandemig. Roedd mannau gwan unigol yn anochel ac, er bod methiant
trydydd partïon y tu allan i reolaeth y Comisiwn, byddent yn parhau i
ganolbwyntio ar waith lliniarol yn y dyfodol.
10.6 Diolchodd y Pwyllgor Mark a'i dîm a’u
llongyfarch ar eu hymdrechion yn ystod yr cyfnod digynsail hwn. Roedd y ffaith
na chafwyd yr un methiant mawr ers i'r sefydliad cyfan ddechrau gweithio o bell
ym mis Mawrth 2020 yn gyflawniad aruthrol.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 49
- Cyfyngedig 50
- Cyfyngedig 51
Cofnodion:
Cyflwynodd Dave yr eitem hon gan nodi i’r Bwrdd Gweithredol adolygu’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol ar 28 Ionawr. Amlygodd y ffaith bod y cyfyngiadau symud parhaus yn golygu bod y sgôr tebygolrwydd ar gyfer risgiau’r Coronafeirws wedi codi o ganolig i uchel. Roedd y risg i Gapasiti Corfforaethol hefyd gwaethygu drachefn i lefel gorfforaethol i gydnabod y pwysau sylweddol parhaus ar gapasiti oherwydd y pandemig a'r llwythi gwaith cynyddol, gan gynnwys o ran y Bil Brys a pharatoi ar gyfer yr Etholiad.
9.2Croesawodd y Pwyllgor y crynodeb cynhwysfawr hwn ac, o
ystyried cyflymder y rhaglen frechu, roeddent yn gobeithio gweld risgiau’r
Coronafeirws yn gostwng yn ystod y misoedd nesaf.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd - newid cyfansoddiadol - Cyfnod pontio'r UE
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf,
ar lafar
11.1
Croesawodd y Cadeirydd Phil Boshier i'r cyfarfod a
diolchodd iddo am gyflwyno'n glir y diweddariadau yr oedd wedi'u darparu o'r
blaen i aelodau'r Pwyllgor. Eglurodd Phil fod y risg yn canolbwyntio ar rôl y
Comisiwn, tra’n ystyried effaith Covid-19.
11.2
Mewn ymateb i gwestiwn Aled ynghylch sgorio’r risg,
eglurodd Phil fod y rheolaethau sydd ar waith yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd
y risg yn digwydd ond cydnabu’r ansicrwydd parhaus ynghylch canlyniad
trafodaethau ynghylch cytundeb gyda’r UE. Ychwanegodd fod effaith bosibl
trafodaethau ynghylch cytundeb fasnach, ynghyd ag effaith Covid-19 ar gadwyni
cyflenwi critigol, yn enwedig ar gyfer TGCh a rheoli cyfleusterau, yn cael eu
monitro. Roedd ansicrwydd hefyd ynghylch faint o ddeddfwriaeth sy'n debygol o
gael ei chyflwyno gan y llywodraeth.
11.3
Amlinellodd Phil sut roedd y Comisiwn wedi bod yn
meithrin gwytnwch, sgiliau ac arbenigedd a oedd wedi bod yn hollbwysig, er
enghraifft, wrth gefnogi Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y
Senedd. Disgrifiodd hefyd sut roedd Tîm Arweinyddiaeth y Comisiwn ar y cyd yn
goruchwylio'r rhaglen waith ac yn monitro'r sefyllfa sy'n newid yn gyson gyda
chyfarfodydd gweithredol traws-wasanaeth wythnosol i lywio gwaith cynllunio,
blaenoriaethu ac unrhyw achosion angenrheidiol o adleoli staff. Roedd y gwaith
cynllunio’n cynnwys rhywfaint o gynllunio wrth gefn dros gyfnod toriad y
Nadolig pe bai’r Senedd yn cael ei galw’n ôl ac i reoli’r broses o Lywodraeth
Cymru yn gosod dogfennau.
11.4
Er gwaethaf cysylltiadau parhaus â Llywodraeth
Cymru, Llywodraeth y DU a seneddau eraill, roedd yn anodd rhagweld maint y
gwaith ond rhoddodd swyddogion sicrwydd fod y Comisiwn yn barod i ymateb.
11.5
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor ynghylch
defnyddio cynghorwyr arbenigol, cadarnhaodd Phil y gellid galw ar hyn ar fyr
rybudd drwy'r contract fframwaith a oedd ar waith ac yn gweithio'n effeithiol.
11.6
Mewn perthynas â chwestiwn ynghylch lledaenu
gwybodaeth, disgrifiodd Phil ffyrdd yr oedd y Gwasanaeth Ymchwil yn gallu
manteisio ar rwydwaith cynhwysfawr o wybodaeth i lywio'r broses o gynhyrchu
diweddariadau a briffiau yn rheolaidd ar gyfer staff, Aelodau'r Senedd a'u staff
cymorth. Roedd y tîm Materion Cyfansoddiadol Allanol hefyd yn llunio brîff
rheolaidd ar gyfer y Llywydd a Phwyllgorau'r Senedd. Cyfeiriodd hefyd at
lwyddiant sesiynau briffio’r cyfryngau, yn enwedig o ran y Bil Marchnad Fewnol.
11.7
Cydnabu'r Pwyllgor pa mor dda yr oedd y Comisiwn yn
rheoli'r risgiau ond nododd yr effaith ganlyniadol y gallai hyn ei chael ar
fusnes arall y Senedd yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau. Gwnaethant hefyd
gyfeirio eto at yr effaith bosibl ar unrhyw staff y bydd angen iddynt weithio
dros doriad y Nadolig.
11.8
Diolchodd y Cadeirydd i Phil am ddarparu diweddariad
mor gynhwysfawr a gofynnodd am gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau pellach.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
- Cyfyngedig 57
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
ARAC (05-20)
Papur 7 - Risgiau corfforaethol
ARAC (05-20)
Papur 7 - Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr o Risgiau Corfforaethol
ARAC (05-20)
Papur 7 - Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd
10.1
Cyflwynodd
Dave Tosh yr eitem hon ac amlinellodd y newidiadau a wnaed i'r Gofrestr o
Risgiau Corfforaethol yn dilyn adolygiad gan y Bwrdd Gweithredol ar 23 Hydref.
10.2
Cwestiynodd
Aled Eirug sgorio'r risg mewn perthynas â Newid Cyfansoddiadol y DU o ystyried
yr effaith sylweddol y byddai'n ei gael ar y Comisiwn ac ymdriniwyd â hyn o dan
eitem 11.
10.3
Mewn
perthynas â’r risg o ran cydymffurfio â risg Cynllun Ieithoedd Swyddogol y
Comisiwn, ychwanegodd Arwyn Jones sicrwydd pellach fod datblygu atebion dros
dro a hirdymor i ganiatáu cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd preifat ar y
gweill. Roedd swyddogion, gan gynnwys Arwyn a Phennaeth TGCh, wedi bod yn
ymgysylltu'n rhagweithiol â Microsoft, Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y
Gymraeg a nododd y Pwyllgor gydnabyddiaeth fod y Comisiwn yn arwain y maes ar ddatblygu
swyddogaethau cyfieithu i hwyluso gweithio o bell yn ddwyieithog.
10.4
Cydnabu’r
Cadeirydd yr ymdrech sylweddol gan y tîm TGCh ac eraill i ddod o hyd i ateb
ochr yn ochr â galluogi busnes rhithwir a hybrid y Senedd. Nododd fod y
cyflawniadau hyd yma wedi dangos bod y Comisiwn yn gwneud cymaint â phosibl i
liniaru'r risg. Croesawodd gynnwys y risg ar Gofrestr o Risgiau Corfforaethol y
Comisiwn a diolchodd i swyddogion am y diweddariad. Gofynnodd hefyd am gael y
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd.
10.5
Trafododd
y Pwyllgor y risgiau o ran Etholiadau’r Senedd yn 2021 mewn perthynas â
chyfathrebu ac ymgysylltu a'r goblygiadau i'r Comisiwn pe bai penderfyniad yn
cael ei wneud i newid dyddiad yr etholiad oherwydd Covid-19.
10.6
Trafododd
aelodau'r pwyllgor yr heriau sy'n ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu
effeithiol yn ystod cyfnod etholiad, yn enwedig o ystyried cyd-ddigwyddiad
etholiadau'r Senedd ac etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
10.7
Dywedodd
Arwyn y byddai canlyniadau pleidleisio yn llywio’r gwaith o dargedu a theilwra
cyfathrebiadau, er enghraifft er mwyn annog pobl ifanc 16 a 17 oed i
bleidleisio. Ychwanegodd y byddai cyfathrebu'n canolbwyntio ar hyrwyddo
cyflawniadau'r Senedd o ran y gwahaniaeth yr oedd wedi'i wneud i bobl Cymru, a
sut roedd hyn wedi'i lywio gan dystiolaeth a ddarparwyd i bwyllgorau'r Senedd.
Ychwanegodd fod risgiau eraill, megis defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol wrth
ymgyrchu hefyd yn cael eu hasesu.
10.8
Eglurodd
Siwan Davies y rhesymeg dros gyflwyno risg gorfforaethol newydd ar gyfer
etholiadau’r Senedd yn 2021. Amlinellodd
ymgysylltiad parhaus y Comisiwn â Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol,
gan gynnwys drwy aelodaeth o'r Grŵp
Cynllunio Etholiadau, a oedd yn llywio’r gwaith o gynllunio senarios a digwyddiadau wrth gefn ar gyfer cynnal
etholiadau’r Senedd yn ystod y pandemig. Roedd swyddogion hefyd mewn cysylltiad
â Senedd yr Alban o ran trefniadau yn yr Alban.
10.9 Dywedodd Siwan fod y Prif Weinidog wedi nodi bod Llywodraeth Cymru yn debygol o gyflwyno deddfwriaeth frys i, ymhlith pethau eraill, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Risgiau Corfforaethol y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 61
- Cyfyngedig 62
- Cyfyngedig 63
Cofnodion:
ARAC (03-20) Papur 6 - Risgiau Corfforaethol
ARAC (03-20) Papur 6 Atodiad A - Adroddiad Cryno
Risgiau Corfforaethol
ARAC (03-20) Papur 6 Atodiad B - Risgiau
Corfforaethol wedi'u Plotio
6.1
Cyflwynodd Dave Tosh yr eitem
hon a disgrifiodd y gwaith a oedd wedi’i wneud i liniaru risgiau corfforaethol
y Comisiwn yn barhaus. Er nad oedd hyn wedi arwain at unrhyw newid yng
ngraddfeydd y risgiau, roedd yr Atodiad a ddangosai’r risgiau wedi’u plotio ar
fatrics yn dangos y cyfeiriad yn seiliedig ar y camau rheoli sydd ar waith.
Croesawodd y Pwyllgor y diweddariadau manwl a ddarparwyd yn y dogfennau a
gofynnodd am ragor o fanylion am rai o'r camau rheoli a’r camau lliniaru
pellach.
6.2
Mewn
ymateb i gwestiynau penodol ynghylch fideo-gynadledda, disgrifiodd Manon a Dave
fanteision ac anfanteision defnyddio Zoom a Microsoft Teams, gan amlinellu sut
y gwnaed asesiadau i gydbwyso ystyriaethau diogelwch a diogelu data ar y naill
law, a gofynion y ddeddfwriaeth ieithoedd swyddogol ar y llaw arall. Gwnaed hyn
fesul achos. Yn seiliedig ar asesiad risg, penderfynwyd defnyddio Zoom, a oedd
yn hwyluso cyfieithu ar y pryd, ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus lle roedd preifatrwydd
a diogelwch yn llai o broblem (gan eu bod yn cael eu darlledu), a defnyddio
Microsoft Teams ar gyfer cyfarfodydd preifat a mewnol gan fod hyn yn fwy
diogel. Yn anffodus, nid oedd Microsoft yn gallu cynnig ateb ar gyfer darparu
cyfieithu ar y pryd. Dywedodd Manon fod Comisiynydd y Gymraeg yn cefnogi
defnydd y Senedd o Zoom a'i fod wedi dweud bod y Senedd yn enghraifft o arfer
gorau.
6.3
Sicrhaodd y Comisiwn y
Pwyllgor y byddai’n dilyn y datblygiadau diweddaraf mewn rhaglenni
fideogynadledda i ddarparu ar gyfer cyfieithu ar y pryd, ac y byddai’n parhau i
edrych ar ddewisiadau amgen.
6.4
O ran y risgiau ynghylch
diwygio'r Senedd, trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud ag amseru codi
ymwybyddiaeth o bleidleisio yn 16 oed ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn
Etholiadol.
6.5
Mynegodd Aled bryder, fel
y crybwyllwyd yn yr adroddiad, nad oedd grwpiau a oedd yn cynnwys swyddogion o
sefydliadau perthnasol sy'n delio â newidiadau etholiadol (gan gynnwys Comisiwn
y Senedd, Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol) wedi cyfarfod ers y
llynedd, a gofynnodd sut yr oedd hyn yn cael sylw. Cadarnhaodd Arwyn fod
trefniadau anffurfiol i fwrw ymlaen â’r gwaith ar y newidiadau etholiadol, a
bod hyn yn gweithio’n dda yn ymarferol. [Roedd disgwyl cynnal cyfarfod o un o'r
grwpiau hyn yn ddiweddarach yn yr haf].
6.6
Cafwyd trafodaeth hefyd
ynghylch effaith unrhyw oedi i gamau’n ymwneud â Chyllido ac Atebolrwydd y
Comisiwn Etholiadol (gyda’r Comisiwn Etholiadol yn dod yn atebol i'r Senedd) ar
y paratoadau ar gyfer cynnal a hyrwyddo etholiadau 2021. Dywedodd Manon fod
penderfyniad ar hyn ar fin cael ei wneud, a bod trefniadau dros dro ar waith.
Gofynnodd y Cadeirydd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn y cyfarfod
nesaf.
6.7 Mewn ymateb i gwestiynau yn ymwneud â risgiau ynghylch Brexit a newid cyfansoddiadol yn y DU, yn enwedig os na cheir cytundeb, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 66
- Cyfyngedig 67
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 10 - Risgiau corfforaethol
ACARAC (01-20) Papur 10 - Atodiad A - Crynodeb o’r
Gofrestr o Risgiau Corfforaethol
ACARAC (01-20) Papur 10 - Atodiad B - Risgiau
corfforaethol a nodwyd
10.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Dave
am statws risgiau corfforaethol y Comisiwn a gwahoddwyd hwy i wneud sylwadau.
10.2 Nododd y Pwyllgor, er gwaethaf diffyg symud yn y
cyfraddau risg, fod ymdrech barhaus yn cael ei gwneud i reoli'r risgiau, rhai
nad oedd gan y Comisiwn fawr ddim dylanwad, os o gwbl arnynt. Rhoddodd Dave
sicrwydd fod y risgiau'n cael eu monitro'n rheolaidd ar lefelau priodol.
10.3 Croesawodd y Pwyllgor y cynnydd ar gamau lliniaru i
gryfhau rheolaethau lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys penodi Swyddog Diogelu.
10.4 Cytunwyd y byddai geiriad risg Brexit yn cael ei
adolygu ac y rhoddid ystyriaeth i asesu'r risgiau o amgylch tirwedd
gyfansoddiadol y DU ar ôl ymadael â’r UE.
10.5 Trafododd y Pwyllgor ffyrdd yr oedd y Comisiwn yn
bwriadu ymateb i'r dirwedd gyfansoddiadol ehangach sy'n newid, yn enwedig o ran
gwaith ymgysylltu. Nododd Manon fod y Bwrdd Gweithredol wedi cynnal sesiynau
cynllunio'r Chweched Cynulliad a oedd yn edrych ar amrywiol senarios posibl a'u
goblygiadau. At hynny, roedd staff y Comisiwn wedi cael gwahoddiad i gymryd
rhan mewn nifer o sesiynau staff yn edrych ar sut y gallai fod angen i'r
sefydliad ymateb i'r gwahanol senarios hynny pe byddent yn cael eu gwireddu.
10.6 Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnal trafodaethau
pellach ynghylch rôl y Pwyllgor wrth fonitro'r risgiau cyfansoddiadol hyn mewn
sesiwn edrych i’r dyfodol.
Cam gweithredu:(10.5) Rhannu canlyniadau trafodaethau ar y strategaeth ar gyfer
y Chweched Cynulliad.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
- Cyfyngedig 72
- Cyfyngedig 73
Cofnodion:
ACARAC (03-19) Papur 10 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC (03-19) Papur 10 - Atodiad A - Crynodeb o'r Gofrestr Risgiau
Corfforaethol
ACARAC (03-19) Papur 10 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd
9.1
Cyflwynodd Gareth Watts y papur sy'n
amlinellu'r hyn sy'n digwydd ar Gofrestr Risgiau Corfforaethol y Comisiwn a
gofynnodd am sylwadau aelodau'r Pwyllgor.
9.2
Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am eglurhad
ynghylch y camau sy'n cael eu cymryd i liniaru'r risgiau o ran cydymffurfio â
materion GDPR a Swyddog Diogelu Data. Eglurodd Gareth fod y trefniant presennol
ar gyfer swyddfa'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ddod i ben yn fuan, ond
bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau adnoddau pellach. Amlinellodd hefyd y
cynnydd o ran lliniaru yn sgil lansio cyfres o fideos codi ymwybyddiaeth a
gynhyrchwyd ar gyfer staff y Comisiwn.
9.3
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y risgiau diogelu
mewn perthynas â'r Senedd Ieuenctid yn cael eu lliniaru'n llwyddiannus, ond bod
y risgiau ehangach ynghylch diogelu ar draws gwasanaethau'r Comisiwn yn cael eu
hasesu.
9.4
Cafwyd trafodaeth am gapasiti ac adnoddau i
gyflawni amcanion y Comisiwn heb gynyddu'r cyllidebau staffio. Nodwyd y byddai'r
risgiau yn ymwneud â chapasiti yn parhau i gael eu monitro'n agos.
9.5
O ran y risgiau sy'n gysylltiedig â phwysau ar
swyddfeydd, eglurodd Dave fod capasiti wedi bod yn broblem hanesyddol, ond gan
nad oedd cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad yn debygol o ddigwydd yn ystod y
pumed na'r chweched Cynulliad, mae'r pwysau uniongyrchol i gynyddu'r capasiti o
ran swyddfeydd wedi lleihau. Sicrhaodd y Pwyllgor y byddai'r risg yn parhau i
gael ei monitro'n ofalus.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 76
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 12 - Risgiau Corfforaethol Brexit
9.1
Croesawodd y Cadeirydd Kathryn Potter a Carys Evans i'r cyfarfod. Roedd y
Pwyllgor yn sylweddoli bod yr ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn parhau ond roedd
yn croesawu'r wybodaeth a gyflwynwyd.
9.2
Ymatebodd Kathryn, Carys a Siwan i’r cwestiynau a gododd y Pwyllgor a oedd
yn canolbwyntio ar sut roedd y gwaith yn cael ei ariannu, y goblygiadau i
Reolau Sefydlog y Cynulliad a rôl y pwyllgorau craffu.
9.3
Roedd y Pwyllgor wedi'i galonogi gan y modd roedd y Comisiwn yn rheoli'r
maes cymhleth hwn ac yn defnyddio adnoddau o feysydd gwasanaeth eraill. Roeddent hefyd yn croesawu'r defnydd o
academyddion a'r wybodaeth yr oedd y staff yn ei chael gan yr arbenigwyr hyn.
9.4
Rhoddodd Gareth Watts a Dave Tosh drosolwg o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i
ystyried effaith gorfforaethol Brexit hefyd.
Aethant ati i grynhoi'r meysydd allweddol yn ymwneud â chaffael a
chadwyni cyflenwi, Adnoddau Dynol a TGCh gan amlinellu'r gwaith a wnaed hyd
yma.
9.5
Cytunodd y
Pwyllgor i drafod risgiau Brexit eto fel eitem o bwys mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
Actions
– (9.2) Siwan i ychwanegu’r manylion
diweddaraf ynghylch capasiti ac adnoddau at risg gorfforaethol Brexit wedi i
Gomisiwn y Cynulliad eu trafod.
–
(9.4) Y tîm clercio
i ychwanegu Brexit at y flaenraglen waith fel eitem o bwys i'w thrafod pan fo'n
briodol.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Adroddiad ar risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
- Cyfyngedig 81
- Cyfyngedig 82
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 11 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC (02-19) Papur 11 - Atodiad A - Crynodeb o'r
Gofrestr Risgiau Corfforaethol
ACARAC (02-19) Papur 11 - Atodiad A –Risgiau
Corfforaethol wedi’u plotio
8.1
Nododd y Pwyllgor y newidiadau yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol. Roeddent yn falch o'r cynnydd a wnaed o ran y
Senedd Ieuenctid ond cytunodd â Dave fod yr elfen diogelu a chydymffurfio â
GDPR yn risgiau tymor hir y byddai angen eu monitro'n rheolaidd.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 85
- Cyfyngedig 86
- Cyfyngedig 87
Cofnodion:
ACARAC
(01-19) Papur 9 – Risg Gorfforaethol
ACARAC
(01-19) Papur 9 – Atodiad A – Cofrestr Risgiau Corfforaethol Cryno
ACARAC (01-19) Papur 9 – Atodiad B – Risgiau
Corfforaethol Cryno wedi'u plotio
7.1
Nododd y Pwyllgor
newidiadau i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn dilyn adolygiad y Bwrdd
Gweithredol ym mis Ionawr. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, nododd y
Pwyllgor y manylion canlynol.
7.2
Roedd Llywodraeth
Cymru wedi drafftio achos busnes i fynd i'r afael ag anghenion adeiladau yn y
dyfodol a oedd yn cael ei ystyried gan Weinidogion. Mae pwysau tymor byr ar
ofod yn parhau i fod yn risg gan nad yw'n debygol o gael ei ddatrys cyn 2024.
Dywedodd Dave hefyd fod trafodaethau'n parhau gyda pherchnogion newydd Tŷ
Hywel ynghylch y brydles.
7.3
Roedd y risg o ran
amddiffyn plant ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru yn lleihau wrth i reolaethau
lliniaru, yn seiliedig ar gyngor allanol, bellach fod ar waith. Cytunodd Craig
i ystyried sylw ynghylch anallu i wneud cyswllt uniongyrchol ag aelodau'r
Senedd Ieuenctid. Roedd risgiau eraill mewn perthynas â'r Senedd Ieuenctid sy'n
cael eu hystyried yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â chymryd camau gweithredu yn
sgil trafodion.
7.4
Gellid priodoli
cyfraddau trosiant yn rhannol oherwydd ymgyrchoedd recriwtio yn Llywodraeth
Cymru a oedd yn darparu parhad ynghylch telerau ac amodau a phensiynau i staff.
Er nad oedd y ffigurau trosiant yn destun pryder eto, nodwyd bod hyn wedi
arwain at golli sgiliau.
7.5
O ran Brexit,
nodwyd bod y galw ar adnoddau cyfreithiol yn her i'r Cynulliad a Llywodraeth
Cymru.
7.6
Roedd y
strategaethau ar gyfer ymgysylltu â gwaith diwygio'r Cynulliad yn flaenoriaeth
allweddol ac roedd Pwyllgor Taliadau, Ymgysylltu a Gweithlu'r Comisiwn am
ystyried hyn.
7.7
Nododd y Pwyllgor
fod nifer y risgiau sylweddol yn rhannol oherwydd anallu i ddylanwadu'n
sylweddol neu reoli eu heffaith, a'u bod yn cael eu lliniaru gymaint â phosib
gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 90
Cofnodion:
ACARAC
(01-19) Papur 10 – Risg Urddas a Pharch
8.1
Croesawodd y Cadeirydd
Craig Stephenson i'r cyfarfod. Nododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed o ganlyniad
i adolygu'r trefniadau urddas a pharch, fel y'i cyflwynwyd yn y papur.
8.2
Dywedodd Craig y
cynhaliwyd ymarferiad siopwr cudd, a oedd yn un o'r argymhellion yn adroddiad
Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad. Roedd canlyniadau'r ymarfer hwn yn cael
eu defnyddio i lywio gwelliannau pellach, a bydd adroddiad ffurfiol ar
weithredu'r argymhellion a wnaed i Gomisiwn y Cynulliad yn cael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor Safonau Ymddygiad ym mis Ebrill. Bydd adroddiadau pellach ynglŷn
â gweithdrefnau cwyno a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a
gyhoeddir yn yr haf, yn cael eu hystyried hefyd. Byddai'r Arolwg Urddas a
Pharch yn cael ei ailadrodd bob blwyddyn hefyd.
8.3
Eglurodd Craig hefyd
y byddai hyperlincs i weithdrefnau pleidiau gwleidyddol ond yn cael eu cynnwys
ar ôl iddynt gael eu hadolygu gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
8.4
Gofynnodd y
Pwyllgor a oedd unrhyw wersi wedi bod ar gael i'r Cynulliad yn sgil cwymp
ymchwiliad Senedd yr Alban a sut y byddem yn mesur a oedd digon yn cael ei
wneud ar y cyd i fynd i'r afael â'r materion. Disgrifiodd Craig sut roedd y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill wrth adolygu
gweithdrefnau cwyno. Ychwanegodd Manon fod urddas a pharch hefyd wedi cael eu
trafod yn fanwl mewn cyfarfod pedairochrog diweddar o Siaradwyr a Chlercod
Seneddau'r DU. Byddai adolygiadau ac arolygon rheolaidd yn cael eu cynnal i
sicrhau bod canlyniadau'r adolygiadau wedi'u hymgorffori yng nghyd-destun diwylliant
y sefydliad a byddai negeseuon yn cael eu hatgyfnerthu drwy lwybrau dysgu,
hyfforddiant arweinyddiaeth a dosbarthu negeseuon yn rheolaidd.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Rheoli Materion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 93
Cofnodion:
ACARAC (01-19) Papur 8 – Rheoli
Materion
6.1
Mewn ymateb i
gwestiynau gan y Cadeirydd, dywedodd Dave y byddai'r System Rheoli Risg yn
barod i gasglu materion erbyn diwedd mis Ebrill a bod y daenlen materion
corfforaethol, fel y'i cyflwynwyd yn y papur, i'w phoblogi yn y cyfamser.
Eglurodd hefyd, er ei fod yn hyderus o ran codi statws materion ar lefel
gwasanaeth a phrosiect, byddai'r gwaith hwn yn cyflwyno cysondeb ac yn hwyluso
adrodd mwy amser. Gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
Camau i'w cymryd
– (6.1) Elfen materion y System Rheoli Risg i'w datblygu erbyn diwedd mis
Ebrill.
–
(6.1) Tîm clercio i
ychwanegu adrodd ar faterion i'r flaenraglen waith ar gyfer cyfarfod yn y
dyfodol.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd
Cofnodion:
Diweddariad
llafar ar risgiau rhyng-gysylltiedig o ran diwygio'r Cynulliad
12.1
Croesawodd y
Cadeirydd Anna Daniel a Matthew Richards i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor ar y gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o raglen ddiwygio'r
Cynulliad. Roedd eu ffocws wedi bod ar
ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynllunio senario ar gyfer Aelodau ychwanegol o'r
Cynulliad. Dywedodd Anna fod eu dull o
weithio yn hyblyg er mwyn sicrhau y gallent ymateb i ddigwyddiadau
annisgwyl.
12.2
Er ei fod yn
croesawu'r ymgynghoriad cyhoeddus cysylltiedig, nododd y Pwyllgor fod cyfradd
ymateb gymharol isel o 1830, ac y byddai angen craffu'n barhaus ar hyn. Gwnaethant ddiolch i Anna a Matthew am y
diweddariad cynhwysfawr, a byddent yn croesawu diweddariadau pellach yn y
dyfodol.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 98
- Cyfyngedig 99
- Cyfyngedig 100
Cofnodion:
ACARAC
(05-18) Papur 11 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC
(05-18) Papur 11 - Atodiad A - Crynodeb o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol
ACARAC
(05-18) Papur 11 - Atodiad B - Crynodeb o'r Risgiau Corfforaethol a nodwyd
11.1
Amlygodd Dave
newidiadau i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn dilyn adolygiad y Bwrdd
Gweithredol ym mis Hydref. Yn ddiweddar,
roedd risg diogelu'r Senedd Ieuenctid wedi cael ei chynnig fel risg
gorfforaethol, ac roedd tîm y prosiect wedi ymgysylltu â'r NSPCC i gael
sicrwydd allanol ynglŷn â'r llawlyfr ymgynefino drafft.
11.2
Cafwyd oedi wrth
sicrhau cliriadau staff gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ond roedd y
prosiect bellach yn canolbwyntio ar geisiadau ar sail blaenoriaeth, a byddai
gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr holl staff sy'n
gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc yn cael eu cynnal ym mis Rhagfyr a
Ionawr. Roedd y Cynulliad wedi derbyn y byddai pwysigrwydd y risg hon yn
parhau'n ddigyfnewid oherwydd natur y gwaith cysylltiedig.
11.3
Roedd y risg i
Urddas a Pharch blaenorol wedi cael ei disodli gan risg newydd a oedd yn
canolbwyntio ar y posibilrwydd o golli hyder yn y drefn Urddas a Pharch, ac mae
cyfres o gamau gweithredu ar y gweill i wella ac ymgorffori'r diwylliant Urddas
a Pharch a ddymunir. Diolchodd y
Pwyllgor i Dave a Manon am y diweddariad hwn a gofynwyd i'r risg Urddas a
Pharch newydd hon (CAMS-R-95) gael ei harchwilio'n feirniadol ym mis Chwefror.
Camau i’w
cymryd
– Bydd y tîm clercio yn trefnu archwiliad
beirniadol o'r risg i Urddas a Pharch yn ystod cyfarfod mis Chwefror.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd
Cofnodion:
Diweddariad llafar ar
CAMS32 (polisïau a gweithdrefnau Urddas a Pharch)
9.1
Rhoddodd
Craig y wybodaeth ddiweddaraf am reoli risgiau o ran polisïau a gweithdrefnau
Urddas a Pharch y Comisiwn a'r Cynulliad. Roedd disgwyl i adroddiad yn
seiliedig ar Arolwg Urddas a Pharch dienw gael ei gyhoeddi ar 19 Mehefin ac
roedd disgwyl iddo gael peth sylw yn y cyfryngau.
9.2
Nid
oedd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi darparu ei argymhellion eto ar
ymchwiliad i bolisïau a gweithdrefnau pleidiau gwleidyddol, a fyddai'n helpu i
lywio'r polisi yn y dyfodol. Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn parhau i ddiweddaru'r
Pwyllgor lle y bo'n briodol.
9.3
Daeth
y Pwyllgor i'r casgliad eu bod yn credu bod y Comisiwn wedi ymateb yn onest, yn
gadarnhaol ac yn brydlon i'r materion a godwyd, ac yn cydnabod pwysigrwydd y
gwaith ar y gweill i ddangos ei ymrwymiad i ddarparu diwylliant agored a
chynhwysol sy'n rhydd o fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 105
- Cyfyngedig 106
- Cyfyngedig 107
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Papur 10 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC (03-18) Papur 10 - Atodiad A
- Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC (03-18) Papur 10 - Atodiad B
- Risgiau Corfforaethol a nodwyd
8.1
Cyflwynodd Dave yr eitem hon fel diweddariad dros dro yn amodol ar
adolygiad llawn o risgiau corfforaethol gan y Bwrdd Gweithredol ym mis
Gorffennaf.
8.2
Roedd Nia yn gobeithio cael gwared ar FS3 (pwysau ariannol cynyddol yn
sgil ansicrwydd ynghylch adnoddau digonol yn y dyfodol) erbyn mis Gorffennaf
ond roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda'r Pwyllgor Cyllid a'r Comisiwn
ynghylch cyllido yn y dyfodol yn sgil newidiadau wrth drin tanwariant
Penderfyniad y Bwrdd Taliadau.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiad risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 110
- Cyfyngedig 111
- Cyfyngedig 112
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 6 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC (02-18) Papur 6 - Atodiad A – Adroddiad ar grynodeb o risgiau
corfforaethol
ACARAC (02-18) Papur 6 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd
8.1
Dywedodd Dave wrth y Pwyllgor mai cyfrifoldeb
y Bwrdd Gweithredol yw adolygu Cofrestr Risg Corfforaethol y Comisiwn ac mai'r
Cyfarwyddwyr sydd bellach yn berchen ar risgiau corfforaethol unigol. Byddai'r
Cyfarwyddwyr yn comisiynu a herio adroddiadau risg chwarterol gan eu
Penaethiaid Gwasanaeth, a fyddai'n bwydo i mewn i drafodaethau yng
nghyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol.
8.2
Nododd y Pwyllgor y newidiadau a'r symudiadau
a amlygwyd yn y papur a thrafododd sgoriau y Risgiau Cofforaethol a pha mor
ddigonol yw'r rheolaethau. O ran y risg Adolygiad Capasiti, byddai data mwy
meintiol, gan gynnwys meincnodi â deddfwrfeydd eraill, yn cael eu casglu i
lywio penderfyniadau gan y Grŵp Llywio yng ngham dau yr adolygiad.
8.3
Tynnodd y Pwyllgor sylw at y nifer o risgiau
'coch', yn enwedig o gymharu â'r llynedd, ond derbyniodd fod yn hyn yn briodol
o ystyried effaith, a'r rheolaeth gyfyngedig sydd gan y Comisiwn dros risgiau
gan gynnwys GDPR i Aelodau’r Cynulliad a Brexit. Cadarnhaodd Dave fod y risgiau
yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a bod y sesiynau cynllunio senario ar Brexit a
Diwygio'r Cynulliad wedi helpu i sicrhau bod y Comisiwn yn wybodus ac wedi
paratoi gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 115
- Cyfyngedig 116
- Cyfyngedig 117
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi’i nodi neu risg newydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 120
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi’i nodi neu risg newydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 123
- Cyfyngedig 124
Cofnodion:
12.0 Gweler uchod.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Adroddiad risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 127
- Cyfyngedig 128
- Cyfyngedig 129
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 14 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC (05-17) Papur 14 - Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau
Corfforaethol
ACARAC (05-17) Papur 14 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd
Eitem 12 - Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi’i nodi neu risg
newydd
ACARAC (05-17) Papur 15 - Rheoli Risgiau Corfforaethol Rhyng-gysylltiedig y
Comisiwn
ACARAC (05-17) Papur 15 - Atodiad A - risgiau rhyng-gysylltiedig a lleddfu
cyffredin
11.1
Croesawodd
y Pwyllgor Anna Daniel, a fu’n ymwneud â drafftio’r papur ar y risgiau
rhyng-gysylltiedig.
11.2
Nododd
y Pwyllgor statws cyfredol risgiau a dadansoddiad corfforaethol y Comisiwn o
sut yr oedd effaith gyfunol y risgiau rhyng-gysylltiedig yn cael eu rheoli.
Disgrifiodd Dave sut roedd y gwaith Adolygu Capasiti yn gyrru ffocws y risgiau
rhyng-gysylltiedig. Eglurodd hefyd, er gwaethaf cryfder y rheolaethau sydd ar
waith, fod y graddau o effaith o ran y rhan fwyaf o’r risgiau’n parhau’n uchel
ac roedd nifer o ddigwyddiadau y tu hwnt i reolaeth y Comisiwn, er enghraifft
diwygio’r Cynulliad a gadael yr Undeb Ewropeaidd.
11.3
Disgrifiodd
Anna y gwaith cynllunio senario o ran gadael yr UE a’r hyfforddiant a drefnwyd
ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u Staff Cymorth cyn i’r pwerau newydd o dan
Ddeddf Cymru ddod i rym ym mis Ebrill 2018.
11.4
Croesawodd
y Cadeirydd y lefel ddadansoddi hon nad oedd wedi’i gweld yn aml mewn mannau
eraill, ac roedd yn gwerthfawrogi cymhlethdod y tirlun risg a’r rheolaeth
gyfyngedig oedd gan y sefydliad mewn rhai meysydd.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Archwiliad beirniadol o risg a nodwyd neu risg sy'n dod i'r amlwg – Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 132
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 15 – Risg o ran y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol
14.1
Croesawodd y Pwyllgor
Alison Bond i'r cyfarfod a dweud wrthi fod y cynllun gweithredu manwl yn dangos
bod paratoadau'r Comisiwn yn fwy datblygedig na sefydliadau eraill.
14.2
Rhoddodd Alison wybod
i'r Pwyllgor am ei chamau gweithredu lefel uchel byrdymor a hirdymor, gan
esbonio sut y mae'r rhain yn lliniaru'r risg o beidio â bod mor barod â phosibl
ar gyfer y Rheoliad newydd cyn gweld y canllawiau y bwriadwyd iddynt gael eu
cyhoeddi gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn yr hydref. Eglurodd hefyd sut y byddai'r gweithgor yn
nodi risgiau a materion pellach, ac yn profi prosesau newydd cyn i'r Rheoliad
ddod i rym ym mis Mai 2018.
14.3
Er bod yr adroddiad
archwilio ymgynghorol yn gadarnhaol, gofynnodd Alison i aelodau'r Pwyllgor
ystyried a rhannu manylion am unrhyw gysylltiadau o sefydliadau eraill y gallai
ymgysylltu â nhw.
Cam i’w gymryd
-
Aelodau ACARAC i roi gwybod am eu cysylltiadau
perthnasol o ran y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol i'r Rheolwr Llywodraethu
Gwybodaeth.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 135
- Cyfyngedig 136
- Cyfyngedig 137
- Cyfyngedig 138
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 14 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC (03-17) Papur 14 – Atodiad A – Adroddiad Cryno ar Risgiau
Corfforaethol
ACARAC (03-17) Papur 14 – Atodiad B – Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol a
nodwyd
13.1 Rhoddodd Dave wybod i'r Pwyllgor bod y Bwrdd Rheoli wedi adolygu'r gofrestr
ar 25 Mai, a bod perchnogion risg wedi adolygu eu risgiau eto cyn i'r papur hwn
gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor. Gofynnwyd
i'r Pwyllgor nodi'r newidiadau i'r gofrestr.
13.2 Dywedodd Dave fod trafodaethau'n parhau rhwng yr aelodau perthnasol o'r
Bwrdd Rheoli i sicrhau dull cydlynol a strategol o ymdrin ag effaith gronnol
risgiau cyfansoddiadol a risgiau corfforaethol eraill. Roedd y dull i'w weld yn fuddiol a byddai'r
ymatebion i'r risgiau yn cael eu trafod ymhellach ar ddiwrnod cwrdd i ffwrdd
nesaf y Bwrdd Rheoli. Croesawodd y
Pwyllgor y ffordd y nodwyd risgiau rhyng-gysylltiedig yn Atodiad C o'r
papur.
13.3 Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am gyflwyno manylion am eu hadolygiad
ac am ddiweddaru'r gofrestr risgiau corfforaethol a nododd pa mor ddifrifol
oedd y risgiau o ran seibr ddiogelwch a gadael yr UE. Gwnaeth hefyd argymell y dylid golygu'r
disgrifiad o'r risg o ran seibr ddiogelwch.
Cam i’w gymryd
-
Dave i ystyried golygu'r
disgrifiad o'r risg o ran seibr ddiogelwch (ICT16).
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd - newid cyfansoddiadol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 141
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 15 – Risgiau’n ymwneud â Newid Cyfansoddiadol
15.1
Roedd Anna ac Adrian yn bresennol ar gyfer yr
eitem hon. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y heriau o ran canfyddiad y
cyhoedd o newidiadau corfforaethol a chyfansoddiadol.
15.2
Croesawodd aelodau'r Pwyllgor yr eglurhad
clir o faes mor gymhleth, y dadansoddiad o'r risgiau unigol a'r trafodaethau
parhaus ynghylch y cyd-ddibyniaeth ac effaith gyfunol y rhain.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Trafod yr Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 144
- Cyfyngedig 145
- Cyfyngedig 146
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 14 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC
(02-17) Papur 14 - Atodiad A – Adroddiad ar grynodeb o risgiau corfforaethol
ACARAC
(02-17) Papur 14 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd
14.1
Mae Cofrestr Risgiau Corfforaethol y Comisiwn
wedi'i hadolygu'n drylwyr gan y Bwrdd Rheoli mewn cyfarfodydd ym mis Chwefror a
mis Mawrth, sydd wedi arwain at nifer o risgiau newydd yn cael eu hychwanegu.
Cymeradwyodd y Cadeirydd y diwydrwydd dyladwy i nodi, casglu a monitro'r
risgiau mwyaf sylweddol sy'n wynebu'r Comisiwn.
14.2
Roedd trafodaethau ynghylch yr agenda newid
ehangach, gan gynnwys cyfathrebu ac ymgysylltu mewn perthynas â phob un o'r
newidiadau corfforaethol (diwygio etholiadol a chyfansoddiadol, ymgysylltiad
ehangach a gadael yr Undeb Ewropeaidd) yn mynd rhagddynt rhwng aelodau
perthnasol o'r Bwrdd Rheoli i sicrhau dull strategol a chydgysylltiedig.
Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd - Cynigion i ymchwilio i adeilad ychwanegol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 149
Cofnodion:
ACARAC (01-17) Papur 11 - Adeilad Ychwanegol
8.1 Nododd y Pwyllgor y newidiadau a oedd i'w gwneud i'r Gofrestr Risgiau
Corfforaethol yn sgil adolygiad llawn diweddaraf y Bwrdd Rheoli ar 2
Chwefror. Byddai cofrestr ddiwygiedig yn
cael ei chyflwyno i'r Bwrdd Rheoli yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2, a byddai
newidiadau eraill yn cael eu hystyried hefyd.
8.2 Arweiniodd Dave drafodaeth ar y gwaith sy’n mynd rhagddo i asesu a oedd
angen rhagor o le ar y Cynulliad yn awr ac yn y dyfodol, gan ystyried yr
amserlenni, a'r ymgynghorwyr arbenigol sydd wedi bod yn ymwneud â'r gwahanol
opsiynau sy'n cael eu trafod.
8.3 Anogodd y Pwyllgor y swyddogion i gofnodi’r camau a gymerwyd i benderfynu
ar y lle ychwanegol roedd ei angen, gan gynnwys tystiolaeth berthnasol, a’r
opsiynau posibl ar gyfer y dyfodol, er mwyn tawelu ofnau rhanddeiliaid.
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Polisi Rheoli Risg Diwygiedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 152
- Cyfyngedig 153
- Cyfyngedig 154
Cofnodion:
16.0
Polisi
Rheoli Risg Diwygiedig
ACARAC
(05-16) Papur 20 - Dogfennau Rheoli Risg - Papur Eglurhaol
ACARAC
(05-16) Papur 20 - Rhan 1 Polisi Rheoli Risg
ACARAC
(05-16) Papur 20 - Rhan 2 Proses Rheoli Risg
16.1
Roedd y
Pwyllgor yn fodlon ar y dogfennau cynhwysfawr ar gyfer y Polisi Rheoli Risg a
Phroses a bod y trefniadau ar gyfer risgiau a materion yn cael eu cynnwys mewn
un ddogfen. Awgrymodd y Pwyllgor fod y templedi a oedd wedi'u cynnwys fel
atodiadau yn cael eu llenwi gydag enghreifftiau.
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd - risgiau sy'n dod i'r amlwg ac sy'n gysylltiedig â strategaeth newydd y Comisiwn
Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 159
- Cyfyngedig 160
- Cyfyngedig 161
Cofnodion:
9.0
Eitem 9 –
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC
(05-16) Papur 13 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC
(05-16) Papur 13 - Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC
(05-16) Papur 13 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd
9.1
Roedd y
Pwyllgor yn credu bod y gwaith o reoli risgiau yn y sefydliad yn gryf. Mewn
ymateb i sylwadau am y diffyg ymateb o ran y lefel o risg, esboniodd Dave fod y
risgiau yn cael eu monitro'n barhaus ac y byddai'r Bwrdd Rheoli yn adolygu'r
gofrestr risg gorfforaethol yn llawn ym mis Rhagfyr.
9.2
Ymatebodd
y swyddogion fel a ganlyn i nifer o gwestiynau penodol gan aelodau'r Pwyllgor:
·
Rhoddodd
Dave sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai rheolau caeth ar waith o ran mynediad y
contractwyr sy'n gweithio ar y gwaith o adnewyddu'r llawr gwaelod.
·
Cadarnhaodd
Dave a Adrian Crompton fod y risg o ran capasiti corfforaethol yn cael ei
hadolygu'n rheolaidd gan y Bwrdd Rheoli.
·
Rhoddodd
Adrian sicrwydd ynghylch y paratoadau sy'n cael eu gwneud i liniaru'r risgiau
cysylltiedig â gadael yr UE, cyn belled ag y bo modd ar hyn o bryd. Camau
ymarferol gan gynnwys ailstrwythuro cefnogaeth i bwyllgorau'r Cynulliad i
ddarparu ar gyfer y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol newydd
a sefydlu Grŵp Newid Cyfansoddiadol, sy'n cynnwys uwch-swyddogion a oedd
yn cwrdd bob mis. Byddai'r risg yn cael ei monitro'n barhaus er mwyn rhoi sylw
i ddatblygiadau.
9.3
Cymeradwyodd
y Pwyllgor y dull o ddogfennu risgiau o'r fath er mwyn rhoi eglurder a
thryloywder o ran eu rheolaeth.
Cyfarfod: 13/06/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd – gallu o ran gwasanaeth dwyieithog
Cofnodion:
ACARAC (03-16) Papur 9 –
Gallu Corfforaethol o ran Dwyieithrwydd
10.1 Cyflwynodd Craig
Stephenson ei bapur a oedd yn gwahodd y Pwyllgor i roi ei farn ar reoli risg o
ran gallu corfforaethol o ran dwyieithrwydd.
10.2 Disgrifiodd Craig y
datblygiadau yn sgîl cyfieithu peirianyddol a’r ymrwymiad parhaus gan Microsoft
i gynyddu’r eirfa cyfieithu yn barhaus. Roedd cysylltiadau da a sefydlwyd gyda chyrff
eraill yn y sector cyhoeddus yn golygu eu bod hwythau hefyd yn bwydo testun i
mewn i’r system, a fyddai’n cynyddu cywirdeb y cyfieithiadau, ac felly’n
cynyddu hyder pobl ymhellach wrth ddefnyddio’r cyfleuster.
10.3 Disgrifiodd hefyd y
gwelliannau a roddwyd ar waith ers lansio’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn
2013, fel darparu papurau briffio dwyieithog i Bwyllgorau’r Cynulliad a’r dull
hyblyg a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth
Cyfieithu a Chofnodi aml-sgiliau. Cafwyd adborth cadarnhaol hefyd ar y defnydd
o dimau clercio integredig.
10.4 Byddai adborth gan yr
Aelodau a chanlyniadau’r ymarfer dewis iaith sydd ar y gweill yn llywio’r
gwaith o gynllunio ymhellach, ac yn rhoi gwybod am y gallu sydd ei angen i
ddarparu gwasanaethau pwrpasol i bawb yn eu hiaith o ddewis.
10.5 Diolchodd y Pwyllgor i
Craig am y drafodaeth addysgiadol a dymunodd yn dda iddo ar gyfer bwrw ymlaen
â’r gwaith.
Cyfarfod: 13/06/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad risgiau corfforaethol
Cofnodion:
ACARAC (03-16) Papur 8 -
Risgiau Corfforaethol
ACARAC (03-16) Papur 8 -
Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC (03-16) Papur 8 -
Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd
9.1
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a’r adolygiad arfaethedig o risgiau a
oedd wedi’i gynllunio ar gyfer y Bwrdd Rheoli ym mis Gorffennaf, a fyddai’n
ystyried blaenoriaethau ac amcanion Comisiwn newydd y Cynulliad.
9.2
Amlinellodd Claire gwmpas a graddfa amlygiad presennol y Comisiwn i
risgiau. Pwysleisiodd yr ymdrech a wnaed i reoli’r risgiau, er mwyn cynnal
safonau ac ansawdd mor uchel ar gyfer darparu gwasanaeth. Cytunodd y Pwyllgor fod hwn yn arbennig o
bwysig ar ddechrau Cynulliad newydd, o ran adeiladu a chynnal hygrededd ac
ymddiriedaeth y Llywydd, y Comisiynwyr ac Aelodau’r Cynulliad.
Camau i’w cymryd
-
Kathryn Hughes i sicrhau bod risgiau mewn cysylltiad â sefydlu system
Cyllid newydd ochr yn ochr â recriwtio Cyfarwyddwr Cyllid newydd yn cael eu
monitro’n ddigonol.
-
Dave Tosh i ddarparu manylion i’r Pwyllgor ar yr opsiwn a gymeradwywyd a’r
amserlen ar gyfer y prosiect CCTV.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Archwiliad beirniadol o risg unigol a nodwyd - rheoli ariannol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 168
- Cyfyngedig 169
Cofnodion:
ACARAC (32) Papur 18 -
Risg Rheoli Ariannol
ACARAC (32) Papur 18 -
Atodiad A - ROAP ar gyfer Risg Rheoli Ariannol
17.1 Cyflwynodd Dave yr
archwiliad o'r risg rheoli ariannol. Roedd
hwn yn gyfnod tyngedfennol i'r sefydliad, wrth i'r cyfrifon blynyddol gael eu
cwblhau, wrth i strategaeth y gyllideb gael ei chyflwyno i'r Comisiwn newydd,
a'r prosiect i newid y system gyllid, ond cafodd y Pwyllgor sicrwydd ganddo fod
tîm medrus a chymorth cadarn ar waith.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Adroddiad risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 172
- Cyfyngedig 173
- Cyfyngedig 174
Cofnodion:
ACARAC (32) Papur 17 -
Risgiau Corfforaethol
ACARAC (32) Papur 17 -
Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC (32) Papur 17 -
Atodiad B - Risgiau Corfforaethol sydd wedi eu nodi
16.1 Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a nododd ddwy
risg newydd a ychwanegwyd ers y cyfarfod ym mis Chwefror. Hefyd, gwnaeth y Cadeirydd sylw am
aeddfedrwydd y broses adolygu ar gyfer y Gofrestr Risg Gorfforaethol, gyda
difrifoldeb risgiau yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a risgiau yn cael eu
hychwanegu neu eu dileu fel y bo'n briodol.
16.2 Cytunodd y swyddogion ag awgrym y Pwyllgor fod
effaith gyfunol y newidiadau sydd ar fin digwydd ar lefel uwch yn sylweddol o
bosibl. Y flwyddyn nesaf, bydd y Prif Weithredwr a Chlerc y Comisiwn yn gadael,
bydd Ysgrifennydd Parhaol newydd, Llywydd newydd a Chomisiynwyr newydd yn cael
eu penodi, ac mae posibiliad y gwelir newidiadau lefel uchel eraill. Cytunwyd y byddai'r Rheolwr Risg yn adolygu a
ddylid ychwanegu risg briodol at Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn.
16.3 Cytunwyd hefyd i asesu'r
risg o weithredu system gyllid newydd tra bo Cyfarwyddwr Cyllid newydd yn cael
ei recriwtio.
16.4 Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau'r Pwyllgor fod
difrifoldeb risg yn ddigyfnewid i raddau helaeth, esboniodd Kathryn y gallai
effaith neu debygolrwydd y risgiau fod wedi newid ond nid sgôr difrifoldeb y
risg yn gyffredinol. Mae'n fwriad ganddi
ychwanegu'r rhain at adroddiadau yn y dyfodol.
Camau gweithredu
-
Kathryn Hughes i hwyluso'r broses o drafod a oedd angen risg gorfforaethol
newydd i adlewyrchu effaith bosibl newidiadau sylweddol ar lefel uwch.
-
Kathryn Hughes a Nia Morgan i ailedrych ar y risgiau cyfunol ynghlwm wrth
weithredu system gyllid newydd tra bo Cyfarwyddwr Cyllid newydd yn cael ei
recriwtio.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 177
- Cyfyngedig 178
- Cyfyngedig 179
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 15 - Adroddiad ar Risgiau
Corfforaethol
ACARAC (30) Papur 16 - Atodiad A – Crynodeb o
Risgiau Corfforaethol
ACARAC (30) Papur 17 - Atodiad B - Risgiau
Corfforaethol a nodwyd
13.1 Cyflwynodd Dave y papur risg nad oedd ynddo
newidiadau mawr i adrodd yn eu cylch.
Mewn cyfarfod ar 25 Ionawr cyflwynwyd y trefniadau ar gyfer trosglwyddo
i’r Pumed Cynulliad i’r Bwrdd Rheoli, lle mae risgiau a materion yn cael eu
rheoli drwy ffrydiau gwaith penodol.
13.2 Cytunodd Dave i ddiwygio geiriad y risg o ran
enw da mewn perthynas â chanfyddiadau staff y Comisiwn yn ystod y cyfnod trosglwyddo
i’r Pumed Cynulliad (cyf CAMS20).
13.3 Croesawodd y Pwyllgor ffordd aeddfed y
Comisiwn o adolygu’r gofrestr risgiau ac o gynnwys tabl sy’n dangos cyfeiriad y
daith, ond cwestiynodd broffil statig y risgiau.
13.4 Roedd Claire yn gwerthfawrogi’r sylwadau
ynghylch aeddfedrwydd y sefydliad wrth adolygu risgiau gwasanaeth a
chorfforaethol, ac ychwanegodd fod cynnal proffil statig yn cymryd llawer iawn
o ymdrech ar draws y sefydliad i sicrhau bod y rheolaethau mor effeithiol ag y
gallent fod. Caiff camau gweithredu a
rheolaethau lliniaru a oedd yn rhoi’r lefel angenrheidiol o sicrwydd i Claire,
y rheolwyr ac ACARAC, eu monitro’n rheolaidd.
Cam i’w gymryd
-
Ystyried
geiriad risgiau o ran enw da mewn perthynas â chanfyddiadau staff y Comisiwn yn
ystod y cyfnod trosglwyddo i’r Pumed Cynulliad (cyf CAMS20).
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 182
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 18 - Capasiti Corfforaethol
14.1 Cyflwynodd Dave yr archwiliad o’r risg ar
gapasiti corfforaethol. Mae’r Bwrdd
Rheoli yn adolygu’r broses gynllunio capasiti corfforaethol bob chwe mis a
byddai’r Adolygiad o Effeithlonrwydd Busnes yn cyfrannu at y gwaith hwn.
14.2 Roedd y Pwyllgor yn cwestiynu amcanion y
Cynllun Ymadael Gwirfoddol, a’r cynlluniau ar gyfer yr arian y gellid ei
arbed.
14.3 Cadarnhaodd Dave y byddai’r Pumed Cynulliad
yn cyflwyno heriau anhysbys ar gyfer y dyfodol.
Gallai pwerau newydd a chyfyngiadau cyllidebol posibl hefyd fynnu llawer
gan reolwyr, a dyna’r rheswm pam mae adolygiad o sgiliau, effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd cyfredol mor bwysig.
14.4
Roedd
Claire wedi mynd i gyfarfod â’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA) yn
San Steffan yn ddiweddar. Roedd yn amlwg
o’r trafodaethau fod Comisiwn y Cynulliad yn ddigon ffodus i gael perthynas
waith gref a chadarnhaol â’r Bwrdd Taliadau.
Byddai angen i waith pwyllgor o’r radd flaenaf tymor cyfredol y
Cynulliad ystyried y ffordd y byddai Aelodau’r Pumed Cynulliad yn dymuno
gweithio.
Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 185
Cofnodion:
ACARAC (30) Papur 14 –
Risgiau’n ymwneud â Newid Cyfansoddiadol
15.1 Cyflwynodd Anna Daniel
bapur i'r Pwyllgor ar y risgiau sy'n gysylltiedig â newid cyfansoddiadol. Roedd maint y Cynulliad yn y dyfodol yn
dibynnu ar y Bil Cymru drafft, ac roedd ei thîm yn cefnogi'r Llywydd wrth
ddatblygu cynigion amgen i'r drafft.
15.2 Ystyriodd Hugh Widdis
oblygiadau’r Cynulliad yn parhau â 60 o Aelodau Cynulliad am ddau dymor pellach
a gwnaeth y Pwyllgor argymhelliad y dylid paratoi cynlluniau i ddeall
goblygiadau hyn.
15.3 Canmolodd y Pwyllgor y
Tîm Trawsnewid Strategol am eu dadansoddiad trylwyr o’r risg hwn a daeth i'r
casgliad fod ymgysylltu â'r cyhoedd yn hollbwysig ac y dylai'r Cynulliad amlygu
ei werth i bobl Cymru. Yn ddelfrydol,
dylai camau lliniaru gynnwys cwmpas ehangach na newid cyfansoddiadol yn unig.
Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Adroddiad Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 188
- Cyfyngedig 189
- Cyfyngedig 190
Cofnodion:
ACARAC (30) Papur 13 -
Adroddiad Risgiau Corfforaethol
ACARAC (30) Papur 13 -
Atodiad A – Crynodeb o Risgiau Corfforaethol
ACARAC (30) Papur 13 -
Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd
14.1 Dywedodd y Cadeirydd ei
fod yn falch bod adolygiad trylwyr o risgiau wedi ei gynnal a chroesawodd yr
ychwanegiadau at y gofrestr gorfforaethol.
14.2 Holodd y Pwyllgor ble’r
oedd y risg Seiberddiogelwch yn fframwaith risg y Comisiwn. Tynnodd Dave sylw at reolaethau a oedd ar
waith i brofi ein lefelau bygythiad, a oedd yn cael eu hadolygu ddwywaith y
flwyddyn. Roedd hefyd yn cael
diweddariadau rheolaidd a rhybuddion bygythiad o gynlluniau adrodd y
Llywodraeth Genedlaethol.
14.3 Daeth y Pwyllgor i’r
casgliad fod y bygythiad posibl i wybodaeth gorfforaethol a phersonol ac i enw
da'r sefydliad yn cyfiawnhau i’r Bwrdd Rheoli ystyried y risg yn ymwneud â
Seiberddiogelwch eto.
14.4 Yn y dyfodol, byddai
tueddiadau risg yn cael eu hadlewyrchu ar y diagram risg corfforaethol.
Camau gweithredu
-
Y Bwrdd Rheoli i ailasesu risg Seiberddiogelwch.
-
Risgiau corfforaethol a nodwyd - sicrhau bod crynodeb o dueddiadau’n cael
ei gadw.
Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Ystyried yr adroddiadau archwilio allanol diweddaraf a'r camau a gymerwyd i roi'r argymhellion ar waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 193
Cofnodion:
ACARAC (30) Papur 7 -
Amlinelliad Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15-16 terfynol
6.1
Roedd y Pwyllgor yn falch o weld cynllun archwilio drafft 2015-16 yn ystod
y cyfnod cynharach hwn. Roedd Swyddfa
Archwilio Cymru wedi cydweithio'n agos â Nicola a Claire i greu'r cynllun.
6.2
Bu’r Pwyllgor yn trafod archwilio treuliau Aelodau'r Cynulliad a chostau
swyddfa. Cytunodd y swyddogion i
ddarparu rhagor o wybodaeth am hyn ynghyd â'r pwyntiau gwirio sydd eisoes ar
waith gan dîm Cymorth Busnes yr Aelodau.
Dywedodd Nicola fod archwiliadau o dreuliau Aelodau yn ychwanegol at y
gwaith arall y cytunwyd arno yn y cynllun, ac roedd yr archwiliadau hyn yn rhoi
sicrwydd ychwanegol a thryloywder.
Byddai'r archwiliadau penodol hyn yn parhau tan ddiwedd y Pedwerydd
Cynulliad.
6.3
Cadarnhaodd Ann-Marie y dylai'r ffi archwilio cyffredinol aros yn
ddigyfnewid, er nad oedd hyn wedi ei gytuno’n ffurfiol eto. Er mwyn osgoi’r oedi a brofodd Comisiwn y
Cynulliad y llynedd, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn bwriadu dechrau ar eu
gwaith archwilio wythnos yn gynharach.
6.4
Croesawodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf hon gan Swyddfa Archwilio
Cymru a chafodd ei galonogi gan y cydweithio rhwng y tîm Cyllid a'r Pennaeth
Archwilio Mewnol.
Camau gweithredu
-
Nicola i ddisgrifio'r pwyntiau gwirio sydd eisoes ar waith o ran Archwilio
treuliau Aelodau’r Cynulliad.
Cyfarfod: 08/06/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Archwiliad beirniadol o un o’r meysydd o ddiddordeb a nodwyd (Pontio rhwng y Pedwerydd a’r Pumed Cynulliad)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 196
- Cyfyngedig 197
Cofnodion:
ACARAC (28) Papur 11 -
Trosglwyddo i'r Pumed Cynulliad
ACARAC (28) Papur 11 -
Atodiadau 1-4
10.1 Esboniodd Sulafa Thomas y dull sy'n cael ei
fabwysiadu, sef trin cymaint o’r gwaith trosglwyddo â phosibl fel busnes fel
arfer, ond gan sicrhau gwelededd clir ar draws yr ystod lawn o waith. Roedd
ffrydiau gwaith wedi cael eu nodi ac roedd yr unigolion perthnasol yn gweithio
ar amcangyfrif y gofynion o ran adnoddau. Roedd y gwersi a ddysgwyd o'r broses
o drosglwyddo i'r Pedwerydd Cynulliad wedi cael eu hadolygu ac roedd Sulafa’n
croesawu’r cynnig o drafod profiadau yn ystod etholiadau blaenorol gyda Hugh
Widdis.
10.2 Roedd y Pwyllgor yn
fodlon ar y manylion a gyflwynwyd yn y papurau, a'r dibyniaethau a’r gwaith
rhyngweithio clir a restrwyd, ond yn sgil profiadau rheoli prosiect diweddar,
roedd angen diffinio'r prosiect (gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau) yn unol â
methodoleg safonol y Comisiwn.
Camau gweithredu
-
Diffinio rôl a chyfrifoldebau’r Prif Swyddog Cyfrifol ar gyfer Trosglwyddo
i’r Pumed Cynulliad.
Cyfarfod: 08/06/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad risgiau corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 200
- Cyfyngedig 201
- Cyfyngedig 202
Cofnodion:
ACARAC (28) Papur 10 -
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC (28) Papur 10 -
Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC (28) Papur 10 -
Atodiad B – Nodi Risgiau Corfforaethol
9.1
Rhoddodd Dave a Claire adborth
ar yr ymarfer parhad busnes diweddar a gynhaliwyd gan y timau ymateb strategol
a thactegol. Roedd y gwersi a ddysgwyd wrth ymarfer rhoi’r cynllun ymateb i
ddigwyddiad ar waith yn cael eu nodi. Yn y trafodaethau cychwynnol, nodwyd bod
angen profi'r cynllun ymhellach gan gynnwys Aelodau'r Cynulliad, y Comisiynwyr
a rhanddeiliaid allanol.
9.2
Roedd y Pwyllgor wedi’u calonogi o glywed y canlyniadau ac yn croesawu’r
cynlluniau i gynnwys Aelodau'r Cynulliad a Chomisiynwyr mewn ymarferion yn y
dyfodol. Pwysleisiodd aelodau'r Pwyllgor
pa mor bwysig oedd yr hyblygrwydd i alluogi swyddogion i addasu i amgylchiadau
a chyfyngiadau digwyddiadau penodol.
9.3
Ystyriodd y Pwyllgor Gofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn, gan nodi’r
newidiadau a holi am y nifer fach o risgiau sy'n weddill. Awgrymodd aelodau’r
Pwyllgor hefyd y dylid ystyried nodi risgiau a allai gael effaith fawr, fel
trosglwyddo i’r Pumed Cynulliad a newid cyfansoddiadol.
9.4
Rhoddodd Dave Tosh sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'r Bwrdd Rheoli yn cynnal
adolygiad llawn o’r risgiau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg cyn bo hir, gan
gynnwys risgiau statig.
Camau gweithredu
-
Ar ôl trafod yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli, cyflwynir cofrestr risg wedi'i
diweddaru yng nghyfarfod mis Tachwedd, a bydd y fersiwn honno’n ystyried y
meysydd a nodwyd gan y pwyllgor.
Cyfarfod: 20/04/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad cryno ar risgiau corfforaethol a Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 205
- Cyfyngedig 206
- Cyfyngedig 207
- Cyfyngedig 208
Cofnodion:
ACARAC (27)
Papur 12 - Adroddiad ar risgiau corfforaethol
ACARAC (27)
Papur 12 Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC (27)
Papur 12 Atodiad B - Risgiau Corfforaethol sydd wedi eu nodi
ACARAC (27)
Paper 13 – Newid cyfansoddiadol
9.1
Nid oedd unrhyw gynnydd mewn difrifoldeb risg. Croesawodd y Cadeirydd yr
adolygiad o risg strategol roedd y Bwrdd yn bwriadu ei gynnal.
9.2
Cyflwynodd Anna Daniel yr archwiliad manwl o newidiadau cyfansoddiadol.
Nododd fod cysylltiadau cynhyrchiol cryf ar waith gyda rhanddeiliaid.
9.3
Dywedodd David Melding fod gwaith o safon eithriadol o uchel yn cael ei
gyflawni ac roedd y papur a gyflwynwyd yn rhoi darlun clir o’r sefyllfa.
9.4
Holodd Hugh Widdis a oedd y risgiau a oedd ynghlwm wrth y model arfaethedig
ar gyfer y pwerau’n cael eu rheoli. Cadarnhaodd Anna fod ei thîm yn codi
ymwybyddiaeth o’r mater hwn ac yn gweithio’n agos gyda Chanolfan
Llywodraethiant Cymru. Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiad ym mis
Mai.
9.5
Cynigiodd aelodau’r Pwyllgor eu cefnogaeth gan awgrymu cyrff eraill a allai
gynnig her annibynnol ychwanegol ee Institute for Government, Swyddfa’r Cabinet
neu ddeddfwrfeydd eraill.
Camau i’w cymryd
-
Ymchwilio i’r modd y gellid cael her a chyngor annibynnol o ffynonellau
eraill gan gynnwys Institute for Government a deddfwrfeydd eraill.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 211
- Cyfyngedig 212
- Cyfyngedig 213
Cofnodion:
ACARAC
(26) Papur 14 - Adroddiad ar risgiau corfforaethol
ACARAC
(26) Papur 14 - Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
ACARAC
(26) Papur 14 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol sydd wedi eu nodi
12.1
Gofynnodd Eric i Dave ganolbwyntio ar feysydd penodol yn
ei ddiweddariad, sef y risg o ran fetio diogelwch, yr ymarfer Parhad Busnes, a
Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau.
12.2
Awgrymodd Angela y gallai swyddogion ystyried cynnwys dwy
risg ar lefel gorfforaethol:
a.
y posibiliad o niwed i enw da oherwydd penderfyniadau yn San Steffan
ynghylch newid cyfansoddiadol; a
b.
Risgiau diogelwch, gan gofio'r archwiliad o Fetio
Diogelwch a risgiau diogelwch ehangach o ystyried lefelau bygythiad uwch y DU.
12.3
Ymatebodd Dave fel a ganlyn:
i)
Risg sefydlog yw
diogelwch (h.y. mae sefydliadau'n ei hwynebu bob amser) a byddai'r Bwrdd Rheoli
yn cytuno ar y ffordd orau o ganfod a monitro risgiau sefydlog a materion i'w
dal a'u monitro. Byddai hyn yn cael ei rannu
â'r Pwyllgor. Yn y cyfamser, mae risgiau
diogelwch yn cael eu rheoli ar lefel gwasanaeth.
ii)
Trafodwyd risgiau
Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau yn ddiweddar gan y Bwrdd Rheoli a chan Fwrdd y
Cyfarwyddwyr. Teimlwyd nad oedd angen rheoli'r
risg ar lefel gorfforaethol oherwydd y rheolaethau cryfach a'r gweithredu
parhaus o drefniadau llywodraethu. O ran capasiti, roedd trefniadau
llywodraethu hefyd wedi galluogi i Benaethiaid Gwasanaethau fod yn hyderus wrth
drefnu adnoddau i brosiectau. Cytunodd
Dave i roi crynodeb o'r gwelliannau yn y llywodraethau rhaglenni a phrosiectau
yng nghyfarfod mis Ebrill.
iii)
Trefnwyd ymarfer
Parhad Busnes corfforaethol ar gyfer 24 Ebrill, ond ni chadarnhawyd y sefyllfaoedd yr adeg honno.
12.4
Ymatebodd Claire i'r pwyntiau ar y cynnydd yn y risgiau parthed
penderfyniadau San Steffan a diogelwch, a nododd y byddai'n adolygu, gyda'r
Bwrdd Rheoli, a ddylid ychwanegu'r rhain at y Gofrestr Risgiau
Corfforaethol.
Camau gweithredu
-
Crynhoi proffil risg fetio diogelwch, gan gynnwys risgiau
sy'n gysylltiedig â gweithredu argymhellion Archwilio Mewnol.
-
Byddai'r tîm Clercio yn rhoi eitem ar yr agenda i ddod er
mwyn trafod risgiau diogelwch yn fanwl.
-
Rhoddodd Dave yr wybodaeth ddiweddaraf am welliannau i
lywodraethu Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau yng nghyfarfod mis Ebrill.
Cyfarfod: 09/06/2014 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 216
Cofnodion:
8.1
Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y risgiau sy’n ymwneud
â’r ymateb i benderfyniadau’r Bwrdd Taliadau, y rheolaethau mewn lle a beth
arall y gellid ei wneud i liniaru’r risg ymhellach.
8.2
Cyflwynodd Anna Daniel y papur a dywedodd wrth y Pwyllgor
ei bod yn disgwyl y sgôr risg i gynyddu yn y tymor byr wrth i’r Bwrdd edrych ar
faterion fel pensiynau a chyflogi aelodau o’r teulu.
8.3
Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar bwysigrwydd cyfathrebu ac
arwyddocâd rheoli rhanddeiliaid. Hefyd,
roedd yn teimlo ei bod yn hanfodol i bob parti ddeall cylch gwaith ei
gilydd. Awgrymodd Hugh Widdis y dylid
cysylltu â deddfwrfeydd eraill i weld sut y maent yn delio gyda risgiau tebyg.
Cyfarfod: 09/06/2014 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad Cryno ar Risgiau Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 219
- Cyfyngedig 220
- Cyfyngedig 221
Cofnodion:
7.1
Cyflwynodd Kathryn Hughes yr eitem hon i’r Pwyllgor a
chadarnhaodd fod y risgiau corfforaethol wedi cael eu hystyried yng ngoleuni
blaenoriaethau strategol newydd y Comisiwn.
Nododd fod y risg o ran y cyfryngau cymdeithasol i fod i gael ei thrafod
gan y Bwrdd Rheoli ar 23 Mehefin, gyda’r posibilrwydd o godi ei statws i fod yn
risg gorfforaethol, a bod Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol, yn cyflwyno
cynigion cynllunio capasiti i’r Bwrdd Buddsoddi ar 16 Mehefin.
7.2
Yn dilyn y drafodaeth ar dwyll, bu aelodau’r Pwyllgor yn
cwestiynu pam nad oedd twyll ar y gofrestr risg. Cadarnhaodd Kathryn ei bod yn cael ei rheoli
ar lefel gwasanaeth. Byddai proses mapio
sicrwydd y Comisiwn hefyd yn nodi’r mathau hyn o risg sefydlog pan gaiff ei
datblygu’n llawn.
7.3
Cytunodd aelodau’r Pwyllgor y dylai materion presennol
hefyd gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, ac roeddent yn croesawu’r
gwaith sy’n cael ei wneud ar fapio sicrwydd y byddai’n cael ei gyflwyno yn yr
hydref. Gan gydnabod pwysigrwydd y
gwaith hwn, annogodd y Cadeirydd ei fod yn cael ei gwblhau’n gynnar.