Cyfarfodydd

P-04-624 Caniatáu i Ofalwyr Maeth Gofrestru gyda Mwy Nag Un Awdurdod Lleol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-624 Caniatáu i ofalwyr maeth gofrestru gyda mwy nag un awdurdod lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddo a yw wedi cael cyngor gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar y mater ac, os felly, i adael i'r Pwyllgor wybod y canlyniad.

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-624 Caniatáu i Ofalwyr Maeth Gofrestru gyda Mwy Nag Un Awdurdod Lleol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd am lythyr y Gweinidog, gyda'r bwriad o ofyn i'r Gweinidog pryd y bydd yn bwriadu cael cyngor gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor beth oedd canlyniad y cyngor hwnnw.