Cyfarfodydd

P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Adroddiad - P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr Adroddiad gan gytuno hefyd i'w osod yn ystod toriad yr haf fel y gellir ei drafod yn nhymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trafod y dystiolaeth - P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y crynodeb o'r dystiolaeth a chytunodd i lunio adroddiad ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan CLlLC, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at Gymdeithas Brydeinig Athrawon Pobl Fyddar (BATOD) Cymru i ofyn am ei barn am y materion a gododd yn y ddeiseb, yn enwedig addysgu iaith arwyddion Prydain mewn ysgolion, ac addysgu drwy'r iaith honno; a
  • dwyn ynghyd amlinelliad o'r dystiolaeth a ddaeth i law fel y gall yr Aelodau benderfynu a ddylid llunio adroddiad ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y diffyg ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ohebiaeth y Pwyllgor, a chytunodd i ysgrifennu llythyr pellach at CLlLC yn mynegi ei siom a gofyn am ymateb brys i'r llythyr dyddiedig 3 Awst.

Yn dilyn y cyfarfod, daeth ymateb i law gan CLlLC.

 

 


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Sesiwn dystiolaeth – P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

 

Ruth Conway, Llywodraeth Cymru

 

Claire Rowlands, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes gwestiynau gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth – P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Cathie Robins-Talbot

 

Helen Robins-Talbot

 

Luke Collins- Hayes

 

Zoe Pallenson

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu Cathie Robins-Talbot, Helen Robins-Talbot, Luke Collins-Hayes a Zoe Pallenson o Deffo! yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

 

 


Cyfarfod: 21/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei chwaer yn fyddar iawn, ac mae ef wedi bod yn ymwneud â'r deisebwyr ond nid yw wedi ymwneud â'r ddeiseb benodol hon.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i roi tystiolaeth yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae wedi cwrdd â'r deisebwyr yn rhinwedd ei swydd fel yr Aelod Cynulliad dros etholaeth Dwyrain Abertawe.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y materion a godwyd yn y ddeiseb yn dilyn ei gyfarfod diweddar gyda'r deisebwyr.

 

 

 


Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr ystyried derbyn y cynnig o gyfarfod â swyddogion yn y lle cyntaf ac i fwydo yn ôl i'r Pwyllgor er mwyn i'r Aelodau i ystyried y ffordd orau o gymryd materion yn eu blaen.

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog am ei sylwadau ar ohebiaeth ddiweddaraf y deisebwyr ac am sicrwydd y bydd staff sy'n cefnogi adolygiad Donaldson yn cysylltu â DEFFO.

 


Cyfarfod: 16/09/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

CYPE(4)-21-15 - Papur i’w nodi 4

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog yn gofyn am ei sylwadau ar y cyngor cyfreithiol mae'r Pwyllgor wedi'i gael; ac
  • ar ohebiaeth y deisebwyr, sy'n gofyn yn benodol:

o   bod barn DEFFO yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'r ymatebion eraill i'r ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 8 Mai; 

o   bydd DEFFO yn cael eu cynnwys yng ngham nesaf yr ymgynghoriad; a

o   barn y Gweinidog ar honiad DEFFO bod anghenion y rhai sydd eisiau neu angen hyfforddiant IAP yn aml heb eu diwallu neu'n anhysbys, am fod IAP weithiau'n ddewis yn hytrach nag angen crys neu angen meddygol.

  • dod â'r ddeiseb at sylw Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a gofyn i gynnwys DEFFO yn ymgynghoriad y Pwyllgor ar y Bil arfaethedig ar anghenion addysgol arbennig; ac
  • awgrymu wrth y deisebwyr efallai yr hoffent ymgysylltu â'r adolygiad y mae'r Athro Donaldson yn ei wneud ar hyn o bryd a hefyd efallai yr hoffent ddod â'r ddeiseb at sylw Aelodau'r Cynulliad am y gallent fod â diddordeb mewn cymryd y mater ymlaen fel Bil Aelod Preifat. 

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • geisio briff cyfreithiol ar y pwynt a godwyd yn llythyr y Gweinidog lle y dywedodd, 'Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i ddeddfu ynghylch unrhyw iaith ar wahân i'r Gymraeg.'; ac
  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ei farn am ymateb y deisebydd.