Cyfarfodydd

Penodi Aelodau’r Bwrdd Taliadau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/09/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6.)

Y Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cyfarfod: 17/09/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)

Cyflwyniad i waith y Bwrdd Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cyfarfod: 17/09/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 8.)

Rhaglen Waith Strategol a ffyrdd o weithio

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6

Cyfarfod: 17/09/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7.)

Sesiwn ar y cyd gydag aelodau sy'n ymadael â'r Bwrdd Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8
  • Cyfyngedig 9

Cyfarfod: 17/09/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4.)

Newid cyfansoddiadol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cyfarfod: 17/09/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Trosolwg o rôl Aelodau a sut y mae'r Cynulliad yn gweithio

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13

Cyfarfod: 09/07/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Penodi Aelodau y Bwrdd Taliadau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15

Cofnodion:

Bydd penodiadau aelodau presennol y Bwrdd Taliadau yn dod i ben ar 20 Medi 2015. Cyflwynwyd papur i’r Comisiynwyr yn nodi proses a chanlyniadau’r ymarfer recriwtio a dewis diweddar i ddewis Cadeirydd ac aelodau newydd i’r Bwrdd.

 

Mae penodiadau i’r Bwrdd Taliadau yn cael eu gwneud gan y Comisiwn yn unol â Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Soniodd y Comisiynwyr am amrywiaeth drawiadol o brofiad ac arbenigedd y pum unigolyn a gafodd eu dewis.

 

Ar ôl bodloni eu hunain na ddylai neb o’r rhai oedd yn cael eu penodi gael eu gwahardd rhag bod yn aelodau’r Bwrdd, penododd y Comisiwn:

  • Y Gwir Anrhydeddus Y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd)
  • Y Fonesig Jane Roberts
  • Trevor Reaney
  • Michael Redhouse a
  • Roger Williams.

 

Bydd y penodiadau newydd yn dechrau o 21 Medi 2015.

 

Cytunodd y Comisiwn i gyhoeddi’r papur a’i anfon at arweinwyr y pleidiau a holl Aelodau’r Cynulliad.

 


Cyfarfod: 12/12/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6.)

Mater gweithredol: Dulliau o dalu i aelodau'r Bwrdd Taliadau