Cyfarfodydd
Y wybodaeth ddiweddaraf yn sgîl cyfarfodydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol: 2015 - 2020
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7)
Gwybodaeth a thrafodaeth ynghylch y materion diweddaraf a godwyd gyda'r tîm Cymorth Busnes i Aelodau a rhaglen waith y Bwrdd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
7.1 Trafododd y
Bwrdd bapur yn amlinellu effaith y Penderfyniad newydd a materion eraill sydd
wedi codi ers dechrau'r Pumed Cynulliad. Gwnaeth y Bwrdd y penderfyniadau hyn
ar sail y cylch gorchwyl a'r cyfrifoldebau sydd wedi'u gosod yn y Mesur
Taliadau (2010).
Gwariant ar Lety Preswyl
7.2 Nododd y
Bwrdd nad oedd yr Penderfyniad yn rhoi'r un cymorth i Aelodau sydd â'u prif
gartref y tu allan i Gymru o'i gymharu â'r cymorth sydd ar gael i Aelodau
eraill ar gyfer ei wario ar y swyddfa y maent wedi cael eu hethol iddi gan bobl
Cymru.
7.3 Nododd y
Bwrdd nad oedd deddfwriaeth Cymru na chyfraith etholiadol yn nodi unrhyw
reidrwydd i breswylio yn y wlad os am sefyll i fod yn Aelod Cynulliad mewn
etholiad.
7.4 Cytunodd y
Bwrdd y dylai sicrhau bod gan holl Aelodau'r Cynulliad adnoddau rhesymol i
gynrychioli eu hetholaeth i orau eu gallu.
7.5 Trafododd y
Bwrdd ei ddull ar gyfer yr ymgynghoriad. Cytunodd y byddai'n ymgynghori ag
Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd.
7.6 Cytunodd y
Bwrdd y byddai'n trafod ymatebion yr ymgynghoriad ac yn gwneud penderfyniad y
tu allan i gyfarfodydd Bwrdd er mwyn i'r penderfyniad gael ei wneud mor agos â
phosibl at ddechrau tymor yr hydref 2016.
Lwfans Dodrefn
7.7 Nododd y
Bwrdd y câi Aelodau newydd un cyfle i brynu dodrefn ar gyfer eu swyddfa newydd
at uchafswm gwario o £5,000.
7.8 Mae'r
Gwasanaethau Cymorth Busnes i'r Aelodau wedi ceisio ehangu'r ddarpariaeth hon
iddi gynnwys mwy na dodrefn swyddfa'n unig, ac iddi gynnwys unrhyw eitemau na
fydd y landlord yn talu amdanynt ond sy'n berthnasol o ran costau'r swyddfa gan
iddynt wella'r amgylchedd gweithio i staff ac ymwelwyr.
7.9 Cytunodd
aelodau'r Bwrdd y dylai'r Gwasanaeth Cymorth Busnes i'r Aelodau gael
hyblygrwydd ychwanegol i ddehongli'r lwfans dodrefn ar gyfer Aelodau fel hyn.
Diogelwch swyddfeydd etholaethol/rhanbarthol
7.10 Yn dilyn
marwolaeth drasig Jo Cox AS, nododd y Bwrdd i Gomisiwn y Cynulliad ofyn am
bapur briffio ar y ddarpariaeth gyfredol ar gyfer diogelwch, yn enwedig y
cymorth sydd ar gael pan fyddent y tu allan i ystâd y Cynulliad. Nododd y Bwrdd
y gellid gwneud nifer o ragofalon syml er mwyn sicrhau diogelwch Aelodau
Cynulliad.
7.11 Nododd
Aelodau'r Bwrdd y byddent yn blaenoriaethu unrhyw faterion diogelwch a nodwyd
gan Gomisiwn y Cynulliad a oedd o fewn cylch gorchwyl y Bwrdd.
Adolygu achosion busnes
7.12 Trafododd y
Bwrdd achosion busnes unigol gan yr Aelodau mewn ymateb i'w amgylchiadau
eithriadol.
Cam gweithredu:
• Byddai llythyrau'n cael eu hanfon at y
sawl a gaiff eu heffeithio gan benderfyniadau'r Bwrdd. Dylai'r Gwasanaeth
Cymorth Busnes i'r Aelodau roi gwybod beth oedd penderfyniad y Bwrdd i
Aelodau'r Cynulliad a wnaeth achosion busnes.