Cyfarfodydd

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hawliau Defnyddwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Hawliau Defnyddwyr: Gwelliannau mewn perthynas â Ffioedd Asiantaethau Gosod

NDM5626 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Defnyddwyr sy’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gosod, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Hydref 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

 

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/consumerrights.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.15

 

NDM5626 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Defnyddwyr sy’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gosod, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 13/11/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Defnyddwyr: Gwelliant ynghylch ffioedd asiantaethau gosod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad drafft y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Defnyddwyr: Gwelliant ynghylch ffioedd asiantaethau gosod.

 


Cyfarfod: 05/11/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.)

2. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Hawliau Defnyddwyr: Gwelliant ynghylch ffioedd asiantaethau gosod

Dogfennau ategol: