Cyfarfodydd
Llywodraethu’r Comisiwn
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Trafod Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon 2021-22 y Comisiwn (i argymell llofnodi'r cyfrifon)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
ARAC (22-03) Papur 5 - ARA 2021-22 - papur blaen
ARAC (22-03) Papur 5 - Atodiad A – ARA 2021-22
5.1 Cyflwynodd Siwan Davies yr Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon, gan nodi bod y Pwyllgor eisoes wedi adolygu’r naratif ym mis Ebrill.
Gwahoddodd Nia i gyflwyno’r Datganiad Cyfrifon.
5.2 Diolchodd Nia i’r tîm archwilio am broses archwilio
esmwyth. Diolchodd hefyd i’w thîm am eu hymrwymiad a’u gwaith rhagorol wrth
gwblhau set lân arall o gyfrifon. Nododd ei diolch, yn arbennig i Catharine
Bray, Pennaeth Cyllid am y byddai’n ymddeol ym mis Tachwedd – roedd y Pwyllgor
hefyd yn dymuno rhoi ar gofnod eu diolch i Catharine, gan ddymuno’n dda iddi ar
ei hymddeoliad.
5.3 Amlinellodd Nia rai o’r pwyntiau allweddol o’r
Datganiad Cyfrifon. Amlygodd fod y tanwariant alldro ychydig yn uwch na’r
targed a amcangyfrifwyd, yn rhannol oherwydd costau is na’r disgwyl ar ôl yr
etholiad – esboniwyd hyn yn y sylwebaeth rheolwyr fel sy’n ofynnol gan FREM.
Tynnodd sylw hefyd at y wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â chyflog, a oedd
bellach yn dangos canradd cyflog pwynt 25 a 75 yr holl weithwyr, yn ogystal â’r
cyflog canolrifol a adroddwyd yn flaenorol. Croesawodd y Cadeirydd gynnwys
rhagor o fanylion am gyflogau staff, roedd yn fodlon â’r sylw yn y drafodaeth
am ailbrisio (o dan eitem 4) ac roedd yn falch o nodi’r gwaith paratoi ar gyfer
adrodd ar IFRS 16 yn ymwneud â phrydlesi yng nghyfrifon y flwyddyn ganlynol.
5.4 Mewn ymateb i gwestiwn gan aelodau’r Pwyllgor
ynghylch penodi’r Prif Gynghorydd Cyfreithiol, dywedodd Siwan fod hyn wedi
digwydd y tu allan i’r cyfnod adrodd.
5.5 Disgrifiodd Nia y swm sylweddol o waith a oedd
ynghlwm wrth adolygu gwariant cyfalaf yn erbyn refeniw, a gyflawnwyd gan y tîm
Cyllid. Byddent yn parhau i weithio gydag Archwilio Cymru i fireinio’r broses
hon ac i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o unrhyw feysydd amwys.
5.6 Cadarnhaodd Nia, yn amodol ar gytundeb gan y
Comisiwn, fod disgwyl i’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon gael eu llofnodi a’u
gosod gerbron y Senedd ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 23 Mehefin. Yna
byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn craffu arnynt
yn yr hydref.
5.7 Llongyfarchodd y Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor Nia
a'r tîm Cyllid ar y set lân o gyfrifon a’r sicrwydd a ddarparwyd yn ystod y
drafodaeth. Canmolodd Siwan y tîm hefyd am eu proffesiynoldeb parhaus.
5.8 Gofynnodd Siwan i Arwyn Jones amlinellu manylion
cyflwyniad rhyngweithiol yr Adroddiad Blynyddol ar wefan y Senedd. Cyflwynodd Arwyn
fersiwn wedi’i diweddaru o’r tudalennau gwe, gan dynnu sylw at amlygrwydd
fersiwn argraffadwy. Dangosodd sut y gallai darllenwyr lywio i adrannau penodol
o’r adroddiad, gyda lincs i ddeunydd cyhoeddedig cysylltiedig, gan gynnwys
adroddiadau a chynnwys fideo a sain.
5.9 Mewn ymateb i awgrymiadau gan aelodau’r Pwyllgor, cytunodd Arwyn i ychwanegu manylion am weithgarwch diweddar yn ymwneud â’r adroddiad gan y Pwyllgor Dibenion Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Cytunodd hefyd i gynnwys linc o’r fersiwn ar-lein i’r papur briffio a gynhyrchwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil ar weithgarwch deddfwriaeth yn ystod y cyfnod adrodd. Cadarnhaodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 12 - Adroddiad Blynyddol Uwch-swyddog
Risg Gwybodaeth
15.1 Nododd y Cadeirydd bod adroddiad blynyddol
Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth yn ddogfen sicrwydd allweddol i’r Pwyllgor ei
hadolygu. Dymunodd Ed Williams ddiolch i’w ragflaenydd a hefyd i gydweithwyr o
bob rhan o’r Comisiwn, yn enwedig o’r timau Llywodraethu a Sicrwydd, TGCh a
Gwasanaethau Cyfreithiol, am eu cefnogaeth ers ymgymryd â rôl Uwch-swyddog Risg
Gwybodaeth ym mis Chwefror 2022. Diolchodd hefyd i Gareth Watts am ei gymorth
yn drafftio’r adroddiad.
15.2 Amlinellodd Ed elfennau allweddol yr adroddiad a
oedd yn amlygu'r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod adrodd a'r meysydd
blaenoriaeth i'w symud ymlaen. Dywedodd nad oedd rhai o'r meysydd a restrwyd i
ganolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn wedi symud ymlaen fel y cynlluniwyd
oherwydd blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig. Cyfeiriodd at y sicrwydd a
ddarparwyd i’r Pwyllgor ar reoli risgiau seiberddiogelwch.
15.3 Gan edrych at y dyfodol, byddai Ed yn gweithio gyda
Matthew Richards a’r tîm Llywodraethu Gwybodaeth i adfywio’r prosiect i
gyflwyno cynllun marcio amddiffynnol newydd ac i ystyried y risgiau gwybodaeth
sy’n gysylltiedig â’r strategaeth Ffyrdd o Weithio newydd. Tynnodd sylw hefyd
at gynigion ar gyfer sefydlu bwrdd llywodraethu gwybodaeth newydd i gefnogi'r
Uwch-swyddog Risg Gwybodaeth yn y broses o wneud penderfyniadau.
15.4 Diolchodd y Cadeirydd i Ed a Gareth am yr adroddiad
hwn a roddodd y sicrwydd angenrheidiol i’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Diweddariad ar seiberddiogelwch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
ARAC (22-02) Papur 10 - Adroddiad Sicrwydd
Seiberddiogelwch
12.1 Croesawodd y Cadeirydd Mark Neilson, Jamie Hancock a
Tim Bernat i'r cyfarfod i gyflwyno’r eitem hon.
12.2 Cyflwynodd Mark yr Adroddiad Sicrwydd
Seiberddiogelwch, yr oedd fersiwn drafft ohono wedi'i hanfon at aelodau'r
Pwyllgor ym mis Chwefror i gael sylwadau. Cadarnhaodd Mark y byddai'r adroddiad
yn cael ei fireinio yn seiliedig ar adborth ac yn cael ei gynhyrchu a'i rannu
bob chwarter.
12.3 Diolchodd y Cadeirydd i Mark a’i dîm am baratoi
adroddiad mor fanwl. Darparodd y lefel angenrheidiol o sicrwydd mewn nifer o
feysydd sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor ac roedd yn cynnwys digon o fanylion
technegol. Roedd y Cadeirydd yn awyddus i sicrhau defnyddioldeb yr adroddiad.
12.4 Cododd y Pwyllgor gwestiynau ynghylch storio data,
cysylltu â sefydliadau eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru, a chynlluniau ar
gyfer digwyddiadau ymwybyddiaeth ar gyfer defnyddwyr yn ymwneud â
seiberddiogelwch. Awgrymwyd hefyd y gellid cynnwys adran ar wahân ar rôl
Awdurdod Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) mewn adroddiadau yn y
dyfodol.
12.5 Cadarnhaodd Jamie Hancock fod y tîm wedi ymrwymo i
storio oddi ar y safle, gyda threfniadau digyfnewid priodol ar gyfer cadw wrth
gefn, yr oeddent yn mynd ar eu trywydd trwy brosiect storio cyfryngau.
12.6 Amlinellodd Tim Bernat sut, o ystyried y lefelau
bygythiad presennol, roedd y tîm TGCh wedi cynyddu amlder eu gwaith monitro o'r
ffynonellau cudd-wybodaeth yn ymwneud â bygythiadau sydd ar gael. Roedd hyn yn
galluogi'r Comisiwn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y dirwedd bygythiadau
sy'n esblygu ynghyd â'r offer a'r mentrau diweddaraf i liniaru'r risgiau.
Hefyd, helpodd i sicrhau bod pawb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a bod
gwybodaeth a phrofiadau perthnasol yn cael eu rhannu. Mewn ymateb i gwestiynau
am ymosodiadau meddalwedd wystlo llwyddiannus mewn sefydliad arall yn y sector
cyhoeddus yn ddiweddar, roedd y tîm wedi nodi'r gwersi a ddysgwyd ac wedi
cryfhau rhai o amddiffynfeydd y Comisiwn ymhellach o ganlyniad i hynny.
12.7 Cadarnhaodd Mark fod cynlluniau ar gyfer rhaglen o
ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth o faterion seiber ar gyfer y Senedd gyfan
wrthi’n cael eu cwblhau. Diolchodd i Ann am ei chynnig i ddarparu manylion
cyswllt arbenigwyr yn y sectorau prifysgol a phreifat a allai fod o gymorth.
Ychwanegodd Jamie fod ganddo hefyd gysylltiadau o'i swydd flaenorol mewn
prifysgol. Mewn ymateb i gwestiwn gan Ken Skates ynghylch ymgysylltu ag Aelodau
o’r Senedd yn amlach i godi ymwybyddiaeth, awgrymodd Mark y dylid ategu
presenoldeb yng nghyfarfodydd grwpiau’r pleidiau â sesiynau briffio bob chwe
mis. Awgrymodd Ken y dylid cynnal sesiwn briffio ddiweddaru ar ddechrau tymor
yr hydref ym mis Medi a chynigiodd annog yr Aelodau i fod yn bresennol.
12.8 Cytunodd Mark i gynnwys cyfeiriad at Awdurdod Band
Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) mewn adroddiadau yn y dyfodol ac amlinellodd Tim
yn gryno ei rôl a'r gwasanaethau a ddarperir ganddo i helpu i ddiogelu
rhwydwaith y Comisiwn. Cytunwyd y byddai cael cyflwyniad gan PSBA ar ei rôl yn
ddefnyddiol i’r Pwyllgor.
12.9 Fe wnaeth Arwyn gydnabod gwybodaeth arbenigol Jamie a Tim a’r rhan hollbwysig y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Cynllunio Corfforaethol
Cyflwyniad
Cofnodion:
8.1 Roedd y Cadeirydd wedi cytuno'n flaenorol i
ddisodli'r archwiliad beirniadol rheolaidd o un o risgiau corfforaethol y
Comisiwn gyda chyflwyniad gan Gareth Watts ar ddatblygu dull cynllunio
corfforaethol ar gyfer y Comisiwn.
8.2 Amlinellodd Gareth amcanion ei gynigion a
gymeradwywyd gan dîm Arwain a Bwrdd Gweithredol y Comisiwn rai wythnosau
ynghynt. Soniodd am bwysigrwydd cynllunio a blaenoriaethu a manteision dogfennu
cyfrifoldebau.
8.3 Disgrifiodd yr allbynnau cynllunio ac adrodd
presennol ar wasanaethau sydd eisoes ar waith o ran strategaeth, nodau a
blaenoriaethau'r Comisiwn. Y cynnig oedd datblygu Cynllun Cyflawni Corfforaethol
fel dull rheoli i lywio cynlluniau lefel gwasanaeth a rhoi eglurder ynghylch
sut y byddai blaenoriaethau'r Comisiwn yn cael eu cyflawni.
8.4 Wrth ddod â’r cynigion at ei gilydd, roedd Gareth
wedi ystyried y dulliau a fabwysiadwyd gan seneddau eraill, a disgrifiodd sut y
byddai’r cynllun yn ystyried unrhyw newidiadau yn y dyfodol, gan gynnwys
dylanwadau allanol megis adroddiadau gan baneli arbenigol.
8.5 Y cam nesaf fyddai ailedrych ar gynlluniau gwasanaeth
yng nghyd-destun y Cynllun Cyflawni Corfforaethol. Byddai hyn yn cael ei wneud
drwy drafod ac ymgysylltu ar draws gwasanaethau er mwyn sicrhau bod
cyd-ddibyniaethau'n cael eu hystyried a byddai'n cynnwys adolygiadau rheolaidd
ac adroddiadau ar gynnydd. Roedd canllawiau ar lunio cynlluniau gwasanaeth yn cael
eu drafftio a byddent yn dilyn proses pum cam.
8.6 Daeth Gareth â'i gyflwyniad i ben drwy gadarnhau
sefydlu is-grŵp o'r tîm Arwain i arwain a llywio'r gwaith hwn o
2022-23 ymlaen. Byddai drafft cyntaf yn cael ei gyflwyno i'r tîm Arwain cyn ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol
i'w gymeradwyo. Roedd yr uwch reolwyr wedi cytuno ar y fformat, a oedd yn debyg
i fformat Senedd yr Alban ac a ddisgrifiwyd fel dull syml ond effeithiol.
Cytunodd Gareth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu Cynllun Cyflawni
Corfforaethol a'r cyswllt â chynllunio gwasanaethau, pan fydd ar gael.
8.7 Diolchodd y Pwyllgor i Gareth am ei gyflwyniad
cynhwysfawr a chydnabu nad oedd yn dasg hawdd, yn enwedig mewn amgylchedd
gwleidyddol heriol a deinamig.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
COVID-19 - Diweddariad corfforaethol
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
3.1 Cadarnhaodd Ed fod y Grŵp Cydnerthedd a Monitro Covid (CRAM) yn parhau
i gyfarfod yn wythnosol i fonitro canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Yn
dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch symud i lefel rhybudd 0, roedd yr holl
asesiadau risg a'r risg gorfforaethol wedi'u diweddaru. Yng ngoleuni’r disgwyl
i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach, fel yr amlinellwyd ar fap ffordd
Llywodraeth Cymru, roedd yr asesiad risg wedi’i ddiweddaru ar gyfer y Cyfarfod
Llawn yn caniatáu i hyd at 60 Aelod o'r Senedd fod yn bresennol yn y Siambr ar
ôl toriad hanner tymor mis Chwefror. Cynghorir pob Aelod i wisgo gorchuddion wyneb
a gwneud prawf llif unffordd cyn dod i’r cyfarfod. Byddai staff y Comisiwn
hefyd yn parhau i gael eu cynghori’n gryf i ddilyn yr un cyfarwyddyd.
3.2 Byddai lefelau capasiti cyfarfodydd y Cyfarfod Llawn
a phwyllgorau'r Senedd yn cael eu monitro, a byddai'r asesiad risg
corfforaethol yn cael ei ailystyried yn unol â llacio rheolau COVID-19
ymhellach.
3.3 Rhoddodd Lowri Williams wybodaeth ychwanegol i'r
Pwyllgor am sut yr oedd Adnoddau Dynol yn bwriadu cefnogi staff sy'n dychwelyd
i'r ystâd a helpu i hwyluso amgylchedd gwaith mwy hyblyg. Roedd yr arolwg staff
Pwls Llesiant diweddaraf i fod i gael ei gyflwyno i'r holl staff yn
ddiweddarach yr wythnos honno, a fyddai'n ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth
fel sail i’r cynlluniau.
3.4 Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor,
dywedodd Lowri ei fod yn parhau i fod yn ofynnol i staff ddefnyddio system
archebu desg cyn dod i’r ystâd ac roedd hyn yn dangos bod cyfraddau presenoldeb
ar gapasiti o 10-15 y cant ar hyn o bryd. Roedd llawr cyntaf Tŷ Hywel yn parhau i fod yn llawr peilot gyda
chymysgedd o fannau gwaith ac ardaloedd ymneilltuo, ond gyda chymaint o bobl yn
gweithio gartref, ychydig iawn o brofi a gafwyd. Roedd y system archebu desg
wedi gweithio'n dda, ac, yn ogystal â hwyluso'r gwaith o lanhau'r mannau a ddefnyddiwyd,
roedd hefyd yn helpu i ddatblygu'r diwylliant o weithio’n fwy hyblyg.
3.5 Dywedodd Ed y byddai ystyriaethau pellach ynghylch
meddiannaeth hefyd yn bwydo i mewn i'r strategaeth ystadau, a chadarnhaodd y
byddai hyn yn cynnwys defnyddio swyddfa Bae Colwyn, sy’n swyddfa lai gyda llai
o opsiynau o ran y defnydd o le. Ychwanegodd Lowri fod yr holl staff wedi
ymgymryd ag asesiadau risg personol a gofynnwyd iddynt roi gwybod i’r
Penaethiaid Gwasanaeth am y patrymau gweithio sydd orau ganddynt er mwyn llywio
cynlluniau ar gyfer dychwelyd i’r ystâd.
3.6 Nododd y Cadeirydd fod y Comisiwn wedi ymateb yn
eithriadol o dda i'r heriau a chydnabu’r ansicrwydd parhaus. Pan holwyd Ed am
ddyfodol CRAM, rhagwelodd Ed y byddai’r strwythur yn parhau ar lefel
weithredol, ac y byddai’r Bwrdd Gweithredol yn parhau i fod yn gyfrifol am
wneud y penderfyniadau strategol angenrheidiol.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Adborth ar drafodaethau ym Mhwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu y Comisiwn
Oral item
Cofnodion:
Eitem lafar
17.1
Croesawodd
Ann y cyfle i roi adborth ar ddau gyfarfod diweddar y Pwyllgor Cynghori ar
Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu. Roedd y cyfarfod ym mis Tachwedd wedi
canolbwyntio'n benodol ar adroddiad yr Athro Diana Stirbu ynghylch Pŵer,
Dylanwad ac Effaith Pwyllgorau’r Senedd. Roedd ansawdd yr adroddiad wedi
creu argraff dda ar aelodau’r Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r
Gweithlu.
17.2 Roedd y prif gyfarfod ar 29
Medi yn cynnwys y canlynol:
- blaenoriaethau'r
Gyfarwyddiaeth Busnes;
- blaenoriaethau ymgysylltu –
cytunwyd y byddai'r ddau Bennaeth Gwasanaeth a benodwyd yn ddiweddar yng
ngwasanaeth Arwyn yn mynd i gyfarfod yn y dyfodol;
-
diffinio'r berthynas esblygol rhwng y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau,
Ymgysylltu a’r Gweithlu ac ARAC.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Achosion o dorri rheolau gwybodaeth (adroddiad dwywaith y flwyddyn)
Oral item
Cofnodion:
Eitem lafar/cyflwyniad
15.1
Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Dave am un achos sylweddol
o dorri rheolau a thri adroddiad o wybodaeth yn cael ei hanfon at y derbynwyr
e-bost anghywir. Datryswyd pob un o'r rhain yn gyflym ac nid oedd angen rhagor
o gamau gweithredu.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Diweddariad ar seiberddiogelwch
Oral
item/presentation
Cofnodion:
Oral
iEitem lafar/cyflwyniad
14.1
Croesawodd y Cadeirydd Mark Neilson, Jamie Hancock a Tim Bernat i'r
cyfarfod a’u gwahodd i eu gwybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am waith rheoli risgiau
seiberddiogelwch y Comisiwn. Mewn ymateb i sylwadau gan y Pwyllgor, yn enwedig
gan y Cadeirydd, roedd y tîm wedi gwneud gwaith i fireinio adroddiadau er mwyn
ymdrin â'r sicrwydd roedd yn ei geisio. Cyfeiriodd Mark at ddefnyddio 'siart
corryn' o’r blaen i ddisgrifio'r dirwedd risgiau seiberddiogelwch esblygol a
gwaith y Comisiwn i liniaru’r risgiau. Fodd bynnag, daeth yn amlwg nad oedd y
dull hwn yn ddigon manwl na deinamig i roi sicrwydd parhaus i gyrff amrywiol,
megis y Bwrdd Gweithredol, y Comisiwn a'r Pwyllgor hwn.
14.2
Roedd y Cadeirydd wedi amlinellu'r themâu a'r dull gweithredu a fyddai,
yn ei farn ef, yn rhoi rhagor o sicrwydd ynghylch nodi a lliniaru'r risgiau
roedd y tîm wedi'u hystyried. Roedd y rhain yn cynnwys:
- dealltwriaeth gliriach o’r
dirwedd fygythiadau a sut roedd hyn yn esblygu;
- cydbwysedd priodol o
fygythiadau caledwedd a meddalwedd - er bod symudiad anochel, gyda mwy o
ddefnydd o dechnolegau cwmwl, tuag at liniaru bygythiadau meddalwedd;
- dealltwriaeth ddyfnach o'r
ffynonellau sicrwydd mewnol ac allanol, gan gynnwys archwiliad mewnol;
- datblygu ffeithlun priodol neu
"risg ar dudalen" i amlinellu'r bygythiadau.
14.3 Er mwyn ceisio barn y Pwyllgor
am lefel y manylder sydd ei angen i roi sicrwydd digonol, cyflwynodd Tim
ddrafft o adroddiad misol y tîm TGCh ar Fygythiad Seiberddiogelwch. Nododd yr
adroddiad yr offer a'r ystadegau a ddefnyddiwyd, y dadansoddiad a gynhaliwyd
a'r dirwedd fygythiadau. Hefyd, soniodd Tim a Jamie am y system wrth gefn a'r
ganolfan ddata 3 haen, nad oedd yn cael ei rheoli gan Microsoft. Hefyd,
amlinellwyd gwaith sydd ar droed i wella diogelwch data ymhellach a’u bod yn
mynd i'r afael â'r heriau o ran cadw sgiliau yn y maes hwn. Roedd y Pwyllgor yn
falch o glywed yr eir i'r afael â'r orddibyniaeth ganfyddedig ar Microsoft a
chroesawodd fanylion y am y seiberfentrau sydd yn yr arfaeth ar gyfer y
dyfodol.
14.4 Cytunwyd y byddai copi o'r
adroddiad yn cael ei rannu ag aelodau'r Pwyllgor er mwyn iddynt ei drafod a
rhoi adborth i Mark a'i dîm ynghylch pa elfennau i'w cynnwys yn yr adroddiadau
rheolaidd i'r Pwyllgor.
14.5 Yna, roedd trafodaeth arall yn
canolbwyntio ar bosibilrwydd cyflwyniad neu sesiwn friffio gan Brosiect
Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus ac ymweliad â’r ganolfan ddata, y bwlch
sgiliau ehangach sy’n amlwg ym maes seiberddiogelwch a newidiadau i gefnogi’r
defnydd o gyfrifiaduron Mac ar y rhwydwaith.
14.6 Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm
am y cyflwyniad clir, ac am faint o waith a wnaed i ddatblygu adroddiadau
sicrwydd rheolaidd.
Camau gweithredu
· Pan fydd ar gael, rhannu copi
o'r adroddiad sicrwydd seiberddiogelwch ag aelodau ARAC.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfnod pontio i'r Chweched Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 9 - Y cyfnod pontio i'r Chweched Senedd
12.1
Gwahoddodd y Cadeirydd Sulafa
Thomas i gyflwyno'r eitem hon. Atgoffodd y Pwyllgor ei fod, yn ei gyfarfod ar
18 Mehefin, wedi cynnal archwiliad manwl o’r cyfnod pontio i’r Chweched Senedd,
a’i fod wedi gofyn am ddiweddariad arall yn y cyfarfod hwn. Cyflwynodd y papur
fanylion am y dull hyblyg a fabwysiadwyd ar gyfer y cyfnod pontio ac roedd yn
cynnwys manylion am y gwersi a ddysgwyd a rheoli risg.
12.2
Llongyfarchodd y Pwyllgor
swyddogion ar sicrhau canlyniad mor llwyddiannus, yn enwedig o gofio’r heriau
cymhleth ychwanegol a achosir gan y pandemig a’r angen i ymateb i reoliadau
newidiol Covid-19 a darparu gweithgarwch pontio mewn ffyrdd gwahanol. Roedd y
ddogfennaeth ansawdd uchel am y gwersi a ddysgwyd yn y papur gyda’r wybodaeth
ddiweddaraf hefyd wedi creu argraff dda ar aelodau'r Pwyllgor.
12.3
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch
effaith Covid-19 ar drafodaethau mewn perthynas â’r defnydd o le swyddfa,
dywedodd Sulafa fod papur wedi’i gyflwyno i’r Comisiwn yn amlinellu
posibiliadau gweithio ystwyth yn y dyfodol a oedd yn cynnwys patrymau gwaith
hybrid a hyblyg. Cytunodd y Cadeirydd i godi’r cwestiynau am y strategaeth
llety yn y dyfodol dan eitem 18.
12.4
Yna, symudodd y drafodaeth ymlaen
i lwyddiant Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd a nododd y Cadeirydd y bu’n
drefnus. Soniodd Sulafa fod Arwyn Jones a'i dîm wedi cynllunio i ddarparu
digwyddiadau rhithwir yn bennaf, ond bod mwy o weithgareddau yn y cnawd yn
bosibl yn dilyn newidiadau i'r rheoliadau. Hefyd, amlinellodd yr heriau o ran
cynllunio gweithgareddau ar adeg pan oedd rheoliadau Covid-19 yn newid a bod
penderfyniadau’n seiliedig ar asesiad trwyadl o’r risgiau. Roedd hyn wedi bod
yn ddwys o ran adnoddau, ond yn werth chweil i gydbwyso'r awydd i ddarparu
digwyddiad symbolaidd pwysig, a phrofiad cadarnhaol i bawb dan sylw wrth gadw
pawb yn ddiogel. Roedd wedi bod yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn a gafodd ei
groesawu ac roedd Arwyn yn falch o adrodd bod sicrwydd allanol ar y prosesau
mewnol wedi cadarnhau bod y mesurau lliniaru a roddwyd ar waith yn effeithiol.
12.5
Roedd Ken Skates am gofnodi ei
ddiolch am yr holl drefniadau a oedd wedi arwain at ddiwrnod gwych a nododd y
profiad cadarnhaol i'r Aelodau a oedd wedi bod yn falch o lwyddiant y
digwyddiad.
12.6
Llongyfarchodd Aled Eirug y tîm
hefyd. Hefyd, gofynnodd i swyddogion am eu barn am yr argymhellion o'r
adroddiad a luniwyd gan yr Athro Diana Stirbu ynghylch Pŵer, Dylanwad
ac Effaith Pwyllgorau’r Senedd a rannwyd ag aelodau'r Pwyllgor. Dywedodd
Siwan fod yr argymhellion wedi'u cymeradwyo a bod gwaith ar droed ar y cyd â Fforwm
y Cadeiryddion i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn ystod tymor y Senedd hon.
Cynigiodd Siwan rannu ag aelodau'r Pwyllgor bapur briffio arall a luniwyd i
lywio hyn. Byddai hefyd yn ceisio rhannu canlyniad y defnydd arloesol hwn o
waith ymchwil academaidd â deddfwrfeydd eraill.
Camau gweithredu
· Rhannu papur briffio arall mewn perthynas ag adroddiad yr Athro Diana Stirbu ynghylch Pwer, Dylanwad ac Effaith ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)
Strategaeth yr ystâd
Oral item
Cofnodion:
Eitem lafar
18.1
Cyflwynodd Dave ddiweddariad llafar ar Strategaeth Ystâd y Comisiwn a oedd
i'w chyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Rhagfyr ac i'r Comisiwn ym mis
Ionawr. Roedd ei ddiweddariad yn ymdrin â’r agweddau allweddol canlynol a
fyddai’n cael eu cynnwys yn y strategaeth:
- effaith y pandemig ar
drefniadau gweithio hyblyg a sut y defnyddiwyd yr ystâd a'r ansicrwydd parhaus
gyda chyfyngiadau gweithio gartref ar waith o hyd;
- adolygiad o’r trefniadau
prydles a chynlluniau cynnal a chadw (gan gynnwys gosod ffenestri newydd yn Nhŷ
Hywel);
- adolygiad o swyddfa Gogledd
Cymru ac ystyried presenoldeb rhanbarthol arall;
- cyfleoedd sector
cyhoeddus/prifysgolion ehangach ar gyfer y defnydd hyblyg o le swyddfa;
- strategaeth llety Llywodraeth
Cymru a phresenoldeb ym Mae Caerdydd;
- posibilrwydd ehangu’r Senedd,
gyda mwy o Aelodau;
- ystyried defnyddio'r Pierhead
a sut i wneud defnydd gwell o adeilad mor eiconig.
18.2
Cytunodd Dave i rannu Strategaeth yr Ystâd â'r Pwyllgor ar ôl i’r Bwrdd
Gweithredol ei thrafod ym mis Rhagfyr a chyn iddi gael ei chyflwyno i'r
Comisiwn ym mis Ionawr.
18.3 Mewn ymateb i gwestiynau gan y
Pwyllgor ynghylch a ddylai’r strategaeth ystyried ymgysylltu â dinasyddion,
cytunodd Dave, er y gellid ystyried hyn, y byddai’n rhaid iddi ganolbwyntio ar
y defnydd o’r ystâd. Ychwanegodd Manon, er y byddai buddion ymarferol o
safbwynt dinasyddion yn rhan o'r ystyriaethau, ei bod yn bwysig darparu
adeiladau hygyrch sy’n ateb y gofyn gyda'r holl fesurau diogelwch perthnasol.
Camau gweithredu
·
Rhannu Strategaeth yr Ystâd ag ARAC ar ôl i'r Bwrdd Gweithredol ei
thrafod.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Crynodeb o ymadawiadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 10 –
Crynodeb o ymadawiadau
16.1 Nododd y Pwyllgor ddau
achos o ymadael â’r gweithdrefnau caffael arferol.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Strategaeth y Comisiwn ar gyfer y Chweched Senedd
Oral item
Cofnodion:
Eitem lafar
13.1 Cyflwynodd Manon fanylion am y
strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd y cytunodd y Comisiwn arni yn ei
gyfarfod ar 8 Tachwedd. Roedd y strategaeth wedi'i chynnwys mewn dogfen gryno a
rannwyd â'r Pwyllgor cyn y cyfarfod hwn. Soniodd Manon fod y strategaeth, a
oedd yn cynnwys tri nod strategol a nifer o flaenoriaethau, yn ganllaw
gweithredol da ac yn seiliedig ar werthoedd y Comisiwn. Wedi ystyried
trafodaethau gwaddol â'r Comisiynwyr blaenorol, adlewyrchodd y strategaeth
ffocws o'r newydd ar ymgysylltu a chyfathrebu a’r defnydd cynaliadwy o
adnoddau. Byddai Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) yn adlewyrchu sut y
byddai'r Comisiwn yn cael ei ddwyn i gyfrif am gyflawni yn erbyn y nodau a
blaenoriaethau hyn.
13.2 Roedd y Cadeirydd o'r farn bod
hwn yn fan cychwyn lefel uchel da i alluogi datblygu llinyn aur trwodd i
ddarparu gwasanaethau a mesur perfformiad drwy DPA.
13.3 Mewn ymateb i gwestiynau am y
ganran a bleidleisiodd fel mesur o lwyddiant, atgoffodd Manon y Pwyllgor ei bod
yn anodd priodoli hyn i berfformiad am fod gormod o ffactorau nad oedd gan y
Comisiwn ddim rheolaeth drostynt. Ychwanegodd y byddai mwy o ffocws, fodd
bynnag, ar fesur ymgysylltiad, yn enwedig profiadau ymwelwyr a’r rhai sy’n
ymgysylltu â busnes y Senedd. Ychwanegodd Arwyn fod y Comisiwn bellach yn gallu
mesur lefelau dealltwriaeth ac ymgysylltiad yn fwy effeithiol, gan gynnwys y
defnydd o ddulliau dadansoddi dirnadaethau.
13.4
Diolchodd y Cadeirydd i Manon am rannu manylion am y strategaeth â'r
Pwyllgor.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Archwiliad beirniadol o un risg a nodwyd neu risg sy'n dod i'r amlwg - Cadw at y newidiadau i fframwaith rheoleiddio'r Aelodau yn y Chweched Senedd
Oral item around CRR update
Cofnodion:
Y
wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
11.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Siwan i
gyflwyno'r eitem hon, a chroesawodd Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth
Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau, Anna Daniel, Pennaeth Gwasanaeth
Trawsnewid Strategol a Meriel Singleton, Clerc y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac
arweinydd y gwaith mewn perthynas â'r fframwaith rheoleiddio, i'r cyfarfod.
11.2 Cyfeiriodd Siwan at y
diweddariad manwl sydd wedi’i gynnwys yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol ac
amlinellodd yr elfennau allweddol o’r fframwaith rheoleiddio gan eu bod yn
gymwys i’r Aelodau o’r Senedd (yr Aelodau) fel a ganlyn:
- y Cod Ymddygiad newydd a oedd
wedi’i gymhwyso ers dechrau’r Chweched Senedd a’r adolygiad parhaus o
weithdrefnau cwyno sy’n ymwneud â’r cod hwn;
- Penderfyniad y Bwrdd Taliadau
Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau a ddaeth i rym ar ddechrau'r
Chweched Senedd;
- rheolau'r Swyddog Cyfrifyddu a
fyddai'n destun ymgynghoriad yn fuan;
- polisi Urddas a Pharch yr
Aelodau.
11.3 Soniodd Siwan am y dull
cydgysylltiedig sy’n cael ei sefydlu ar gyfer y materion rheoleiddio hyn sy’n
ymwneud â’r Aelodau, gan gynnwys swyddogion perthnasol o bob rhan o’r Comisiwn.
Soniodd hefyd am y llwybrau ar gyfer ymgysylltu â grwpiau perthnasol, megis
Penaethiaid Staff a Grŵp Cyswllt Gwleidyddol newydd y Senedd sydd wedi’i
sefydlu i’r Llywydd a’r Prif Weithredwr ymgysylltu â’r Aelodau.
11.4 Mewn ymateb i gwestiynau gan y
Pwyllgor am ei rôl mewn perthynas â’r fframwaith rheoleiddio, a rôl y Pwyllgor
Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu, nododd Siwan y byddai’r Comisiwn
yn ymgynghori ac yn ymgysylltu â phob pwyllgor fel y bo’n briodol.
11.5 Pan ofynnwyd iddo am ei
safbwynt ar y dull o reoli’r risg hon, cydnabu Ken Skates yr heriau o ran
ymgysylltu â’r Aelodau ac awgrymodd y gallai sesiynau briffio byr gyda grwpiau
plaid fod y ffordd fwyaf effeithiol o ymgysylltu.
11.6 Croesawodd y Pwyllgor
sefydlu’r dull cydgysylltiedig hwn a chydnabu’r heriau o ran gwneud fframwaith
cymhleth yn ddealladwy i sicrhau bod yr Aelodau a’r holl ddeiliaid swyddi yn
deall eu cyfrifoldebau. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am rannu'r papur
briffio a roddwyd i'r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol a nododd yn glir
gyfrifoldebau'r cyrff sy'n ymwneud â'r fframwaith rheoleiddio.
11.7 Trafododd y Pwyllgor ffyrdd y
gellid symleiddio'r ffordd y cyflwynir elfennau o'r fframwaith a'u cyfleu'n
effeithiol. Awgrymodd Ann Beynon siart lif ar sut y gallai’r elfennau o’r
fframwaith gyd-fynd â’i gilydd fod yn ddefnyddiol, yn enwedig i Aelodau newydd
y cytunodd Siwan i’w hystyried.
11.8 Ychwanegodd Siwan mai nod y
dull cydgysylltiedig hwn oedd helpu’r Aelodau i ddeall y rheolau fel roeddent
yn gymwys iddynt ac egluro llwybrau iddynt ofyn am ragor o gyngor. Mewn ymateb
i gwestiynau am amserlenni, cadarnhaodd Siwan fod nifer o dasgau ar wahân i’w
cyflawni mewn perthynas â phob elfen o’r fframwaith ac y byddai’r dull yn cael
ei ddefnyddio fel cyfrwng yn y dyfodol i hwyluso a chydgysylltu newidiadau yn y
dyfodol a sicrhau bod swyddogion yn ymgynghori â grwpiau priodol.
11.9 Mewn ymateb i gwestiynau am orgyffwrdd ym meysydd cyfrifoldeb y cyrff dan sylw, rhoddodd Siwan sicrwydd i’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Risg gorfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
- Cyfyngedig 36
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur
8 – Risg gorfforaethol
ARAC (05-21) Papur
8 – Atodiad A - Crynodeb o’r Gofrestr Risg Gorfforaethol
ARAC (05-21) Papur 8 – Atodiad B - Risgiau corfforaethol a nodwyd
10.1
Croesawodd y Cadeirydd Siwan
Davies a Matthew Richards i'r cyfarfod.
10.2 Cadarnhaodd Dave Tosh fod y
risgiau wedi'u hadolygu a'u diweddaru gan berchnogion risg.
10.3 Croesawodd y Pwyllgor y
symudiadau yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol y nododd y cytunodd y Bwrdd
Gweithredol arnynt i adlewyrchu newidiadau i'r proffil risg. Nododd y Pwyllgor
fod risgiau newydd wedi’u cynnwys ynghylch diwygio’r Senedd a diogelu data ac
ailffocysu’r risg sy’n ymwneud â Covid i adlewyrchu cydnerthedd corfforaethol
a’r mesurau i leihau’r tebygolrwydd o gyflwyno heintiau.
10.4 Roedd y Pwyllgor yn falch o'r
diweddariadau a lefel y manylder a roddodd wybodaeth helaeth iddo ei thrafod.
Gwnaeth y Cadeirydd sylw hefyd ar gyflwyniad clir yr amgylchedd risg ac roedd
o’r farn bod y diagram, lle nodwyd y risgiau ar fatrics, yn ddefnyddiol.
Anogwyd swyddogion i ymgysylltu â’r Pwyllgor ar adegau priodol, yn enwedig mewn
perthynas â’r trefniadau presennol neu newidiadau i’r fframwaith rheoleiddio.
Camau gweithredu
· Ailedrych ar y mesurau lliniaru ynghylch risg y fframwaith rheoleiddio
yn yr haf – ar gyfer y trefniadau presennol.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Diweddariad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid
Oral item
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
9.1 Diolchodd Ken Skates i Nia a’i
thîm am broses esmwyth wrth baratoi at ymddangosiadau yng nghyfarfodydd
pwyllgorau’r Senedd ac am yr holl sesiynau briffio a ddarparwyd iddo fel y
Comisiynydd â chyfrifoldeb am y gyllideb a llywodraethu.
9.2 Roedd y Comisiwn wedi derbyn
naw argymhelliad y Pwyllgor Cyllid, a derbyniwyd un mewn egwyddor. Amlinellodd
Ken y rhesymeg dros dderbyn mewn egwyddor yr argymhelliad ynghylch dod o hyd i
arbedion, yn hytrach na cheisio cyllidebau atodol, y tynnwyd sylw'r ddau
Bwyllgor atynt. Trafododd y Pwyllgor yr anawsterau o ran rhagweld pwysau, ac
ymateb iddynt, yn ystod y flwyddyn pan nad oedd gan y Comisiwn, yn wahanol i
lawer o sefydliadau, gyllideb wrth gefn ac na all gronni cronfa wrth gefn drwy
refeniw. Cadarnhaodd Nia mai dim ond os bydd angen un y byddai cyllideb atodol
yn cael ei chyflwyno.
9.3 Mewn ymateb i gwestiynau gan
aelodau’r Pwyllgor ynghylch strategaethau i reoli pwysau yn ystod y flwyddyn,
soniodd Nia y bu’n gweithio’n agos gyda’r timau rheoli Cyfleusterau ac Ystadau
a TGCh a Darlledu i sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio’n llawn bob
blwyddyn, gyda gwariant yn cael ei ddwyn ymlaen neu ei wthio’n ôl, gan ddibynnu
ar amseroedd arwain ac ati. Ychwanegodd y tynnwyd sylw’r Pwyllgor Cyllid ar bob
cyfle at y prosiect posibl i osod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel i sicrhau
na fyddai dim yn annisgwyl.
9.4 Cydnabu Archwilio Cymru hefyd
yr anawsterau o ran cynllunio cyllidebau heb y gallu i gronni cronfeydd wrth
gefn a chymeradwyodd y Comisiwn ynghylch yr opsiwn i ofyn am gyllideb atodol a
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cyllid.
9.5 Soniodd Manon hefyd am yr
heriau ynghylch cynllunio cyllidebau a nododd fod gofyn am gyllidebau atodol,
yn hytrach na chadw cronfeydd wrth gefn, yn ychwanegu at dryloywder yn sgil y
gwaith craffu helaeth ar gyllidebau a chyfrifon y Comisiwn.
9.6
Llongyfarchodd y Cadeirydd y tîm ar ei reolaeth ar gyllidebau, er
gwaethaf yr heriau ac roedd am dalu teyrnged i bawb dan sylw.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
ARAC (05-21) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol
2020-21 a chyllideb 2022-23
8.1
Cyflwynodd Nia Morgan y papur diweddaru cyllid a nododd y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf ar gyfer 2021-22 a rhoddodd ddiweddariad ar y gwaith i gyflawni
cyllideb 2022-23, ac roedd y manylion wedi’u dosbarthu y tu allan i gyfarfod y
Pwyllgor.
8.2
Targedau ariannol corfforaethol 2021-22 oedd cyflawni alldro gweithredol
diwedd blwyddyn rhwng 0 y cant ac 1.5 y cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy
a barn archwilio ddiamod. Yr alldro a ragwelwyd ddiwedd mis Hydref oedd
tanwariant 2.1 y cant a oedd y tu allan i'r targed ar hyn o bryd. Soniodd fod y
Tîm Arwain a'r Bwrdd Gweithredol yn adolygu'r eitemau cyfleusterau blaenoriaeth
ac yn trafod prosiectau TGCh y gellid eu dwyn ymlaen o'r flwyddyn ariannol
nesaf. Byddai hyn hefyd yn lleddfu’r pwysau ar gyllideb 2022-23.
8.3
Gosodwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2022-23 ar 29 Medi a chynhaliwyd
y sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor Cyllid ar 8 Hydref. Rhannwyd adroddiad y
Pwyllgor ac ymateb y Comisiwn y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor. Gosodwyd y
gyllideb derfynol ar 10 Tachwedd a chafodd ei thrafod a’i chymeradwyo yn y
Cyfarfod Llawn ar 17 Tachwedd.
Cyfarfod: 22/11/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
COVID-19 - Diweddariad corfforaethol
Oral item
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
3.1
Cadarnhaodd Dave fod y Grŵp Cydnerthedd a Monitro Covid (CRAM) yn
parhau i fonitro rheoliadau a chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Roedd y
niferoedd sy’n mynd i’r ystâd wedi gostwng yn sylweddol ers i’r Prif Weithredwr
a’r Llywydd gyhoeddi neges ar y cyd yn annog y rhai a allai weithio gartref i
barhau i wneud hynny. Sicrhaodd y Pwyllgor fod y rhai a oedd yn mynd i’r ystâd
yn hanfodol i fusnes y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau a’u bod yn dilyn y
canllawiau, er enghraifft, ynghylch gwisgo masgiau wyneb a chadw pellter
corfforol. Roedd mesurau llym a gymerwyd ar gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched
Senedd (yr Agoriad Brenhinol) wedi sicrhau digwyddiad diogel heb gynnydd yn y
gyfradd heintio.
3.2
Dywedodd Dave y bu cynnydd yn nifer y protestiadau ar yr ystâd. Roedd un
o’r rhain yn brotest fyrfyfyr ac ymosodol yn ymwneud â dadl yn y Cyfarfod Llawn
ynghylch rheoliadau pasbort brechu Covid, gydag ymdrechion i darfu ar y rhai
sy’n mynd i’r ystâd ac yn ei gadael. Byddai’r tîm Diogelwch yn parhau i fonitro
busnes y Senedd i ragweld protestiadau a gweithio gyda’r Heddlu i rannu ac
ymateb i unrhyw gudd-wybodaeth am brotestiadau wedi’u cynllunio neu heb eu
cynllunio.
3.3
Mewn ymateb i gynnydd mewn bygythiadau i Aelodau o’r Senedd, yn bennaf
ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd Dave a Kevin Tumelty, Pennaeth Diogelwch,
wedi mynd i gyfarfodydd grwpiau plaid i atgoffa’r Aelodau o’r cymorth sydd ar
gael iddynt.
3.4
Pan holwyd Dave ynghylch posibilrwydd cynnal cyfarfodydd Pwyllgor hybrid
yn y dyfodol, dywedodd Dave y byddai angen dilyn y canllawiau a roddwyd i’r
sefydliad ehangach, sef bod cyfarfodydd rhithwir yn parhau lle bynnag y bo
modd, nes i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru.
3.5
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch effeithiolrwydd ac
addasrwydd parhaus CRAM, amlinellodd Dave waith y grŵp. Roedd hyn yn
cynnwys monitro’r rheoliadau diweddaraf a chanllawiau’r Llywodraeth, asesu
risgiau’r holl weithgareddau a digwyddiadau’n drylwyr a hysbysu’r Bwrdd
Gweithredol a Chomisiwn y Senedd. Roedd yn teimlo bod hyn yn gweithio'n
effeithiol. Hefyd, myfyriodd ar ganlyniadau’r arolwg Pulse diweddaraf a dynnodd
sylw at y straen ar staff ar draws y sefydliad wrth i’r gofyniad i weithio
gartref barhau.
3.6
Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y
gweithle, o gofio nad yw cyfieithu ar y pryd yn bosibl ar MS Teams. Cadarnhaodd
Arwyn Jones fod Aelodau o’r Senedd yn defnyddio cynnyrch newydd Zoom
Professional i gyfathrebu â’u hetholwyr yn ddwyieithog ac roedd yn fodlon na fu
gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg yn y sefydliad.
Cyfarfod: 18/06/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
COVID-19 - Diweddariad corfforaethol
Eitem lafar
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
6.1
Rhoddodd Dave Tosh y
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ers i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Roedd cyfyngiadau
ar ddefnyddio mannau cyfarfod wedi'u llacio gymaint â phosibl ac roedd
grwpiau'r Pleidiau wedi dechrau cwrdd ar y safle. Roedd nifer o wasanaethau'n
cael eu hailgychwyn gan gynnwys gwasanaethau arlwyo ac roedd asesiadau risg yn
cael eu cynnal ar ailgyflwyno gwasanaethau eraill i Aelodau, eu staff cymorth a
staff eraill a oedd yn defnyddio'r ystâd.
6.2
Parhaodd Grŵp
Cydnerthedd a Monitro Covid (CRAM) i gwrdd yn wythnosol er mwyn monitro
newidiadau i gyfyngiadau a rheoli'r gwaith o weithredu ymateb y Comisiwn o ran
agor gwasanaethau. Amlinellodd y gwasanaethau sy'n cael eu hailgyflwyno a
nododd fod Cyfarfod Llawn hybrid yn parhau i weithio'n dda. Amlinellodd hefyd effeithiolrwydd mesurau fel
systemau un ffordd a'r cyfundrefnau glanhau a dywedodd y byddai profion llif
ochrol ar gael i staff sy'n defnyddio'r ystâd, yn enwedig wrth i ddigwyddiadau
a gweithgarwch cyhoeddus ailddechrau.
6.3
Byddai arolwg yn cael
ei anfon at yr holl staff i gasglu gwybodaeth am eu trefniadau gweithio dewisol
yn y dyfodol pan fyddai cyfyngiadau'n caniatáu dychwelyd i'r ystâd. Byddai hyn
yn rhoi gwybodaeth i benaethiaid gwasanaethau er mwyn gallu gwneud
penderfyniadau ynghylch darparu ar gyfer dewisiadau a chydbwyso dull hyblyg ag
anghenion busnes. O safbwynt llesiant, roedd yn ymddangos bod y staff yn
ymdopi'n hynod o dda, er bod arwyddion o bwysau a blinder yn dechrau dod i'r
amlwg.
6.4
Yn seiliedig ar ei
phrofiad o aelodaeth Pwyllgor, anogodd Suzy swyddogion i ystyried yn ofalus
beth fyddai dewis tystion wrth gymryd rhan mewn cyfarfodydd pe bai pwyllgorau
hybrid yn dod yn drefniant parhaol.
Anogodd swyddogion hefyd i gynnal arolwg o staff cymorth yr Aelodau, ac
ymgysylltu â hwy yn enwedig wrth ystyried newidiadau fel teleffoni ac offer
arall cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.
6.5
Yna amlinellodd Arwyn
gynlluniau ar gyfer yr agoriad Brenhinol swyddogol. Er nad oedd dyddiad wedi'i
gytuno eto, roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r Palasau, yr Aelodau a'r
cyfryngau. Byddai'r digwyddiad arfaethedig yn cynnwys perfformiadau byw a
pherfformiadau wedi'u recordio ymlaen llaw, a byddai'r ffilmio'n digwydd dros
yr haf yn unol â llacio cyfyngiadau.
6.6
Cytunodd y Pwyllgor
fod platfform MS Teams wedi gweithio'n dda iddynt, gan ofyn am gymaint o rybudd
â phosibl os oedd cynlluniau i symud i ddull gweithredu ar y safle neu
hybrid.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 16)
Adroddiad blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 49
Cofnodion:
ARAC
(02-21) Papur 15 – Adroddiad blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth
17.1
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am adroddiad hynod
gynhwysfawr a chroesawodd y gwybodaeth ychwanegol am y cynllun marcio amddiffynnol.
17.2
Pwysleisiodd Dave yr heriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
o ran gwneud y gwaith a oedd wedi’i flaenoriaethu, sef cydymffurfio â
deddfwriaeth diogelu data, a chodi ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth hon, yn
ogystal â’r gwaith ychwanegol a achoswyd gan y pandemig ac etholiadau’r Senedd.
O ran cyflwyno cynllun marcio amddiffynnol, amlinellodd Dave y cymhlethdodau
sy’n gysylltiedig â dod o hyd i ddatrysiad technegol sy’n ddigon hyblyg i
ymateb i wahanol anghenion o ran llif y wybodaeth ar gyfer staff y Comisiwn a’r
Aelodau. Er y byddai’r tîm yn parhau i weithio ar y materion hyn, ychwanegodd
fod y ffocws ar hyn o bryd ar baratoadau ar gyfer y Senedd newydd a llunio
canllawiau ar gyfer yr Aelodau.
17.3
O ran y sylwadau ar liniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â
rhannu data, cafwyd cadarnhad gan Dave fod Aelodau wedi croesawu’r gwaith o
fudo tuag at SharePoint a OneDrive oherwydd y nodweddion diogelwch a’r
hyblygrwydd sy’n gysylltiedig â’r rhaglenni hyn, ac ychwanegodd y byddai pob
Aelod bellach yn eu defnyddio.
17.4
Gofynnodd Suzy am y nifer o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth
a ddaeth i law’r Comisiwn o’i gymharu â chyrff cyhoeddus eraill. Cyfaddefodd
swyddogion fod nifer y ceisiadau a ddaeth i law’r Comisiwn yn is na’r
awdurdodau cyhoeddus, ond bod cymhlethdod a natur gwleidyddol y ceisiadau’n
golygu nad oedd y nifer yn adlewyrchiad gwirioneddol o’r gwaith a fu’n rhaid ei
wneud arnynt.
17.5
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad blynyddol hwn a diolchodd
i Dave am y diweddariad.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Y wybodaeth ddiweddaraf am dwyll a pholisïau chwythu'r chwiban
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 52
- Cyfyngedig 53
- Cyfyngedig 54
Cofnodion:
ARAC (02-21) Papur 14 – Y wybodaeth
ddiweddaraf am bolisi chwythu’r chwiban a pholisi twyll – papur eglurhaol
ARAC (02-21) Papur 14 – Atodiad A –
Polisi twyll, llygredd a llwgrwobrwyo
ARAC (02-21) Papur 14 – Atodiad B –
Polisi chwythu’r chwiban
16.1
Cafwyd cadarnhad gan Gareth nad oedd unrhyw newidiadau
sylweddol wedi’u gwneud yn sgil ei adolygiad blynyddol o’r ddau bolisi.
16.2
O ran twyll, cyfeiriodd Gareth at gyhoeddiad y Swyddfa
Archwilio Genedlaethol, sef ‘Good Practice Guide on Fraud and Error’, a oedd
wedi’i rannu ag aelodau’r Pwyllgor yn y gorffennol. Roedd y cyhoeddiad hwn yn
cynnwys rhestr wirio y byddai Gareth yn ei hadolygu i benderfynu pa agweddau
sy’n berthnasol i’r Comisiwn. Ochr yn ochr â’r adolygiad hwn, roedd hefyd wedi
cwblhau ei adroddiad blynyddol ar dwyll, a oedd wedi’i gyflwyno o dan eitem 7.
16.3
Wrth adolygu polisi chwythu’r chwiban, roedd Gareth wedi
ystyried canllawiau gan Protect (enw newydd Public Concern at Work).
Ychwanegodd y byddai’n cynnal adolygiad llawnach o’r polisi hwn yn ystod
2021-22. Byddai hyn yn cynnwys trafod â chydweithwyr ym maes Adnoddau Dynol a
staff eraill sy’n rhan o’r gwaith o ddiweddaru polisïau’r Comisiwn ar urddas a
pharch yn y gweithle i sicrhau cyswllt addas â’r polisi hwn.
16.4
Nododd y Pwyllgor y diweddariadau gan Gareth, gan ategu’r
ffordd y mae’n ymdrin â’r gwaith hwn.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad blynyddol a datganiad llywodraethu drafft y Comisiwn ar gyfer 2020-21
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 57
- Cyfyngedig 58
- Cyfyngedig 59
- Cyfyngedig 60
Cofnodion:
ARAC
(02-21) Papur 10 – Cyfrifon ac adroddiad blynyddol drafft 2020-21 – papur
eglurhaol
ARAC
(02-21) Papur 10 – Atodiad A – Naratif yr adroddiad blynyddol drafft
ARAC
(02-21) Papur 10 – Atodiad B – Datganiad o gyfrifon drafft
ARAC (02-21) Papur 10 – Atodiad C – Datganiad llywodraethu blynyddol drafft
11.1
Amlinellodd Arwyn Jones
yr adran ar naratif yr adroddiad blynyddol drafft, sydd, fel ag yn ystod y
flwyddyn flaenorol, yn cynnwys tabl i grynhoi gweithgarwch a dadansoddiad cryno
o berfformiad yn ystod y flwyddyn. Yn anochel, canolbwyntiwyd ar y ffordd y
mae’r sefydliad wedi ymateb i’r pandemig mewn ffordd ystwyth a chadarnhaol. Y
ffocws yn y dyfodol fyddai cynnwys y ffyrdd newydd o weithio hyn ym musnes
arferol y Comisiwn.
11.2
O ran y datganiad o
gyfrifon, pwysleisiodd Nia fod y datganiad hwn wedi’i gyflwyno er gwybodaeth am
y fformat yn unig mor gynnar â hyn yn y broses. Ychwanegodd fod y targedau a
amlinellwyd yng Nghynllun Archwilio 2020-21 wedi’u cyrraedd ac y byddai’r
cyfrifon terfynol yn barod i gael eu cyflwyno’n ffurfiol i’r Pwyllgor yn ystod
ei gyfarfod ar 18 Mehefin 2021.
11.3
Cafodd y Comisiwn ei gymeradwyo gan y
Pwyllgor am ei berfformiad neilltuol yn ystod blwyddyn neilltuol. Soniodd
aelodau’r Pwyllgor am hyd yr adran naratif a pha mor rhwydd oedd hi i’w
darllen, ond roeddent yn cydnabod bod y canllawiau o ran arfer da wedi’u dilyn
yn ddiwyd wrth lunio’r cynnwys. Hefyd, gwnaethant awgrymu y dylid llunio
crynodeb gweithredol i ganolbwyntio ar y prif negeseuon, yn ogystal â chynnwys
manylion am wariant cyfalaf posibl ar yr ystâd. Roeddent hefyd o’r farn y
dylai’r adroddiad fod yn ddogfen friffio allweddol i’r Comisiynwyr newydd,
unwaith iddynt gael eu penodi.
11.4
Diolchodd Arwyn i
aelodau’r Pwyllgor am eu hadborth adeiladol. O ran y gallu i ddarllen y naratif
yn rhwydd, amlinellodd gynlluniau i wneud yr adroddiad yn fwy rhyngweithiol yn
y dyfodol, gan wneud defnydd gwell o ddelweddau. O ran cynnwys a hyd yr
adroddiad, ychwanegodd Manon fod adborth cadarnhaol ar adroddiadau blaenorol
wedi dod i law gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Phwyllgor Cyllid y Senedd.
11.5
Cytunodd swyddogion i drafod y
sylwadau penodol a wnaed yn ystod y cyfarfod, a chytunodd aelodau’r Pwyllgor i
anfon sylwadau manwl at y tîm Clercio erbyn 7 Mai.
Cam
gweithredu: Aelodau’r Pwyllgor i anfon sylwadau manwl ar y cyfrifon a’r
adroddiad blynyddol drafft at y tîm Clercio erbyn 7 Mai.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
COVID-19 - Diweddariad corfforaethol
Cofnodion:
Diweddariad llafar
3.1
Rhoddodd Dave Tosh ychydig o ddata monitro i’r Pwyllgor a
oedd wedi’u casglu’n rheolaidd ers mis Mawrth 2020. Roedd y data hyn yn dangos
nad oedd y nifer uchel o achosion o COVID-19 a gadarnhawyd wedi effeithio ar
Gomisiwn y Senedd, yn bennaf oherwydd y camau a gymerwyd i symud tuag at
weithio’n rhithwir ac mewn modd hybrid.
3.2
Roedd lefelau presenoldeb ar yr ystâd yn parhau’n isel ac
roedd cynlluniau i ganiatáu i nifer gyfyngedig a rheoledig o staff ddychwelyd
yn cael eu trafod eto. Roedd llesiant staff yn parhau’n destun pryder, ac roedd
yn amlwg bod y straen a achoswyd gan ddiffyg cyswllt personol a gweithgareddau
grŵp wedi dechrau effeithio’n andwyol ar rai unigolion.
3.3
Roedd y Grŵp Gwydnwch a Monitro COVID, o dan
gadeiryddiaeth David, wedi parhau i fonitro newidiadau i’r rheoliadau a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y grŵp hwn hefyd yn parhau i
adolygu ystod o asesiadau risg, gan gynnwys asesiadau ar gyfer y staff hynny
sy’n dychwelyd i’r ystâd i baratoi ar gyfer gweithgareddau ar ôl yr etholiad,
ac i gynnal y gweithgareddau hynny, gan gynnwys tyngu’r llw, casglu offer TGCh
a Chyfarfod Llawn hybrid i ethol y Llywydd a’r Prif Weinidog.
3.4
Hefyd, rhoddodd Dave wybod, yn dilyn trafodaethau â
Heddlu De Cymru a Chyngor Caerdydd, fod y penderfyniad anodd wedi’i wneud i
gadw’r ffens o amgylch y Senedd yn ei lle i geisio atal ymddygiad
gwrthgymdeithasol ar ôl gŵyl y banc ddechrau mis Mai.
3.5
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch cofnodi
data am frechiadau, rhoddodd Dave wybod, yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol,
nad oedd achos da o safbwynt busnes o blaid casglu’r wybodaeth hon o dan
ddeddfwriaeth diogelu data.
3.6
Hefyd, ymatebodd Dave i gwestiynau ynghylch dull y
Comisiwn ar gyfer gwneud cynlluniau yn y tymor hwy i ddychwelyd i ‘normal’ ar
ôl COVID a’r amcangyfrif o bobl a fydd yn defnyddio’r ystâd. Mae cynlluniau
peilot ar y gweill i ail-gyflunio rhai gofodau gwaith, gan gynnwys gosod offer
mewn ystafelloedd cyfarfod i ganiatáu i staff weithio mewn modd hybrid. Bydd y
cynlluniau hyn yn cael eu gwerthuso a’u cyflwyno maes o law, gan ymateb i
anghenion timau unigol a’u rolau.
3.7
Cafwyd sicrwydd gan Gareth fod y Grŵp Gwydnwch a
Monitro COVID yn cymryd camau o ran diwydrwydd dyladwy i sicrhau gwaith
llywodraethu effeithiol a bod y risgiau sy’n gysylltiedig â dychwelyd i’r ystâd
yn cael eu monitro. Roedd Gareth wedi rhannu manylion am gylch gorchwyl y
grŵp â’u gymheiriaid mewn deddfwrfeydd eraill a oedd yn wynebu materion
tebyg.
3.8
Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad cynhwysfawr hwn, yn
enwedig manylder y gwaith cynllunio sy’n cael ei wneud i sicrhau diogelwch a
llesiant pob un sy’n gweithio ar yr ystâd. Roedd y Cadeirydd am roi ar gofnod
ei fod yn cydnabod y trefniadau llwyddiannus o ran llywodraethu y mae’r
Comisiwn wedi’u gwneud drwy gydol y pandemig.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Diweddariad ar y gwaith cynllunio ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021
Cofnodion:
8.1
Croesawodd y Cadeirydd
Siwan Davies a Sulafa Thomas i'r cyfarfod. Cyfeiriodd Siwan y Pwyllgor at y
diweddariadau a ddarparwyd yng Nghofrestr Risg Gorfforaethol y Comisiwn a
rhoddodd ddiweddariad pellach ar y sefyllfa ddeddfwriaethol, gan amlinellu hynt
gyflym Bil Brys y Llywodraeth trwy’r gwahanol gyfnodau a goblygiadau hyn i'r
Comisiwn. Byddai'r Bil, sy’n aros i gael Cydsyniad Brenhinol ar gyfer ei
ddeddfu fel Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021, yn rhoi pwerau i'r
Senedd newid dyddiad Etholiad y Senedd hyd at chwe mis pe bai’n angenrheidiol i
ddiogelu iechyd y cyhoedd. Byddai hefyd yn cwtogi cyfnod y diddymiad ffurfiol i
wythnos.
8.2
Disgrifiodd Siwan y cytundeb
y byddai cyfnod hwn o wythnos ar gyfer y diddymiad ffurfiol hwn yn cael ei
ragflaenu gan gyfnod cyn y diddymiad o dair wythnos. Yn ystod pedair wythnos y
cyfnod hwn, a elwir yn ‘gyfnod yr etholiad’, unig fusnes y Senedd fyddai trafod
a chymeradwyo newidiadau arfaethedig i ddyddiad yr etholiad neu ymdrin â
materion iechyd cyhoeddus yn ymwneud â’r Coronafeirws. Ychwanegodd y byddai
rheolau diddymiad arferol, gan gynnwys rheolau’n ymwneud â defnyddio adnodd y
Senedd, yn berthnasol yn ystod pedair wythnos cyfnod yr etholiad. Roedd
canllawiau ar gyfer y diddymiad i Aelodau o'r Senedd a staff y Comisiwn yn cael
eu diweddaru ar gyfer eu cyhoeddi yn y dyddiau nesaf.
8.3
Disgrifiodd Sulafa y
camau ymarferol sy'n cael eu cymryd i ddiweddaru a chyhoeddi canllawiau ar
gyfer cyfnod yr etholiad, a'r cynlluniau sy'n cael eu cwblhau ar gyfer
dechrau'r Chweched Senedd. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau ar gyfer tyngu’r llw
yn rhithwir neu yn gorfforol yn unol â chanllawiau iechyd cyhoeddus, darparu
mynediad at offer TG ac adnoddau eraill, a sefydlu swyddfeydd ar gyfer Aelodau
newydd ac Aelodau sy'n dychwelyd. Eglurodd Sulafa fod rhywfaint o offer TG ar
gyfer Aelodau newydd yn cael ei brynu'n gynnar i leihau’r risgiau posibl o ran
oedi wrth gaffael yn ymwneud â diwedd cyfnod Pontio'r UE.
8.4
Dywedodd Sulafa fod
cynlluniau hefyd yn cael eu llunio ar gyfer y gwahanol ffurfiau ar gyfer cynnal
y seremoni agoriadol swyddogol, yn dibynnu ar y cyfyngiadau symud. Roedd
rhaglen gynefino fanwl hefyd yn cael ei chwblhau a fyddai’n canolbwyntio, yn y
dyddiau cynnar, ar roi eglurder ar reolau a chyfrifoldebau statudol a mwyaf
arwyddocaol yr Aelodau. Roedd trafodaethau hefyd ar y gweill, gan gynnwys
gyda'r Llywydd, y Comisiwn a Fforwm y Cadeiryddion (Pwyllgorau), ynglŷn â
diwedd y Bumed Senedd o ran adroddiad gwaddol.
8.5
Ychwanegodd Sulafa fod
y broses ar gyfer newid dyddiad yr etholiad, a'r trothwyon ar gyfer gwneud
hynny, hefyd yn cael eu hystyried. Roedd goblygiadau cyllideb unrhyw newidiadau
hefyd yn cael eu monitro. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, dywedodd
Siwan mai’r Prif Weinidog fyddai’n cynnig newid i ddyddiad yr etholiad ar sail
cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Prif Swyddog Meddygol.
8.6 Diolchodd y Cadeirydd i Siwan a Sulafa am eu diweddariadau cynhwysfawr a nododd y cynlluniau trylwyr a datblygedig sydd ar waith. Nododd hefyd y byddai ffocws y Pwyllgor ar reoleidd-dra a phriodoldeb. Hefyd, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Trafod strategaeth y Comisiwn ar gyfer y Chweched Senedd
Cofnodion:
7.1 Gofynnodd y Cadeirydd i Manon roi'r
wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.
Eglurodd fod trafodaethau cychwynnol wedi cael eu cynnal gyda'r Comisiynwyr
ynghylch adroddiad gwaddol a'i argymhellion ar gyfer y Comisiwn newydd, gyda
thrafodaethau pellach i ddilyn. Roedd nifer o feysydd sy’n cynnig rhywfaith o
sicrwydd ar gyfer argymhellion gan y Comisiwn presennol, gan gynnwys y byddai
aelodau nesaf y Comisiwn yn newydd a chymeradwyo'r gyllideb ar gyfer 2021-22.
Tynnodd Suzy sylw at y ffaith bod y gyllideb eisoes dan bwysau, yn enwedig ar
gyfer prosiectau yn y dyfodol a’r ffaith bod angen cefnogaeth realistig a
rhesymol gan yr Aelodau. Byddai angen i'r Comisiwn newydd ystyried y
cyfyngiadau cyllidebol, rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a’r hyn a
ddysgwyd o sefyllfa Covid wrth flaenoriaethu ei amcanion ar gyfer cyflawni
busnes y Senedd, yn ogystal â datblygu strategaethau o ran y gweithlu a llety.
Atgoffodd Manon y Pwyllgor hefyd o'r disgwyliad y byddai adolygiad capasiti
pellach yn cael ei gynnal ar ddechrau'r Chweched Senedd. Nododd y Pwyllgor fod
y nodau strategol yn annhebygol o newid yn sylweddol, ond y byddai ailosod y
rhain yn dibynnu ar uchelgeisiau'r Comisiwn newydd, er enghraifft, yn y cam
nesaf o ran diwygio'r Senedd a lefelau a dulliau ymgysylltu â'r cyhoedd. Nododd
hefyd y byddai angen i farn y Comisiwn cyfredol lywio’r gwaith o bennu nodau a
blaenoriaethau strategol.
7.2 Yna trafododd y Pwyllgor enghreifftiau
penodol o flaenoriaethau y bydd angen eu hystyried, gan gynnwys pwyso a mesur y
rhinweddau yn erbyn y gost o fwrw ymlaen â gweithgareddau ymgysylltu â
dinasyddion a'r gwahanol ffyrdd y gellid cyflawni hyn. Awgrymodd Aled
werthusiad o brofiad y Cynulliad/Senedd o’u cymharu â chynulliadau dinasyddion
a phrofiadau mewn rhannau eraill, megis Iwerddon a'r Alban.
7.3 Roedd dyfodol Tŷ Hywel yn dal i fod
yn fater byw. Amlinellodd Dave gynlluniau tymor byr ar gyfer gwaith cynnal a
chadw ac adnewyddu yn swyddfeydd Aelodau yn ystod cyfnod y diddymiad, a
chynlluniau tymor canolig i'r tymor hir ar gyfer dychwelyd i'r ystâd.
Disgrifiodd gynlluniau'r Comisiwn i dreialu'r cynigion a gymeradwywyd i gefnogi
ffordd fwy hybrid o weithio i staff ledled yr ystâd. Bydd y cynlluniau
peilotiaid hyn yn cael eu gwerthuso a'u haddasu i gyd-fynd â meysydd
cyfrifoldeb. Byddai cyflwyno hyn yn golygu archwilio atebion arloesol ac
ailgyfeirio adnoddau i ddarparu'r lleoedd a'r dechnoleg i hwyluso fformatau
gweithle newydd.
7.4 Gofynnodd Aled am ddiweddariad ar y
trefniadau tymor hir ar gyfer prydles Tŷ Hywel, ac awgrymodd yr angen am
bapur opsiynau pan adolygir y brydles. Dywedodd Dave y byddai trafodaethau
archwiliadol yn dechrau gyda'r landlord yn ystod y misoedd nesaf.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd (gan gynnwys rhagolwg o gynllun archwilio 2021-22)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 69
Cofnodion:
4.1
Cyflwynodd Gareth ei ddiweddariad arferol ar weithgaredd
llywodraethu a sicrhau a gwaith archwilio. Amlinellodd sut yr oedd wedi parhau
i arwain Llif Gwaith Sicrwydd o ran Rhaglen y Comisiwn ar gyfer Dychwelyd i'r
Ystâd a’i gyfranogiad o’r fforwm rhyngseneddol ar Barhad Busnes. Hefyd rhoddodd
ddiweddariad ar baratoadau ar gyfer cynhyrchu Adroddiad Blynyddol 2020-21 y
Comisiwn, a chynhyrchu datganiadau sicrwydd gan bob Pennaeth Gwasanaeth a
Chyfarwyddwr, sef gwaith yr oedd ei dîm yn arwain arno.
4.2
Dosbarthwyd yr
adroddiad ar yr adolygiad rheoli risg a materion y tu allan i'r Pwyllgor, ac
roedd adolygiad o reoli asedau TGCh ar gyfer staff y Comisiwn ac Aelodau o'r
Senedd a'u staff yn aros i gael ei glirio cyn ei rannu â'r Pwyllgor.
4.3
Holodd y Pwyllgor
ynghylch y meini prawf ar gyfer dychwelyd asedau TGCh a dodrefn gan Aelodau
sy’n gadael ac ynghylch dyrannu offer i Aelodau newydd ac Aelodau sy'n
dychwelyd. Cytunodd Gareth y byddai'n trafod opsiynau ailgylchu ac
ailddefnyddio â chydweithwyr yn nhîm Cymorth Busnes i’r Aelodau a Rheoli
Cyfleusterau ac Ystadau.
4.4
Aildrefnwyd yr
archwiliad o ddiwylliant cydymffurfio ar gyfer tymor yr hydref; nid oedd ei
gwmpas wedi'i ddiffinio eto. Disgrifiodd Gareth yr offeryn cydymffurfio meta a
ddefnyddiwyd i gyflwyno rhai polisïau, a bydd ei effeithiolrwydd yn cael ei
werthuso. Holodd aelodau'r pwyllgor ynghylch ei ddefnydd i helpu i sicrhau
lefel eu cydymffurfiad â pholisïau'r Comisiwn y tu hwnt i'r Rheolau Diogelwch
TGCh.
4.5
O ran anghenion
hyfforddiant aelodau'r Pwyllgor yn
gyffredinol, awgrymodd y Cadeirydd y dylai ef a’r tîm clercio drafod y
mater.
4.6
Wrth lunio ei Adroddiad
Blynyddol a'i Farn ar ddiwedd y flwyddyn, bydd Gareth yn adolygu Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Bydd ei adroddiad yn cydnabod sut yr oedd
modd gwrthbwyso’r gostyngiad yn nifer yr adroddiadau archwilio mewnol
traddodiadol a gynhyrchir, trwy iddo gynnig ffyrdd ychwanegol o roi sicrwydd ac
adolygiad yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys gwasanaethu ar fyrddau, yn darparu
sicrwydd a chyngor amser real i uwch-reolwyr ac eraill.
4.7
I gloi’r eitem fe
gyflwynodd Gareth ei ragolwg ar gyfer 2021-22 a fydd yn cynnwys gwaith sy'n
gysylltiedig â Senedd newydd, yn ogystal â’r archwilio a ohiriwyd o'r flwyddyn
flaenorol a'r adolygiadau rheolaidd o feysydd fel systemau ariannol, treuliau
Aelodau a seiberddiogelwch. Croesawodd y Pwyllgor gynlluniau i gynnal yr
adolygiad arfaethedig o werth am arian o'r Gwasanaeth Ymchwil, yn benodol
ynglŷn â’r Llyfrgell, gan y bydd yn dangos defnydd effeithiol o
adnoddau.
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
COVID-19 - Diweddariad corfforaethol
Cofnodion:
3.1
Rhoddodd Dave Tosh y
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y trefniadau sydd ar waith ar yr ystâd.
Oherwydd y cyfyngiadau haen 4, roedd busnes y Senedd yn hollol rithwir ac felly
y byddai'n aros hyd nes i gyfyngiadau gael eu codi. Roedd y cyfyngiadau wedi
lleihau'r risg ar yr ystâd yn sylweddol gan fod presenoldeb yn is na 15 y cant,
o’i gymharu â’r trothwy o 30 y cant. Roedd y rhai a oedd yn bresennol, gan
gynnwys y rhai a oedd yn cefnogi busnes y Senedd ar ddydd Mawrth a dydd
Mercher, yn rhwym wrth reolau cadw pellter cymdeithasol, a oedd yn gweithio'n
dda.
3.2
Roedd grŵp
rhaglen Dychwelyd i'r Ystad yn parhau i baratoi ar gyfer nifer o senarios yn
seiliedig ar lacio cyfyngiadau, yn enwedig o ystyried llwyddiant cynnar y
rhaglen frechu. Roeddent yn canolbwyntio ar fonitro'r rheoliadau i sicrhau bod
y sefydliad mor barod â phosibl ar gyfer ailagor. Byddai'r grŵp hwn yn
darparu diweddariadau wythnosol i'r Tîm Arweinyddiaeth a byddai'n parhau i
ymgynghori â deddfwrfeydd eraill.
3.3
Gofynnodd aelodau'r pwyllgor a fyddai llwyddiant y
rhaglen frechu yn golygu y gallai staff ddychwelyd i'r ystâd yn gynt. Mewn
ymateb, cadarnhaodd Dave fod hyn yn annhebygol oherwydd proffil oedran
defnyddwyr yr adeiladau, gan fod y mwyafrif ohonynt yn annhebygol o gael eu
brechu tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Pwysleisiodd hefyd fod rheolau
ynghylch cadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau wyneb yn debygol o aros am
gryn amser, yn ogystal â dod i’r gweithle dim ond os yw’n hanfodol.
3.4
Mae'r Tîm Ystadau a
Chyfleusterau wedi nodi mannau peilot ar gyfer newidiadau penodol i brofi sut y
gallai dychwelyd i'r ystâd edrych, gyda phresenoldeb corfforol a phresenoldeb
rhithwir, yn ogystal â mannau cyfarfod ac ymneilltuo. Byddai'r mannau peilot
hyn yn cael eu gwerthuso a'u haddasu cyn eu cyflwyno i leoedd eraill.
3.5
Wrth gael ei holi am
bwysigrwydd monitro llesiant staff, rhoes Dave sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr
heriau i nifer o weithwyr ynghylch cyfrifoldebau domestig ac addysg gartref yn
cael eu monitro'n weithredol gan reolwyr llinell a bod lles a llesiant staff yn
flaenoriaeth i bawb. Roedd cau am gyfnod estynedig dros y Nadolig wedi rhoi
cyfle i fwyafrif helaeth y staff gymryd hoe, yn ogystal â lleihau'r ffigur ar gyfer
gwyliau blynyddol cronedig. Er bod y cyfnod clo parhaus yn rhoi pwysau ar
lawer, credai fod polisïau'r Comisiwn a hyblygrwydd timau i weithio'n wahanol
yn golygu bod y mater yn cael ei reoli'n dda. Dywedodd hefyd fod
cyd-ddealltwriaeth o'r pwysau trwy drafodaethau rheolaidd gyda'r Comisiwn a
Fforwm y Cadeiryddion.
3.6
Hefyd, dywedodd Arwyn
Jones wrth y Pwyllgor fod y cynllunio ar gyfer dechrau'r Chweched Senedd ar y
gweill i ganiatáu ar gyfer trafodion rhithwir yn bennaf. Roedd hyn yn cynnwys y
seremoni agoriadol swyddogol, a allai fod yn gymysgedd o weithgareddau rhithwir
a gweithgareddau ar y safle, yn dibynnu ar y cyfyngiadau a fydd ar waith bryd
hynny. Bu staff y Comisiwn yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda'r gwahanol
randdeiliaid.
3.7 Croesawodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3
Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad ar Ddiogelu Data
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
5.1
Cyflwynodd Gareth y
papur hwn, a fwriadwyd i roi sicrwydd bod y Comisiwn yn adolygu eu gallu i gydymffurfio
â GDPR yn gyson. Roedd y papur hwn yn canolbwyntio ar sut yr eir i'r afael wrth
symud ymlaen â'r bylchau a nodwyd, ac ar gynlluniau ar gyfer archwiliadau
cydymffurfio yn y dyfodol. Amlinellodd hefyd ddatblygiad offeryn cydymffurfio â
diogelu data (yn seiliedig ar hunanasesiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth) a
oedd yn cael ei gyflwyno i feysydd cyfrifoldeb.
5.2
Ychwanegodd Gareth fod
cael Dirprwy Swyddog Diogelu Data yn golygu y bydd mwy o ffocws ar gamau
blaenoriaeth, gan gynnwys hyfforddiant ac ymwybyddiaeth, canllawiau a pholisi,
gan gynnwys o ran cadw gwybodaeth. Cytunodd Gareth i ddarparu adroddiadau
rheolaidd ar gynnydd y camau a nodwyd a bydd yn gwirio’r cynnydd yn ffurfiol
ymhen blwyddyn trwy archwiliad ffurfiol.
5.3 Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad hwn a'r dull
arfaethedig. Pan ofynnwyd iddo a fyddai cyngor a hyfforddiant yn cael eu rhoi
i'r Aelodau a'u staff, atgoffodd Gareth y Pwyllgor fod yr Aelodau'n rheolwyr
data ynddynt eu hunain ond y byddai ei dîm yn gwneud yr Aelodau'n ymwybodol o
ganllawiau, gan gynnwys canllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Cyfeiriodd hefyd at sesiynau hyfforddi yr oedd swyddfa ICO Cymru wedi'u darparu
i Aelodau yn y gorffennol, a'r opsiwn o ddarparu sesiynau rhithwir posibl yn y
dyfodol.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
9.1
Amlinellodd Nia y sesiynau tystiolaeth gyda'r
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid. Gosodwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn
ar gyfer 2021-22 ar 1 Hydref 2020 a chynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gyda'r
Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref. Derbyniwyd adroddiad y Pwyllgor a chyhoeddwyd
ymateb. Gosodwyd y gyllideb derfynol ar 4 Tachwedd a chafodd ei thrafod yn y
Cyfarfod Llawn ar 11 Tachwedd. Roedd cyllideb 2021-22 yn ymwneud â blwyddyn
gyntaf y Chweched Senedd a fyddai’n cael ei goruchwylio gan y Comisiwn newydd
sydd i’w phenodi yn haf 2021.
9.2
Roedd gwaith craffu y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ar adroddiad blynyddol 2019-20 wedi canolbwyntio ar les staff a chyfleoedd
caffael Cymru. Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi croesawu gwaith
blaengynllunio prosiectau hirdymor ac wedi codi cwestiynau pellach ar y cynllun
ymadael gwirfoddol y mae'r Comisiwn wedi ymateb iddo.
9.3
Cwestiynodd y Pwyllgor a oedd ymgysylltiad â
sefydliadau fel y Siambr Fasnach a'r Ffederasiwn Busnesau Bach wrth gaffael am
nwyddau a gwasanaethau. Cadarnhaodd Dave fod y Comisiwn yn ymgysylltu'n
weithredol â chyflenwyr a'u bod yn ystyried ffyrdd y gellid annog cyflenwyr i edrych
yn rhagweithiol ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
9.4
Ychwanegodd Gareth y byddai adolygiad o gaffael, a
oedd bellach yn rhan o'i faes gwasanaeth yn cael ei gynnal ac y cyflwynir
adroddiad i'r Pwyllgor maes o law.
9.5
Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y diweddariad hwn
a'r papurau a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod. Gofynnodd am gael dychwelyd at
weithdrefnau ymgysylltu â chaffael mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cam gweithredu
·
(9.5) Ychwanegu ystyriaeth o ymgysylltiad â chyflenwyr
o Gymru a sefydliadau perthnasol at y flaenraglen waith ar gyfer cyfarfod yn y
dyfodol.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Trafod adroddiad etifeddiaeth gan y Pwyllgor yn deillio o dymor presennol y Senedd
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
13.1 Byddai'r eitem hon yn cael ei thrafod y tu allan i'r pwyllgor.
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
COVID-19 - Diweddariad corfforaethol
Cofnodion:
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
3.1
Rhoddodd Dave Tosh ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y
trefniadau sydd ar waith ar yr ystâd a llwyddiant parhaus busnes rhithwir a
hybrid y Senedd. Roedd y Cyfarfod Llawn wedi'i ddarparu’n rhithwir yn ystod y
cyfnod atal byr ond wedi dychwelyd i fformat hybrid pan godwyd cyfyngiadau
cenedlaethol ar 9 Tachwedd.
3.2
Profwyd yr 'ap' pleidleisio ar-lein yn drylwyr mewn
dadl ddiweddar ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gyda
phleidleisiau wedi'u cynnal ar dros gant o welliannau.
3.3
Roedd cynlluniau i brofi'r model hybrid ar gyfer
Pwyllgorau'r Senedd wedi'u hatal oherwydd y cyfnod atal byr ond byddent bellach
yn digwydd ym mis Rhagfyr. Roedd yr Aelodau a'r Comisiwn yn awyddus i
drefniadau hybrid o'r fath barhau ar gyfer busnes y Senedd yn y dyfodol gan y
byddai'n sicrhau buddion fel ymgysylltiad ehangach a llai o deithio.
3.4
Yn ddiweddar, roedd Siwan Davies a Sian Wilkins,
Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau, wedi darparu tystiolaeth i un o
bwyllgorau Senedd yr Alban ar ein trefniadau gweithdrefnol ac ymarferol yn
ystod y pandemig. Roedd y sesiwn, a gafodd dderbyniad da, yn myfyrio’n
gadarnhaol ar y ffyrdd hyblyg yr oedd y Comisiwn yn cefnogi busnes ffurfiol y
Senedd a'r trefniadau technegol sydd ar waith i hwyluso ymgysylltiad.
3.5
Yna rhannodd Dave ganlyniadau'r arolwg pwls staff
diweddaraf a ddangosodd lefelau uchel o foddhad â'r trefniadau gweithio
cyfredol ac a amlygodd rai heriau o ran diffyg rhyngweithio cymdeithasol, yr
oedd y Tîm Arweinyddiaeth yn eu hystyried.
3.6
O ran y lle gwaith ffisegol, amlinellodd Dave sut
yr oedd yn gweithio gyda'r tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau i ystyried
opsiynau i ddarparu ar gyfer presenoldeb ffisegol a rhithwir preswylwyr yr
adeilad. Roedd hynny'n cynnwys ystyriaethau megis sicrhau bod digon o leoedd
cyfarfod, wedi'u cefnogi gan offer a thechnoleg i hwyluso ymgysylltiad â'r rhai
sy'n gweithio o bell ac mewn ffyrdd a oedd y lleiaf aflonyddgar. Roeddent hefyd
yn ystyried modelau arfer gorau o fannau eraill ac atebion a fyddai'n gweithio
orau i'r sefydliad.
3.7
Tynnodd Suzy Davies sylw at yr adborth cadarnhaol
gan Aelodau’r Senedd, yn enwedig y ddarpariaeth TG a’i gwytnwch yn ystod y
pandemig a chynigiodd ei llongyfarchiadau i’r Comisiwn am y trosglwyddiad
di-dor i drafodion hybrid a rhithwir.
3.8
Diolchodd aelodau'r pwyllgor Dave am y diweddariad
hwn a chroesawwyd y ffyrdd yr oedd y Comisiwn yn ystyried opsiynau, gan
ychwanegu bod astudiaethau wedi dangos nad oedd system o weithio wrth sawl
gweithfan bob amser yn gweithio'n dda. Gwnaethant hefyd annog swyddogion i
gasglu ffigurau ar gyfran y staff sy'n debygol o weithio gartref yn y dyfodol,
gan y byddai hyn yn hanfodol wrth bennu'r lle sydd ar gael.
3.9 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor am y brechlyn Coronafeirws ar gyfer gweithwyr allweddol dynodedig y Senedd, dywedodd Dave y byddent yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd Gareth Watts fod rolau seneddau wedi’u trafod mewn cyfarfod rhyngseneddol diweddar, gan nodi y byddai Tŷ’r Cyffredin yn helpu i gydgysylltu unrhyw drafodaethau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3
Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Achosion o dorri rheolau gwybodaeth (adroddiad ddwywaith y flwyddyn)
Cofnodion:
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
12.1 Hysbysodd Dave, fel
Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth y Comisiwn, y Pwyllgor o bum achos o dorri rheolau
gwybodaeth, un ohonynt gan drydydd parti ac ni chafodd yr un ohonynt eu
trosglwyddo i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Atgoffwyd y staff dan sylw i
wirio cyfeiriadau e-bost ddwywaith a defnyddio copi carbon dall (BCC) pan fo'n
briodol. Gofynnwyd iddynt hefyd ddiweddaru cyfarwyddiadau desg ac atgoffa staff
o unrhyw brosesau newydd sydd ar waith.
Cyfarfod: 10/07/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Sganio'r gorwel yn strategol er mwyn llywio blaenraglen waith y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 85
- Cyfyngedig 86
Cofnodion:
ARAC (04-20) Papur 4 – Y flaenraglen waith
ARAC (04-20) Papur 5 – rhaglen waith ddrafft y
Comisiwn
4.1
Arweiniodd y Cadeirydd drafodaeth ynghylch dyddiadau
cyfarfodydd yn y dyfodol ac eitemau ar gyfer blaenraglen waith y Pwyllgor.
4.2
O ran dyddiadau, cytunwyd y dylai cyfarfodydd
ddilyn y patrwm arferol, sef Tachwedd, Chwefror, Ebrill, Mehefin a Gorffennaf.
Byddai'r tîm clercio yn anfon dyddiadau’r cyfarfodydd i wirio a yw pobl ar
gael, gan osgoi gwrthdaro ag ymrwymiadau eraill a amlinellwyd gan aelodau'r
Pwyllgor.
4.3
O ran cynnwys y flaenraglen waith, nododd y
Cadeirydd nifer o eitemau y credai y dylid eu cynnwys ar ben yr eitemau
rheolaidd a amlinellwyd yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor, y nodwyd rhai ohonynt
yn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Roedd y rhain yn cynnwys: diweddariad ym mis
Tachwedd ar gynllunio a chyfathrebu ynghylch Etholiadau’r Senedd 2021;
diweddariad manwl ym mis Chwefror ar reoli risgiau seiberddiogelwch;
diweddariad ym mis Tachwedd ar newid cyfansoddiadol a Brexit; diweddariadau
rheolaidd ar drafodaethau yng nghyfarfod Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar
Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu; trafod yr amgylchedd ar ôl Covid-19 ym mis Chwefror
(gan gynnwys dirywiad economaidd, a’r elfennau cymdeithasol a dynol); a
chynaliadwyedd a newid hinsawdd.
4.4
Cytunwyd hefyd y byddai diweddariadau yn cael eu
darparu i'r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â chyllideb a chyfrifon y Comisiwn
y tu allan i'r pwyllgor ar adegau priodol yn ystod y flwyddyn, er enghraifft,
cyn i'r gyllideb gael ei gosod.
4.5
Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch
cydymffurfio â'r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol oherwydd y cyfnod hir tebygol o
weithio o bell a'r diffyg opsiynau dwyieithog sydd ar gael, sicrhaodd Manon a
Dave y Pwyllgor fod hyn yn cael ei drafod o dan y cynlluniau ar gyfer dychwelyd
i'r ystâd ac y byddent yn parhau i archwilio technolegau amgen.
Cyfarfod: 10/07/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adolygu Fframwaith Sicrwydd y Comisiwn yn ei gyfanrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 89
- Cyfyngedig 90
- Cyfyngedig 91
Cofnodion:
ARAC (04-20) Papur 3 - Y wybodaeth
ddiweddaraf am y Fframwaith Sicrwydd
ARAC (04-20) Papur 3 Atodiad A - Map
Sicrwydd y Comisiwn
ARAC (04-20) Papur 3 Atodiad B - ARAC yn
rhoi sylw i'r Fframwaith Sicrwydd - Mehefin 19 i Mehefin 20
3.1
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Dave Tosh i
gyflwyno'r eitem hon. Sicrhaodd Dave y Pwyllgor fod y Fframwaith Sicrwydd yn
parhau i fod yn rhan greiddiol o’r sefydliad a'i fod yn cael ei ddefnyddio ar
lefel weithredol ac ar lefel y gyfarwyddiaeth a'i fod yn parhau i fod yn addas
at y diben. Ychwanegodd fod y Cyfarwyddwyr wedi craffu ar fap sicrwydd
cyffredinol y Comisiwn a’i ddiweddaru yn gynharach yn y flwyddyn, a llywiwyd
hyn gan dystiolaeth trwy fapiau sicrwydd unigol a gynhyrchwyd gan bob Pennaeth
Gwasanaeth.
3.2
Dywedodd Dave y byddai'r tîm Llywodraethu a
Sicrwydd yn adolygu'r broses yn ogystal â fformat y mapiau sicrwydd a'r
datganiadau cyn yr ymarfer casglu sicrwydd nesaf yn nhymor yr hydref, ond nid
oedd yn rhagweld unrhyw newidiadau mawr.
3.3
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch
cymharu'r fframwaith â fframweithiau sefydliadau eraill, atgoffodd Kathryn y
Pwyllgor fod adolygiad archwilio mewnol annibynnol a gynhaliwyd ddwy flynedd yn
ôl wedi ystyried gwahanol fodelau ar gyfer mapio sicrwydd a'i fod wedi dod i'r
casgliad bod y broses yn gadarn, heb fod yn rhy fiwrocrataidd, a’i fod wedi
darparu'r sicrwydd angenrheidiol ar bob lefel.
Ychwanegodd fod proses y Comisiwn wedi'i rhannu â sefydliadau eraill a
oedd wedi'i defnyddio i lywio'r broses o weithredu fframweithiau tebyg a'i bod
wedi'i henwi’n aml fel enghraifft o arfer da.
3.4
Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad hwn ynghylch
defnydd y Fframwaith Sicrwydd a’r adolygiad parhaus er mwyn sicrhau ei fod yn
parhau i fod yn addas at y diben.
Anogodd y Cadeirydd y swyddogion i sicrhau bod sicrwydd allanol wedi
cael ei gofnodi’n briodol pan adolygwyd y fframwaith ac i edrych eto ar
ddulliau a fabwysiadwyd mewn sefydliadau eraill.
3.5
Mynegodd aelodau'r pwyllgor ddiddordeb mewn cael
gwybod am flaenraglenni gwaith y Comisiwn (a ddarperir yn y cyfarfod hwn),
Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar Daliadau, Ymgysylltu a'r Gweithlu a’r
Bwrdd Taliadau hefyd.
Camau i’w
cymryd
·
(3.5) Rhannu manylion am
flaenraglenni gwaith Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar Daliadau,
Ymgysylltu a'r Gweithlu a’r Bwrdd Taliadau.
· (3.5) Dave i drefnu trafod llywodraethu’r Bwrdd Taliadau gyda Suzy.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 94
- Cyfyngedig 95
Cofnodion:
ARAC
(03-20) Papur 3 - Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
ARAC
(03-20) Papur 3 Atodiad A - IASAB
3.1
Cyflwynodd Gareth Watts ei adroddiad a disgrifiodd sut yr
oedd yn dal i gyfrannu at ymateb y Comisiwn i bandemig Covid-19. Bellach roedd
hefyd yn arwain y llif gwaith llywodraethu a sicrwydd yn y cynlluniau i
ddychwelyd i'r ystâd. Er bod yr ymrwymiadau hyn wedi amharu ar ei gynlluniau
gwreiddiol ar gyfer archwilio mewnol, rhoddodd Gareth sicrwydd i’r Pwyllgor
drwy egluro sut yr oedd ei dîm wedi parhau i roi sylw manwl i lywodraethu a
sicrwydd. Er enghraifft, disgrifiodd sut yr oeddent wedi parhau i sicrhau: bod
y prosesau rheoli risg yn dal i fod yn gadarn; eu bod yn ymateb i geisiadau
Rhyddid Gwybodaeth o fewn terfynau amser; bod cydweithwyr wedi’u cefnogi i greu
hysbysiadau preifatrwydd ac ymholiadau diogelu data; a bod yr adrannau naratif
yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol a'r Adroddiad Blynyddol wedi'u cwblhau i
safon uchel iawn ac i derfynau amser heriol.
3.2
Ychwanegodd Gareth y byddai'n trafod â TIAA (partneriaid
archwilio mewnol ar gontract allanol) i ddynodi meysydd y gellid eu harchwilio
mewn ffordd ‘rithwir’, a byddai’n diweddaru'r Pwyllgor yn unol â hynny.
3.3
Cyfeiriodd Gareth at y papur gwybodaeth am gydymffurfio
â'r PSIAS yn ystod y pandemig coronafeirws, papur a oedd wedi’i greu’n
ddiweddar gan y Bwrdd Cynghori ar Safonau Archwilio Mewnol ac a gyflwynwyd yn
Atodiad A i'r papur hwn. Cynghorodd y byddai'n rhannu papur gwybodaeth arall
â’r Pwyllgor am sut y mae archwilwyr mewnol yn gwneud pethau'n wahanol yn ystod
y pandemig, a hwnnw i’w gyhoeddi cyn hir.
Camau Gweithredu
(3.3) Gareth
Watts i gylchredeg y papur gwybodaeth IASAB/CIPFA ychwanegol pan gaiff ei gyhoeddi.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Archwiliad beirniadol o risg - ymateb y Comisiwn i'r coronafeirws (Covid-19)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 98
Cofnodion:
ARAC (03-20) Papur 7 –
Llacio’r Cyfyngiadau Symud
7.1
Cyflwynodd
Dave y papur, a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau'r Comisiwn
mewn ymateb i[r pandemig Covid-19 yn ogystal â nodi'r amcanion, yr egwyddorion
a'r rhagdybiaethau gweithio a fyddai'n llywio’r paratoadau er mwyn i bobl
ddychwelyd i'r ystâd. Yn ogystal, amlinellodd Dave y ffrydiau gwaith i sicrhau,
pan fydd gofyn gwneud hynny, y gallai’r broses ddychwelyd fynd rhagddi’n
effeithiol ac yn ddiogel a bod gwersi ar gyfer y dyfodol yn cael eu cofnodi.
7.2
Clywodd y Pwyllgor fod y
Comisiwn wedi dangos cryn allu i addasu wrth ddarparu Cyfarfodydd Llawn
rhithwir dros gyfnod y cyfyngiadau symud. Fel rhan o'r broses o ddychwelyd i’r
ystâd, roeddent yn ystyried y posibilrwydd o gynnal Cyfarfodydd Llawn hybrid,
gyda chyfran o'r Aelodau’n bresennol yn gorfforol, ac eraill yn cymryd rhan o
bell. Ochr yn ochr â hyn, roeddent yn ystyried defnyddio rhaglen bleidleisio
pwrpasol, a oedd wedi’i datblygu'n fewnol, a fyddai'n galluogi Aelodau'r Senedd
i fwrw pleidleisiau o bell.
7.3
Roedd Cadeiryddion y
Pwyllgorau yn dal i roi adborth cadarnhaol ar y gallu i gynnal cyfarfodydd
rhithwir, gyda busnes wedi'i drefnu tan ddiwedd y tymor. Roedd y Pwyllgor
Busnes i ystyried opsiynau ar gyfer cynnal busnes hanfodol y Senedd yn ystod
toriad yr haf. Ochr yn ochr â hyn, roedd gwaith i baratoi’r ystâd ar gyfer pobl
wedi cael ei wneud, gan gynnwys gosod arwyddion clir ar gyfer staff a niferoedd
cynyddol o fannau diheintio ledled yr ystâd.
7.4
Roedd sicrhau bod staff,
Aelodau'r Senedd a'u staff yn parhau i gael eu diweddaru'n rheolaidd yn rhan
hollbwysig o’r gwaith hwn. Dywedodd Arwyn wrth y Pwyllgor fod grŵp
cyfathrebu mewnol, a hwnnw’n cynnwys aelodau o staff Tîm Arweinyddiaeth y
Comisiwn, wedi'i greu. Roedd yn cyfarfod yn ddyddiol i gydlynu’r broses
gyfathrebu a negeseuon. Roedd sesiwn rithwir ddiweddar i’r holl staff a
ddarparwyd gan Manon a'r cyfarwyddwyr wedi arwain at adborth cadarnhaol, gyda
nifer fawr o staff yn bresennol. Wrth i’r gwaith ar gyfer dychwelyd i’r ystâd
ddatblygu, byddai’r gweithgarwch cyfathrebu'n cynyddu er mwyn helpu i leddfu
unrhyw bryder ymhlith staff.
7.5
Dywedodd Gareth wrth y
Pwyllgor mai ei rôl, fel Pennaeth Llywodraethu, oedd parhau i sicrhau y cedwir
at egwyddorion llywodraethu drwy gydol y broses benderfynu. Ychwanegodd ei fod
hefyd yn gwneud darn o waith i gofnodi gwersi a ddysgwyd ym mhob un o'r
ffrydiau gwaith eraill.
7.6
Mewn ymateb i gwestiynau gan
Ann ynghylch adnabod yr aelodau hynny o staff a allai fod angen cymorth
ychwanegol cyn dychwelyd i'r ystâd, sicrhaodd Dave y Pwyllgor fod gwaith wedi’i
wneud i adnabod y staff hynny y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt wrth
ddod yn ôl i'r gweithle.
7.7
Diolchodd y Cadeirydd i Dave
am y papur trylwyr a chydnabu faint yr her sy’n wynebu Bwrdd Gweithredol y
Comisiwn wrth sicrhau bod unrhyw bosibilrwydd o ddychwelyd i'r ystâd yn cael ei
reoli'n effeithiol, ond cafodd ei sicrhau gan y diweddariad a ddarparwyd.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 101
Cofnodion:
ARAC (03-20) Paper 5 – Annual
Report and Accounts 2019-20
ARAARAC (03-20) Papur 5 - Adroddiad Blynyddol a
Chyfrifon 2019-20
ARAC (03-20) Papur 5 Atodiad A
– Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20
5.1
Dywedodd aelodau’r Pwyllgor
fod fformat, cynnwys a chywirdeb yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon wedi
gwneud cryn argraff arnynt, yn enwedig gan fod yr amserlen ar gyfer creu’r
rhain wedi’i chwtogi eleni, a chan ystyried sut y mae’r pandemig Covid-19 wedi
amharu ar bethau. Gwnaeth ansawdd y gwaith cynhyrchu argraff arnynt hefyd, yn
enwedig ac ystyried bod y tîm yn un bach.
5.2
Argymhellodd y Pwyllgor i'r
Swyddog Cyfrifyddu y dylid llofnodi'r datganiadau ariannol ar gyfer 2019-20.
Byddai'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol yn ychwanegu ei lofnod electronig a
byddai'r adroddiad yn cael ei osod a'i gyhoeddi.
5.3
Gofynnodd aelodau'r pwyllgor
am sylw posibl gan y cyfryngau yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad a sut orau i roi
cyhoeddusrwydd i waith y Senedd. Mewn ymateb, dywedodd Arwyn fod trafodaethau
eisoes yn cael eu cynnal â’r cyfryngau i dynnu sylw at straeon cadarnhaol,
megis gostyngiadau sylweddol yn ein hôl troed carbon, ond roedd yn cydnabod ei
bod yn anodd ennyn diddordeb y cyhoedd, gyda’r ffocws yn dal yn bennaf ar
straeon sy’n gysylltiedig â Covid-19.
5.4
Diolchodd y Cadeirydd i bawb
am eu cyfraniadau ac anogodd y swyddogion i ystyried sut i ddefnyddio'r
adroddiad drwy gydol y flwyddyn i hyrwyddo ac amlygu gwaith y Senedd. Cytunwyd
y byddai'r Pwyllgor hefyd yn trafod hyn eto yn yr hydref.
Camau gweithredu
(5.4) Yn yr hydref, ARAC i adolygu sut y gellir defnyddio'r Adroddiad
Blynyddol a'r Cyfrifon i hyrwyddo gwaith y Senedd drwy gydol y flwyddyn.C (03-20) Paper 5 Annex A – Annual Report
and Accounts 2019-20
5.5
The Committee noted how
impressed they were with the format, content and accuracy of the Annual Report
and Accounts, especially as the timescale for its production had been brought
forward this year, and given the disruption caused by the Covid-19 pandemic.
They were also impressed with the quality of its production, especially given
the small team involved.
5.6
The Committee recommended to
the Accounting Officer that the financial statements for 2019-20 should be
signed. The Assistant Auditor General would add his electronic signature and
the report would be laid and published.
5.7
Committee members asked about
possible media attention following publication of the report and how best to
publicise the work of the Senedd. In response, Arwyn advised that discussions
were already being held with the media to highlight positive stories, such as
significant reductions in our carbon footprint, but acknowledged the
difficulties in capturing the interest of the public with the focus still
primarily on Covid-19 related stories.
5.8
The Chair thanked everyone for
their contributions and encouraged officials consider how to use the report
throughout the year to promote and highlight the work of the Senedd. It was
agreed that the Committee would also return to this in the autumn.
Action
(5.4) ARAC to review in the autumn, ways in which the Annual Report and ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Dull y Comisiwn o gynllunio etholiadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 104
Cofnodion:
ARAC (03-20) Papur 10 - Cynllunio ar gyfer
Etholiadau’r Senedd yn 2021
10.1 Cyflwynodd Sulafa Thomas, Pennaeth Cymorth i’r
Comisiwn ac i’r Aelodau, y papur a rhoi amlinelliad i'r Pwyllgor o ddull y
Comisiwn o baratoi ar gyfer etholiadau nesaf y Senedd ym mis Mai 2021. Roedd y
papur yn cynnwys trosolwg o’r risgiau i enw da’r Senedd ar ôl diddymu’r Pumed
Senedd a phontio i’r Chweched Senedd.
10.2 Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch trosiant posibl
ymhlith yr Aelodau, eglurodd Sulafa y byddai'r paratoadau'n ddigon eang i
ymdopi â phob sefyllfa, ac eglurodd fod y lefelau trosiant wedi bod yn eithaf
uchel ar ôl etholiadau blaenorol. O ran cofnodi asedau materol y Comisiwn yn
ystod y cyfnod pontio, dywedodd Sulafa wrth y Pwyllgor fod Tîm Cymorth Busnes
yr Aelodau yn cadw cofrestr o asedau. At hynny, dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor
fod archwiliad o asedau sefydlog wedi'i drefnu yng Nghynllun Archwilio 19-20,
ond gallai amseru’r archwiliad newid oherwydd pandemig Covid-19.
10.3
Mewn
ymateb i gwestiynau gan Aled yn ymwneud â manylion y gyllideb yn y papur,
eglurodd Sulafa y byddai’r costau staff a oedd yn gysylltiedig â'r Agoriad
Brenhinol yn cael eu haddasu i adlewyrchu'r trefniadau gwahanol. Esboniodd Dave
Tosh fod y costau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu swyddfeydd yn gysylltiedig â'r
angen am ddefnydd mwy hyblyg ac effeithlon o ofod swyddfa i ddarparu ar gyfer
unrhyw newidiadau posibl i feintiau’r pleidiau gwleidyddol o ganlyniad i'r
etholiad.
10.4 Trafododd y Pwyllgor ei rôl yn y broses o
gynllunio’r etholiad a gofynnodd am gael diweddariadau wrth i'r gwaith fynd
rhagddo, er mwyn rhoi sicrwydd bod risgiau'n ymwneud â'r etholiad yn cael eu
rheoli'n addas.
10.5 Diolchodd y Cadeirydd i Sulafa am y papur
cynhwysfawr a'r trosolwg trylwyr, a nododd y byddai trafodaethau pellach ar
ddull y Comisiwn o wneud gwaith cynllunio ar gyfer yr etholiad yn digwydd yn
anffurfiol y tu allan i'r cyfarfod, cyn cynnal trafodaeth ffurfiol yng
nghyfarfod yr hydref.
Camau Gweithredu
·
(10.4) ARAC i gael
diweddariadau rheolaidd am y gwaith cynllunio ar gyfer etholiad y Chweched
Senedd gyda diweddariad ffurfiol yng nghyfarfod yr hydref.
·
(10.5) Aelodau ARAC i drafod gwaith cynllunio’r etholiad yn anffurfiol ac y tu
allan i'r pwyllgor, er mwyn llywio’r drafodaeth ffurfiol yng nghyfarfod yr
hydref.
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Diwygio'r Cynulliad - Newid Enw
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 107
Cofnodion:
ACARAC (02-20) Papur 12 - Ymgysylltiad Allanol o ran y Newid Enw - fel
y'i dosbarthwyd o'r blaen y tu allan i’r Pwyllgor
12.1 Trafodwyd hyn o dan Eitem 2.
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 110
Cofnodion:
ACARAC
(02-20) Papur 5 - Adroddiad Twyll Archwilio Mewnol
5.1
Cyflwynodd Gareth yr Adroddiad Twyll Archwilio
Mewnol i'r Pwyllgor a gwahoddodd sylwadau. Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch
pam na adroddwyd am unrhyw ymgeisiadau amlwg o dwyll, cydnabu Gareth fod gan y
Comisiwn reolaethau cadarn ar waith a oedd wedi ystyried yr hyn a ddysgwyd o
brofiad blaenorol. Ychwanegodd fod sicrwydd pellach yn cael ei ddarparu drwy’r
arfer o rannu gwybodaeth yn barhaus am ddigwyddiadau twyll gan bartneriaid allanol
gan gynnwys Archwilio Cymru.
5.2
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch bod yn fwy
agored i risgiau posibl o dwyll o ganlyniad i bandemig Covid-19, rhoddodd
Gareth sicrwydd bod y Comisiwn yn effro i'r risgiau hyn a chynigiodd rannu
adroddiad diweddar gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifyddiaeth ar dwyll mewn llywodraeth leol fel gwybodaeth bellach.
5.3
Rhoddwyd sicrwydd i aelodau'r Pwyllgor bod
asedau a gymerwyd o'r swyddfa gan staff i hwyluso gweithio gartref yn ystod
pandemig Covid-19 wedi'u cofnodi a bod archwiliad blynyddol o'r holl asedau
wedi’i gynnal.
5.4
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a diolchodd i
Gareth am y sicrwydd ychwanegol a roddwyd.
Camau
gweithredu:
·
(5.2) Gareth i rannu adroddiad y Sefydliad Siartredig
Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar dwyll mewn llywodraeth leol gydag aelodau
ACARAC.
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 113
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 3 – Adroddiad Diweddaru Llywodraethu
a Sicrwydd
3.1
Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad,
a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am waith llywodraethu a
sicrwydd diweddar, gan gynnwys ymgysylltiad helaeth â threfniadau cynllunio
parhad busnes y Comisiwn mewn perthynas â'r pandemig Covid-19 diweddar. Tynnodd
sylw at y meysydd cynnydd a ganlyn:
·
paratoi drafft cyntaf yr Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2019-20, a oedd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
yn y cyfarfod hwn;
·
cwblhau'r adolygiad archwilio
mewnol o seiberddiogelwch, a ddosbarthwyd y tu allan i’r Pwyllgor, ac a
gofnododd raddfa sicrwydd cymedrol;
·
cwblhau'r archwiliad o lywodraethu
prosiectau, a fyddai'n cael ei rannu â'r Pwyllgor yn fuan ac a oedd wedi
cofnodi graddfa sicrwydd cymedrol hefyd;
·
gwaith ar adolygiad o gydymffurfiad
â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol a oedd wedi, yn sgil argyfwng Covid-19,
gweithredu dull gwahanol i’r hyn a gynlluniwyd. Roedd hyn wedi cynnwys
trafodaethau gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi lle’r oedd
yn gallu cael sicrwydd a thystiolaeth dda o gydymffurfiaeth, gan gynnwys drwy
Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Comisiwn a Chomisiynydd y Gymraeg. Byddai
papur yn ymdrin â chanfyddiadau'r adolygiad yn cael ei rannu â'r Pwyllgor maes
o law: ac
·
roedd Victoria Paris wedi cwblhau’r
arholiadau Archwilio Mewnol Ardystiedig yn llwyddiannus.
3.2
Eglurodd Gareth, oherwydd yr
anawsterau sy’n codi o ganlyniad i weithio o bell, y byddai'r archwiliad
arfaethedig o’r Gwasanaeth Ymchwil yn wynebu oedi a bod ystyriaeth bellach yn
cael ei rhoi o ran ymarferoldeb cynnal yr archwiliad o dreuliau’r Aelodau ar
gyfer 2019-20.
3.3
Holodd aelodau'r Pwyllgor am
adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar drefniadau Gwrth-dwyll yn y sector
cyhoeddus yng Nghymru a chytunodd swyddogion i ddosbarthu hyn.
3.4
Diolchodd y Cadeirydd i Gareth am y
wybodaeth ddiweddaraf a chroesawodd aelodau'r Pwyllgor ei ddull pragmatig o
flaenoriaethu gwaith, o ystyried yr amgylchiadau.
3.5
Mewn ymateb i gwestiynau gan Ann am
effaith gohirio'r archwiliad o dreuliau’r Aelodau ac a oedd datrysiadau
technolegol ar waith i liniaru hyn, dywedodd Gareth wrth y Pwyllgor nad oedd
hyn yn bosibl ar hyn o bryd oherwydd y broses sy’n gysylltiedig. Dywedodd hefyd
fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng Archwilio Cymru a chydweithwyr yn y tîm
Cymorth busnes i'r Aelodau i fod mewn sefyllfa
i roi sicrwydd minimol ar gyfer 2019-20. Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith y
byddai'r briff arfaethedig ar dreuliau’r Aelodau yn helpu i roi mwy o
ddealltwriaeth i aelodau'r Pwyllgor o ran y prosesau sydd ar waith.
3.6
Mewn perthynas â chwestiynau am y
defnydd o dechnoleg, gofynnodd Aled am eglurhad ar y sail resymegol dros y
defnydd amlwg o feddalwedd fideogynadledda Zoom yn lle technolegau eraill sydd
ar gael ar y farchnad. Mewn ymateb, dywedodd Dave a Manon y dewiswyd Zoom gan
ei fod yn gallu hwyluso'r rhwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth
cyfieithu ar y pryd ar gyfer busnes swyddogol y Cynulliad. Roedd yn cynnwys
nodweddion defnyddiol eraill hefyd, gan gynnwys y gallu i ddangos nifer uwch o
gyfranogwyr ar y sgrin na llwyfannau eraill.
3.7 Wrth ymateb i geisiadau am ddiweddariad ar yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth
Cofnodion:
ACARAC (02-20) Papur 11 – Adroddiad
Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth
11.1 Cyflwynodd Dave y papur, gan amlinellu'r heriau a wynebwyd yn ystod y
flwyddyn, a oedd yn ymwneud yn bennaf â staffio ym maes diogelu data dros y
cyfnod.
11.2 Er gwaethaf yr heriau, dywedodd Dave fod cynnydd wedi'i wneud mewn meysydd
fel adolygu'r polisi Diogelu Data. Canmolodd hefyd waith Nisha Jadva, y swyddog
Diogelu Data dros dro, am ei gwaith ymgysylltu da â meysydd gwasanaeth ar draws
y sefydliad a chyda staff cymorth Aelodau'r Cynulliad er mwyn gwella
ymwybyddiaeth ymhellach. Ychwanegodd fod yr angen am gadernid parhaus,
ychwanegol yn y maes hwn wedi cael ei gydnabod.
11.3 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd am reoli Ceisiadau Gwrthrych am
Wybodaeth (SAR), esboniodd Dave yr heriau y mae'r Comisiwn yn eu hwynebu o ran
ymdrin yn effeithiol â’r nifer cynyddol a natur gymhleth y ceisiadau.
Ychwanegodd, er bod prosesau clir ar gyfer ymdrin â Cheisiadau Gwrthrych am
Wybodaeth, y byddai'r rhain yn parhau i gael eu hadolygu'n rheolaidd.
11.4 Yng nghyd-destun rheoli risg data, tynnodd Ann sylw at yr angen i ystyried
sut y gallai grymoedd allanol effeithio ar y sefydliad ac na ddylem gael ein
llywio gan broses yn unig. Dywedodd Dave fod hyn eisoes yn cael ei ystyried fel
rhan o drafodaethau sganio gorwel y Bwrdd Gweithredol yn y maes hwn.
11.5 Tynnodd Dave sylw hefyd at nifer o newidiadau i feddalwedd ledled y
sefydliad a oedd wedi digwydd, gan gynnwys symud i SharePoint ac Office 365, yn
ogystal â chyflwyno Microsoft Teams, gyda phob un yn dod â heriau o safbwynt
llywodraethu gwybodaeth.
11.6 Roedd SharePoint ar fin cael ei gyflwyno i Aelodau'r Cynulliad a gofynnodd
Suzy am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer symud gwybodaeth a'r
cynllun marcio amddiffynnol. Rhoddodd Dave wybod i'r Pwyllgor am y gwaith
parhaus sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod y llwyfannau a ddefnyddir yn gweithio
i'r Comisiwn ac i Aelodau'r Cynulliad a chydnabu'r cydbwysedd y mae angen ei
sicrhau rhwng diogelu gwybodaeth a chefnogi gallu Aelodau'r Cynulliad i
ymgysylltu'n effeithiol â'r cyhoedd.
11.7 Mewn ymateb i gwestiwn gan Aled ynghylch archifo ac yn benodol ar
gydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cytunodd Dave i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf.
11.8 Roedd aelodau'r Pwyllgor yn fodlon â’r papur a diolchodd i Dave am y
wybodaeth ddiweddaraf.
Camau gweithredu
·
(11.2) Dave
i rannu'r Polisi Diogelu Data diwygiedig gydag aelodau'r Pwyllgor
·
(11.5) Dave
i drafod gydag Aled ynghylch dull o archifo’r Comisiwn, yn enwedig unrhyw
gynlluniau i weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y dyfodol.
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft y Comisiwn a'r Datganiad Llywodraethu ar gyfer 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 118
- Cyfyngedig 119
- Cyfyngedig 120
- Cyfyngedig 121
Cofnodion:
·
ACARAC (02-20) Papur 10 – Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon drafft
·
ACARAC (02-20) Papur 10 Atodiad A –
Naratif yr Adroddiad Blynyddol (gan gynnwys adroddiad Dangosyddion Perfformiad
Allweddol (KPI)
·
ACARAC (02-20) Papur 10 Atodiad B –
Datganiad Cyfrifon drafft
·
ACARAC (02-20) Papur 10 Atodiad C –
Datganiad Llywodraethu drafft
10.1 Amlinellodd Nia y dull cyffredinol a ddefnyddiwyd ar gyfer Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon drafft 2019-20. O ran yr adran Cyfrifon (Atodiad B),
nododd Nia, er gwaethaf yr amgylchiadau presennol, bod y Comisiwn yn rhagweld y
bydd yn cyflawni ei dargedau tanwario.
10.2 Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfrifon a
gwahoddodd Arwyn i amlinellu'r ddogfen naratif (Atodiad A), gan awgrymu y dylid
anfon sylwadau manwl ato yn ei gylch ar ôl y cyfarfod. Esboniodd Arwyn y broses
ar gyfer llunio'r naratif, gan ddiolch i gydweithwyr, ac yn arbennig i Victoria
Paris am ei hymdrechion sylweddol hyd yma, a nododd y byddai cyfraniadau gan
rai meysydd gwasanaeth i ddilyn.
10.3 Byddai sylwadau gan aelodau'r Pwyllgor yn cael eu cofnodi ar wahân gan y
tîm clercio a byddent yn cael eu hystyried i’w cynnwys yn y naratif. Byddai
dyddiad cau yn cael ei bennu ar gyfer unrhyw sylwadau pellach oherwydd yr
amserlenni tynn o ran paratoi’r adroddiad terfynol.
10.4 Cyfeiriodd Suzy at adroddiad Laura McAllister ar Ddiwygio'r Cynulliad a
thrafododd y Pwyllgor a ddylai'r Adroddiad Blynyddol gynnwys cyfeiriad at yr
argymhellion nad oeddent wedi'u gweithredu a'r camau a gymerwyd gan y Comisiwn
i liniaru hyn. Cytunwyd y byddai trafodaethau pellach ar hyn yn cael eu cynnal
y tu allan i'r Pwyllgor.
10.5 Trafododd aelodau'r Pwyllgor a swyddogion y dull o gyflwyno’r DPA o ran
ymgysylltu rhyngwladol, yn benodol a ddylid cynnwys ymweliadau gan bwyllgorau
hefyd.
10.6 Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y gwaith a wnaed wrth baratoi'r
adroddiad drafft, gan nodi'r safon uchel drwyddi draw.
10.7 Trafododd y Pwyllgor y Datganiad Llywodraethu drafft a nododd, gan mai
drafft cynnar oedd hwn, bod bylchau lle y byddai cyfraniadau gan swyddogion
perthnasol i ddilyn. Soniodd y Cadeirydd am bwysigrwydd y ddogfen mewn
cyd-destun llywodraethu a chanmolwyd y swyddogion am y gwaith a wnaed arni hyd
yma.
10.8 Awgrymodd Suzy y dylai swyddogion ystyried gosod troednodyn yn y Datganiad
Llywodraethu drafft, i roi eglurder ynghylch cyfeiriadau at benaethiaid
gwasanaeth y Comisiwn.
Camau gweithredu
·
(10.3)
Kathryn i gofnodi a rhannu sylwadau a roddwyd ar naratif yr Adroddiad Blynyddol
a'r Datganiad Llywodraethu
·
(10.3) Bob
i roi cyngor ynghylch pryd y dylai aelodau’r Pwyllgor roi sylwadau pellach ar
naratif yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad Llywodraethu
·
(10.4)
Arwyn i ystyried sut i gofnodi ffyrdd yr ydym wedi lliniaru yn erbyn peidio â
bwrw ymlaen â rhai o’r argymhellion yn adroddiad Laura McAllister
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Cydymffurfiad y Siarter Archwilio Mewnol ac Archwilio Mewnol â Safon Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 124
- Cyfyngedig 125
Cofnodion:
6.1
Nododd a diolchodd y Pwyllgor i Gareth am ei
bapur a oedd yn amlinellu cydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus (PSIAS) ac yn cynnwys y Siarter Archwilio Mewnol.
6.2
Mewn perthynas â'r Siarter Archwilio Mewnol, nododd y Cadeirydd y
byddai'n trafod cyfleoedd datblygu gyda Gareth, fel rhan o'i ddatblygiad
proffesiynol parhaus fel Pennaeth Archwilio Mewnol.
Camau
gweithredu:
·
(6.2) y Cadeirydd i drafod datblygiad proffesiynol
parhaus y Pennaeth Archwilio Mewnol gyda Gareth.
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol ar gyfer 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 128
Cofnodion:
ACARAC (02-20) Papur 4 - Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio
Mewnol ar gyfer 2019-20
4.1
Amlinellodd Gareth Adroddiad Blynyddol a Barn yr adran Archwilio Mewnol ar
gyfer 2019-20, gan nodi, er nad oedd wedi gallu cwblhau rhannau o'r cynllun
archwilio mewnol y cytunwyd arno ar gyfer y flwyddyn, ei fod yn dal yn gallu
cyhoeddi barn gymedrol o ran digonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith
llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol Comisiwn y Cynulliad.
4.2
Ychwanegodd Gareth fod hyn yn rhannol oherwydd y diwylliant iach parhaus
o ymgysylltu ag archwilio mewnol yn ôl meysydd gwasanaeth, gyda'r rheolwyr yn
ymateb yn gadarnhaol i'r argymhellion a wnaed a'u gweithrediad.
4.3
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad a diolchodd i Gareth am ei waith yn ystod
y flwyddyn.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Adborth ar bresenoldeb yn Fforwm Cadeiryddion ARAC
Eitem lafar
Cofnodion:
14.1 Rhoddodd y Cadeirydd adborth i aelodau'r Pwyllgor ar bresenoldeb
Fforwm Cadeiryddion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Roedd y pynciau wedi
cynnwys symudiad cyflym technoleg yn y sector archwilio, yn enwedig o ran
prosesu data a dadansoddeg data.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Adborth ar ystyriaeth REWAC o Strategaeth Ymgysylltu'r Comisiwn
Eitem lafar
Cofnodion:
13.1 Rhoddodd Ann ac Arwyn ddiweddariad i'r Pwyllgor ar
feysydd yr ymdriniwyd â hwy yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau,
Ymgysylltu a’r Gweithlu ar 14 Ionawr, a byddai cofnodion ohono'n cael eu rhannu
ag aelodau ACARAC. Mae'r meysydd dan sylw fel yr amlinellir isod:
- cynigion
ar gyfer cynllun prentisiaeth lefel graddedig lle roedd Lowri Williams,
Pennaeth Adnoddau Dynol, wedi cynnig pedwar opsiwn i'w hystyried;
- y
dull arfaethedig o wneud cais am achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl,
ar ôl sicrhau statws Aur yn flaenorol;
- Cynllun
Cydnabod y Comisiwn lle, ar ôl cael eu henwebu gan eu cyfoedion,
cydnabuwyd staff am gyfraniadau at werthoedd y Comisiwn drwy dystysgrif; a
- diweddariad
ar Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd y Comisiwn a'i gynigion ar gyfer
cyflawni.
13.2 Diolchodd y Cadeirydd i Ann ac Arwyn am y
diweddariad ac roedd yn edrych ymlaen at gael diweddariad pellach maes o law.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adolygiad o systemau ariannol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 135
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 9 – Adolygiad o’r system
gyfrifyddu
9.1
Cyflwynodd Nia y papur a oedd yn amlinellu
casgliadau ar adolygiad o system gyfrifyddu'r Comisiwn.
9.2
Nododd y Pwyllgor fod cyflenwr presennol y
system gyfrifyddu o dan gontract i ddarparu cefnogaeth i'r system hyd at 2022.
9.3
Sicrhawyd y Pwyllgor fod yr adolygiad wedi
cadarnhau bod buddion disgwyliedig y system, a gyflwynwyd bron i dair blynedd
yn ôl wedi'u gwireddu, wedi gwella'r amgylchedd rheolaeth fewnol a'i bod yn
addas at y diben.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 138
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 3 – Adroddiad diweddaru Llywodraethu
a Sicrwydd
3.1
Cyflwynodd Gareth Watts yr
adroddiad a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y gwaith
Llywodraethu a Sicrwydd diweddar, ac amlygodd y canlynol:
·
roedd y Penaethiaid Gwasanaeth i gyd
wedi cwblhau Datganiad Sicrwydd, a oedd yn cael eu defnyddio i lywio
datganiadau ar lefel Cyfarwyddiaeth cyn cyfarfod i ddarparu archwiliad
annibynnol a herio'r rhain ym mis Chwefror;
·
byddai canlyniadau Asesiad o
Ansawdd Allanol (EQA) yr oedd yn ei gynnal o Wasanaeth Archwilio Mewnol
Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cael eu nodi mewn adroddiad i’r Pwyllgor
Archwilio a Risg yn y gwanwyn;
·
byddai canfyddiadau'r adolygiad i
effeithiolrwydd y systemau sydd ar waith ar gyfer cyllidebau hyfforddi'r
Comisiwn yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'u rhannu gyda'r ACARAC
maes o law; ac
·
arhosodd y cyfrifoldeb dros lunio’r
Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon gyda'r tîm Llywodraethu ac roedd gwaith yn
mynd rhagddo ar gynllunio a chomisiynu darnau o waith.
3.1
Dywedodd Gareth fod Tîm
Arweinyddiaeth y Comisiwn wedi ystyried canfyddiadau'r adroddiad ar archwilio
prosesau Rheoli Absenoldeb. Nododd y Pwyllgor fod cynnydd yn cael ei wneud gyda
chynigion ar gyfer gweithredu argymhellion ynghylch hyfforddiant i reolwyr
llinell, gwelliannau mewn monitro amser hyblyg a gwell adroddiadau o'r system
Adnoddau Dynol/y Gyflogres.
3.2
Mewn perthynas â'r Cynllun
Archwilio Mewnol ar gyfer 2019-20, roedd adroddiadau ar adolygiadau diweddar o
asedau sefydlog a chaffael wedi’u dosbarthu y tu allan i'r pwyllgor.
3.3
Ar gyfer yr adolygiad caffael, a oedd
yn canolbwyntio ar strategaeth y Comisiwn i ymgysylltu â mwy o gyflenwyr Cymru,
mae'r adroddiad yn cydnabod cynnydd da hyd yma, gyda rhai mân argymhellion.
3.4
Gan ymateb i gwestiynau ynghylch pa
waith ymarferol a wnaed i ymgysylltu â chyflenwyr Cymru, eglurodd Dave fod
ymgysylltu yn digwydd yn ystod camau adnewyddu contractau ac yn barhaus gyda
chontractwyr ac is-gontractwyr cyfredol, megis y gwasanaethau arlwyo ac
ystadau. Nododd Dave hefyd enghraifft o ddiwrnod agored diweddar i ymgysylltu â
chyflenwyr a gafodd dderbyniad da a gynhaliwyd gan ein contractwyr rheoli
ystadau mawr.
3.5
Ailadroddodd Ann bwysigrwydd parhau
i ymgysylltu'n rhagweithiol â chyflenwyr Cymru, gan gynnwys drwy gyfryngwyr fel
y Siambr Fasnach a Chydffederasiwn Diwydiant Prydain fel bod cyfleoedd yn cael
cyhoeddusrwydd mewn modd amserol.
3.6
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch
archwiliad cydymffurfio’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, eglurodd Gareth y
byddai’n cynnwys adolygiad o’r offer a ddefnyddir i fesur cydymffurfiad, gyda’r
nod o roi sicrwydd pellach i’r Prif Weithredwr a’r Comisiynydd sydd â
chyfrifoldeb dros yr ieithoedd swyddogol.
3.7
Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch
cynlluniau i adolygu trefniadau diogelwch y Comisiwn, eglurodd Dave fod
trafodaethau yn parhau gyda Heddlu De Cymru, o ystyried natur gyfnewidiol
bygythiadau.
Cam
gweithredu:(3.7) Gareth Watts i rannu'r cwmpas ar gyfer yr
archwiliadau ar gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol a newidiadau
rheoli prosiect.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Seibr ddiogelwch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 141
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 11 - Adolygiad o ddibyniaethau
contract Microsoft
12.1 Croesawodd y Cadeirydd Mark Nielson, Pennaeth TGCh a
Darlledu a Jamie Hancock, Pennaeth Seilwaith a Gweithrediadau (TGCh), i'r
cyfarfod a diolchodd iddynt am ddarparu papur cynhwysfawr cyn y cyfarfod.
12.2 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, rhoddodd
Mark a Dave sicrwydd y byddai'r Comisiwn yn parhau i wneud yn siŵr eu bod
yn manteisio i'r eithaf ar y gwasanaethau Microsoft sydd ar gael, wrth gofio am
yr hyn a oedd gan y diwydiant ehangach i'w gynnig a chadw i fyny â'r dechnoleg
ddiweddaraf. Ychwanegodd Mark, nawr bod y swydd Rheolwr Diogelwch a
Chydymffurfiad a grëwyd yn ddiweddar wedi'i llenwi, y byddai hyn yn hwyluso'r
ymgyrch barhaus i sicrhau bod mesurau seiberddiogelwch cadarn ar waith ac yn
effeithiol.
12.3 Clywodd y Pwyllgor, yn dilyn asesiad o'r gwahanol
opsiynau sydd ar gael i ddarparu gwahaniad daearyddol o dapiau wrth gefn a
chopïau, barnwyd mai Azure Backup oedd yr ateb gorau i'r Comisiwn. Ymhlith
manteision eraill, roedd yr ateb yn integreiddio'n llawn â gwasanaethau cwmwl
presennol y Comisiwn a oedd yn dileu unrhyw ddibyniaeth ar dâp, neu storfa
leol.
12.4 Hysbysodd Jamie y Pwyllgor fod Microsoft yn anelu at
greu amgylchedd canolfan ddata carbon niwtral, a oedd yn unol â thargedau ac ymrwymiadau
amgylcheddol y Comisiwn.
12.5 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd ynghylch
p’un a oedd profion wedi digwydd mewn perthynas ag adfer data o system wrth
gefn, hysbysodd Jamie y Pwyllgor fod rhywfaint o brofion wedi'u cynnal yn
llwyddiannus a bod hyn wedi llywio cynlluniau ar gyfer profion llawnach.
12.6 Ailadroddodd Mark y gwahoddiad i aelodau'r Pwyllgor
fynychu Microsoft Datacentre lleol, gan gyfuno hyn â thrafodaeth â swyddogion
Microsoft ac Azure.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Risgiau Corfforaethol - risg Diwygio'r Cynulliad
Eitem lafar – Risgiau Corfforaethol Diwygio'r Cynulliad
Cofnodion:
11.1 Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr
Busnes y Cynulliad, Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu a Richard
Thomas, Rheolwr Gweithredu yn y Tîm Cyfansoddiadol, i'r cyfarfod.
11.2 Dywedodd Siwan fod y Ddeddf Senedd ac Etholiadau
(Cymru) wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr 2020 ac amlinellodd sut
roedd hyn wedi newid y proffil risg. Amlinellodd hefyd y llywodraethu a oedd ar
waith i alluogi gwneud penderfyniadau a rheoli risgiau a rôl Bwrdd Prosiect
Diwygio'r Cynulliad wrth oruchwylio gweithrediad yr agweddau ar y Ddeddf a oedd
o fewn cyfrifoldeb y Comisiwn.
11.3 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, disgrifiodd
Siwan sut roedd y strwythur llywodraethu, gan gynnwys bwrdd y prosiect a'r Tîm
Integredig Newid Enw yn hwyluso’r broses o ledaenu gwybodaeth yn effeithiol yn
fewnol i staff ac i randdeiliaid allanol. Ychwanegodd fod cyngor manwl hefyd yn
cael ei roi i Aelodau'r Cynulliad a'u staff pan fyddai penderfyniadau'n cael eu
gwneud.
11.4 Nododd Siwan fod y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad wedi ceisio cyllid gan y Comisiwn i gynnal cynulliad dinasyddion.
Byddai'r tîm Trawsnewid Strategol yn parhau i ddarparu cefnogaeth i'r Llywydd
a'r Comisiwn yn eu hymgysylltiad â’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad.
11.5 Byddai cynigion ar weithredu’r Ddeddf Senedd ac Etholiadau
(Cymru) mewn perthynas â'r newid enw yn cael eu cyflwyno i'r Comisiwn ar 27
Ionawr lle byddent yn gwneud penderfyniadau ar sail barn y mwyafrif pe bai
angen.
11.6 Mewn perthynas â gostwng yr oedran pleidleisio i 16
oed, eglurodd Richard Thomas sut roedd y Comisiwn yn gweithio'n agos gyda'r
holl randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn
Etholiadol, a oedd yn arwain ar gofrestru i bleidleisio, a grwpiau eraill i
sicrhau ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth. Ychwanegodd fod deunydd ar
gyfer ysgolion eisoes wedi'i baratoi ac, er bod hyn yn cael ei arwain yn bennaf
gan Lywodraeth Cymru, roedd gan y Comisiwn ran allweddol i'w chwarae wrth
ymgysylltu â'r bobl ifanc.
11.7 Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am fod yn
bresennol ac am roi diweddariad mor drylwyr i aelodau'r Pwyllgor.
Cam gweithredu:(11.3) Rhoi brîff ar waith i ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol
mewn perthynas ag agweddau ar newid enw y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 146
Cofnodion:
ACARAC (01-20) Papur 8 – Adolygiad o bolisïau
cyfrifyddu
8.1
Cyflwynodd Nia y papur a oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed i adolygu polisïau cyfrifyddu'r
Comisiwn.
8.2
O ystyried y cymhlethdodau dan sylw, a'r
newidiadau sylweddol i rai dulliau cyfrifyddu ar gyfer y sector cyhoeddus,
diolchodd y Cadeirydd i Nia a'i thîm am y gwaith trylwyr a wnaed ar adolygu
polisïau cyfrifyddu'r Comisiwn. Nododd hefyd yr ymddengys bod y Comisiwn ar y
blaen i gyrff eraill y sector cyhoeddus wrth roi'r newidiadau ar waith.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 19)
Sylwadau gan aelod o'r Pwyllgor sy'n gadael (wedi'i symud o Eitem 3)
Cofnodion:
12.1
Diolchodd y Cadeirydd i Hugh am ei gyfraniadau gwerthfawr yn ystod ei
gyfnod fel aelod o ACARAC, a gwahoddodd ef i rannu ei sylwadau am gyfnod ei
swydd.
12.2
Diolchodd Hugh i aelodau a swyddogion presennol a blaenorol y Pwyllgor
am y diwylliant agored a chadarnhaol a brofodd fel aelod o’r Pwyllgor ers ymuno
yn 2013. Teimlai fod lefel y cydweithredu yn ffactor allweddol o ran
effeithiolrwydd gwaith llywodraethu’r Comisiwn. Soniodd yn fras am rai o’r
uchafbwyntiau yn ystod ei gyfnod o weithio gydag ACARAC, gan nodi’r canlynol:
i.
y newidiadau i'r proffil risg corfforaethol, gan nodi’r cynnydd yn erbyn
meysydd fel parhad busnes, gwasanaethau TGCh, y cyfryngau cymdeithasol a
diogelu;
ii.
yr ethos o welliant parhaus, a’r defnydd o sicrwydd ansawdd mewnol ac
allanol;
iii.
sut roedd y cyfarfodydd rheolaidd ar faterion llywodraethu gyda
Phenaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr wedi helpu i gadw golwg ar lywodraethu
yn ystod y flwyddyn;
iv.
y prosesau llyfn ar gyfer archwilio cyfrifon y Comisiwn;
v.
ymdrin yn effeithiol â newidiadau i'r defnydd o danwariant mewn
perthynas â Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau;
vi.
yr aeddfedrwydd a ddangoswyd gan y Comisiwn wrth gofnodi a rheoli
risgiau, yn enwedig o ran Brexit a newid cyfansoddiadol;
vii.
sut roedd ymchwilio’n ddwfn i risgiau unigol a thrafodaethau manwl wedi
helpu aelodau’r Pwyllgor i ddysgu mwy am y sefydliad; ac
viii. y gwerth
ychwanegol gan gyflwynwyr allanol yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor.
12.3
Diolchodd y Cadeirydd i Hugh am ei gyfraniadau at yr holl bwyntiau hyn.
Nododd hefyd y gwerth yr oedd Hugh wedi'i ychwanegu at y gwaith o graffu a
herio Datganiadau Sicrwydd y Comisiwn. Diolchodd Manon iddo am ei gyfraniadau,
yn benodol o ran risg a sicrwydd, a hefyd am ei gyfraniad wrth benodi
Cynghorwyr Annibynnol newydd.
Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf ar 20
Ionawr 2020.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor
Cofnodion:
15.1 Cytunodd y Cadeirydd y byddai'r arolwg yn cael
ei rannu y tu allan i'r Pwyllgor er mwyn cael sylwadau gan aelodau’r Pwyllgor.
Camau i’w cymryd:Bydd sylwadau ar amseriad a chynnwys arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor
yn cael eu hanfon at y Cadeirydd a’r Tîm Clercio
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Adborth gan REWAC
Cofnodion:
14.1 Rhoddodd Ann
ddiweddariad ar feysydd a drafodwyd yn ystod y flwyddyn mewn cyfarfodydd REWAC.
Mae hefyd yn aelod o’r Pwyllgor hwn. Roedd y trafodaethau hyd yn hyn wedi
canolbwyntio ar ganlyniadau arolygon staff a chynigion ar gyfer arolygon yn y
dyfodol, Strategaeth Pobl y Comisiwn, a Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd y
Comisiwn.
14.2 Gan fod y Cyfarwyddwr
Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn newydd, cytunodd yr aelodau i ailedrych ar y
strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
14.3
Cytunodd y Pwyllgor, yn amodol ar
gymeradwyaeth REWAC, i rannu cofnodion cyfarfod rhwng y ddau bwyllgor, a rhannu
gwybodaeth arall o bryd i'w gilydd, megis risgiau corfforaethol.
14.4 Roedd y
Cadeirydd a'r swyddogion yn awyddus i sicrhau bod cylchoedd gwaith gwahanol pob
Pwyllgor yn glir, gan hwyluso ymgyfnewid effeithiol ar yr un pryd.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Torri rheolau gwybodaeth
Cofnodion:
13.1 Nododd y Pwyllgor fod dau achos o dorri rheolau
gwybodaeth wedi’u cofnodi ond penderfynwyd na ddylid cymryd unrhyw gamau
pellach.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 157
Cofnodion:
ACARAC (05-19) Papur 9 - Risg Brexit
12.1
Croesawodd y Cadeirydd Siwan Davies,
Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, Kathryn Potter, Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil, a
Manon George, Cydlynydd Brexit, i’r cyfarfod, a diolchodd iddynt am y papur yn
amlinellu dull y Comisiwn ar gyfer rheoli’r risgiau sy’n ymwneud â Brexit.
12.2
O ystyried yr ansicrwydd hirsefydlog ynghylch
amseriad Brexit, hysbyswyd y Pwyllgor fod un o'r heriau mwyaf yn ymwneud â
chynllunio sut y byddai'r Cynulliad yn sicrhau’r adnoddau ar gyfer y gwaith y
mae angen iddo ei gyflawni fel deddfwrfa.
12.3
Dywedodd Kathryn fod y dull ailadroddol a
roddwyd ar waith hyd yma, drwy ymarferion cynllunio senarios rheolaidd, wedi
gweithio'n dda, a’i fod wedi helpu i nodi pwysau a phroblemau a allai godi yn
sgil canlyniadau amrywiol Brexit.
12.4
Gofynnodd Ann pa mor effeithiol yw’r Fforwm
Rhyng-seneddol ar Brexit, ac a oedd swyddogion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf
am drafodaethau. Dywedodd Manon George fod holl seneddau'r DU yn cael eu
cynrychioli ac yn cymryd rhan mewn deialog werthfawr ar lefel wleidyddol a
swyddogol. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Comisiwn i fod i gynnal cyfarfod nesaf y
fforwm yn ddiweddarach eleni.
12.5 Diolchodd y Cadeirydd i Siwan, Kathryn a Manon am
ddod, gan roi diweddariad calonogol mewn perthynas â'r risg hon.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adborth ar y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus diweddar
Cofnodion:
10.1 Rhoddodd Nia ddiweddariad i aelodau'r Pwyllgor
ynghylch ymddangosiadau diweddar gerbron y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus. Dywedodd nad oedd unrhyw faterion o bwys wedi'u nodi yn
ystod y sesiynau tystiolaeth, a'i bod yn gallu rhoi sicrwydd ynghylch
trefniadau ar gyfer swyddfa'r Comisiynydd Safonau.
10.2 Disgwylir i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a’r ymateb
arfaethedig, gael eu trafod gan y Comisiwn ym mis Tachwedd. Byddai Nia yn
dosbarthu’r rhain i aelodau'r Pwyllgor pan gytunir ar yr ymateb.
10.3 Mewn ymateb i gwestiynau gan Aled ynghylch lefelau'r
tanwario mewn perthynas â chostau staffio Aelodau'r Cynulliad, eglurodd Nia fod
hyn yn gysylltiedig, yn rhannol, â'r gyllideb a neilltuwyd ar gyfer trosiant
staff. Dywedodd Manon, yn dilyn argymhellion blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor
Cyllid, y byddai unrhyw danwariant yn y maes hwn bellach yn cael ei ddychwelyd
i Gronfa Gyfunol Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Camau i’w cymryd:Dosbarthu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac ymateb y Comisiwn i aelodau'r
Pwyllgor.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Diweddariad ar Ddiogelwch Seiber
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 162
Cofnodion:
ACARAC (05-19) Papur 6 – Diweddariad ar
seiberddiogelwch
8.1
Croesawodd y Cadeirydd Mark Nielson, Pennaeth
TGCh, a Jamie Hancock, Pennaeth Seilwaith a Gweithrediadau, i'r cyfarfod, gan
eu gwahodd i amlinellu manylion eu diweddariad ar seiberddiogelwch. Roedd y
papur yn cynnwys crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion a nodwyd
yn Adroddiad Archwilio Mewnol mis Ebrill 2019, ac amlygodd Mark y canlynol:
i. newid pwrpas swydd i gwmpasu diogelwch a
chydymffurfiaeth;
ii. cyflwyno safonau gofynnol i bob cais a oedd wedi
cael canlyniadau ar unwaith o ran rhwystro mynediad;
iii. achos busnes dros sefydlu gwasanaethau cwmwl
ychwanegol ar gyfer cadw data wrth gefn a’i adfer, a fyddai’n cael ei drafod
gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Tachwedd;
iv. gweithredu rheolyddion mewn perthynas â dyfeisiau y
gellir eu tynnu (gyriannau USB);
v.
ymarfer arall i addysgu defnyddwyr ynghylch y
risgiau o we-rwydo a gynhaliwyd;
vi. cynlluniau ar gyfer codi rhagor o ymwybyddiaeth yn
ystod yr wythnos ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch, sydd wedi’i threfnu ar gyfer
diwedd mis Tachwedd.
8.2
Mewn ymateb i gwestiynau am fforddiadwyedd a
rhagor o ddibyniaeth ar Microsoft, rhoddodd Mark sicrwydd i aelodau’r Pwyllgor
fod yr holl waith a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi’i gynnwys yn y cynlluniau
cyllideb presennol ac nad oedd adroddiad archwilio diweddar y TIAA wedi amlygu
unrhyw broblemau na phryderon. Dywedodd hefyd, ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr
allanol, fod rhagor o sicrwydd wedi’i roi o ran y trefniadau presennol.
Ychwanegodd Jamie fod y cyngor yn dangos y byddai trefnu contract allanol gyda
darparwyr eraill yn peri mwy o risg ar hyn o bryd. Byddai aelodau'r Pwyllgor yn
cael eu gwahodd i ymweld â'r safle yn y ganolfan ddata leol, ac fe’u hanogwyd i
ddod.
8.3
Cyflwynodd Jamie a Mark y Radar Risg TGCh
wedi'i ddiweddaru, gan dynnu sylw at welliannau a wnaed ers i TGCh ddod yn
swyddogaeth fewnol, yn enwedig o ran hyblygrwydd y gwasanaethau y gellid eu
darparu, a'r meysydd i'w gwella ymhellach wrth symud ymlaen.
8.4
Diolchodd y Cadeirydd i Mark a Jamie, a
gofynnodd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o ddibyniaethau
contract Microsoft ym mis Ionawr.
Camau i’w cymryd:Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddibyniaethau contract Microsoft yng
nghyfarfod mis Ionawr.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 165
Cofnodion:
ACARAC
(05-19) Papur 3 – Adroddiad diweddaru Llywodraethu a Sicrwydd
4.1
Cyflwynodd Gareth Watts yr adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth
ddiweddaraf i aelodau am waith Llywodraethu a Sicrwydd mewnol diweddar.
4.2
Dosbarthwyd copïau o'r adroddiadau ynglŷn â’r adolygiad o Gynllun
Ymadael Gwirfoddol Comisiwn y Cynulliad ac Adolygiad Effeithiolrwydd y Bwrdd
Gweithredol i aelodau'r Pwyllgor o'r cyfarfod ar 26 Medi 2019. Roedd Gareth
hefyd wedi cynnal Adolygiad Effeithiolrwydd o’r Tîm Arwain ac wedi cyflwyno'r
canlyniad a'r argymhellion mewn perthynas â’r rhain. Byddai Gareth yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y cynnydd mewn perthynas â’r camau
sy’n codi yn sgil y ddau adolygiad.
4.3
Arweiniodd y Tîm Llywodraethu y gwaith o lunio’r Adroddiad Blynyddol a'r
Cyfrifon am y tro cyntaf eleni. Roedd y Tîm wedi gweithio'n agos gyda
chydweithwyr yn y timau Cyllid a Chyfathrebu, gan gwblhau drafftiau cyn y
dyddiadau cau gwreiddiol a bennwyd. Roedd y rheolwyr wedi cytuno ar nifer o
argymhellion ar gyfer adroddiad 2019-20, a byddai’r rhain, ynghyd ag amserlen
arfaethedig, yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor maes o law.
4.4
Roedd y Tîm Llywodraethu wedi cyfarfod â Phenaethiaid Gwasanaeth fel
rhan o’r cylch o gyfarfodydd ar faterion llywodraethu blynyddol. Dyma oedd y
blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer llunio’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Trefnwyd cyfarfodydd gyda Chyfarwyddwyr i drafod unrhyw faterion a nodwyd o
gyfarfodydd y Pennaeth Gwasanaeth wrth baratoi ar gyfer drafftio Datganiadau
Sicrwydd.
4.5
Roedd adolygiad o’r Asedau Sefydlog wedi’i drefnu, a chytunodd Gareth i
rannu'r papur cwmpasu cyn i hyn gychwyn.
4.6
Roedd adolygiad o ddull y Comisiwn o ymgysylltu â chyflenwyr Cymru
wedi’i gwblhau, a byddai'r adroddiad yn cael ei rannu pan fydd yn barod.
Gofynnodd Suzy a oedd unrhyw themâu neu faterion o ran yr
amgylchedd/cynaliadwyedd wedi codi o'r adolygiad. Nododd Gareth fod yr
adroddiad yn cyfeirio at asesiadau effaith ond cytunodd i ystyried sut y gellid
trafod y rhain ymhellach.
4.7
O ran yr adolygiad sydd ar y gweill o Newidiadau Rheoli Prosiect,
nodwyd, er bod y Comisiwn wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn ystod y
blynyddoedd diwethaf, bod hyn yn amserol o ystyried y newid strwythur a roddwyd
ar waith mewn perthynas â llywodraethu prosiectau. Cytunodd y Cadeirydd i
ddychwelyd at y pwnc hwn ar ôl i'r archwiliad ddod i ben. Yn y cyfamser,
cytunodd Gareth i rannu’r papur cwmpasu amlinellol ag aelodau'r Pwyllgor, pan
fydd ar gael.
4.8
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch unrhyw gynlluniau ar
gyfer adolygu'r defnydd o ystâd y Cynulliad, dywedodd Arwyn Jones y byddai hyn
yn rhan o'r strategaeth ymgysylltu ehangach.
4.9
Nododd Hugh Widdis fod yr adolygiad o effaith yr Adolygiad Capasiti yn
mynd rhagddo. Dywedodd Gareth fod y themâu sy'n dod i'r amlwg yn gyson i raddau
helaeth â'r rhai a godwyd yn ystod sesiwn dystiolaeth y Comisiwn yng nghyfarfod
y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref. Ychwanegodd y byddai'r adolygiad hwn yn
canolbwyntio ar sicrwydd o ran gwireddu manteision.
4.10 Ail-bwysleisiodd Hugh pa mor bwysig yw cynnal archwiliadau o feysydd y Gyfarwyddiaeth Busnes, lle bo hynny’n briodol. Cytunodd Gareth, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Sylwadau gan aelod o’r Pwyllgor sy’n gadael
Cofnodion:
3.1 Rhoddir
sylw i’r eitem hon ar ddiwedd y cyfarfod.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Sganio’r gorwel
·
Eitem lafar
Cofnodion:
5.1 Gwahoddodd y Cadeirydd
swyddogion i roi trosolwg o feysydd gwaith sylweddol a heriau tebygol yn ystod
y misoedd nesaf i helpu i lywio blaenraglen waith y Pwyllgor a nodi lle y
gallai ychwanegu gwerth. Trafodwyd y syniadau a ganlyn:
·
heriau a gyflwynwyd o ran paratoi ar gyfer
Brexit, yn dibynnu ar a fyddai bargen, dim bargen, neu estyniad i'r cynlluniau
ymadael;
·
gwaith parhaus i gyflwyno diwygio'r Cynulliad,
gan gynnwys newidiadau i enw'r Cynulliad, prosesau etholiadol a'r oedran
pleidleisio, a sut y caiff hyn ei gyfleu orau;
·
diwygio ehangach, tymor hwy ynghylch maint y
Cynulliad;
·
y newid ffocws ar gyfer strategaethau
cyfathrebu ac ymgysylltu'r Comisiwn;
·
yr adolygiad sydd ar ddod o gefnogaeth i
bwyllgorau'r Cynulliad;
·
parhau i ganolbwyntio ar Gynllun Ieithoedd
Swyddogol y Comisiwn, yr oedd adroddiad blynyddol ar ei gyfer i fod i gael ei
drafod yn y Cyfarfod Llawn yn ystod yr wythnosau nesaf;
·
paratoadau ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym
mis Mai 2021 a threfniadau pontio;
·
newidiadau yn y trefniadau llywodraethu ar
gyfer rhaglenni a phrosiectau wrth sefydlu Swyddfa Rhaglen a Newid;
·
parhau i ganolbwyntio ar seiberddiogelwch.
5.2 Rhoddodd Dave sicrwydd i'r
Pwyllgor ynghylch cyfathrebu parhaus â
Phwyllgor Busnes y Cynulliad, Fforwm y Cadeiryddion a Llywodraeth Cymru o ran
rheoli capasiti Aelodau a staff y Comisiwn.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd (Cyber)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 172
Cofnodion:
ACARAC (03-19) Papur 11 Diagram Radar Risgiau Seiberddiogelwch
10.1 Croesawodd y
Cadeirydd Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Jamie Hancock, Pennaeth newydd
Seilwaith a Gweithrediadau TG i'r cyfarfod. Amlinellodd y Cadeirydd mai pwrpas
yr eitem oedd darparu archwiliad beirniadol o reolaeth barhaus o risgiau
seiberddiogelwch y Comisiwn, gan ystyried yr argymhellion a geir yn yr
adroddiad archwilio mewnol diweddar.
10.2 Amlinellodd Mark y
cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion yr archwiliad. Roedd yn cynnwys:
camau i sicrhau cydymffurfiaeth ag apiau cwmwl; rheolaethau ynghylch defnyddio
cyfrifon personol ar y we ar ddyfeisiau'r Comisiwn; a storio ac adfer
gwybodaeth a gedwir ar dapiau wrth gefn.
10.3 O ran y tapiau
wrth gefn, eglurodd Mark fod eu dibynadwyedd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd
yn risg isel ac un tymor byr o gofio'r newid i storio yn y cwmwl. Fodd bynnag,
roeddent yn ystyried defnyddio adferwr safle Microsoft Azure fel ateb amgen ar
gyfer y tymor hwy o bosibl ynghyd ag opsiynau ar gyfer storio mewn lleoliadau
oddi ar y safle yn y cyfamser. Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor ynghylch
gorddibyniaeth ar Microsoft ond daethpwyd i'r casgliad bod cyfiawnhad dros hyn.
10.4 Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor, rhoddodd Mark sicrwydd ynghylch rheoli'r
risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio dyfeisiau storio USB; cyfyngir ar eu
defnydd yn y dyfodol. O ran defnyddio e-bost personol drwy rwydwaith y
Cynulliad, nid oedd yn ystyried hyn yn fater i'r Comisiwn ac amlinellodd fod
rheolaethau digonol ar waith, gan gynnwys offer monitro priodol pe bai
gweithgaredd amheus yn cael ei ddwyn i'w sylw.
10.5 Rhoddodd Mark
sicrwydd hefyd fod y tîm wedi adolygu'r trefniadau storio data yng ngoleuni
Brexit. Ar hyn o bryd, mae data yn cael ei storio mewn lleoliad yn yr UE a
byddai angen ei leoli yn y DU maes o law. Roedd Microsoft yn ymwybodol o'r
gofyniad hwn.
10.6 Atgoffodd y
Cadeirydd y Pwyllgor fod Ann wedi dosbarthu papur gan Swyddfa'r Cabinet sy'n
amlygu meysydd yn ymwneud â darpariaeth gan gyflenwyr, a chanlyniadau
rheolaethau annigonol mewn perthynas â risgiau seiber.
10.7 Cytunodd aelodau'r
Pwyllgor eu bod am i'r diweddariad nesaf ar seiberddiogelwch gynnwys
diweddariadau ar: y defnydd o adferwr safle MS Azure; storio tapiau wrth gefn;
a chamau i brofi cynlluniau parhad busnes ar gyfer adfer pe bai systemau TGCh
yn methu. Byddent hefyd yn croesawu cael diagram risg wedi'i ddiweddaru.
Camau i'w cymryd
·
Y diweddariad nesaf ar seiberddiogelwch i gynnwys manylion am adferwr
safle MS Azure, storio tapiau wrth gefn, a diagram radar risg wedi'i
ddiweddaru.
·
Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau parhad busnes ar gyfer
adferiad os bydd systemau TGCh yn methu a diweddariad pellach ar unrhyw arfer
gorau a fabwysiadwyd yn y papur a ddosbarthwyd gan Ann, sef: ‘Cyber Security
for FTSE 350 companies’.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Adroddiad Blynyddol SIRO 2018-19 – i'w nodi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 175
Cofnodion:
ACARAC (03-19) Papur 12 - Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg
Gwybodaeth 2018-19
11.1
Nododd aelodau'r Pwyllgor Adroddiad Blynyddol
yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth 2018-19 a'i gytuno.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft, gan y Datganiad Llywodraethu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 178
- Cyfyngedig 179
- Cyfyngedig 180
Cofnodion:
ACARAC (03-19) Papur 8 – Adroddiad Blynyddol Drafft a Datganiad o
Gyfrifon 2017-18 – papur eglurhaol
ACARAC (03-19) Papur 8 - Atodiad A - Adroddiad Blynyddol Drafft 2018-19
ACARAC (03-19) Papur 8 - Atodiad B - Datganiad o Gyfrifon 2018-19
7.1
Cyflwynodd y Cadeirydd yr Adroddiad Blynyddol
Drafft a'r Datganiad o Gyfrifon 2018-19, a ddosbarthwyd bythefnos cyn y
cyfarfod yn ôl y bwriad. Amlinellodd rôl y Pwyllgor o ran rhoi sicrwydd i'r
Swyddog Cyfrifyddu a'r Comisiwn. Gwahoddodd sylwadau ar yr adroddiad drafft,
gan nodi y caent eu cymeradwyo'n derfynol yn y cyfarfod ar 15 Gorffennaf, cyn
eu cyflwyno i'r Comisiwn ar yr un diwrnod.
7.2
Canmolodd aelodau'r Pwyllgor yr Adroddiad
Blynyddol a'r Cyfrifon, gan nodi'n benodol y lefel uchel o sicrwydd a
ddarparwyd drwy'r cyfan, y cyflwyniad clir a hygyrch, a'r defnydd priodol o
ffeithluniau. Ym marn y Cadeirydd, mae'r ddogfen yn adroddiad hynod effeithiol
am dynnu sylw at lwyddiannau'r Cynulliad dros y flwyddyn ddiwethaf.
7.3
Trafododd y Pwyllgor sut y gellid rhoi
cyhoeddusrwydd i'r adroddiad er mwyn helpu i hyrwyddo gwaith y Cynulliad.
Dywedodd Ann y byddai Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a Gweithlu'r
Comisiwn (REWAC), y mae yn aelod ohono, yn trafod cyfathrebu ehangach mewn
cyfarfod sydd i ddod. Byddai'n rhoi adborth i'r Pwyllgor ar y trafodaethau hyn
yn y dyfodol.
7.4
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r
Pwyllgor ynglŷn â thargedau amgylcheddol a chynaliadwyedd, yn gyfredol ac
yn y dyfodol, dywedodd Dave, gan fod y targedau cyfredol yn dod i ben yn 2021,
y byddai'r Comisiwn yn gosod targedau newydd, anos yn y flwyddyn i ddod i fesur
cynnydd tuag at y dyhead o ddod yn sefydliad carbon niwtral.
7.5
Mewn ymateb i gwestiynau am y diffyg ystadegau
cydraddoldeb ac amrywiaeth yn yr Adroddiad Blynyddol, eglurodd Dave fod yr
Adroddiad yn darparu gwybodaeth gryno a bod manylion i'w cael yn yr Adroddiad
Blynyddol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant. Cytunodd i ystyried sut y gellid
darparu'r wybodaeth hon pe bai ymholiadau'n codi yn sgil cyhoeddi'r Adroddiad
Blynyddol a'r Cyfrifon.
7.6
Trafododd y Pwyllgor y dangosyddion
perfformiad allweddol sydd yn yr adroddiad. Mewn ymateb i gwestiynau am gwymp
ymddangosiadol mewn perfformiad o ran ymgysylltu, eglurodd Manon fod ffactorau
yn erbyn y dangosyddion cyfredol wedi cael eu dylanwadu i raddau helaeth gan
ffactor allanol. Bydd y rhain yn cael eu
disodli gan dargedau mwy priodol pan benodir y Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac
Ymgysylltu newydd.
7.7
Casglodd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn gyfrif
gwir, teg a dealladwy o waith y Comisiwn dros y flwyddyn ac y byddai'n debygol
o argymell i'r Comisiwn ei gymeradwyo'n ffurfiol ar 15 Gorffennaf.
Camau i'w cymryd
·
Ann Beynon i ddarparu adborth i'r Pwyllgor maes o law ar drafodaethau
REWAC ynghylch ymgysylltu a chyfathrebu
·
Dave i roi diweddariad i'r Pwyllgor yn yr hydref ar fesurau
cynaliadwyedd newydd
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon- amserlen
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 183
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 9 - amserlen
6.1
Disgrifiodd Nia Morgan y broses a ddilynwyd y llynedd, ac
roedd pob aelod o’r Pwyllgor a fu'n ymwneud ag adolygu'r Adroddiad Blynyddol a’r
Cyfrifon yn cytuno ei bod wedi gweithio'n dda.
Ei bwriad oedd cyhoeddi drafft bythefnos cyn y cyfarfod a fyddai’n cael
ei gynnal ar 17 Mehefin.
6.2
Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru hefyd y dylai fod mewn sefyllfa i
gyflwyno Adroddiad Cwblhau Archwilio terfynol (Adroddiad ISA 260) yn y cyfarfod
ym mis Mehefin.
6.3
Mewn ymateb i gwestiynau am lofnodi, gosod a chraffu ar yr Adroddiad
Blynyddol a’r Cyfrifon, cytunodd Nia i ychwanegu rhagor o fanylion at yr
amserlen i gynnwys y sesiynau craffu.
Cam i’w gymryd
– (6.3) Ychwanegu’r gweithgaredd at yr amserlen ar
ôl ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf, ee llofnod Archwilydd
Cyffredinol cynorthwyol Cymru, gosod yr adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno,
sesiynau craffu etc.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 186
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 14 – Y wybodaeth
ddiweddaraf am Sefyllfa Ariannol 2018-19 a 2019-20 a Chyllideb 2020-21
11.1
Rhoddodd Nia y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y sefyllfa gyllidebol bresennol. Bu blwyddyn ariannol 2018-19 yn gyfnod prysur
i'r Comisiwn gan y bu cryn alw am adnoddau gan gynnwys adnoddau ar gyfer
Diwygio'r Cynulliad, Brexit a'r Senedd Ieuenctid.
11.2
Nid oedd y Pwyllgor
Cyllid wedi ymateb eto i farn y Comisiwn ynghylch gosod cyllidebau’n unol â
Bloc Cymru. Cytunodd Nia i hysbysu'r
Pwyllgor yn ogystal â dosbarthu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus roedd
Comisiwn y Cynulliad i fod yn ei drafod yr wythnos ganlynol.
Camau i’w cymryd
-
(11.2) Nia i
ddosbarthu amserlen y gyllideb, adroddiad PAC ac ymateb y Comisiwn i aelodau'r
Pwyllgor.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Adolygiad blynyddol o bolisïau Twyll a Chwythu'r Chwiban
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 189
- Cyfyngedig 190
- Cyfyngedig 191
- Cyfyngedig 192
Cofnodion:
ACARAC
(02-19) Papur 13 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Polisi Chwythu'r Chwiban a'r
Polisi Twyll
10.1
Cadarnhaodd Gareth nad oedd y ddau bolisi wedi newid ers iddynt gael eu
hadolygu ym mis Ebrill 2018. Nid oedd unrhyw
achosion o dwyll na chwythu'r chwiban wedi'u cofnodi ond roedd y Comisiwn yn
ymwybodol o'r angen i gynnal lefelau ymwybyddiaeth a rhoi’r polisïau ar brawf
yn llawn.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad Blynyddol drafft yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 195
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 10 - Adroddiad Blynyddol yr
Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth
7.1
Cyflwynodd
Dave adroddiad drafft y SIRO a oedd yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed, yn rhoi
sicrwydd bod risgiau gwybodaeth yn cael eu rheoli'n effeithiol ac yn nodi
meysydd i ganolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod.
7.2
Y
prif ffocws ar gyfer 2019-20 oedd rhoi’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol
(GDPR) ar waith a gweithio gyda thîm prosiect y Senedd Ieuenctid i sicrhau
cydymffurfiad. Cafwyd un achos o golli data personol y bu angen rhoi gwybod i
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) amdano ond ni fu angen cymryd unrhyw
gamau pellach.
7.3
Roedd
hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch hefyd wedi bod yn faes
allweddol yn ystod y cyfnod hwn.
Cadarnhaodd Dave fod Aelodau'r Cynulliad a’u staff cymorth hefyd yn cael
cynnig y sesiynau hyfforddi hyn ond roedd gwendid yn parhau yn y maes hwn.
7.4
Roedd
Ann Beynon eisoes wedi dosbarthu papur Swyddfa'r Cabinet o'r enw 'Seiberddiogelwch
ar gyfer cwmnïau FTSE 350’ a fyddai'n cael ei drafod fel rhan o'r eitem
diweddaru ar seibeddiogelwch mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Datganiad Llywodraethu Drafft 2018-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 198
- Cyfyngedig 199
Cofnodion:
ACARAC (02-19) Papur 8 - y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol drafft
5.1
Dywedodd y
Cadeirydd ei fod yn gwerthfawrogi’r ffaith
bod Datganiad Llywodraethu drafft mor gynhwysfawr wedi’i baratoi mor
gynnar yn y broses.
5.2
Disgrifiodd Manon
Antoniazzi y broses o gasglu sicrwydd gan Benaethiaid Gwasanaeth a
Chyfarwyddwyr er mwyn paratoi’r Datganiad Llywodraethu a'r sesiwn herio yr aeth
Hugh Widdis iddi ym mis Chwefror.
5.3
Cafwyd sylwadau ac
awgrymiadau ynglŷn â’r datganiad drafft a byddai'r rhain yn cael eu
cynnwys ynddo cyn ei gyflwyno i'r Pwyllgor eto ym mis Mehefin fel rhan o
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn.
5.4
Mewn ymateb i
gwestiwn am y Dangosyddion Perfformiad Allweddol diwygiedig, cytunodd Dave i
anfon y cynigion at y Pwyllgor cyn eu cyflwyno i'r Comisiwn eu cymeradwyo.
Cam i’w
gymryd
– (5.4) Y tîm clercio i anfon y cynigion ar gyfer y Dangosyddion
Perfformiad Allweddol at aelodau’r Pwyllgor cyn eu cyflwyno i’r Comisiwn eu
cymeradwyo.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Achosion o Dorri Rheolau Gwybodaeth
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
13.1
Nid oedd unrhyw achosion o dorri rheolau
gwybodaeth i'w nodi.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 204
Cofnodion:
ACARAC
(01-19) Papur 12 – Polisïau cyfrifyddu – adolygiad blynyddol
10.1
Cadarnhaodd Nia
nad oedd unrhyw newidiadau i'r polisïau cyfrifyddu wedi'u nodi o'r adolygiad
blynyddol diweddaraf. Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor i Nia am y
papur clir a chroesawodd y diwydrwydd dyladwy wrth ragweld newidiadau a
fyddai'n dod i rym yn y dyfodol.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Prosiect Ailosod System Rheoli Treuliau Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 207
Cofnodion:
ACARAC
(01-19) Papur 11 – Y Diweddar ar System Rheoli Treuliau Aelodau
9.1
Croesawodd y
Cadeirydd Sulafa, Eve a Dean i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am y papur yn
amlinellu hynt y prosiect a'r manteision y bydd yn eu gwireddu.
9.2
Mynegodd Eve hyder
y disgwylir i'r prosiect fynd yn fyw ar 1 Ebrill a dywedodd na fu unrhyw
amrywiadau sylweddol i'r achos busnes ers iddo gael ei gymeradwyo ym mis Mawrth
2018. Dywedodd hefyd am welliannau yn y lefelau cymorth gan y darparwr
gwasanaeth o ganlyniad i fwy o ffocws ar ansawdd yn y broses aildendro
contractau.
9.3
Rhoddodd Sulafa
sicrwydd o ran tryloywder a rhwyddineb mynediad at wybodaeth am dreuliau a
darparodd Nia sicrwydd o ran diogelwch y systemau drwy gyfrifon defnyddwyr.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2018-19 a Chyllideb 2019-20
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 210
Cofnodion:
ACARAC
(05-18) Papur 10 - Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2018-19 a Chyllideb 2019-20
10.1
Cyflwynodd Nia'r wybodaeth ddiweddaraf am
sefyllfa ariannol 2018-19, gan gadarnhau na fydd yr alldro yn fwy na'r
gyllideb, ac y byddai gwerth am arian a'r targedau talu prydlon yn cael eu
bodloni. Mae'r gyllideb ar gyfer
2019-20, y cytunwyd arni gan y Cynulliad ym mis Tachwedd, yn defnyddio model
arall i fynd i'r afael â phryderon y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus o ran Cyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau, ac mae'n nodi cynnydd o
1.67%.
10.2
Croesawodd y Pwyllgor y trosolwg hwn, gan
ofyn am fanylion pellach o ran telerau arbedion effeithiolrwydd y busnes.
Camau i’w
cymryd
–
Bydd Nia Morgan
yn cynhyrchu atodiad i'r
cofnodion a fydd yn cynnwys manylion o ran elfen effeithlonrwydd busnes yr
arbedion gwerth am arian.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adborth diweddar ar y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 213
- Cyfyngedig 214
- Cyfyngedig 215
Cofnodion:
ACARAC
(05-18) Papur 9 - Diweddariad y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ACARAC
(05-18) Papur 9 - Atodiad 1
ACARAC(05-18)
Papur 9 - Atodiad 2
8.1
Cyflwynodd Nia
ddiweddariadau i'r Pwyllgor ar sesiynau craffu diweddar y Comisiwn. Arweiniodd y ddau sesiwn at amrywiaeth o
argymhellion i'r Comisiwn, er nad oedd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
wedi'i gyhoeddi hyd yn hyn.
8.2
Cafodd y Pwyllgor
Cyllid amlinelliad manwl o gyllideb ddrafft 2019-20, a chytunwyd ar hyn wedyn
gan y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2018. Yn
ystod y sesiwn graffu, tynnodd Suzy, Manon a Nia sylw at feysydd blaenoriaeth,
sef y Senedd Ieuenctid, Diwygio'r Cynulliad a'r Gweithgor Deddfwriaeth.
8.3
Gan fod prosiect y
Senedd Ieuenctid yn arloesol, a heb gael ei adlewyrchu gan ddeddfwrfeydd
eraill, roedd yn anodd rhagweld y costau'n union, a gellid eu herio yn ystod
cyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y dyfodol.
8.4
Roedd y Pwyllgor yn
falch o weld y tryloywder amlwg a ddangoswyd yn ystod y sesiynau craffu a lefel
y gwaith paratoi a oedd yn ofynnol ar draws y sefydliad, yn enwedig gan y tîm
Cyllid. Gwnaethant ddiolch i Nia, Manon
a Suzy am eu cyfraniadau i'r eitem hon.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad am Gynnydd ar Seiberddiogelwch
Cofnodion:
Eitem lafar
3.1
Croesawodd y
Pwyllgor Mark Neilson a Richard Coombe i'r cyfarfod i gyflwyno diweddariad ar
seiberddiogelwch. Yn dilyn eu
diweddariad blaenorol ym mis Ebrill, roedd y broses o uwchraddio i system
Windows 10 wedi'i chwblhau'n llawn.
Roedd y Pwyllgor yn falch o fanteision diogelwch platfform Windows 10.
3.2
Amlinellodd Mark yr
amserlen ar gyfer cynlluniau profi yn y dyfodol. Croesawodd y Pwyllgor fwriad y Comisiwn i
ymuno â chynllun Cyber Essentials, sef cynllun a gefnogir gan Lywodraeth y DU
a'r diwydiant i helpu sefydliadau i ddiogelu eu hunain yn erbyn bygythiadau
ar-lein cyffredin.
3.3
Dangosodd y siart
risg seiberddiogelwch gynnydd ym mhob maes, ond cododd gwestiynau o ran
blaenoriaeth addysg i ddefnyddwyr ac ymwybyddiaeth. Cafodd Mark a'i dîm eu hannog gan Suzy Davies
i ddefnyddio'r Comisiynwyr i ymgysylltu â'u pleidiau ac i annog eu cydweithwyr
i gymryd rhan mewn sesiynau codi ymwybyddiaeth a hyfforddi.
3.4
Sicrhaodd Mark a
Richard fod y Comisiwn yn ymgysylltu â sefydliadau eraill, gan gynnwys
deddfwrfeydd eraill a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
3.5
Er ei fod yn
cydnabod bod seiberddiogelwch yn gofyn am wyliadwriaeth gyson, roedd y cynnydd
yn destun anogaeth i'r Pwyllgor. Trefnwyd adolygiad archwilio mewnol o
seiberddiogelwch ar gyfer dechrau 2019, a byddai'r Pwyllgor yn croesawu
diweddariad pellach ym mis Mehefin 2019 ac o leiaf bob chwe mis dilyn hynny.
Camau i’w
cymryd
– Bydd Mark
Neilson yn defnyddio Comisiynwyr y Cynulliad i rannu negeseuon allweddol i'w
grwpiau o ACau a Staff Cymorth ACau ynglŷn â'r sesiynau hyfforddiant a
chodi ymwybyddiaeth sydd ar gael.
– Bydd Mark a Richard yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar
seiberddiogelwch ym mis Mehefin 2019, ac o leiaf ddwywaith y flwyddyn wedi
hynny.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adborth o Gynhadledd Cadeiryddion TIAA a Trafod rôl Keith Baldwin fel Cynghorydd Annibynnol i’r Comisiwn
Cofnodion:
Eitem lafar drwy gyflwyniad
5.1
Gwahoddwyd Keith Baldwin i rannu ei adborth ar gynhadledd Cadeiryddion
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg TIAA a aeth iddi ym mis Ebrill 2018, yn
ogystal ag adlewyrchu ar ei rôl fel Ymgynghorydd Annibynnol i’r Comisiwn ac
aelod o’r Pwyllgor.
5.2
Roedd ei gyflwyniad cyntaf yn canolbwyntio ar dair thema allweddol o
gynhadledd TIAA: seiber-ddiogelwch, chwythu’r chwiban a llywodraethu effeithiol
5.3
O ran seiber-ddiogelwch, roedd Keith yn sicr, o drafodaethau mewn
cyfarfodydd Pwyllgor, fod Comisiwn y Cynulliad wedi paratoi’n ddigonol yn y
maes hwn ac wedi dangos rhaglen glir ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Cyfeiriodd
at restr wirio i gynyddu sicrwydd o ran seiber-ddiogelwch ac at ‘ddiagram gwe
pry cop’ fel enghraifft o aeddfedrwydd o ran ymdrin â seiber-ddiogelwch.
Dywedodd Dave fod y tîm TGCh yn trafod llunio rhywbeth tebyg ar gyfer y
Comisiwn.
5.4
O ran chwythu’r chwiban, teimlai Keith unwaith eto fod gan y Comisiwn
bolisi a gweithdrefnau cadarn ar waith, er ei fod yn cwestiynu a oedd y rhain
wedi’u profi. Eglurodd Gareth Watts ei fod yn bwriadu mynd ar gwrs yn
ddiweddarach yn y flwyddyn a drefnwyd gan Public Concern at Work i sicrhau bod
ein gweithdrefnau mor gyfoes â phosibl. Byddai’n rhannu ei ganfyddiadau â Manon
a Dave.
5.5
Wedyn, cyflwynodd Keith restr o awgrymiadau ar gyfer Pwyllgor Archwilio
effeithiol, gan ymhelaethu ar yr awgrymiadau hyn yn ei gyflwyniad nesaf, a oedd
yn canolbwyntio ar beth y gallai hyn ei olygu i’r Comisiwn.
5.6
Roedd ei gyflwyniad nesaf yn canolbwyntio ar ei aelodaeth o’r Pwyllgor
a’i rôl fel Ymgynghorydd Annibynnol. Teimlai fod y Cynulliad wedi datblygu’n
sefydliad cryf ac aeddfed, yn arbennig o ran rheoli risg ac archwilio mewnol.
5.7
Mynegodd bryder ynglŷn â cholli profiad a gwybodaeth o ganlyniad i’w
ymadawiad ac ymadawiad y Cadeirydd yn 2019.
5.8
Roedd llawer o’i gyflwyniad yn canolbwyntio ar restr o awgrymiadau ar
gyfer pwyllgor effeithiol, fel y cyfeiriwyd atynt yn y cyflwyniad blaenorol.
Cytunodd y Cadeirydd fod llawer o’r pethau hyn eisoes ar waith gan y Comisiwn,
er y dylid parhau i ddatblygu prosesau sicrwydd a rheoli risg. Ychwanegodd y
Cadeirydd fod y Cylch Gorchwyl yn nodi’n glir beth yw rôl y Pwyllgor, a bod y
flaenraglen waith yn cael ei rhannu’n rheolaidd ag aelodau er mwyn iddynt
ddylanwadu ar yr eitemau i’w trafod.
5.9
At ei gilydd, roedd profiad Keith wedi bod yn gadarnhaol ac yn bleserus,
gan ddod â chryn foddhad iddo. Diolchodd y Pwyllgor a’r swyddogion iddo am ei
gyfraniadau a’i ymrwymiad i’r rôl, gan ddymuno’n dda iddo at y dyfodol.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad strategol
Cofnodion:
Eitem lafar
7.1
Arweiniodd
Dave a Manon ar y diweddariad strategol. Dechreuodd Dave y drafodaeth drwy
roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad capasiti. Roedd cynllun gweithredu
ar waith, gyda’r arweinwyr a’r amserlenni wedi’u nodi. O ganlyniad i’r gwell
hyblygrwydd a nodwyd yn ystod cymal cyntaf yr adolygiad, cafodd unigolion eu
hadleoli dros dro i adrannau fel y tîm Brexit i ateb y galw ar unwaith.
7.2
Yn
ogystal â chanlyniadau’r adolygiad capasiti, byddai’r meini prawf o ran
blaenoriaethu yn adnodd defnyddiol i asesu galwadau ar Gronfa Fuddsoddi’r
Comisiwn.
7.3
Wedyn,
rhoddodd Manon y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ddiwygio’r Cynulliad a
Brexit. Roedd ymgysylltu â staff wedi bod yn flaenoriaeth i Manon. Roedd
sesiynau i’r holl staff ar ddiwedd pob tymor wedi arwain at ymgysylltu a
chydweithio da iawn. Ers ei phenodiad, roedd Manon wedi’i chalonogi gan
ymrwymiad y staff i’r sefydliad, gan obeithio y byddai’r cyfleoedd yr oedd yr
adolygiad capasiti a’r gwaith o ddiwygio’r Cynulliad yn eu cynnig yn arwain at
waith mwy amrywiol a diddorol a allai gynyddu morâl yn ei dro.
7.4
Roedd
aelodau’r pwyllgor yn ymwybodol o’r ansicrwydd o amgylch Brexit. Cafwyd
sicrwydd gan Manon eu bod yn ymateb i ddatblygiadau wrth iddynt ddigwydd ac y
byddent yn parhau i gydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws deddfwrfeydd
eraill.
7.5
Daeth
Dave â’r eitem hon i ben drwy atgoffa’r Pwyllgor y byddai’n rhaid i Lywodraeth
Cymru wneud unrhyw benderfyniad ar lety newydd, ac y byddai angen cyllideb
atodol i gefnogi’r penderfyniad hwnnw. Mae’r Llywydd yn trafod hyn â’r Prif
Weinidog ym mhob cyfarfod dwyochrog, a bydd y mater yn dod yn fwyfwy pwysig os
bydd y Cynulliad yn cytuno i gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect y system gyllid (dros flwyddyn yn ddiweddarach)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 224
Cofnodion:
ACARAC (04-18) Papur 5 – Y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect i ddisodli’r
system gyllid (NAV)
6.1 Cyflwynodd Nia’r adroddiad, gan amlinellu’r nifer sylweddol o fuddion a
ddaeth o ganlyniad i’r prosiect. Roedd enghreifftiau’n cynnwys: defnyddio adnoddau
staff yn fwy effeithiol, proses fusnes fwy effeithlon a dileu risgiau o ran
peidio â chydymffurfio.
6.2
Roedd nifer o faterion
wedi codi yn ystod y flwyddyn ers i’r system fynd yn fyw, ond aeth y cyflenwr
meddalwedd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r rhain. Roedd y berthynas â’r cyflenwr
wedi gwella’n sylweddol ar ôl penodi Rheolwr Cyfrif Cwsmer yn benodol ar gyfer
y Comisiwn.
6.3
Mae Cynllun Gwella
Gwasanaeth bellach ar waith, ac fe aethpwyd i’r afael â nifer o fân faterion a
oedd heb eu datrys yn ystod ymweliad â’r safle gan uwch-gynrychiolydd ym mis
Ebrill 2018.
6.4
Gofynnodd y Pwyllgor
beth fyddai’r cam nesaf yn ei olygu. Cadarnhaodd Nia y byddai’r trydydd cam yn
disodli Folding Space, sef y system
electronig ar gyfer lwfansau’r Aelodau. Byddai’r trydydd cam yn galluogi
cyllidebu ar gyfer staff Aelodau a chyhoeddi treuliau yn uniongyrchol o’r
system gyllid craidd (NAV). Roedd disgwyl i’r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn
1 Ebrill 2019.
6.5
Diolchodd y Pwyllgor i
Nia am y diweddariad, gan groesawu’r arbedion effeithlonrwydd a gynhyrchwyd gan
y system.
Cam gweithredu
Nia i sicrhau bod y
Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn cerrig milltir
allweddol wrth gyflwyno cymal nesaf y gwaith o ddisodli’r system gyllid.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adroddiad Blynyddol SIRO 2017-18
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 227
Cofnodion:
ACARAC (03-18) Papur 9 – Adroddiad Blynyddol SIRO 2017-18
7.1
Croesawodd
y Pwyllgor yr adroddiad hwn a chytunodd Dave y gellid ei gwneud yn gynt yn y
dyfodol. Cytunodd hefyd y gellid gwella'r adroddiad i wneud cyfeiriadau pellach
at y paratoadau bod GDPR yn cymryd blaenoriaeth eleni ac i gynnwys ystadegau yn
ymwneud â seiber-ddiogelwch.
7.2
Rhoddodd
Dave esboniad manwl i'r Pwyllgor o'r achos colli data y rhoddwyd gwybod amdano
i'r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth.
Sicrhaodd y Pwyllgor fod profion ychwanegol wedi'u rhoi ar waith i
leihau'r siawns o gamgymeriad dynol yn y dyfodol.
7.3
Roedd
y Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth wedi bod yn gweithio'n bennaf ar
ymwybyddiaeth a hyfforddiant am GDPR a byddai'n parhau i wneud hynny dros y
misoedd nesaf cyn canolbwyntio ar weithgareddau cydymffurfio. Byddai adolygiad
o'r system ddosbarthu yn cael ei gynnal hefyd.
7.4
Roedd
Dave yn derbyn y ceisiadau gan y Pwyllgor y dylid rhoi gwybod am achosion o
dorri gwybodaeth yn y dyfodol i SIRO ac ACARAC.
Camau gweithredu
-
Dave i adolygu Adroddiad
Blynyddol SIRO i gyfeirio at baratoadau GDPR ac ystadegau seibr-ddiogelwch.
-
Dave i ddiwygio Cylch
Gorchwyl SIRO i sicrhau y rhoddir gwybod am achosion o dorri gwybodaeth i
ACARAC cyn gynted â phosibl.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Meini Prawf Blaenoriaethu
Cofnodion:
Diweddariad llafar drwy gyflwyniad
6.1
Gohiriwyd yr eitem hon o
gyfarfod mis Ebrill.
6.2
Cyflwynodd Dave i'r
Pwyllgor y meini prawf blaenoriaethu a oedd yn seiliedig yn rhannol ar y model
MoSCoW (“Must, Should, Could or Won't”), ynghyd â meini prawf mwy manwl. Roedd
hyn eisoes wedi'i rannu â Chomisiwn y Cynulliad, Fforwm y Cadeiryddion a'r
Pwyllgor Busnes a byddai'n cael ei ddefnyddio fel sail i adnewyddu'r
blaenoriaethau strategol. Roedd yn cael ei ddefnyddio gan y Tîm Arweinyddiaeth
i lywio trafodaethau ynghylch blaenoriaethu adnoddau ar gyfer 2018-19 ac fe
fyddai canlyniad y trafodaethau hyn ac unrhyw achosion busnes yn ddarostyngedig
i her gan y Bwrdd Gweithredol. Roedd swyddogion yn cytuno unwaith y bydd hyn
wedi'i wreiddio, byddai'n galluogi Manon a'r uwch reolwyr i ganolbwyntio ar
flaenoriaethau a'u hasesu'n well, yn arbennig o ystyried yr adnoddau cyfyngedig
a'r sefyllfa ariannol dynnach. Byddai hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer
trafodaethau â'r Comisiwn ynghylch blaenoriaethau a goblygiadau penderfyniadau.
6.3
Esboniodd Dave wrth y
Pwyllgor fod y model eisoes wedi cael ei ddefnyddio gan y tîm Cyfathrebu i
flaenoriaethu digwyddiadau'r haf fel rhan o'r strategaeth ymgysylltu. Byddai'r
meini prawf yn cael eu datblygu ymhellach fel rhan o'r Adolygiad Capasiti i
nodi mannau cyfyng a llywio'r gwaith o ail-leoli staff.
6.4
Roedd y Pwyllgor yn
croesawu'r dull o ddefnyddio hyn fel offeryn i lywio trafodaethau, ond
pwysleisiodd fod angen dealltwriaeth gyffredin o'r termau a defnyddiwyd a hefyd
i ystyried asesu prosiectau fesul cam fel rhan o'r fethodoleg hyfyw (e.e.
ymgeisydd, darganfyddiad ac ati). Cawsant eu calonogi gan rôl Gareth fel
‘ffrind beirniadol’ wrth ddatblygu'r meini prawf hyn.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad ar bolisïau chwythu'r chwiban a thwyll
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 232
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 5 - Diweddariadau ar y Polisi Chwythu'r Chwiban a'r
Polisi Twyll
7.1
Dywedodd Gareth Watts wrth y Pwyllgor nad oes
unrhyw newidiadau o ran sylwedd wedi'u gwneud i bolisïau Chwythu'r Chwiban a
Thwyll y Comisiwn. Cytunodd i ystyried profi'r polisi Chwythu'r Chwiban.
7.2
Mewn perthynas â Thwyll, awgrymodd y
Cadeirydd y dylai Adroddiad Blynyddol ar Dwyll y Pennaeth Archwilio Mewnol (i'w
gyflwyno yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2018) gyfeirio at Fframwaith Polisi'r
Comisiwn a mesurau eraill a gymerwyd i godi ymwybyddiaeth.
7.3
Gofynnodd y Cadeirydd hefyd am ddiweddariad ar restr wirio Twyll Swyddfa
Archwilio Cymru. Roedd Gareth Watts eisoes wedi trafod hyn â Swyddfa Archwilio
Cymru (SAC) a byddai'n casglu barn rheolwyr yn seiliedig ar ei asesiad ei hun
cyn cyflwyno'r rhestr wirio i'r Pwyllgor. Cadarnhaodd Gareth Lucey, o SAC, yn
unol â Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (ISA), roedd yn rhaid i bob un o'r
cyrff yr oeddent yn eu harchwilio gwblhau'r rhestr wirio.
Camau i’w cymryd
Gareth Watts i gynnwys manylion am ymwybyddiaeth o dwyll
yn ei Adroddiad Blynyddol ar Dwyll.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygu'r Fframwaith Sicrwydd yn ei gyfanrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 235
Cofnodion:
ACARAC (02-18)
Papur 4 – Diweddariad ar y Fframwaith Sicrwydd
ACARAC (02-18)
Papur 4 – Atodiad A – Map Sicrwydd
ACARAC (02-18) Papur 4 – Atodiad B – Sicrwydd FW Ebrill 2017 – Mawrth
2018
6.1
Cyflwynodd Gareth Watts y wybodaeth
ddiweddaraf am sut mae Fframwaith Sicrwydd y Comisiwn yn cael ei chyflenwi.
Eglurodd fod Penaethiaid Gwasanaeth yn cymryd mwy o berchnogaeth o'r broses
mapio sicrwydd ac yn ymgysylltu mwy â hi. Cyflawnwyd hyn, yn rhannol, drwy
ddirprwyo cyfrifoldeb ar gyfer adolygu a chynyddu'r prosesau mapio sicrwydd a
gweithgareddau i lywio datganiadau sicrwydd. Roedd ei dîm wedi gweithio gyda
gwasanaethau i helpu i ddatblygu diwylliant llywodraethu a sicrwydd ar draws y
Comisiwn, gan gynnwys darparu sesiynau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth wedi'u
teilwra.
6.2
Amlygodd y Pwyllgor fod pob un heblaw un o'r
elfennau Map Sicrwydd â statws RAG gwyrdd ac awgrymodd y dylid ystyried dulliau
gwahanol ar gyfer nodi meysydd i wella. Cytunodd Gareth, ac roedd ef a Kathryn
Hughes eisoes wedi dechrau ffyrdd amgen o gyflwyno'r wybodaeth hon yn y
dyfodol.
6.3
Awgrymodd Hugh y gellid darparu mwy o
fanylion sy'n nodi'n glir y lefelau o sicrwydd sy'n gysylltiedig â phrosesau a
risgiau'r Comisiwn. Atgoffodd Gareth y Pwyllgor fod y map sicrwydd wedi'i ategu
gan fapiau sicrwydd lefel gwasanaeth manwl a datganiadau sy'n darparu
dadansoddiad mwy manwl a'u bod yn cael eu defnyddio i nodi meysydd o gryfderau
a gwendidau o ran sicrwydd. Roedd y wybodaeth hon ar gael i aelodau'r Pwyllgor.
6.4
Trafododd y Pwyllgor, yn ogystal â diweddaru Map Sicrwydd y Comisiwn i
adlewyrchu'r strwythur llywodraethu newydd, p'un a ddylai adlewyrchu'r gwaith
craffu a gafodd y Comisiwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor
Cyllid a ph'un a dylid dangos ACARAC yn benodol yn y
drydedd linell amddiffyn, er mai dim ond llinellau lefel uchel elfen amddiffyn
y fframwaith gafodd eu cyflwyno.
Camau i’w cymryd
Swyddogion i ystyried cyfeirio at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Fap Sicrwydd y Comisiwn ac ychwanegu ACARAC i'r
trydydd llinell amddiffyn.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2017-18
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 238
- Cyfyngedig 239
- Cyfyngedig 240
- Cyfyngedig 241
Cofnodion:
ACARAC (02-18) Papur 3 – Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2017-18
– papur cwmpasu
ACARAC (02-18) Papur 3 – Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2017-18
5.1
Cyflwynodd Manon ddrafft cynnar
o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 2017-18. Roedd y ffigurau ariannol yn dal i
gael eu cwblhau ond roedd y Comisiwn yn hyderus na fyddai gorwariant.
5.2
Trafododd y Pwyllgor y
sesiwn herio a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2018 lle roedd Eric yn craffu ar Ddatganiadau
Sicrwydd y Cyfarwyddwyr a chynnig heriau annibynnol. Cytunodd Eric a swyddogion
ei bod wedi bod yn sesiwn gadarn gyda thrafodaeth agored a onest.
5.3
Awgrymodd y Pwyllgor
ychwanegu mwy o fanylion ar y newidiadau llywodraethu ac uwch reolwyr diweddar,
ymgysylltu â staff wrth adnewyddu gwerthoedd sefydliadol a chydnabyddiaeth
allanol. Awgrymodd y Pwyllgor y meysydd canlynol i ganolbwyntio arnynt yn
2018-19: gweithredu a chadarnhau newidiadau Rheoleiddio Diogelu Data
Cyffredinol (GDPR); seiber-ddiogelwch; a pholisïau a gweithdrefnau urddas a
pharch.
5.4
Gofynnodd y Cadeirydd a
fu unrhyw ganllawiau newydd ar ddatganiadau llywodraethu a sicrhaodd Gareth
Watts nad oedd unrhyw beth newydd wedi'i lunio a bod arfer gorau presennol, gan
gynnwys adroddiadau archwilio a rhestr wirio'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol
ar ddatganiadau llywodraethu, wedi'u hystyried.
5.5
Disgrifiodd Manon y
gwaith sy'n cael ei wneud i symleiddio adroddiadau ac allbynnau drwy gydol y
flwyddyn i leihau achosion o ddyblygu ymdrech, tra'n cynnal llif gwybodaeth
briodol i'r holl randdeiliaid.
5.6
Daeth y Pwyllgor i'r
casgliad bod hwn yn ddrafft cyntaf da a bod lefel y manylion yn briodol wrth
gydbwyso tryloywder a darllenadwyedd. Cytunwyd y byddai unrhyw awgrymiadau
pellach yn cael eu hanfon dros e-bost.
Camau i’w cymryd
Aelodau'r Pwyllgor i e-bostio newidiadau a awgrymir i'r
Datganiad Llywodraethu at Kathryn Hughes.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Meini Prawf Blaenoriaethu
Cofnodion:
Diweddariad drwy gyflwyniad
4.1
Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod mis
Mehefin.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad ar Ddiogelwch Seiber
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 246
Cofnodion:
Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar
3.1
Cytunodd y Pwyllgor i drafod ACARAC
(02-18) Papur 11 - Diogelwch Seiber ynghyd â'r risgiau sy'n ymwneud â
diogelwch seiber (ICT16) a'r diweddariad gan benaethiaid TGCh a Seilwaith TG o
dan yr eitem hon.
3.2
Daeth Mark Neilson a Richard i'r cyfarfod i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i wella
diogelwch seiber.
3.3
Cafodd y Pwyllgor wybod bod dau faes y canolbwyntir arnynt: technegol a
dynol. Darparodd Mark ystadegau ar gyfer sawl ymgais o ymosodiadau seiber a fu
ar y Comisiwn dros y chwe mis blaenorol. Nododd y Pwyllgor fod y risg
gorfforaethol yn ymwneud â seiber-ddiogelwch yn adlewyrchu ei bod hi'n amhosibl
i atal ymosodiadau seiber a bod rhaid canolbwyntio ar ddiogelu, canfod ac
ymateb iddynt.
3.4
Tynnodd Richard sylw at newid yn yr agwedd at seiber-ddiogelwch o un dull
'cylch dur' i ddiogelwch sawl haen gan ddefnyddio mwy o ddadansoddiadau ac
adrodd. Dywedodd Richard bod y Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol yn anfon
rhybuddion pan ymosodir ar sefydliadau.
3.5
Holodd y Pwyllgor pa waith sydd wedi'i wneud
mewn perthynas â bygythiad mewnol, yn arbennig ymddygiad maleisus posibl.
Dywedodd Richard fod nhw’n meddwl cyflwyno system dosbarthu gwybodaeth newydd
ac fe wnaeth y Cadeirydd annog y Comisiwn i gyflymu hyn, gan ystyried gwersi a
ddysgwyd gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.
3.6
Nododd y Pwyllgor y sgôr archwilio mewnol
gwell.
3.7
Nododd y Pwyllgor fod cynlluniau ymateb
seiebr wedi'u profi'n llwyddiannus a byddai Mark a Gareth Watts yn goruchwylio
profion pellach ar gyfer cynlluniau amddiffyn ac adfer. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor
cadarnhaodd Dave fod y broses gaffael yn cynnwys rhestr wirio seiber-ddiogelwch
ar gyfer cyflenwyr trydydd parti a bod adolygiadau contractau rheolaidd yn
sicrhau y glynir i hyn.
3.8
Awgrymodd y Pwyllgor y gellid creu model
aml-ddimensiwn a fyddai'n amlygu cipolwg o elfennau amrywiol seiber-ddiogelwch.
Cadarnhaodd Mark y byddai'n gweithio gyda Gareth Watts a Clive FitzGerald
(TIAA) i ddatblygu hyn.
3.9
Hysbysodd Mark y Pwyllgor am waith sy'n mynd
rhagddo i godi a phrofi ymwybyddiaeth o arfer gorau seiber-ddiogelwch ymysg
staff y Comisiwn, Aelodau’r Cynulliad a'u staff cymorth. Y nod oedd lleihau
graddfa difrifoldeb y risg.
3.10 Gofynnodd
y Pwyllgor p'un a yw dod â TGCh yn fewnol wedi sicrhau buddion
seiber-ddiogelwch. Roedd Dave o'r farn bod y Comisiwn mewn sefyllfa well i
deilwra a phrofi rheolaethau seiber-ddiogelwch. Ychwanegodd Mark fod y
trefniadau presennol yn caniatáu i'r Comisiwn gael agwedd hyblyg, tra hefyd yn
gallu dibynnu ar brofiad Microsoft.
3.11 Nododd y
Pwyllgor fwriad Gareth i gynnal archwiliad blynyddol ffurfiol a chytunodd fod y
dylid darparu diweddariad ar seiber-ddiogelwch, gan gynnwys gweithredu
argymhellion archwilio mewnol, bob chwe mis.
3.12 Diolchodd
Eric i'r swyddogion am fynychu ac am ddatganiad clir ar fater cymhleth.
Camau i’w cymryd
Seiber-ddiogelwch i'w ychwanegu i'r
flaenraglen waith i'w adolygu bob chwe mis.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol (adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 249
Cofnodion:
ACARAC (01-18) Papur 8 - Adroddiad Dangosyddion
Perfformiad Allweddol Ebrill-Medi 2017
Eitem 10 – Adroddiad risgiau corfforaethol
ACARAC (01-18) Papur 9 - Risgiau Corfforaethol
ACARAC (01-18) Papur 9 - Atodiad A - Adroddiad Cryno ar Risgiau
Corfforaethol
ACARAC (01-18) Papur 9 - Atodiad B - Risgiau Corfforaethol a nodwyd
Eitem 11 - Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi’i nodi neu risg
newydd
ACARAC (01-18) Papur 10 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Risgiau Corfforaethol
Rhyng-gysylltiedig y Comisiwn
8.1
Roedd fersiwn derfynol, gyhoeddedig yr adroddiad ar ddangosyddion
perfformiad allweddol wedi'u cynnwys yn y pecyn er gwybodaeth. Dywedodd Dave
fod adolygiad o'r dangosyddion perfformiad allweddol yn mynd rhagddo gyda'r
Penaethiaid Gwasanaeth a'r Cyfarwyddwyr. Roedd hyn yn cynnwys ystyried datblygu
dangosfwrdd mewnol yn ogystal â'r dangosyddion perfformiad allweddol
cyhoeddedig. Cadarnhaodd y bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ystyried a yw
targedau yn ddigon heriol a pherthnasol. Awgrymodd y Pwyllgor y dylid rhoi
ystyriaeth i seilio targedau ar ganlyniadau yn hytrach nag allbynnau.
8.2
Cyflwynodd
Dave wedyn y papurau risg, gan nodi bod y proffil risg sylweddol parhaus yn
dangos y pwysau a faint o ansicrwydd sy'n wynebu'r sefydliad.
8.3
Er cydnabod bod y risgiau gweddilliol yn parhau i fod yn uchel oherwydd eu
heffaith pe dônt yn wir, awgrymodd y Pwyllgor y dylid herio rheolaethau a
lefelau goddef yn barhaus i sicrhau bod digon yn cael ei wneud i'w rheoli.
Cytunodd y swyddogion i ystyried sylwadau'r Pwyllgor ar opsiynau i gyflwyno
risgiau mewn ffordd wahanol i helpu dadansoddi yn well.
8.4
Nododd
y Pwyllgor y papur yn amlinellu sut roedd y Comisiwn yn rheoli natur
rhyng-gysylltiedig ei risgiau corfforaethol. Roedd y Pwyllgor yn dal i fod yn
fodlon bod y risgiau'n cael eu rheoli'n dda, yn unigol ac ar y cyd. Gan y
byddai'r risgiau rhyng-gysylltiedig yn parhau i gael eu rheoli ar y cyd a'u
hysbysu i'r Pwyllgor ar wahân yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol, cytunwyd nad
oedd angen iddynt weld adroddiadau tebyg ar reoli'r risgiau rhyng-gysylltiedig
yn y dyfodol.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Capasiti
Cofnodion:
Eitem lafar
4.1
Cafodd
y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Capasiti yn dilyn cyfarfod
diweddar Comisiwn y Cynulliad unwaith iddynt gymeradwyo 'r adroddiad
cychwynnol.
4.2
Bydd Dave yn arwain cyfnod nesaf yr adolygiad, sef gweithredu'r
argymhellion. Rhoddodd Dave wybod y sefydlwyd grŵp llywio traws-sefydliad
i ddatblygu a chydlynu'r modd y cyflwynir cynllun gweithredu. Roedd disgwyl i
gylch gorchwyl y grŵp gael eu hystyried gan y Bwrdd Rheoli. Amlinellodd
wahanol gamau gweithredu a oedd eisoes yn cael eu datblygu hefyd, megis
cylchoedd diwygiedig ar gyfer cynllunio ac adrodd.
4.3
Cadarnhaodd
Suzy Davies fod y Comisiwn wedi croesawu'r adroddiad ac wedi argymell y dylid
cynnal adolygiad capasiti ar ddechrau pob Cynulliad newydd i lywio'r gwaith o
gynllunio ar gyfer yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r strategaeth.
4.4
Trafododd
y Pwyllgor gyd-destun yr adolygiad o ran yr heriau penodol sy'n wynebu'r Pumed
Cynulliad, gan gynnwys Brexit, diwygio etholiadol y Cynulliad, cyfyngiadau
ariannol a'r awydd i gyfyngu ar niferoedd staff. Trafodwyd hefyd y gwaith manwl
o gynllunio ar gyfer senarios a wneir gan yr uwch swyddogion penodol mewn
perthynas â Brexit a'r Bil Ymadael.
4.5
Awgrymodd y Pwyllgor y dylai'r Comisiwn sicrhau
bod digon o ddata meintiol i fod yn dystiolaeth o ganfyddiadau'r adolygiad a'r
gwelliannau dilynol o ran effeithlonrwydd ac effeithlonrwydd, a sicrhau bod y
dystiolaeth yn addas i graffu arni. Roeddent yn cydnabod, fodd bynnag, ei bod
yn anodd mesur gwerth y gwasanaethau a ddarparwyd neu feincnodi yn erbyn
deddfwrfeydd eraill.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Crynodeb o’r Sesiynau Craffu (Cyllid a PAC)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 254
- Cyfyngedig 255
- Cyfyngedig 256
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 12 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor Cyllid a’r
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC)
ACARAC (05-17) Papur 12 - Atodiad 1 Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
ACARAC (05-17) Papur 12 - Atodiad 2 Ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid
9.1
Diolchodd
Nia a Manon Antoniazzi i’r Pwyllgor am eu cyfraniad gwerthfawr iawn wrth
baratoi ar gyfer y sesiynau craffu a gynhaliwyd ym mis Hydref. Yn dilyn y sesiynau hyn, awgrymwyd nifer o
argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid ac roedd Comisiwn y Cynulliad wedi ymateb yn
ffurfiol. Cymeradwywyd y gyllideb ar gyfer 2018-19 yn y Cyfarfod Llawn ar 15
Tachwedd 2017 a chadarnhaodd Nia y byddai’n ystyried sut y cafodd y
Penderfyniad ar Gyflog a Lwfansau Aelodau ei drin mewn deddfwrfeydd
eraill.
9.2
Canmolodd
y Pwyllgor Manon am ei pherfformiad yn y sesiynau, yn enwedig o ystyried mai’r
rhain oedd y cyntaf iddi fel Prif Weithredwr a Chlerc, a Swyddog Cyfrifyddu.
Roeddent hefyd yn croesawu’r cynnig o ddiweddariad ar y cynigion o ran
adeiladu, ar ôl i’r Comisiwn wneud ei benderfyniad yn y Flwyddyn Newydd.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 259
- Cyfyngedig 260
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf
2017
ACARAC (05-17) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu
2.1
Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf a chafodd y wybodaeth
ddiweddaraf am gamau gweithredu, a nodwyd ym mhapur 2, ei nodi.
2.2 Pwyntiau gweithredu 4.4 a 12.2 (blaenoriaethu prosiectau) -
Cadarnhaodd Dave Tosh fod papur yn manylu ar y meini prawf blaenoriaethu wedi’i
gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ym mis Mehefin. Byddai’r
Bwrdd yn profi’r gwaith o gyflwyno’r meini prawf ym mis Rhagfyr 2017.
2.3 Pwyntiau gweithredu 4.7 a 4.9 (Cyflog a
Chronfa Gyfunol Archwilydd Cyffredinol Cymru (ACC)) - Cyfarfu Nia Morgan a
Gareth Watts â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru dros gyfnod toriad yr haf i
drafod trin taliadau ar gyfer ACC.
Sicrhawyd y ddau bod y prosesau priodol ar waith ar gyfer penodi’r
Archwilydd nesaf ac roeddent yn aros am y wybodaeth ddiweddaraf cyn diwedd y
flwyddyn.
Camau i’w cymryd
-
Gareth i ddiweddaru’r Pwyllgor ar broses Llywodraeth Cymru ar gyfer
penodi a thalu Archwilydd Cyffredinol Cymru unwaith y derbynnir yr
wybodaeth.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Adroddiad Drafft ar Berfformiad Corfforaethol (adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 263
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 19 - Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Ebrill-Medi 2017
15.1
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad DPA drafft hwn
a oedd i fod i gael ei adolygu gan Gomisiwn y Cynulliad ym mis Rhagfyr. Nodwyd
un maes a oedd wedi dangos newid sylweddol, sef ffigurau gwylio Senedd.tv.
Esboniodd Dave a Manon bod gwylwyr yn newid o wylio trafodion y Senedd ar
Senedd.tv i wylio ar YouTube, a oedd yn profi bod defnyddwyr yn ffafrio cael
gafael ar y deunydd gan ddefnyddio’r gwahanol sianeli cyfryngau
cymdeithasol.
15.2
Eglurodd
Dave y gwnaed cais i Benaethiaid Gwasanaeth adolygu’r is-ddangosyddion KPI, yn
enwedig yng ngoleuni’r Adolygiad Capasiti a’r argymhellion a wnaed gan y
Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad ar y Fframwaith Rheoli Polisi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 266
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 10
- Fframwaith Rheoli Polisi
7.1
Cyflwynodd
Gareth y papur hwn oedd yn gofyn i’r Pwyllgor nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud
a’r camau arfaethedig nesaf. Pan gwblheir y gwaith, byddai pob un o’r polisïau’n
cael eu brandio a byddai ganddynt ddyddiadau adolygu pendant, a ystyrir yn
hanfodol o ran llywodraethu da.
7.2
Er
bod y Pwyllgor yn cwestiynu amseriad y gwaith hwn, sicrhaodd Gareth yr aelodau
fod y prosiect hwn wedi’i nodi yn 2014 ac nid oedd yn dechrau o’r dechrau.
Roedd yr effaith ar adnoddau yn fach ac roedd aelod o’r tîm Llywodraethu a
Sicrwydd yn rheoli hyn.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adolygiad Capasiti
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 269
- Cyfyngedig 270
Cofnodion:
ACARAC (05-17) Papur 3 - Dadansoddiad Cefnogi Adolygiad Capasiti
ACARAC (05-17) Papur 3 - Atodiad A – Y cylch gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad
Capasiti
3.1
Cyflwynodd
Gareth Watts a Phil Turner drosolwg o’r Adolygiad Capasiti, a soniwyd am
amcanion yr Adolygiad a rhai canfyddiadau cychwynnol.
3.2
Rhoddodd
y Pwyllgor her ac awgrymiadau defnyddiol a fyddai’n cael eu hystyried wrth
baratoi ar gyfer cyflwyno canfyddiadau’r Adolygiad i Gomisiwn y Cynulliad ym mis
Ionawr.
3.3
Awgrymodd
y Pwyllgor y dylai’r adroddiad egluro bod y Comisiwn yn dechrau o sylfaen gref
o ran ansawdd a diwydrwydd dyladwy ei waith, ac y dylai gynnal hynny, wrth
wella effeithlonrwydd. Dylid darparu enghreifftiau ymarferol yma (e.e. craffu’n
fwy gofalus ar geisiadau am adnoddau). Pwysleisiwyd pwysigrwydd defnyddio data
ansoddol a meintiol yn yr adroddiad terfynol er mwyn dangos mwy o
effeithlonrwydd posibl wrth gynnal effeithiolrwydd.
3.4
Roedd
Gareth a Phil yn croesawu’r cyfle ar gyfer yr her feirniadol hon, ac roeddent
yn gobeithio y gallai’r Pwyllgor ddarparu rhagor o gymorth pe bai amser yn
caniatáu.
Camau i’w cymryd
-
Gareth Watts i rannu’r
papur dadansoddi ategol wedi’i ddiweddaru gyda’r Pwyllgor pan fydd ar gael.
-
Cynghorwyr Annibynnol i fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r adolygiad
capasiti fel y bo’n briodol.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1 Nododd y Pwyllgor ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC ac Ann-Marie Harkin.
Croesawyd cynrychiolydd newydd o Swyddfa Archwilio Cymru, sef Gareth Lucey, a
dymunwyd yn dda i Matthew Coe ar ei secondiad sydd i ddod. Gofynnodd y
Cadeirydd am ymatebion i’r sylwadau gan Suzy Davies ar y papurau i’w hatodi i’r
cofnodion.
1.2 Datganodd Eric Gregory ei fod yn gynrychiolydd busnes ar gyfer yr Adolygiad
Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
1.3 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau eraill.
Cyfarfod: 18/07/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Cofnodion:
ACARAC
(04-17) Papur 4 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2016-17 - papur
cwmpasu
ACARAC
(04-17) Papur 5 – Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2016-17
4.1
Croesawyd yr adroddiad blynyddol a'r
datganiad o gyfrifon diwygiedig gan y Pwyllgor.
Awgrymwyd rhai meysydd y gellid eu hadolygu i roi eglurder pellach, ond
ar y cyfan cafodd y gweithgarwch yn ystod cyfnod 2016-17 ei gofnodi'n dda a'i
gyflwyno'n effeithiol.
4.2
Cytunodd Nia i ystyried diwygio'r geiriad ar
dudalen 109 i adlewyrchu'r ailddyraniad o adnoddau rhwng llinellau'r gyllideb
tra'n aros o fewn y gyllideb gyffredinol.
4.3
Cododd Ann-Marie Harkin fater sy'n ymwneud â
thaliadau cyflog a wnaed i Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Mai a mis
Mehefin 2016. Oherwydd methu â dilyn y
ddeddfwriaeth briodol ar gyfer gosod cyflog Archwilydd Cyffredinol Cymru, ni
allai'r taliadau cyflog a oedd yn ddyledus i'r Archwilydd Cyffredinol ym mis
Mai a mis Mehefin 2016 gael eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru. Yn lle hynny, defnyddiodd Comisiwn y
Cynulliad gronfeydd a bleidleisiwyd iddo at ddibenion eraill i dalu Archwilydd
Cyffredinol Cymru yn ystod y ddau fis.
Unig opsiwn amgen Comisiwn y Cynulliad fyddai atal taliadau cyflog i
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ystod y ddau fis.
4.4
Pwysleisiodd Ann-Marie y pleidleisir ar
gyllideb Comisiwn y Cynulliad yn flynyddol.
Cafodd Comisiwn y Cynulliad ei ad-dalu ar ôl hynny o Gronfa Gyfunol
Cymru, felly mae'r sefyllfa wedi cael ei rheoleiddio erbyn diwedd y flwyddyn.
Felly, roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru a thîm archwilio Swyddfa Archwilio
Cymru o'r farn nad oedd unrhyw amheuaeth o gyfrifon Comisiwn y Cynulliad yn bod
yn gymwys (y farn ar yr adran sy'n ymwneud â chysondeb).
4.5
Fodd bynnag, er tryloywder cynigiwyd y caiff
y datgeliad o'r mater hwn ei wneud yn y datganiadau ariannol. Gallai hyn naill ai gael ei wneud drwy
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fel atodiad i'w Dystysgrif a'i Farn
Archwilio neu gan Gomisiwn y Cynulliad yn datgelu'r mater o fewn y nodiadau i'r
datganiadau ariannol. Mynegodd tîm
rheoli Comisiwn y Cynulliad y byddai'n well ganddynt i'r mater gael ei ddatgelu
yn y nodiadau i'r datganiadau ariannol.
4.6
Cytunodd Ann-Marie, mewn cyfarfod gydag
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y byddai'n
awgrymu bod nodyn esboniadol yn cael ei ychwanegu i'r cyfrifon, yn disgrifio'r
mater. Gwnaed yn glir y byddai'r camau
gweithredu y cytunwyd arnynt yn benderfyniad i Archwilydd Cyffredinol Cymru.
4.7
Cytunodd Nia i ddrafftio a dosbarthu nodyn
i'w atodi i gofnodion y Pwyllgor i ddatgelu'r prosesau o ran y driniaeth o dalu
cyflog Archwilydd Cyffredinol Cymru.
4.8
Cytunodd y Pwyllgor gyda Swyddfa Archwilio
Cymru yn amodol ar gytundeb gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, y byddai nodyn yn
cael ei ychwanegu, ond roedd am fod yn glir nad oes unrhyw gamddefnydd o arian
cyhoeddus wedi digwydd.
4.9
Cytunodd Nia i ddarparu'r wybodaeth
ddiweddaraf am y sefyllfa a'r camau gweithredu y cytunir arnynt ar ôl iddi gael
ei hysbysu o ganlyniad y cyfarfod rhwng Ann-Marie ac Archwilydd Cyffredinol
Cymru.
Camau gweithredu
- Nia Morgan i ystyried diwygio'r geiriad ar dudalen 109 o'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4
Cyfarfod: 18/07/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad ar NAV (y system gyllid)
Cofnodion:
ACARAC
(04-17) Papur 3 – Diweddariad ar NAV
3.1
Croesawodd y Cadeirydd
Adrian Crompton (Uwch-berchennog Cyfrifol) ac Eve Jennings (Rheolwr
Prosiect) i'r cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad cau ar gyfer cyfnod 1 NAV.
3.2
Cafodd y gwersi a
ddysgwyd yn dilyn y prosiect Adnoddau Dynol a'r Gyflogres eu hastudio i sicrhau
bod system newydd mor sylweddol yn cael ei chyflwyno'n llwyddiannus. Cafodd y Rheolwr Prosiect profiadol,
ymroddedig a'i thîm eu canmol yn yr un modd ag ymdrechion ac ymrwymiad y tîm
Cyllid.
3.3
Roedd dewis y cyflenwr
(TES) wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect. Roedd y cymorth parhaus a'r gwaith technegol
ar gyfnod 2 hefyd yn galonogol iawn.
3.4
Roedd trafodaethau
pellach yn canolbwyntio ar ddal y gwersi cadarnhaol a ddysgwyd yn ogystal â'r
agweddau negyddol ar y prosiect.
Cwestiynodd y Pwyllgor gyflwyniad y costau ymgynghori a chytunodd Nia i
ddarparu nodyn i'r Ysgrifenyddiaeth i'w cynnwys yn y cofnodion.
3.5
Sicrhaodd Gareth a Dave y
Bwrdd y byddent yn ymgorffori'r gwersi a nodwyd yn yr adroddiad ac, fel yr
awgrymwyd gan y Bwrdd, o fewn templedi prosiect a chanllawiau.
3.6
Llongyfarchodd aelodau'r
Pwyllgor dîm y prosiect ar ddarparu cyfnod 1 yn llwyddiannus. Estynnodd dîm y prosiect a Nia ddiolch i
Keith am ei rôl yn darparu sicrwydd a chyngor allanol i dîm y prosiect, yn
enwedig i Adrian pan oedd angen gwneud y penderfyniad o ran 'mynd yn fyw/dim am
ddigwydd'.
Camau
gweithredu
-
Gareth a Dave i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd
(cadarnhaol a negyddol) yn cael eu defnyddio a'u hymgorffori mewn arferion
gwaith.
-
Nia i ddarparu nodyn i'r cofnodion ACARAC i
egluro'r amrywiad yn y costau ymgynghori gwirioneddol yn erbyn y rhagolwg yn
ogystal â'r proffil rhagolygon cyffredinol.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)
Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 279
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 16 – Adroddiad Blynyddol yr Uwch-berchennog Risg
Gwybodaeth 2016-17
15.1
Croesawodd y Pwyllgor yr
adroddiad, gan gytuno ei fod yn cynnig lefel ychwanegol o sicrwydd. Awgrymodd aelodau'r Pwyllgor y dylai'r
datganiadau ansoddol gael eu hategu gan dystiolaeth feintiol mwy penodol mewn
adroddiadau yn y dyfodol.
15.2
Roedd Dave am gofnodi'n
ffurfiol ei ddiolch i Alison Bond am ei gwaith caled a'i hymrwymiad i gynnal a
gwella safonau llywodraethu gwybodaeth ym mhob rhan o'r sefydliad, fel yr amlinellir
yn yr adroddiad hwn, ac am ei gwaith wrth baratoi ar gyfer y Rheoliad Diogelu
Data Cyffredinol newydd.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Y wybodaeth ddiweddaraf am reoli newid a rheoli prosiectau - Eitem lafar
Cofnodion:
12.1 Yn ogystal ag argymhelliad y Pwyllgor, rhoddodd Dave wybod i'r Pwyllgor bod
gwaith ar y gweill i ddatblygu canllawiau ar flaenoriaethu prosiectau ar gyfer
y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.
Cydnabuwyd hefyd y gellid dogfennu materion fel her a sicrwydd o ran
achosion busnes yn well. Croesawodd y
Pwyllgor y newydd hwn a gofynnodd am gael diweddariad pan fyddai rhagor o
wybodaeth ar gael.
Cam i’w gymryd
-
Dave i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor am hynt y canllawiau ar flaenoriaethu prosiectau.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adborth ar yr wythnos ymwybyddiaeth o seibr ddiogelwch - Eitem lafar
Cofnodion:
11.1
Rhoddodd
Suzy wybod bod adborth gan Aelodau'r Cynulliad am eu hymwybyddiaeth o'r wythnos
ymwybyddiaeth a seibr ddiogelwch yn gyffredinol yn awgrymu nad oedd y neges
wedi treiddio yn ôl y bwriad.
11.2
Cytunodd
Dave i rannu'r adborth hwn gyda'r Pennaeth TGCh er mwyn sefydlu dull effeithiol
o rannu'r negeseuon pwerus a phwysig hyn ag Aelodau'r Cynulliad a'u staff.
Cam i’w gymryd
-
Dave i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor am godi ymwybyddiaeth o seibr ddiogelwch ag Aelodau'r
Cynulliad a'u staff cymorth.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad Blynyddol ar Dwyll
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 286
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 11 – Adroddiad Blynyddol ar Dwyll
7.1
Cyflwynodd
Gareth yr adroddiad a chadarnhaodd nad oedd unrhyw achosion o weithgarwch
twyllodrus wedi dod i'w sylw yn ystod 2016-17, boed yn dwyll gwirioneddol neu'n
achosion o amheuaeth o dwyll. Nododd y
Pwyllgor yr adroddiad ac argymhellodd y dylai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys
asesiad cyffredinol o sicrwydd.
7.2
Pan
holwyd Gareth, nododd yntau pwy sydd â chyfrifoldeb am ganfod twyll, a oedd yn
cynnwys y Cyfarwyddwr Cyllid, y Pennaeth Archwilio Mewnol a'r Pennaeth TGCh, a
chytunodd i rannu rhestr o'r bobl hyn â'r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor fod TIAA a Swyddfa
Archwilio Cymru hefyd yn rhannu gwybodaeth â Gareth a Nia, a byddai'r drefn
honno'n parhau.
Camau i’w cymryd
-
Gareth i rannu manylion am gyfrifoldebau ar gyfer canfod twyll â'r
Pwyllgor.
-
Gareth i gynnwys asesiad cyffredinol o sicrwydd yn ei bapur diweddaru nesaf
ac mewn adroddiadau blynyddol ar dwyll yn y dyfodol.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion y cyfarfod ar 20 Mawrth a crynodeb o’r camau i’w cymryd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 289
- Cyfyngedig 290
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 1 - Cofnodion y cyfarfod ar 20 Mawrth 2017
ACARAC (03-17) Papur 2 – Crynodeb o’r camau i’w cymryd
2.1 Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth a chafodd y
wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu, a nodwyd ym mhapur 2, ei
nodi.
2.2 Trafodwyd dau gam gweithredu fel eitemau ar wahân ar yr agenda, sef:
·
adborth ar yr wythnos
ymwybyddiaeth o seibr ddiogelwch, a drafodwyd fel eitem 11; a
·
y meini prawf ar gyfer
blaenoriaethu prosiectau, a drafodwyd fel rhan o'r wybodaeth ddiweddaraf am
reoli newid a rheoli prosiectau, o dan eitem 12.
2.3 O ran pwynt gweithredu 7.2 (i roi gwybod am y cynlluniau i gynnal
ymarfer meincnodi arall ar gyfer adroddiadau blynyddol a datganiadau
llywodraethu gyda chyrff cyhoeddus eraill a rhannu syniadau am arferion gorau â
Chomisiwn y Cynulliad), cadarnhaodd Matthew Coe y byddent yn rhoi gwybod
i'r Pwyllgor pe bai digwyddiad meincnodi arall yn cael ei gynnal, a phryd. [Ers y cyfarfod, mae SAC wedi cadarnhau y
bydd ymarfer dilynol yn cael ei gynnal eleni, gan ei fod yn ymarfer da, a
byddent yn ystyried a ddylid cynnal ymarfer o'r fath bob blwyddyn.]
2.4 O ran pwynt gweithredu 16.1 (i rannu manylion am y costau presennol ar
gyfer hyfforddi gweithwyr achos), cadarnhaodd Dave Tosh fod y contract ar
gyfer hyfforddiant untro ar reoli gwaith achos a gynigiwyd i Aelodau Cynulliad
a'u staff cymorth am y tro cyntaf ar ddechrau'r Pumed Cynulliad. Felly, nid oedd unrhyw gostau blaenorol ar
gael i'w cymharu. Roedd y Pwyllgor yn
fodlon ar yr esboniad hwn.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Datganodd
Eric Gregory ei fod yn gynrychiolydd busnes ar gyfer yr Adolygiad Seneddol o
Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
1.2
Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau eraill.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 295
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 20 - Y flaenraglen waith
19.1 Gofynnodd y Cadeirydd
i'r Pwyllgor adolygu'r flaenraglen waith ac anfon unrhyw awgrymiadau at y tîm
clercio erbyn mis Awst.
Cam i’w gymryd
-
Aelodau ACARAC i anfon
awgrymiadau ar y flaenraglen waith at y tîm clercio.
Mae'r cyfarfod nesaf wedi'i
drefnu ar gyfer 18 Gorffennaf 2017.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Diweddariad ar bolisïau chwythu'r chwiban a thwyll
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 298
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 12 - Diweddariadau ar y Polisi Chwythu'r Chwiban a'r Polisi Twyll
11.1
Rhoddodd Gareth y wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor am yr adolygiad o bolisïau Chwythu'r Chwiban a Thwyll y Comisiwn.
Cafodd gwybodaeth am chwythu'r chwiban a dulliau eraill o fynegi pryderon a
chwynion ei chyhoeddi ar dudalennau mewnrwyd y Cynulliad, ac roedd hyn yn
cynnwys linc i gyfeiriad e-bost annibynnol. Byddai Gareth yn gweithio gyda'r
Pennaeth Adnoddau Dynol i sicrhau bod digon o ymwybyddiaeth ar draws y
Comisiwn.
11.2
Ni fu unrhyw ddiweddariadau sylweddol i'r
Polisi Twyll na'r Cynllun Ymateb i Dwyll.
11.3
Ym mis Mawrth 2017 cynhaliodd Comisiwn y
Cynulliad wythnos ymwybyddiaeth o ddiogelwch seiber a oedd yn amlygu'r risgiau
posibl o ymosodiadau seiber, a oedd yn cynnwys negeseuon e-bost gwe-rwydo a
allai gynyddu'r risg o weithgarwch twyllodrus. Cadarnhaodd Dave y byddai
swyddfeydd etholaethol yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch
seiber.
11.4
Cytunodd Suzy Davies a swyddogion i ddarparu
adborth i'r Pwyllgor ar sut y cafodd yr wythnos ei derbyn gan staff y Comisiwn,
Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.
Cam
gweithredu
-
Suzy Davies a'r tîm clercio i gasglu adborth
ar yr wythnos ymwybyddiaeth o ddiogelwch seiber ymhlith yr Aelodau, Staff
Cymorth Aelodau'r Cynulliad a'r Comisiynwyr.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion 6 Chwefror, a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 301
- Cyfyngedig 302
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 1 - Cofnodion cyfarfod 6 Chwefror 2017
ACARAC
(02-17) Papur 2 – Crynodeb o’r camau gweithredu
2.1
Cytunwyd ar gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror a chafodd y wybodaeth ddiweddaraf am gamau
gweithredu, a nodwyd ym mhapur 2, ei nodi.
2.2
Mewn perthynas â'r un cam gweithredu sy'n
weddill - (paragraff 10.4) Dosbarthu adborth o bresenoldeb aelodau ACAC
Estyn mewn cyfarfodydd ACAC eraill, roedd y Cadeirydd wedi derbyn adroddiad
o ganfyddiadau. Roedd yn falch o nodi bod y meysydd arfer da a nodwyd yn yr
adroddiad, y cytunodd y byddai'n eu rhannu gydag aelodau'r Pwyllgor, yn bennaf
yn adlewyrchiad o agwedd y Pwyllgor hwn.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 18)
Blaenraglen Waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 305
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Adolygu'r Fframwaith Sicrwydd yn ei gyfanrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 308
- Cyfyngedig 309
- Cyfyngedig 310
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 11 - Diweddariad ar y Fframwaith Sicrwydd
ACARAC
(02-17) Papur 11 - Atodiad A - sicrwydd FW - map
ACARAC
(02-17) Papur 11 - Atodiad B - Sicrwydd FW - Ebrill 16 - Mawrth 17
10.1
Croesawodd y Pwyllgor Fframwaith Sicrwydd
diwygiedig Comisiwn y Cynulliad ac roedd yn gwerthfawrogi pa mor dda y caiff ei
ddefnyddio ar draws y sefydliad.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2016-17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 313
- Cyfyngedig 314
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 10 - Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2016-17 - papur
cwmpasu
ACARAC
(02-17) Papur 10 - Datganiad Llywodraethu Drafft ar gyfer 2016-17
9.1
Cyflwynodd Claire y
Datganiad Llywodraethu drafft. Dywedodd fod y broses yn arwain at ddrafftio'r
datganiad wedi'i sefydlu'n dda, gyda Phenaethiaid Gwasanaeth yn darparu
datganiadau sicrwydd manwl i lywio'r gwaith o ddrafftio'r datganiadau ar lefel
y Gyfarwyddiaeth. Ychwanegodd gwaith craffu Hugh yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli
haen arall o sicrwydd. Cytunodd Claire i rannu fersiwn ddiwygiedig o'r
Datganiad Llywodraethu ac amlinelliad o'r Adroddiad Blynyddol gyda'r Pwyllgor
cyn toriad y Pasg.
9.2
Cytunodd y sawl a
oedd yn bresennol i roi adborth i'r tîm clercio ar ôl y cyfarfod.
9.3
Cymeradwyodd y
Pwyllgor y swyddogion ar lunio datganiad drafft cynhwysfawr. Awgrymwyd tynnu
sylw at y risgiau corfforaethol allweddol ac ymhelaethu ar y fenter gwerth am
arian.
Camau
gweithredu
-
Claire i ddosbarthu drafft diwygiedig ac amlinelliad o'r Adroddiad
Blynyddol cyn toriad y Pasg.
-
Y sawl a oedd yn bresennol i ddarparu adborth ar y Datganiad Llywodraethu
drafft i'r tîm clercio.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)
Crynodeb o'r ymadawiadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 317
Cofnodion:
ACARAC
(02-17) Papur 16 - Crynodeb o'r ymadawiadau
Eitem 18 –
Y flaenraglen waith
ACARAC
(02-17) Papur 17 - Y flaenraglen waith
17.1 Nododd y Pwyllgor un achos o ymadael â'r
gweithdrefnau caffael arferol. Gofynnodd
y Cadeirydd am fanylion am y gost gyfredol o hyfforddiant gweithiwr achos.
17.2 Byddai'r tîm clercio yn diweddaru ac yn
dosbarthu'r flaenraglen waith ddiwygiedig.
17.3
Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf ACARAC Claire,
diolchodd y Cadeirydd yn ffurfiol iddi ar ran y Pwyllgor am helpu i greu
cydberthynas waith mor gadarnhaol a dymunodd yn dda iddi yn y dyfodol.
Trefnwyd i
gynnal y cyfarfod nesaf ar 19 Mehefin 2017.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Diweddariad ar y prosiect system cyllid newydd - Eitem lafar
Cofnodion:
Eitem
lafar