Cyfarfodydd

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn adolygu canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol o’r blaen i ailadrodd pa mor bwysig yw bod penaethiaid yn gallu defnyddio disgresiwn o ran ceisiadau am absenoldebau yn ystod y tymor.

 


Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael Gwyliau Teulu yn ystod Amser Tymor a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:

·         ofyn am ddiweddariad ar yr adolygiad o bolisi presenoldeb ysgolion a syniad o ran yr amseriadau ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus; a

·         gofyn am farn ddiweddaraf y Llywodraeth mewn perthynas â disgresiwn penaethiaid i awdurdodi absenoldebau ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor, pan fydd hynny’n briodol.

 

 


Cyfarfod: 15/01/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • gofyn am wybodaeth ychwanegol o ran y gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig am absenoldeb, gan gynnwys am nifer y dirwyon a roddwyd a'r symiau dan sylw; a pharhau i gadw llygad ar y mater ac ystyried y ddeiseb eto pan gyhoeddir y fframwaith presenoldeb ysgol diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad yn nes ymlaen yn 2019.

 

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol, a chytunodd i aros am gopi o'r gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer peidio â mynychu ysgolion yn rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac am ddiweddariad pellach ar yr adolygiad ehangach o'r polisi presenoldeb, fel y cytunwyd yn flaenorol.

 

 


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol, a chytunwyd i aros am ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ôl cwblhau adolygiad presenoldeb yn ddiweddarach eleni cyn trafod camau pellach ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â'r ddeiseb gysylltiedig, P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn ystod Tymor yr Ysgol, yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n llywodraethwr ysgol.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gadw golwg ar y ddeiseb i ganiatáu i'r Pwyllgor Deisebau olynol ystyried a fydd angen cymryd unrhyw gamau pellach bryd hynny.

 


Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn diolch iddo am ei ymgysylltiad hyd yn hyn a gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf o ran unrhyw ymatebion, yn enwedig gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

 

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn


Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd y byddai:

 

  • yn aros am ymatebion o ran P-04-576 ‘Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol’; ac
  • yn ystyried y ddwy ddeiseb ar y cyd yn y dyfodol.