Cyfarfodydd
Management of the legislative programme
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/10/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Rheoli'r Rhaglen Ddeddfwriaethol - Papur 3
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cyflwynodd Chris Warner
bapur, a baratowyd gan y Bwrdd Deddfwriaethol, ar yr heriau dros y 18 mis nesaf
a thu hwnt o ran rheoli rhaglen ddeddfwriaethol sy’n cynyddu ac effaith hynny
ar gefnogi meysydd gwasanaeth a staff.
Roedd yn bosibl ymdopi â’r
pwysau ond roedd angen dull a gynlluniwyd, gan ystyried disgwyliadau Aelodau’r
Cynulliad, a byddai hefyd yn ddibynnol ar amseriad, cynnwys ac ansawdd y
ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru. Trafododd y Bwrdd oblygiadau’r galwadau
hyn, a chytunwyd y dylai Chris arwain y gwaith o nodi’r trefniadau byrdymor a’r
trefniadau ar gyfer y tymor canolig i’r tymor hwy sy’n angenrheidiol er mwyn
rheoli’r Rhaglen Ddeddfwriaethol yn llwyddiannus.
Mynegodd y Bwrdd bryder
ynghylch y pwyslais ar gefnogi deddfwriaeth, a chanolbwyntio mwy ar adnoddau na
chraffu ar bolisi, oherwydd gallai blaenoriaethu deddfwriaeth fod yn niweidiol
i swyddogaeth graffu’r Cynulliad o
bosibl. Cytunwyd y dylai pryderon mewn perthynas â gwella deddfwriaeth gael eu
nodi wrth y Llywydd ac eraill fel y bo’n briodol.
Pwysleisiwyd hefyd bod yn rhaid i’r Cynulliad gadw at yr ymrwymiadau a wnaed yn
y Cynllun Ieithoedd Swyddogol.
Camau i’w cymryd:
Chris Warner i roi
darlun clir o’r adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen, fel bod modd eu
hystyried.