Cyfarfodydd

P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Tadau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Tadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros am sylwadau gan y deisebwyr cyn penderfynu a ddylid symud ymlaen gyda'r mater. 

 

 

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Thadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog:
    • i groesawu ei ymgysylltiad â'r deisebwyr;
    • i groesawu'r camau a gymerwyd i sicrhau bod CAFCASS yn cofnodi manylion am ryw'r rhieni;
    • i ofyn ei farn am sylwadau’r deisebydd.  Yn benodol:
      • pam nad yw'n CAFCASS yn Lloegr yn teimlo bod cyhoeddi offeryn asesu CAWAC yn achosi problemau yn y ffordd a awgrymwyd gan CAFCASS yng Nghymru; ac
      • a ellir ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gofnodi gwybodaeth am y rhywiau.
  • Gofyn i'r deisebwyr ymhelaethu am y rheswm dros eu pryder ynghylch y defnydd o'r offeryn CAWAC.

 

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Thadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

·         i geisio sylwadau pellach gan y Gweinidogion ar sylwadau’r deisebwyr, yn arbennig ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried casglu data am ymgysylltu gwrywaidd a darparu gwybodaeth bellach ynghylch pam na ellir rhannu Rhestr Wirio Asesu Lles Plant a’r Glasoed (CAWAC) yn ehangach; ac

·         gwneud penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb. 

 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Tadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.