Cyfarfodydd

Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/06/2019 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau 2019-20

SoC(5)-08-19 – Papur 1 – Y Bwrdd Taliadau: Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau 2019-20

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Datganodd Andrew RT Davies AC fuddiant gan ei fod yn cyflogi ei wraig.

2.2 Trafododd yr Aelodau y Penderfyniad ar Gyflogau’r Aelodau a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau ynghylch cyflogi aelodau'r teulu.


Cyfarfod: 12/10/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Arolwg ynglŷn ag effeithiolrwydd y Penderfyniad: Adroddiad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Bwrdd yr adroddiad ar ganlyniadau ei arolwg diweddar i ba mor effeithiol yw'r Penderfyniad, a chytunodd i gyhoeddi crynodeb o'r canlyniadau yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017-2018.

6.2. Cytunodd y Bwrdd hefyd i gyhoeddi detholiad perthnasol o'r canlyniadau pan fo'n briodol, fel tystiolaeth ar gyfer unrhyw argymhellion y gall fod yn dymuno'u rhoi ar waith yn rhan o'i raglen waith ehangach.

Cam gweithredu:

Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o'r canlyniadau i'r Bwrdd eu trafod mewn pryd cyn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ym mis Gorffennaf.

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Eitem i'w drafod: Ystyried canlyniadau'r arolwg o Aelodau a Staff Cymorth ar effeithiolrwydd y Penderfyniad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r arolwg o Aelodau a Staff Cymorth ar effeithiolrwydd y Penderfyniad a chytunodd ar:

-     gyhoeddi crynodeb o'r canlyniadau ar wefan y Bwrdd a dwyn y crynodeb hwn at sylw'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad; a

-     ystyried canlyniadau'r arolwg fel rhan o'i adolygiad o strwythur gyrfa Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a'u telerau ac amodau.

 

Camau gweithredu:

Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth ar:

-     ymgorffori'r canlyniadau perthnasol i bapurau cwmpasu yn y dyfodol, er enghraifft yr adolygiad o strwythur gyrfa Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad; a

-     chyhoeddi adroddiad cryno o'r canlyniadau.

 


Cyfarfod: 24/05/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Eitem i'w thrafod: Cymorth i bleidiau gwleidyddol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Bwrdd y papur ar gymorth i bleidiau gwleidyddol a chytunodd i drafod y darpariaethau yn ymwneud â chymorth i bleidiau gwleidyddol ac Aelodau unigol yn llawn yn ddiweddarach, ond ar hyn o bryd:

·         bydd cyflog Arweinwyr Pleidiau yn lleihau a chynyddu yn unol â sawl Aelod Cynulliad sydd eu grŵp ac nid sawl aelod sydd yn y Blaid Wleidyddol;

·         caiff Lwfans Cymorth Pleidiau Gwleidyddol eu dyrannu i Aelodau annibynnol;

·         Gall Aelodau’r Cynulliad annibynnol drosglwyddo cyllid i grwpiau gwleidyddol yn y Cynulliad.

 

 


Cyfarfod: 23/03/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Camau nesaf yr adolygiad o egwyddorion sylfaenol y Penderfyniad a'i effeithiolrwydd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Bwrdd yr holiadur drafft i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth, a chytunwyd:

·         Ar fân newidiadau yn y ddau holiadur;

·         I ddangos yn glir pam mae agweddau ar y penderfyniad wedi cael eu cynnwys neu eu hepgor o'r holiaduron yn unol â blaenraglen waith ehangach y Bwrdd;

·         I dreialu'r holiadur gyda Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r Cynulliad a Grŵp Cynrychiolwyr y Staff Cymorth o leiaf; ac

·         I nodi ffyrdd arloesol o annog y ddau grŵp i gwblhau'r holiaduron.

 

Camau gweithredu:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r holiaduron fel sydd ei angen, a'u dosbarthu eto yn electronig i'r Bwrdd eu hadolygu.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno treial ar gyfer yr holiadur.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno'r holiadur terfynol yn electronig ac ar gopïau caled unwaith y cytunir arnynt.

 


Cyfarfod: 26/01/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cylch gorchwyl yr adolygiad a'i egwyddorion sylfaenol ynghyd ag effeithiolrwydd y Penderfyniad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Bwrdd y byddai paramedrau'r adolygiad o egwyddorion sylfaenol ac effeithiolrwydd y Penderfyniad yn canolbwyntio ar y pecyn ariannol sydd ar gael i'r Aelodau ar hyn o bryd.

 

3.2 Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi holiaduron wedi'u teilwra i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth i ofyn eu barn am egwyddorion sylfaenol ac effeithiolrwydd y Penderfyniad. Bydd pob holiadur yn canolbwyntio ar y rhannau hynny o'r Penderfyniad sy'n gymwys i'w rôl, gan gynnwys unrhyw ddarpariaethau newydd a gyflwynwyd ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

3.3 Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei hysbysu drwy ei gyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd â'r ddau grŵp o gynrychiolwyr.

 

3.4 Cytunodd y Bwrdd ar yr amserlen ar gyfer y darn hwn o waith.

 

Camau i'w cymryd:

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi holiadur terfynol i'r Bwrdd ei ystyried y tu allan i'w gyfarfodydd ffurfiol.

·         Ar ôl cael sêl bendith y Bwrdd, dylai'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu'r holiaduron.

·         Yr Ysgrifenyddiaeth i roi crynodeb o'r ymatebion yn y cyfarfod nesaf.  


Cyfarfod: 15/09/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)

Eitem i'w benderfynu: Diogelwch Aelodau'r Cynulliad a'u staff

Cofnodion:

1.1     Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu adolygiad o ddarpariaeth diogelwch ym mhob swyddfa etholaethol/rhanbarthol, a oedd yn cael ei gynnal gan Uned Heddlu'r Cynulliad a thîm Diogelwch Comisiwn y Cynulliad. Cynhaliwyd yr adolygiad mewn ymateb i gyngor gan Uned Gwrthderfysgaeth Cymru, ac yn unol â gweithgarwch tebyg yn Lloegr.

 

1.2     Trafododd y Bwrdd y cymorth ariannol ar gyfer darpariaethau diogelwch sydd ar gael ar hyn o bryd a thynnwyd sylw at nifer o gamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch ar gyfer yr Aelodau a'u staff pan nad ydynt ar ystâd y Cynulliad, yn sgil penderfyniad Comisiwn y Cynulliad i adolygu'r trefniadau diogelwch yn swyddfeydd yr Aelodau.

 

1.3     Cytunodd y Bwrdd fod diogelwch yr Aelodau yn flaenoriaeth uchel ac y dylid mynd i'r afael ag unrhyw faterion sydd o fewn cylch gwaith y Bwrdd fel mater o flaenoriaeth. Pwysleisiodd y Bwrdd, yn dilyn marwolaeth drasig Jo Cox AS, fod mwy o frys i adolygu'r mesurau diogelwch presennol.

 

1.4     Cytunodd y Bwrdd y byddai angen iddo sicrhau bod adnoddau effeithiol ar gael er mwyn darparu mesurau ar gyfer helpu i ddiogelu'r Aelodau.

 

1.5     Cytunodd y Bwrdd i ddileu'r gofyniad presennol, sef fod y £500 cyntaf ar gyfer costau diogelwch sy'n gysylltiedig â'r swyddfa yn cael ei dalu drwy Gostau Swyddfa'r Aelod unigol. Cytunodd y Bwrdd i greu cronfa wedi'i neilltuo a fyddai'n darparu gwelliannau diogelwch angenrheidiol a rhesymol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn eu swyddfeydd, eu llety preswyl a'u cartrefi.

 

1.6     Nododd y Bwrdd fod yr adolygiad diogelwch a gynhaliwyd gan swyddogion cymwysedig yn nodi gwelliannau sy'n 'rhaid' digwydd, a 'ddylai' ddigwydd ac y 'gallent' ddigwydd.  Bydd yr holl ychwanegiadau y mae'n 'rhaid' iddynt ddigwydd ac y 'dylent' ddigwydd yn cael eu hariannu gan Gomisiwn y Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd y byddai'r gwelliannau hynny y 'gallent' ddigwydd yn amodol ar achos busnes gan Aelodau'r Cynulliad.


Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7)

Trosolwg o adnoddau a ddarperir i Aelodau'r Cynulliad drwy'r Penderfyniad a chan Gomisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

7.1        Bu'r Bwrdd yn trafod adnodd drafft a fyddai'n caniatáu iddo ddeall yn well sut y mae'r lwfansau amrywiol yn cydblethu ac yn cefnogi Aelodau Cynulliad. 

 

7.2        Nododd y Bwrdd, lle y bo'n bosibl, y byddai'r adnodd yn nodi'n glir y gyllideb ar gyfer pob lwfans neu wasanaeth a ddarperir, o Lwfans yr Aelodau ac o gronfeydd canolog Comisiwn y Cynulliad, er mwyn adlewyrchu'r pecyn cyffredinol o gymorth i Aelodau Cynulliad yn well. 

 

7.3        Cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod yr adnodd ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7.)

Costau Swyddfa 2016-17: trafodaeth gyntaf

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cyfarfod: 16/01/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Lwfansau Aelodau'r Cynulliad: Ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28

Cyfarfod: 12/12/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Penderfyniad ar gyfer pumed flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad: Ystyried y Penderfyniad ar gyfer ymgynghori yn ei gylch

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 30

Cyfarfod: 16/10/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)

Lwfansau Aelodau'r Cynulliad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32
  • Cyfyngedig 33
  • Cyfyngedig 34
  • Cyfyngedig 35
  • Cyfyngedig 36

Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)

Materion ar gyfer penderfyniad buan ac ymgynghori/cyfathrebu


Cyfarfod: 15/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)

Treuliau eithriadol

·         Papur 12 – Nodyn ar lwfansau eithriadol, a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 40

Cofnodion:

4.1     Nododd y Bwrdd fod y Cadeirydd wedi cael cais yn gofyn i’r Bwrdd Taliadau adolygu’r treuliau eithriadol a ysgwyddir, neu sydd i gael eu hysgwyddo, gan Aelodau’r Cynulliad, wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.

 

4.2     Ystyriodd y Bwrdd bapur a oedd yn cadarnhau’r arfer presennol, ac yn nodi’r ffordd ymlaen bosibl. Roedd y papur, a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ceisio cael cydbwysedd rhwng yr angen am ddisgresiwn i’r sawl sy’n gwneud cais, ag arferion llywodraethu clir a chadarn.

 

4.3     Cytunodd y Bwrdd y dylid diwygio’r Penderfyniad, ac na ddylid cynnal ymgynghoriad ag Aelodau’r Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd y dylid rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am unrhyw newidiadau a wnaed o ran treuliau eithriadol yn y Penderfyniad.

 

 

Cam i’w gymryd:

Yr ysgrifenyddiaeth neu’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i ddiwygio’r Penderfyniad i adlewyrchu’r cynigion yn y papur.