Cyfarfodydd

Glastir

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/10/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Glastir: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (18 Medi 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Glastir: Llythyr oddi wrth Matthew Quinn, Llywodraeth Cymru - 1 Chwefror 2016

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Glastir: Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a Morol Llywodraeth Cymru (19 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/09/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Glastir: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (31 Gorffennaf 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Glastir: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(4)-16-15 Papur 5

PAC(4)-16-15 Papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a'r sylwadau a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.

6.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr adroddiad.

 

 


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Glastir: Llythyr gan yr RSPB (26 Mawrth 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Glastir: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-03-15 Papur 3 – Adroddiad Drafft ar Glastir

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Glastir, a chytunodd ar nifer fach o newidiadau.

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Glastir: Trafod yr ymatebion

PAC(4)-02-15 Papur 2 – Llythyr gan Gareth Jones, Llywodraeth Cymru

PAC (4)-02-15 Papur 3 – Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ymatebion Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, ac ymatebion Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.

 


Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Glastir: Llythyr gan Gareth Jones, Llywodraeth Cymru (8 Ionawr 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Glastir

PAC(4)-31-14 papur 1

Briff Ymchwil

 

Gareth Jones - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru

Andrew Slade - Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd a'r Môr, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a'r Môr.

 

3.2 Cytunodd Gareth Jones i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor:

·         Nodyn ar y targedau diwygiedig y disgwylir i Glastir eu cyrraedd, a sut y bydd yn monitro a yw'n cyrraedd y targedau hynny, yn dargedau bioamrywiaeth neu'n fathau eraill o dargedau.

·         Yr amser y mae arolwg yn ei gymryd ar gyfartaledd.

·         Nifer y cosbau trawsgydymffurfio a chyfanswm y dirwyon dros y blynyddoedd diwethaf.

·         Nodyn ar faint o geisiadau am dir sydd i'w adael heb ei ffermio sydd wedi'u gwrthod.

·         Trosolwg o'r camau sy'n cael eu cymryd i helpu gyda cheisiadau ar-lein.

 


Cyfarfod: 02/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Glastir: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

1 Glastir

PAC(4)-28-14 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1       Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan gytuno i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru.

1.2       Yn dilyn y sesiwn honno, bydd yr Aelodau'n trafod a ydynt am gynnal unrhyw waith arall yng nghyswllt Glastir.

 


Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Glastir: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

7.1 Cyflwynodd staff Archwilydd Cyffredinol Cymru sesiwn friffio ar yr adroddiad ar Glastir. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan gynnwys ymateb Llywodraeth Cymru, pan ddaw i law.