Cyfarfodydd

P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Anfon y ddeiseb ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig ymlaen i’r ymgynghoriad ar y Bil Ysgolion a Safonau (Cymru);

Cau’r ddeiseb ond hysbysu’r deisebydd y byddai’r Pwyllgor yn fwy na pharod i ystyried deiseb wedi’i haralleirio os nad yw’r ymgynghoriad yn mynd i’r afael â’i phryderon.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

Datganodd William Powell fuddiant ym mhwnc y ddeiseb.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·       Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb.

·       Ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru i’w wneud yn ymwybodol o’r ddeiseb ac i ofyn ei farn ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb.

·       Gwahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor.

·       Ysgrifennu at y Ddraig Ffwnci i ofyn am sylwadau ar y mater hwn.