Cyfarfodydd

Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 05/03/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4.)

'Ailystyried' Biliau a basiwyd neu a wrthodwyd gan Senedd flaenorol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cyfarfod: 29/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Biliau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Rheolau Sefydlog a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 29/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Rheolau Sefydlog a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 29/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Memoranda Esboniadol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i wneud y canlynol:

  • Cynnig y newidiadau i Reolau Sefydlog 26.6, 26A.13, 26B.9 a 26C.9, a newid cysylltiedig i'r adran ddehongli, i'w gwneud yn ofynnol i'r Aelod sy'n gyfrifol am Fil nodi yn y memorandwm esboniadol y rhesymau pam mae’n fodlon bod y Bil yn gydnaws â hawliau'r Confensiwn;
  • Peidio â chynnig newidiadau i ofynion y memorandwm esboniadol yn Rheolau Sefydlog 26, 26A, 26B a 26C mewn perthynas ag unrhyw oblygiadau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ar effeithiolrwydd darpariaethau'r Bil perthnasol, pe bai'n cael ei ddeddfu; ond argymell bod Pwyllgor Busnes y Seithfed Senedd yn cadw'r mater hwn o dan adolygiad.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2026 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 5)

5 Amserlenni ar gyfer craffu ar Filiau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Amserlenni biliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17
  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y papur, a daeth i benderfyniadau mewn perthynas â'r materion oedd yn weddill ynghylch amserlennu Biliau.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau am rannu eu barn ar dreialu cyhoeddi fersiynau cyn-cyflwyno o'r Biliau a gyflwynir ym mlwyddyn olaf y Chweched Senedd gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd i gyhoeddi llythyrau'r Pwyllgorau ar dudalen we yr adolygiad.


Cyfarfod: 11/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Adolygiad o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Bil Aelod


Cyfarfod: 26/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Cyfnodau diwygio ‘pellach’ a ‘Pellach’ ar gyfer Biliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad a chytunodd:

 

·       I argymell bod y Seithfed Senedd yn ystyried materion yn ymwneud â:

    • Diben, dehongli a chymhwyso gweithdrefnau sy'n ymwneud â chyfnodau pellach a Diwygio pellach;
    • Materion technegol sydd wedi'u canfod hyd yma ynglŷn â'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â'r cyfnodau hyn;
    • Cynnig Llywodraeth Cymru i ehangu cymhwyso cyfnodau o'r fath.
  • Y dylai Comisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru drafod sut y byddai'r gweithdrefnau cyfnodau pellach presennol yn cael eu cymhwyso pe bai angen yn y Chweched Senedd.

 


Cyfarfod: 26/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Deunyddiau esboniadol ar gyfer Biliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd:

 

  • I gynnig newid i Reolau Sefydlog i’w gwneud yn ofynnol bod memoranda esboniadol yn cynnwys ystyried materion yn ymwneud â hawliau dynol, yn amodol ar gytundeb o eiriad penodol yn dilyn trafodaethau pellach rhwng Comisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru.
  • I ohirio penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cynnig newid i Reolau Sefydlog i’w gwneud yn ofynnol i femoranda esboniadol gynnwys ystyried materion yn ymwneud â goblygiadau Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 tan y flwyddyn newydd.
  • I beidio â chynnig unrhyw newidiadau i ofynion y memoranda esboniadol mewn perthynas â'r materion eraill a godir gan ymatebwyr i ymgynghoriad.

 


Cyfarfod: 26/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Dadleuon Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod:

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd:

 

  • I ofyn i'r Llywydd newid y Canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd i ddisodli'r gofyniad bod yn rhaid trefnu amser ar gyfer dadleuon Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod gyda hyblygrwydd i Bwyllgor Busnes y Seithfed Senedd amserlennu dadleuon o'r fath os yw'n dymuno gwneud hynny.
  • Y dylai swyddogion roi cyngor ynghylch a allai newidiadau i enw a / neu ddisgrifiad dadleuon Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod liniaru'r posibilrwydd o ddryswch rhwng dadleuon o'r fath a'r broses Bil Aelod.
  • I awgrymu bod Pwyllgor Busnes y Seithfed Senedd yn ystyried a oes angen newidiadau pellach i ddadleuon Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod.

 


Cyfarfod: 26/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Cyfyngiadau ar gyfranogiad mewn ystyriaeth pwyllgor o ran Biliau penodol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd nad oedd am roi unrhyw ystyriaeth bellach i'r mater hwn.

 


Cyfarfod: 26/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 35

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd ar faterion yn ymwneud â dyluniad y weithdrefn balot ar Fil Aelod enw-yn-unig yr oedd wedi cytuno o'r blaen i'w gynnig i gael ei ddefnyddio yn y Seithfed Senedd, gan gynnwys:

 

  • Sut mae Rheolau Sefydlog yn darparu ar gyfer nifer y balotau i'w cynnal, nifer yr Aelodau i'w dewis, ac amseriad y balotau.
  • Y cyfnod caniatâd i gyflwyno, gan gynnwys y dyddiadau cau yn ymwneud â chyflwyno a thrafod cynigion sy'n ceisio caniatâd y Senedd i gyflwyno Bil, y wybodaeth y mae'n ofynnol i Aelod sy'n ceisio caniatâd i gyflwyno Bil ei darparu, a pha oblygiadau (os o gwbl) y dylai gwrthod caniatâd i Aelod gyflwyno ei chael o ran cyflwyno neu gynnig dadl sy’n sylweddol debyg gan Aelod arall.
  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Bil, gan gynnwys a ddylid cynnig mecanweithiau ar gyfer ymestyn y dyddiad cau mewn rhai amgylchiadau.

 


Cyfarfod: 26/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Adolygiad o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod


Cyfarfod: 20/11/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 4)

4 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o brosesau Biliau Cyhoeddus a Bil Aelod: cyhoeddi Billiau cyn-cyflwyno.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/11/2025 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Eitem 3.7)

3.7 Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/11/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 8)

8 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o'r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: cyhoeddi Biliau cyn eu cyflwyno - trafod yr ymateb drafft

Dogfennau ategol:

  • Llythyr ymateb drafft (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

8.1     Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 22/10/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 4)

4 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: cyhoeddi Biliau cyn eu cyflwyno

Dogfennau ategol:

  • Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes - 10 Hydref 2025

Cofnodion:

4.1     Trafododd y Pwyllgor ei farn mewn ymateb i alwad y Pwyllgor Busnes am dystiolaeth, a chytunodd i ystyried ymateb drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 21/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Cymryd rhan yn rhithwir mewn trafodion, a dulliau pleidleisio mewn pwyllgorau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 55

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes adborth a gafwyd gan Fforwm y Cadeiryddion ar newidiadau arfaethedig i'r Canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid yn ymwneud â phresenoldeb yn y cnawd yn ystod cyfnodau diwygio'r Bil a chyflawni mwy o aliniad rhwng canllawiau ar bleidleisio yn y cyfarfod llawn a thrafodion pwyllgor. Gwnaeth y Pwyllgor Busnes y canlynol:

  • nododd ei foddhad â'r newidiadau arfaethedig i'r Canllawiau, gan gynnwys y rhai y gwnaeth Fforwm y Cadeiryddion gais amdanynt;
  • cytunodd i drefnu amser yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Tachwedd 2025 i drafod newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yr oedd eisoes wedi cytuno arnynt ar 18 Medi 2025;
  • nododd y bydd y diweddariad o’r canllawiau ar gael ac yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl ar ôl i'r cynnig i newid y Rheolau Sefydlog gael ei waredu.

 


Cyfarfod: 21/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Atodiad - Canllawiau diwygiedig drafft

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 58

Cyfarfod: 16/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Amserlennu Biliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 61

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelodau adborth yn sgil ymgynghori â'u grwpiau ar y materion a drafodwyd yn y cyfarfod ar 9 Hydref.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion gyflwyno cyngor pellach ar y materion sy'n weddill er mwyn eu hystyried ymhellach mewn cyfarfod i ddod.


Cyfarfod: 16/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 64

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelodau adborth yn sgil ymgynghori â'u grwpiau ar y materion a drafodwyd yn y cyfarfod ar 9 Hydref.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gynnig y dylai Aelodau gael eu dewis i gyflwyno Biliau Aelod drwy system balot ar sail enwau yn unig yn lle'r balot presennol sy'n seiliedig ar gynigion, a gofynnwyd i swyddogion gyflwyno cynigion drafft ar gyfer ystyriaeth bellach mewn cyfarfod i ddod.

 


Cyfarfod: 16/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau


Cyfarfod: 16/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Trafod a gwaredu gwelliannau, a materion cysylltiedig

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 69

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i wneud y canlynol:

  • peidio â chynnig unrhyw newidiadau i’r Rheolau Sefydlog sy’n ymwneud â thrafod a gwaredu gwelliannau;
  • annog unrhyw Aelodau yn eu grwpiau sydd â barn am ddogfennaeth bresennol y cyfnod diwygio i roi adborth i swyddogion y Comisiwn;
  • y dylid parhau i fod yn ddewisol i’r Aelod sy’n cyflwyno ddarparu testun er mwyn esbonio diben ac effaith gwelliannau.

 


Cyfarfod: 16/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau


Cyfarfod: 16/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Penderfyniadau ariannol ar gyfer Biliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 74
  • Cyfyngedig 75

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i wneud y canlynol:

  • nodi bwriad y Llywydd i sefydlu arfer lle bydd Llywyddion yn nodi sut y bwriedir dehongli’r term 'arwyddocaol' at ddibenion gweithdrefnau penderfyniadau ariannol yn ystod pob Senedd;
  • peidio â chynnig unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â gweithdrefnau penderfyniadau ariannol, ond i argymell bod y Seithfed Senedd yn ystyried a oes angen newidiadau gweithdrefnol i sicrhau bod gweithdrefnau penderfyniadau ariannol a memorandwm esboniadol yn adlewyrchu pwerau trethu'r Senedd yn ddigonol.

 


Cyfarfod: 09/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Cymharu trefniadau amserlennu Biliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 78

Cyfarfod: 09/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Amserlennu biliau (Cyfnod 1 a chyfnodau diwygio)

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r materion a amlinellwyd yn y papur a chytuno i:

  • Geisio barn pwyllgorau sy'n ymwneud â chraffu ar Filiau Blwyddyn 5 ynghylch arfer diweddar Llywodraeth Cymru o gyhoeddi Biliau drafft ar y pwynt cyn eu cyflwyno.
  • Tynnu sylw Fforwm y Cadeiryddion at faterion a godwyd gan ymatebwyr yr ymgynghoriad ynghylch cylch gorchwyl pwyllgorau, eu strwythurau a’u ffyrdd o weithio.
  • Dychwelyd at y materion a godwyd, ond nas trafodwyd, ar ôl i’r Aelodau ymgynghori â'u grwpiau.

 

Cytunodd y Trefnydd i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar nifer o faterion yn ymwneud ag amserlennu Biliau.


Cyfarfod: 09/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Deunyddiau esboniadol ar gyfer Biliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 83

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwyr Busnes adborth gan eu grwpiau, a chytuno i ofyn i swyddogion ddrafftio cynigion i'w hystyried ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol, cyn gwneud penderfyniadau terfynol.


Cyfarfod: 09/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 86

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r materion a amlinellwyd yn y papur, a chytunwyd i ddychwelyd at y materion ar ôl ymgynghori â’u grwpiau.


Cyfarfod: 09/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Derbyniadwyedd gwelliannau union debyg

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 89

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau nad oedd unrhyw debygolrwydd o gytuno ar argymhelliad ar gyfer newid gweithdrefnol ffurfiol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai swyddogion weithredu'r opsiynau a amlinellir yn y papur i wella tryloywder a gweithrediad yr arfer presennol ynghylch derbyniadwyedd gwelliannau union debyg â, neu sy'n wahanol yn unig mewn agweddau dibwys nad ydynt yn cael unrhyw effaith gyfreithiol o ran, gwelliannau sydd eisoes wedi'u cyflwyno.


Cyfarfod: 09/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Amserlennu Biliau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 92

Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Cyfranogi’n rhithwir, a phleidleisio mewn pwyllgorau (newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog, a chanllawiau drafft ar gyfer ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion)

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft ar y Rheolau Sefydlog a chytunwyd arno.

 

Cytunodd yr Aelodau dros dro ar y diwygiadau arfaethedig i'r canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid, ac y dylai'r newidiadau hyn ddod i rym yn y Chweched Senedd, yn amodol ar ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion yn ei gyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Deunyddiau esboniadol ar gyfer Biliau

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau gymhariaeth o ran gofynion mewn deddfwrfeydd eraill, ystyriodd y papur a chytunodd ar y canlynol:

  • Materion o egwyddor ynglŷn â memoranda esboniadol ar gyfer Biliau, gan gynnwys diben a gwerth memoranda o'r fath ac y dylai pob Bil a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 26 fod yn ddarostyngedig i'r un gofynion o ran memoranda esboniadol;
  • Cynnig newid i Reol Sefydlog 26 i’w gwneud yn ofynnol bod asesiad o’r effaith ar gyfiawnder yn dod gyda Biliau brys y mae’r Senedd wedi cytuno y gellir eu cyflwyno heb femorandwm esboniadol.
  • Dychwelyd at y materion sy’n weddill yn y papur (gan gynnwys a ddylid cynnig unrhyw ofynion ychwanegol i'w cynnwys yn Rheol Sefydlog 26.6) yn y cyfarfod ar 9 Hydref 2025, pan fydd yr Aelodau wedi ymgynghori â'u grwpiau;
  • Y dylai trafodaethau pellach gael eu cynnal rhwng swyddogion Comisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion penodol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag amcangyfrif goblygiadau ariannol ac asesu goblygiadau hawliau dynol.

Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Atodiad 2 - Canllawiau diwygiedig drafft (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 99

Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Atodiad 1 - Adroddiad drafft (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 102

Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Cymharu’r gofynion o ran deunyddiau esboniadol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 105

Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Deunydd esboniadol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 108

Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Cymryd rhan yn rhithwir mewn trafodion, a dulliau pleidleisio mewn pwyllgorau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 111

Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Biliau Aelodau (adborth)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 114
  • Cyfyngedig 115
  • Cyfyngedig 116

Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Cymryd rhan yn rhithwir mewn trafodion, a dulliau pleidleisio mewn pwyllgorau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 119

Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Aelodau eu bod yn derbyn y penderfyniadau a wnaed ganddynt mewn egwyddor yn y cyfarfod diwethaf. Wrth ystyried cyhoeddi'r canllawiau diwygiedig, cytunodd yr Aelodau y byddent yn dychwelyd i drafod yr amseru o ran cyflwyno hyn pan fyddent yn trafod diwygiadau drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r papur a chytunwyd i ofyn i swyddogion ddatblygu'r tri model a nodwyd yn y cyfarfod blaenorol i'w trafod ymhellach yn yr hydref.


Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth gyda'u grwpiau gwleidyddol, trafododd y Rheolwyr Busnes faterion yn ymwneud â Biliau Aelod, gan dderbyn pob un heblaw un o’r camau gweithredu a awgrymwyd yn y papur. Yr un eitem na dderbyniwyd oedd 'Mecanweithiau ar gyfer trafod materion technegol', lle cytunwyd y dylid cynnal trafodaethau pellach rhwng swyddogion Comisiwn y Senedd a Llywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Materion amrywiol sy'n codi o'r adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 128

Cyfarfod: 26/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 131

Cyfarfod: 26/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Cymryd rhan yn rhithwir mewn trafodion, a dulliau pleidleisio mewn pwyllgorau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 134

Cyfarfod: 26/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Roedd y mwyafrif yn cytuno y dylid cryfhau’r canllawiau ar gymryd rhan wyneb yn wyneb ar gyfer yr holl drafodion yn y cyfnodau diwygio ar bob math o Filiau, yn amodol ar adborth gan y grwpiau gwleidyddol. Nododd y Rheolwyr Busnes bod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio cymryd rhan yn holl drafodion y Senedd wyneb yn wyneb.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid diwygio’r Rheolau Sefydlog i alluogi’r Pwyllgor o’r Senedd Gyfan (ond nid pwyllgorau eraill) i bleidleisio’n electronig, ac i egluro mai cyfrifoldeb yr Aelod unigol yw sicrhau bod ganddynt fynediad mewn person neu fynediad o bell i’r holl gyfarfodydd Pwyllgor ac unrhyw fodd o bleidleisio sy’n cael ei ddefnyddio. 


Cyfarfod: 26/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: cymharu gweithdrefnau Biliau Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 139

Cyfarfod: 26/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: canlyniadau Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 142

Cyfarfod: 26/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes y materion yn ymwneud â Biliau Aelodau, a chytunwyd y byddant yn dychwelyd i'r eitem hon ar ôl trafod â’u grwpiau gwleidyddol. 


Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: cymharu gweithdrefnau Biliau Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 147

Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: canlyniadau Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 150

Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 153

Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Ymddiheurodd Paul Davies y bydd yn absennol ar gyfer y cyfarfod nesaf ddydd Iau 26 Mehefin 2025. Bydd Darren Millar yn ymuno â’r cyfarfod fel dirprwy.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn rhithwir.


Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Atodiad 3: Materion a godwyd gan Fforwm y Cadeiryddion

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 158

Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Atodiad 1: Materion a godwyd yn ystod sesiwn galw heibio i Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 161

Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Atodiad 2: Materion a godwyd gan Aelodau a swyddogion a chanddynt brofiad o Filiau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 164

Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Cyhoeddi tystiolaeth

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 167

Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi'r dystiolaeth a gyflwynwyd, ochr yn ochr â llythyr a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.


Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Ni chytunodd y Trefnydd â'r opsiynau a argymhellwyd yn y papur cysylltiedig, a chynigiodd opsiynau eraill.

Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnal trafodaethau pellach rhwng Comisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru cyn dychwelyd at yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Derbyniadwyedd gwelliannau 'union debyg'

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 174

Cyfarfod: 05/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Atodiad 3: Materion a godwyd gan Fforwm y Cadeiryddion

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 177

Cyfarfod: 05/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Atodiad 1: Materion a godwyd yn ystod sesiwn galw heibio i Aelodau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 180

Cyfarfod: 05/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Cyhoeddi tystiolaeth

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 183

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai eitem 3 yn cael ei gohirio i'w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes a drefnwyd ar gyfer dydd Iau 19 Mehefin 2025.


Cyfarfod: 05/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Atodiad 2: Materion a godwyd gan Aelodau a swyddogion a chanddynt brofiad o Filiau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 186

Cyfarfod: 05/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol


Cyfarfod: 30/04/2025 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 6)

6 Ystyried llythyr drafft at y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â’r adolygiad o brosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei lythyr drafft a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 02/04/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 4)

4 Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/03/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 4)

4 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o'r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/03/2025 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o'r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei ymateb drafft i adolygiad y Pwyllgor Busnes o Filiau Cyhoeddus a Biliau Aelod a chytunwyd arno.

 


Cyfarfod: 24/03/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 208
  • Cyfyngedig 209

Cofnodion:

Mae'r Pwyllgor Busnes yn adolygu prosesau’r Senedd ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod i nodi beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio’r gwaith hwn.

 

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y llythyr at y Pwyllgor Busnes.

 

Caiff y llythyr ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Busnes fel rhan o’i Adroddiad, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus.


Cyfarfod: 20/03/2025 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Eitem 9.)

9. Adolygiad o brosesau'r Bil Cyhoeddus a'r Bil Aelod: Ystyried ymateb drafft i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/03/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 9)

Adolygiad y Pwyllgor Busnes o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth y Pwyllgor Busnes.

 


Cyfarfod: 12/03/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 3)

3 Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Ystyried yr ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

  • Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes at Gadeiryddion Pwyllgorau - 21 Ionawr 2025

Cofnodion:

3.1    Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd a thrafod eu barn ar y pwnc er mwyn cyfrannu at ymateb.

 


Cyfarfod: 06/03/2025 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 8)

8 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o'r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1     Ystyriodd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch ei adolygiad o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau.

 


Cyfarfod: 20/02/2025 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 6)

6 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o'r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod y Pwyllgor Busnes, a'r llythyr oddi wrth y Llywydd a chytunodd i ystyried y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 19/02/2025 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Busnes yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio ei waith ar yr adolygiad o'r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Papur 2 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Busnes yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio eu gwaith ar yr adolygiad o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

  • Papur 2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Busnes yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio eu gwaith ar yr adolygiad o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 19/02/2025 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Eitem 5)

5 Adolygiad o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Trafod yr ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ei farn ar y pwnc at ddibenion llunio ymateb. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei gyflwyniad drafft i’r adolygiad yn ystod y cyfarfod nesaf sydd ar gael.

 

 


Cyfarfod: 12/02/2025 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Llywydd mewn perthynas ag adolygiad y Pwyllgor Busnes o'r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2     Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i drefnu amser ar gyfer cynnal trafodaeth bellach.

 


Cyfarfod: 05/02/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 30/01/2025 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Eitem 5)

5 Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/01/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 4)

4 Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 27/01/2025 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch adolygiad y Pwyllgor Busnes o'r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Dogfennau ategol: