Cyfarfodydd

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5.2)

Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ynghylch Taliadau o ran rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cyfarfod: 18/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft ar y Rheolau Sefydlog, a chytunwyd arno yn amodol ar newidiadau y gwnaed cais amdanynt.

 


Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: Cytuno ar y cynnig terfynol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7

Cyfarfod: 19/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Cofnodion:

Dywedodd Paul Davies, er nad oedd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno â'r model arfaethedig o rannu swyddi cadeirydd pwyllgor, gan fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio model Cadeirydd ac Is-gadeirydd, maent yn cydnabod bod y mwyafrif o blaid y cynigion ac felly byddent yn gweithio’n adeiladol i’w datblygu.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cynigion ar gyfer treial rhannu swyddi cadeirydd pwyllgorau, ac y dylai'r Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn gweithredu’r treial gyfyngu’r treial i uchafswm o dri phwyllgor.


Cyfarfod: 14/01/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: Crynodeb o dystiolaeth cyfnod 2 a chytuno ar y camau nesaf

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12
  • Cyfyngedig 13
  • Cyfyngedig 14
  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16
  • Cyfyngedig 17
  • Cyfyngedig 18
  • Cyfyngedig 19

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adborth a gafwyd i ddau ymgynghoriad. Cyflwynodd y Llywydd yr eitem a'r dystiolaeth a ddaeth i law, gan gynnwys nifer o gwestiynau a phryderon ymarferol a godwyd mewn tystiolaeth a chan aelodau o Fforwm y Cadeiryddion yn ystod eu trafodaethau ar y cynnig.

 

Dywedodd y Trefnydd a Heledd Fychan fod eu grwpiau hwy ill dwy yn cefnogi cyflwyno darpariaethau sy'n galluogi rhannu swydd cadeirydd pwyllgor. Dywedodd Paul Davies fod ei grŵp yn gwrthwynebu cyflwyno rhannu swydd cadeirydd pwyllgor ac y byddai'n cefnogi gwaith o ddatblygu model Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yn lle hynny.

 

Ar ôl ystyried safbwyntiau a gafwyd o ran terminoleg, cytunodd mwyafrif y Rheolwyr Busnes y dylid parhau i ddefnyddio'r term 'rhannu swydd' i ddisgrifio'r cynnig.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar faterion a godwyd gan y Comisiynydd Safonau yn ei gyflwyniad. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i gyngor pellach gael ei ddarparu ar opsiynau ar gyfer telerau a hyd cynllun treialu arfaethedig, gan gynnwys a ddylid cyfyngu ar nifer y pwyllgorau y gallai swydd cadeirydd gael ei rhannu yn ystod y cyfnod treialu.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y materion hyn ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol a thrafod gyda'u grwpiau, cyn datblygu cynnig terfynol.

 

 


Cyfarfod: 25/10/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Llythyr gan y Pwyllgor Busnes, dyddiedig 22 Hydref, yn gwahodd ymgynghoriad ar rannu swydd cadeirydd pwyllgor

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Busnes, dyddiedig 22 Hydref, yn gwahodd gwybodaeth am unrhyw oblygiadau i adnoddau’n ymwneud â chynigion ar gyfer rhannu swydd cadeirydd pwyllgor, a chytunwyd i dderbyn ymateb drafft y tu allan i'r cyfarfod.


Cyfarfod: 08/10/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Rhannu swydd Cadeirydd Pwyllgor: crynodeb o dystiolaeth cam 1 a datblygu cynigion manwl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus cam 1 a chytunodd i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad cam 2 gydag Aelodau o'r Senedd a chyrff eraill.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

 

  • yr egwyddorion sylfaenol y bydd cynnig manwl y Pwyllgor Busnes ar gyfer ymgynghori arnynt yn seiliedig;
  • nifer o faterion pellach y dylid gofyn am farn arnynt drwy’r ymgynghoriad cam 2, gan gynnwys:
    • a ddylid defnyddio'r term 'rhannu rôl' yn hytrach na 'rhannu swydd' yng ngoleuni'r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad cam 1;
    • effaith bosibl rhannu swydd cadeirydd pwyllgor ar gapasiti’r Senedd i graffu;
    • effaith bosibl y ddau Aelod sy'n cymryd rhan ym musnes pwyllgorau ar yr un pryd ar gydbwysedd gwleidyddol y pwyllgor hwnnw; ac
    • a ddylid hefyd ystyried model cadeirydd / dirprwy gadeirydd fel dull amgen posibl.
  • ystyried rhestr o gwestiynau wedi’u diweddaru ar gyfer yr ymgynghoriad, drwy e-bost cyn bwrw ymlaen.

 

 

 

 

 

 


Cyfarfod: 02/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: ymagwedd at waith

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried ei ddull o weithio o ran cadeiryddion pwyllgor yn rhannu swydd, a chytunwyd ar gylch gorchwyl ac amserlen fesul cam ar gyfer y gwaith.

 

Byddai'r amserlen honno'n cynnwys ymarfer casglu tystiolaeth cyfyngedig wedi'i dargedu gyda Fforwm y Cadeiryddion a rhanddeiliaid allanol perthnasol, ar egwyddorion ac ymarferoldeb cadeiryddion pwyllgorau yn rhannu swydd, fel cam cyntaf y gwaith. Byddai’r ail gam yn cynnwys ymgynghori ag Aelodau, grwpiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau Annibynnol, Comisiwn y Senedd a Fforwm y Cadeiryddion ar gynigion penodol yn nhymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 18/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Ystyried rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes i roi ystyriaeth bellach i'r dull a ffefrir ganddo o weithio ar rannu swyddi a chytunodd i fwrw ymlaen â darn o waith wedi'i dargedu ar rannu swyddi ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau yn y lle cyntaf.

 

 


Cyfarfod: 11/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Ystyried rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 34

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn ei wahodd i gadarnhau y dull a ffefrir ganddo o ran rhannu swyddi cadeiryddion pwyllgorau a chytunodd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol i alluogi Rheolwyr Busnes i drafod yr opsiynau gyda'u grwpiau. 

 

 


Cyfarfod: 30/04/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 37

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar rannu swyddi cadeiryddion pwyllgorau a chytunodd:

  • bod papur yn cael ei baratoi a'i ddychwelyd i'r Pwyllgor Busnes cyn toriad y Sulgwyn ar y materion ymarferol a gweithdrefnol sy'n ymwneud â rhannu swydd cadeirydd pwyllgor, i gynnwys rhestr arfaethedig o gwestiynau a fydd yn sail i gasglu tystiolaeth fewnol ac allanol;
  • i ymgynghori ag Aelodau o'r Senedd yn uniongyrchol a thrwy Reolwyr Busnes, a chyda Fforwm y Cadeiryddion;
  • cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth ysgrifenedig a'i hyrwyddo i randdeiliaid perthnasol; a
  • rhoi ystyriaeth bellach i amserlennu tystiolaeth lafar yng ngoleuni unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a dderbyniwyd.

Holodd Heledd Fychan a ellid ystyried y potensial i alluogi rhannu swyddi mewn rolau anstatudol eraill hefyd drwy'r broses hon. Dywedodd y Trefnydd y byddai angen i'r Pwyllgor Busnes fod yn glir wrth esbonio cwmpas y gwaith hwn, a'r rhesymau drosto, yn enwedig gyda chynulleidfaoedd allanol.

Gofynnodd Darren Millar i ystyriaeth gael ei rhoi i weld a ddylai'r gwaith hwn gael ei ddatblygu gan y Pwyllgor Busnes neu'r Pwyllgor Biliau Diwygio, o ystyried yr arbenigedd y mae wedi'i ddatblygu mewn meysydd cysylltiedig. Nododd hefyd y goblygiadau posibl i aelodau meinciau cefn ar gapasiti craffu os cyflwynir deiliaid swyddi ychwanegol drwy rannu swydd.

Cytunodd y Llywydd y bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y materion hyn wrth ystyried y papur nesaf ar y pwnc hwn.

 

 


Cyfarfod: 27/02/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor: Cynigion Manwl

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 40

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried a ddylai fwrw ymlaen â thrafod Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor cyn toriad y Pasg, a swyddi gwag posibl cadeiryddion pwyllgorau a allai godi yn sgil y Prif Weinidog newydd yn penodi ei lywodraeth. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor Busnes bod angen cyfnod hwy o amser i roi ystyriaeth lawn i'r materion perthnasol.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fwrw ymlaen â'r drafodaeth fanwl honno dros y misoedd nesaf, gan gydnabod na fyddai unrhyw newidiadau ar waith erbyn i unrhyw swydd wag godi yn dilyn toriad y Pasg.

 

 


Cyfarfod: 20/02/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 43

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar Rannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor a chytunodd i gynnal trafodaeth bellach yn y cyfarfod nesaf, yn dilyn trafodaethau gyda grwpiau pleidiau.