Cyfarfodydd
Unrhyw Fusnes Arall
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Cododd y
Llywydd y mater o reolau a chanllawiau ynghylch y cyfnod pleidleisio yn dilyn
enghreifftiau diweddar o Aelodau'n pleidleisio o gerbydau neu wrth deithio.
Gwahoddodd
y Llywydd y Rheolwyr Busnes i ystyried ymhellach yr opsiynau ynghylch egluro'r
canllawiau a nododd y bydd y Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at y mater hwn eto yn
ei gyfarfod nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i newid aelodaeth y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gyda lle i'w ddyrannu i Aelod Annibynnol, yn lle
Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gynnig y dylid ethol Russell George AS i fod yn aelod o’r
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Joel James AS sydd ar y pwyllgor ar hyn o
bryd) ac y bydd hyn yn cael ei ychwanegu at yr agenda ar gyfer dydd Mercher 8
Hydref.
Cyfarfod: 30/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
Busnes fod Laura Anne Jones AS wedi dweud nad yw'n dymuno manteisio ar y cynnig
o le ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Cytunodd yr Aelodau i
ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol.
Cyfarfod: 08/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am gyfarfod
ychwanegol y Pwyllgor Busnes yfory, pan ofynnir iddynt roi adborth gan eu
grwpiau ar faterion gweithdrefnol a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.
Cyfarfod: 10/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Opsiynau ar
gyfer craffu ar adroddiadau Ymchwiliad Covid y DU yn y dyfodol
Rhoddodd y
Llywydd ddiweddariad i Reolwyr Busnes ar drafodaeth â Fforwm y Cadeiryddion
ynglŷn ag ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o opsiynau y gwaith craffu ar
adroddiadau Ymchwiliad Covid y DU yn y dyfodol. Nododd hefyd ei bod wedi
ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
i ofyn i'r Pwyllgor ystyried arwain ar graffu ar adroddiadau Modiwl 1 a 2 Ymchwiliad Covid y DU. Bydd ymateb y Pwyllgor
yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Busnes i'w ystyried pan ddaw i law.
Cynigiodd y
Llywydd efallai y byddai’r Pwyllgor Busnes am osod adroddiad byr yn cynnwys ei
ffordd arfaethedig o symud ymlaen ar ôl cytuno ar hyn, a chynnal dadl yn y
Cyfarfod Llawn ar gynnig i nodi'r adroddiad hwnnw ac adroddiad Pwyllgor Diben
Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ar ei ystyriaeth o Fodiwl 1 Ymchwiliad
Covid-19 y DU.
Cyfarfod: 20/05/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Lle Russell
George ar bwyllgor
Nododd Paul
Davies y byddai'r Grŵp Ceidwadol yn fodlon cynnig un o'u lleoedd ar
bwyllgor i Russell George AS ac y byddai'n cysylltu â'r ysgrifenyddiaeth er
mwyn trefnu hyn.
Diddymu
Pwyllgor y Biliau Diwygio a Phwyllgor Senedd y Dyfodol
Nododd y
Pwyllgor Busnes fod gwaith Pwyllgor y Biliau Diwygio a Phwyllgor Senedd y
Dyfodol bellach wedi dod i ben. Diolchodd y Rheolwyr Busnes i'r Dirprwy Lywydd
am gadeirio'r ddau bwyllgor a chytunodd i gyflwyno cynigion i'r Senedd ar ôl yr
hanner tymor i gynnig diddymu'r pwyllgorau.
Cyfarfod: 13/05/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Lle Russell
George ar bwyllgor
Cynigiodd y
Llywydd bod y Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at drafodaeth ynghylch cynnig lle i
Russell George ar bwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 06/05/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Pwyllgor
Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Trefniadau cadeirio
Cododd y
Llywydd fater trefniadau cadeirio Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19
Cymru gyda Rheolwyr Busnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater
yn y cyfarfod dilynol.
Cyfarfod: 18/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Sesiwn
gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog
Cyflawni yn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 4 Mawrth i drafod pumed
flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 11/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Cododd y
Trefnydd fater yn ymwneud â diogelwch Aelodau.
Cyfarfod: 04/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Nododd y
Llywydd ei bod wedi cael sylwadau gan sawl Aelod ynghylch y Pwyllgor Busnes yn
enwebu Rhys ab Owen AS fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y mater a dychwelyd ato yn
y cyfarfod canlynol.
Cyfarfod: 15/10/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Gofynnodd y
Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau o sesiynau galw heibio ac
ymgynghoriad sydd ar y gweill gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol.
Cyfarfod: 25/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Pleidleisio
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr
Busnes bwysleisio eto i'w grwpiau pa mor bwysig yw bod yn bresennol ac yn
weladwy mewn da bryd cyn yr amser pleidleisio, yn enwedig pan fo niferoedd
uchel o Aelodau yn cymryd rhan o bell. Nodwyd y bydd disgwyliadau ynghylch
pleidleisio o bell yn cael eu harchwilio ymhellach pan fydd y Pwyllgor Busnes
yn ailedrych ar ganllawiau cymryd rhan o bell, fel y cytunwyd yng nghyfarfod
blaenorol y Pwyllgor.
Rhaglen waith weithdrefnol
Nododd y Llywydd fod llwyth gwaith
gweithdrefnol y Pwyllgor ar gyfer y tri chyfarfod arall yn nhymor yr haf yn
debygol o fod yn sylweddol.
Cyfarfod: 18/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Gofynnodd Heledd Fychan i'r
Pwyllgor Busnes ailedrych ar y canllawiau ar gyfranogiad o bell mewn trafodion
Cyfarfod Llawn hybrid, gan gynnwys y lleoliadau lle gall Aelodau ymuno â'r
trafodion i siarad a phleidleisio, a gwerthuso sut y mae'n gweithio'n ymarferol.
Cefnogwyd y cais gan y Trefnydd a Russell George. Nododd y Dirprwy Lywydd y
byddai'n trafod y cynnig gyda'r Llywydd.
Cyfarfod: 12/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Gwrandawiadau Ymchwiliad Covid
y DU
Rhoddodd y Trefnydd wybod i
Reolwyr Busnes y gallai gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yng Nghymru, a gynhelir
rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024, effeithio ar amserlenni rhai Gweinidogion
yn ystod tymor y gwanwyn.
Cyfarfod: 21/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Cwestiynau’r
llefarwyr
Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes o’r elfen o’r canllawiau
ynghylch Cwestiynau’r Llefarwyr sy'n nodi y disgwylir i lefarwyr ddefnyddio eu
cwestiynau i ddilyn thema eang, yn dilyn rhai enghreifftiau diweddar lle mae'r
cwestiynau a ofynnwyd wedi ymdrin â sawl pwnc ar wahân.
Cynigion
heb ddyddiad trafod
Cododd
Heledd Fychan Gynigion Heb Ddyddiad Trafod a'r mecanweithiau posibl ar gyfer eu
trafod yn y Cyfarfod Llawn.
Cyfarfod: 07/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Araith
y Brenin
Dywedodd
y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Llywodraeth yn anelu at gyhoeddi
Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys dadansoddiad cynnar o'r eitemau y disgwylir
iddynt fod o ddiddordeb i'r Senedd cyn gynted â phosibl yn dilyn Araith y
Brenin heddiw.
Cyhoeddi
Cwestiynau Brys ac Amserol
Dywedodd
y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y gwaith datblygu angenrheidiol bellach
wedi'i gwblhau ac y bydd yr holl Gwestiynau Brys ac Amserol, o'r wythnos hon
ymlaen, yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cofnod erbyn diwedd yr wythnos y cawsant
eu hystyried.
Gofynnodd
y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu grwpiau bod y canllawiau diweddaraf ar
y Modd Priodol o gynnal Busnes y Senedd, gan gynnwys mewn perthynas â
Chwestiynau Amserol, wedi'u cyhoeddi a'u dosbarthu i'r Aelodau ar 20 Hydref.
Cyfarfod: 24/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Y Bil 'Cwotâu Rhywedd'
Dywedodd y Trefnydd wrth y
Rheolwyr Busnes bod y Llywodraeth, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, yn
bwriadu cyflwyno'r Bil Cwotâu Rhywedd (Cymru) ar 4 Rhagfyr 2023.
Cwestiynau Arweinwyr a
Llefarwyr Grwpiau
Gofynnodd Russell George a
yw'r Llywydd yn disgwyl i lefarwyr ac arweinwyr ddefnyddio eu cwestiynau i
weinidogion i ddilyn thema eang. Cadarnhaodd y Llywydd fod y Canllawiau ar y
modd Priodol o Gynnal Busnes y Senedd yn nodi bod hyn yn ddisgwyliad o ran cwestiynau
llefarwyr ond nid cwestiynau arweinwyr
Cyfarfod: 17/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Tynnodd y Trefnydd sylw at yr amser gorffen hwyr a
ragwelir ar gyfer trafodion dydd Mawrth 21 Tachwedd. Trafododd y Pwyllgor
Busnes nifer o opsiynau posibl ar gyfer lliniaru hyn a chytunodd y Trefnydd i
ystyried ymhellach cyn cynnig busnes y llywodraeth ar gyfer y dyddiad hwnnw yn
y cyfarfod canlynol.
Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 9)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Balot
Bil Aelod ac adolygiad o'r broses ddethol
Cytunodd
y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal balot nesaf y Bil Aelod gan ddefnyddio’r
gweithdrefnau presennol, cyn unrhyw adolygiad o’r broses ddethol y gall gytuno
i’w gynnal wedi hynny.
Nododd
y Pwyllgor hefyd ei bod yn fwriad gan y Llywydd i gyhoeddi yn ystod y Cyfarfod
Llawn yr wythnos hon y dyddiad yn nhymor yr hydref y cynhelir y balot nesaf ar
y Bil Aelod, er mwyn galluogi’r Aelodau i baratoi.
Cyfarfod: 27/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Cynigiodd
Siân Gwenllian y dylid symud y trafodaethau ynghylch rhannu swyddi mewn swyddi
ychwanegol anweithredol yn y Senedd i dymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i barhau â’i waith gweithdrefnol yn unol â’r rhaglen bresennol, gan
gynnwys ystyried ymhellach rhannu swyddi yn ystod 2024, a thrafod rhaglen waith
weithdrefnol wedi’i diweddaru ar ddechrau tymor yr hydref.
Cyfarfod: 13/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Cododd y Llywydd fater y Cwestiynau
Amserol, yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer y cwestiynau a gyflwynir, a
rhoddodd wybod i’r Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu rhoi ystyriaeth bellach
ynghylch a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r canllawiau er mwyn egluro'r
meini prawf ymhellach. Trafododd y Pwyllgor Busnes hefyd a ellid cyhoeddi
Cwestiynau Amserol a gyflwynir yn yr un modd â Chwestiynau Brys a chytunodd
hefyd i ystyried y ddau fater ymhellach, gyda'r bwriad o weithredu unrhyw
newidiadau o ddechrau tymor yr hydref.
Cyfarfod: 23/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r
Rheolwyr Busnes am y cynnig i eistedd ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru ddydd
Mercher 21 Mehefin am 12.45 ac y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar
ôl hanner tymor.
Cyfarfod: 16/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Gofynnodd Darren Millar a oes ystyriaeth bellach wedi’i rhoi i drefniadau
busnes y pwyllgorau a’r
Cyfarfod Llawn yng ngoleuni
gwaharddiad parhaus Rhys ab
Owen AS o Grŵp Plaid Cymru. Nododd y Llywydd y byddai’r Pwyllgor Busnes yn ystyried y mater hwn ymhellach ochr yn ochr ag unrhyw
oblygiadau sy’n codi yn deillio
o ystyriaeth y Senedd o’r cynnig
i sefydlu Pwyllgor Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.
Cyfarfod: 02/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Unrhyw Fater Arall
Cyfarfod: 25/04/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Trefniadau
Cyflwyno
Atgoffodd y
Llywydd y Rheolwyr Busnes am y newidiadau sy’n ofynnol i’r trefniadau cyflwyno
dros y pythefnos nesaf oherwydd gŵyl y banc ar 1 Mai ac 8 Mai.
Yn ogystal
â’r newidiadau hynny, yn sgil y streic sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dydd
Gwener 28 Ebrill, bydd y balot ar gyfer cwestiynau llafar i'r Prif Weinidog, y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd
Cymru a’r Trefnydd ar 9 a 10 Mai bellach yn cael ei gynnal ddydd Iau 27 Ebrill.
Bydd cynigion y Llywodraeth ar gyfer dydd Mawrth 9 Mai hefyd yn cael eu
cyflwyno erbyn dydd Iau 27 Ebrill.
Cyfarfod: 07/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Memoranda
Cydsyniad Deddfwriaethol
Yn dilyn
diweddariad llafar gan y Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i:
- gyfeirio'r Memorandwm atodol
(Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Caffael a osodwyd ar 6 Chwefror at y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm hwn a rhai blaenorol ar y Bil
hwn, ar 13 Mawrth 2023;
- cyfeirio'r Memorandwm atodol (Memorandwm Rhif 3) ar Fil Cyfraith
yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a osodwyd ar 6 Cwefror at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad
cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm hwn a rhai blaenorol
ar y Bil hwn, ar 13 Mawrth 2023;
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y gwaith paratoadol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar
oblygiadau Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gyfer y
Llywodraeth a'r Senedd.
Cyfarfod: 17/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Gweithredu
diwydiannol ar 1 Chwefror
Bu’r
Pwyllgor Busnes yn trafod yr effaith ar fusnes y Senedd yn sgil gweithredu
diwydiannol a drefnwyd gan aelodau Undeb PCS ar gyfer dydd Mercher 1 Chwefror.
Yn unol â
Rheol Sefydlog 11.5(iv), pleidleisiodd mwyafrif y Pwyllgor i symud busnes y
Cyfarfod Llawn a amserlennwyd yn flaenorol ar gyfer 1 Chwefror, gyda'r effaith
na fyddai Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ar y diwrnod hwnnw. Fe bleidleisiodd
y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn aildrefnu busnes o 1 Chwefror.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i symud y Cwestiynau Amserol a’r Cwestiynau i Weinidog yr
Economi a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i 31 Ionawr, ac i
aildrefnu'r Ddadl Aelodau, dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yr
Amser a ddyrannwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Ddadl Fer ar gyfer dydd Mercher 8
Chwefror. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu dwy Ddadl Fer ar 15
Chwefror.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i symud y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar i'w
hateb ar 31 Ionawr i ddydd Mawrth 24 Ionawr, ac i symud y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno Cwestiynau Llafar a chynigion i'w trafod ar 8 Chwefror i ddydd Mawrth
31 Ionawr.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y gallai’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
gynnal eu cyfarfodydd fore Mawrth 31 Ionawr yn lle’r cyfarfodydd sydd ar yr
amserlen ar gyfer 1 Chwefror.
Adolygiad
o’r darpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy
Gofynnodd y
Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau y bydd yr arolwg i lywio’r
adolygiad presennol o’r darpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy yn cau
am ganol dydd, dydd Gwener 20 Ionawr.
Cyfarfod: 13/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Dadleuon 30
munud
Cododd y
Llywydd y profiad diweddar o grwpiau'r gwrthbleidiau’n cyflwyno dau gynnig i'w
trafod yn ystod amser y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn, a all gyfyngu ar
nifer a hyd cyfraniadau gan Aelodau ar bynciau o bwys. Nododd y Llywydd y bydd
cais i'r Pwyllgor Busnes ystyried papur yn y Flwyddyn Newydd ynghylch yr amseru
ar gyfer dadleuon 30 munud, yng nghyd-destun amserlennu busnes yn ehangach.
Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes, ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion, fod y canllawiau y
cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 27 Medi bellach wedi eu cyhoeddi'n
llawn i’r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17.
Cyfarfod ar
15 Tachwedd
Fe wnaeth y
Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am y trefniadau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor
Busnes yr wythnos nesaf, a fydd yn cynnwys sesiwn gyhoeddus i drafod gwaith
presennol y Pwyllgor ynghylch Diwygio’r Senedd.
Cyfarfod: 25/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Gwaith
Diwygio'r Senedd
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai ei gyfarfod ar 15 Tachwedd ddechrau am 8.45 i alluogi
busnes safonol i gael ei ystyried cyn cychwyn y sesiwn gyhoeddus ar
argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.
Mynegodd y Llywydd ei dewis i'r Pwyllgor gynnal y cyfarfod hwnnw wyneb yn
wyneb.
Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer briff technegol ar waith presennol y
Pwyllgor Busnes ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd,
a fydd yn cael ei gynnal ar 19 Hydref.
Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Bil Diogelu'r
Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) – amserlen
Nododd y
Pwyllgor Busnes ohebiaeth a ddaeth i law gan y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd i ddarparu’r wybodaeth y gofynnodd y
Pwyllgor hwnnw amdani.
Amserlen y
pwyllgorau – gwrthdaro amserlenni Aelodau
Fe wnaeth y
Pwyllgor Busnes ddychwelyd at drafodaeth ar y mater yn ymwneud â chydamseru'r
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a godwyd gan Siân Gwenllian yn
y cyfarfod blaenorol. Fe wnaeth y swyddogion roi gwybod am yr ymdrechion gan
dimau clercio i gydlynu busnes y ddau bwyllgor hwnnw er mwyn cyfyngu ar yr
effaith ar yr Aelodau dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â'r ymchwiliad
presennol ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Diolchodd Siân Gwenllian
i swyddogion y ddau bwyllgor am eu hymdrechion.
Nododd y
Pwyllgor Busnes nad yw'n debygol y bydd cydlynu mor agos rhwng pwyllgorau yn
gynaliadwy, ac nad yw'n ateb tymor hir i'r sefyllfa.
Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol
Rhoddodd y
Trefnydd ddiweddariad ar lafar ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol yn
ymwneud â Bil y Bil Hawliau a’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol. Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor na fydd Llywodraeth
Cymru'n cyflwyno Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Biliau hyn ar hyn o
bryd oherwydd ansicrwydd ynghylch eu taith yn San Steffan, ond bydd yn rhoi
diweddariad pellach unwaith y daw'r sefyllfa'n gliriach.
Diwygio’r
Senedd
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd papur yn cynnwys rhagor o fanylion am y
dull arfaethedig o ystyried materion yn ymwneud â Bil Diwygio'r Senedd sydd yn
yr arfaeth yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac y
rhoddir cyfle i Reolwyr Busnes gael sesiwn friffio gyda swyddogion sy'n
cefnogi'r Pwyllgor Busnes cyn hynny.
Amserlen y
Pwyllgorau
Cododd Siân
Gwenllian fater yn ymwneud â chydamseru'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol a’r effaith ar aelodau grŵp Plaid Cymru, oherwydd bod y
pwyllgorau'n gwneud defnydd rheolaidd o'u slotiau wrth gefn. Nododd y Pwyllgor
Busnes fod y newidiadau i'r amserlen wedi eu gwneud mewn ymateb i geisiadau'r
pwyllgorau am fwy o amser cyfarfod, ac nad oedd gwrthdaro ar hyn o bryd o ran
aelodaeth o fewn yr amserlen. Cytunwyd y byddai swyddogion yn trafod y mater
presennol yn uniongyrchol gyda'r pwyllgorau o dan sylw er mwyn nodi unrhyw
ddatrysidau ymarferol.
Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Pleidleisiau o ran Bil Aelod
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor
Busnes y bydd yn cyhoeddi yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma y cynhelir y balot
nesaf ar gyfer Biliau Aelodau ar 13 Gorffennaf. Bydd gwybodaeth am y broses yn
cael ei dosbarthu i'r Aelodau cyn diwedd y dydd.
Cynhadledd Seneddol Flynyddol y
Gymanwlad (CPC)
Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr
Busnes i dynnu sylw eu grwpiau at y mater o bresenoldeb yng Nghynhadledd
Seneddol Flynyddol y Gymanwlad a gynhelir yng Nghanada rhwng 20 a 26 Awst. Mae
rheolau cangen y CPA yn nodi y dylai’r cynrychiolydd fod yn aelod benywaidd ar
yr adegau hynny pan fydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal yr un pryd â
chynhadledd ac etholiad Seneddwragedd y Gymanwlad, a gaiff eu cynnal bob tair
blynedd. Fodd bynnag, nid yw'r gangen wedi cael cais gan Aelod benywaidd. Caiff
y Rheolwyr Busnes eu gwahodd i roi gwybod i’w grwpiau ac i fynd ar drywydd
unrhyw geisiadau gan Aelodau benywaidd.
Cyfarfod: 07/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Gofynnodd y
Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau bod ganddynt tan ddiwedd y dydd
ddydd Iau 9 Mehefin i ymateb i'r arolwg sy'n rhan o adolygiad y Pwyllgor Busnes
o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd.
Gofynnodd
Darren Millar pryd y bydd balot nesaf y Bil Aelod yn cael ei gynnal. Dywedodd y
Llywydd y byddai'n ystyried cyngor cyn bo hir ac mai ei bwriad yw cynnal balot
arall cyn gynted â phosibl.
Cyfarfod: 24/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
Adolygiad o
gymryd rhan o bell ac adolygu Rheol Sefydlog 34
Dywedodd y
Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai holiadur yr Aelodau yn ymwneud ag
adolygiad y Pwyllgor Busnes o Reol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a chymryd
rhan o bell ym musnes y Senedd yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod, a bod
angen ymatebion erbyn 9 Mehefin, ac y byddai Fforwm y Cadeiryddion yn trafod ei
ymateb i'r adolygiad yn ei gyfarfod ar 26 Mai.
Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw fater arall
Cofnodion:
Cynulliad Partneriaeth Seneddol
Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai Alun Davies AS a Samuel Kurtz AS yn
cynrychioli’r Senedd yng nghyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU
a’r UE ar 12-13 Mai. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n dychwelyd at drafodaeth
ynghylch aelodaeth barhaol mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Cynulliad Partneriaeth Seneddol
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Pwyllgor Busnes am ei dull
arfaethedig o benodi dirprwyaeth dros dro o'r Senedd i gyfarfod y Cynulliad
Partneriaeth Seneddol ar 12-13 Mai ym Mrwsel ac esboniodd y bydd, o ystyried yr
amseru ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig, yn cysylltu â Chadeiryddion dau
bwyllgor sydd â chylchoedd gwaith perthnasol i gynrychioli'r Senedd fel
arsylwyr: Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad; a Paul Davies, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig. Unwaith y bydd y ddirprwyaeth wedi'i chadarnhau, byddai'r Llywydd yn
hysbysu'r Pwyllgor Busnes.
Dywedodd y Llywydd y bydd yn cychwyn sgwrs yn ddiweddarach
yn y tymor gyda'r Pwyllgor Busnes a Fforwm y Cadeiryddion ynghylch cyfansoddiad
dirprwyaethau'r Senedd i'r CPA ac i'r Fforwm Rhyngseneddol
yn y tymor hwy.
Rhoddodd y Llywydd ddiweddariad i'r Pwyllgor hefyd am y
sefyllfa bresennol o ran enwebiadau'r Senedd ar gyfer dirprwyaeth y DU i
Gyngres yr Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol yng Nghyngor Ewrop, nad ydynt wedi'u
cadarnhau eto. Bydd y mater yn cael ei ddwyn yn ôl i'w drafod pe bai angen i'r
Pwyllgor Busnes ei ystyried ymhellach.
Cyfarfod: 15/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a
Gedwir)
Ar gynnig y
Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad ar gyfer y Memorandwm Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a
Gedwir) o 3 Mawrth i 17 Mawrth.
Cyfarfod: 08/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Fformat
cyfranogiad yn y Cyfarfod Llawn
Yn y
cyfarfod nesaf, byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried fformat y Cyfarfod Llawn
ar ôl y toriad hanner tymor. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i drafod
safbwyntiau cychwynnol ar gyfranogiad hybrid ar gyfer y tymor hir, a fyddai'n
llywio papur i'w ystyried ar ôl yr hanner tymor.
Cyfarfod: 16/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Enwebiadau ar
gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Phwyllgor y
Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU.
Cynghorodd
y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai'n gwneud yr enwebiadau a ganlyn:
Cyngres
Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol:
- Aelod llawn: Mabon ap Gwynfor
AS
- Aelod sy'n dirprwyo: Buffy
Williams AS
Pwyllgor y
Rhanbarthau – Grŵp Cyswllt:
- Alun Davies AS
- Laura Anne Jones AS
Cyfarfod: 09/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Unrhyw faterion eraill
Cofnodion:
Enwebiadau
ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Grŵp
Cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau - y DU.
Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at yr Aelodau a
gynigwyd i'w henwebu, i drafod eu dewisiadau.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r
Llysoedd
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Pwyllgor Busnes fod y llywodraeth wedi gosod Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â Bil yr Heddlu, Troseddu,
Dedfrydu a’r Llysoedd ar 5 Tachwedd, a bod y ddadl ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol sy’n ymwneud â'r Bil hwn wedi'i threfnu ar gyfer 30
Tachwedd.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol at y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad terfyn ar gyfer
cyflwyno adroddiad, sef 25 Tachwedd.
Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Unrhyw Fater Arall
Cofnodion:
COP-26
Cododd
Darren Millar bryderon am gydbwysedd gwleidyddol y ddirprwyaeth o'r Senedd a
aeth i gynhadledd COP-26. Bydd nodyn ar hyn yn cael ei anfon at Reolwyr Busnes.
Cyfarfod: 27/05/2021 - Bwrdd Taliadau (2020 - 2025) (Eitem 5)
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
5.1 Trafododd y Bwrdd hawliad eithriadol am dreuliau gan
Aelod i ariannu diffyg ei gyfran o fil ardrethi annomestig y swyddfa ar gyfer
2020-21. Trafododd y Bwrdd yr hawliad a'r
dystiolaeth a ddarparwyd. Cytunodd y Bwrdd y dylai'r ysgrifenyddiaeth ymchwilio
i'r posibilrwydd y gallai'r Aelod adhawlio'r gwariant drwy ei lwfans Swyddfa a
Chysylltu â’r Etholwyr ar gyfer 2021-22. Roedd y Bwrdd o'r farn gadarn na
fyddai'n cymeradwyo hawliad o'r fath yn y dyfodol.
Camau i’w cymryd: Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
-
Drafftio ymateb i'r Aelod mewn perthynas â'r hawliad
eithriadol am dreuliau i’r Bwrdd gytuno arno.
-
Ystyried ffyrdd amgen o rannu hawliadau eithriadol am
dreuliau, gan ystyried materion seiberddiogelwch a diogelu data.