Cyfarfodydd
Dadl gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion posibl i’w trafod
ar 28 Ionawr 2026 a chytunodd i amserlennu’r ddadl Aelod ganlynol a gyflwynwyd
gan Cefin Campbell AS:
NNDM9115
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi darpariaethau Cyfraith Helen, neu Ddeddf
Carcharorion (Datgelu Gwybodaeth am Ddioddefwyr) 2020 yn ffurfiol, sy'n ei
gwneud yn ofynnol i'r bwrdd parôl ystyried a yw troseddwyr wedi datgelu
lleoliad gweddillion dioddefwr neu wedi nodi dioddefwyr oedd yn blant wrth
wneud penderfyniadau parôl.
2. Yn cydnabod bod y Ddeddf wedi'i chyflwyno yn dilyn
achos Helen McCourt, nad yw ei llofrudd erioed wedi datgelu lleoliad ei chorff,
a bod peidio â datgelu hynny yn parhau i achosi trallod sylweddol a pharhaus i
deuluoedd dioddefwyr.
3. Yn nodi galwadau am gyflwyno Deddf Helen Rhan 2: Atal
Halogi, sy'n ceisio diwygio deddfau claddu a dedfrydu, gan gynnwys creu trosedd
newydd o halogi corff.
4. Yn nodi ymhellach bod darpariaethau tebyg wedi'u
cyflwyno yng Ngogledd Iwerddon drwy Gyfraith Charlotte, gan gynnwys gwneud
cuddio olion dioddefwr yn ffactor gwaethygol statudol wrth ddedfrydu; darparu
cymhellion ar gyfer cydweithredu wrth ddod o hyd i weddillion, a gosod
dyletswydd ar awdurdodau parôl i ystyried achosion o beidio â datgelu.
5. Yn cydnabod bod gweithredu'r mesurau hyn yng Ngogledd
Iwerddon yn dangos bod diwygiadau o'r fath yn gyraeddadwy mewn mannau eraill yn
y DU.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ystyried
diwygiadau deddfwriaethol cyfatebol, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, er
mwyn cryfhau cyfiawnder a darparu mwy o urddas a diweddglo i ddioddefwyr a'u
teuluoedd.
Cyfarfod: 09/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd ar
gyfer dadl ar 17 Rhagfyr 2025, a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol a
gyflwynwyd gan Rhys ab Owen:
NNDM9072
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu'r ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y
byd i ddeddfu dros hawl plant i chwarae, ac mai Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yn
y DU i gael ei hachredu gan UNICEF yn Ddinas sy'n Dda i Blant.
2. Yn cydnabod bod ardaloedd chwarae gyda siglenni,
llithrenni ac offer arall i chwarae yn bwysig iawn i blant o dan 11 oed.
3. Yn nodi bod adroddiad 'Yr hyn mae plant yn ei ddweud
am chwarae yng Nghymru: 2025' gan Chwarae Cymru wedi canfod bod offer chwarae
mewn sawl ardal yn cael eu disgrifio fel rhai hen, wedi torri neu'n addas ar
gyfer plant iau yn unig, a bod llawer wedi galw am fuddsoddi mewn mannau i
blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig yn Ynys
Môn, Sir Ddinbych a Chaerffili.
4. Yn gresynu bod boddhad cyffredinol â chyfleoedd i
chwarae wedi gostwng o 84 y cant yn 2019 i 71 y cant yn 2025, ac na chaniateir
i nifer nodedig o 25 y cant chwarae'n annibynnol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu mynediad plant
i chwarae drwy:
a) cryfhau'r ddyletswydd o dan adran 11 Mesur Plant a
Theuluoedd (Cymru) 2010 fel bod yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau digon o
gyfleoedd chwarae mewn maes chwarae ar gyfer pob cymuned;
b) datblygu ffyrdd o roi cyhoeddusrwydd i leoedd diogel a
lleol i chwarae;
c) diogelu meysydd chwarae rhag toriadau awdurdodau
lleol;
d) cefnogi grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd cyfrifoldeb
am feysydd chwarae; ac
e) mynd i'r afael â'r ffaith bod gan blant, yn enwedig
rhai anabl, mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig yn aml fwy o fynediad at
fannau awyr agored, ond yn wynebu mwy o broblemau o ran cynnal a chadw,
hygyrchedd a chynhwysiant.
Cyfarfod: 07/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes y cynigion posibl i’w trafod ar 15 Hydref 2025 a chytunodd i amserlennu’r
ddadl Aelod ganlynol a gyflwynwyd gan Adam Price:
NNDM8884
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod enseffalomyelitis
myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o ddifrifoldeb.
2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan
NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol
iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr
achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo drwy diwb.
3. Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n
cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn Lloegr, Prevention of
Future Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na
fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig
â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad;
b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth
sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn;
c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd
â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd
Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf
difrifol;
d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig
ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid hir - yn flaenoriaeth;
e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y
GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi
ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a
difrifol iawn; ac
f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau
Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y
lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
Maeve Boothby O'Neill: Adroddiad
Prevention of Future Deaths
Cyfarfod: 17/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl ar 25 Mehefin 2025 a chytunwyd i amserlennu:
Adam Price AS
NNDM8884
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod enseffalomyelitis
myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o ddifrifoldeb.
2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n
dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn
gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’,
sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal
lliniarol a bwydo drwy diwb.
3. Yn gresynu
mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n
cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) ymateb i'r pryderon a godir yn
Adroddiad y Crwner yn Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau
ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn
cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr
adroddiad;
b) sicrhau bod gwasanaethau ME a
ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion
sydd ag ME difrifol a difrifol iawn;
c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol
o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel
genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan
gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol;
d) gwneud penodi ymgynghorydd
arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid
hir - yn flaenoriaeth;
e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar
gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau
cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal
oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac
f) sicrhau bod byrddau iechyd yn
wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried
profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n
gofalu amdanynt.
Maeve Boothby
O'Neill: Adroddiad Prevention of Future Deaths
Cyfarfod: 06/05/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynnig a ganlyn ar 14 Mai
2025:
Luke
Fletcher
NNDM8812
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod diffodd tân yn gwneud
unigolion yn agored i elifion carsinogenaidd, gan gynnwys bensen a tholwen,
sy’n cynyddu'n sylweddol y cyfraddau marwolaethau ymhlith diffoddwyr tân o'u
cymharu â’r boblogaeth gyffredinol;
b) gwaith Asiantaeth Ryngwladol
Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ymchwil ar Ganser a’i dosbarthiad o ganser
ymhlith diffoddwyr tân fel perygl galwedigaethol Grŵp 1;
c) bod gwledydd megis yr Unol
Daleithiau, Canada ac Awstralia wedi cydnabod yn swyddogol y cysylltiad rhwng
dod i gysylltiad ag elifion gwenwynig a mwy o achosion o ganser;
d) ymgyrch 'DECON' Undeb y Brigadau
Tân a’i hymdrechion hanfodol i helpu diffoddwyr tân i leihau eu cysylltiad
niweidiol â halogyddion.
2. Yn cydnabod canfyddiadau ymchwil
wyddonol dan arweiniad yr Athro Anna Stec yng Nghanolfan y Gwyddorau Tân a
Pheryglon, Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, a gomisiynwyd gan Undeb y
Brigadau Tân, sy’n datgelu bod diffoddwyr tân rhwng 35 a 39 oed a arolygwyd yn
wynebu cyfradd canser sy'n benodol i oedran hyd at 323 y cant yn uwch na
phoblogaeth gyffredinol yr un grŵp oedran.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cydweithio ag Undeb y Brigadau
Tân, gwasanaethau tân ac achub, ac arbenigwyr blaenllaw ym maes tocsicoleg tân
i liniaru effeithiau elifion carsinogenaidd ar ddiffoddwyr tân yng
Nghymru;
b) sefydlu rhaglen iechyd ataliol i
fonitro a chofnodi cysylltiadau ar gyfer pob diffoddwr tân yng Nghymru, gan
gynnwys profion sgrinio canser blynyddol fel safon ofynnol;
c) alinio Cymru ag arferion gorau
rhyngwladol o ran diogelu iechyd diffoddwyr tân.
Cyfarfod: 04/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl. Mynegodd Heledd Fychan ei chefnogaeth i
amserlennu cynnig gan Sioned Williams ar y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes drwy fwyafrif i amserlennu’r cynigion canlynol i’w
trafod:
12 Chwefror
Jenny Rathbone
NNDM8814
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
nodi:
a) er
gwaethaf y digonedd o fwyd o safon a gynhyrchir gan ffermwyr Cymru, mae
goruchafiaeth bwyd wedi'i brosesu'n helaeth yn ein diet yn arwain at
ganlyniadau dinistriol i iechyd, cyfoeth a llesiant ein cenedl;
b) bod
mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach yn fater cyfiawnder cymdeithasol, gyda
chymunedau tlotach yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan afiechydon sy'n
gysylltiedig â diet;
c) bod
cynhyrchiant Cymru o 20,000 tunnell o ffrwythau a llysiau y flwyddyn ond yn
cyfateb i chwarter dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd fesul person;
d) y gall
ehangu cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy helpu i leihau milltiroedd bwyd, gwella
diogelwch bwyd, a chreu swyddi gwyrdd yng Nghymru; ac
e) bod
pontio i fod yn genedl fwyd gynaliadwy yn gofyn am ddull cydgysylltiedig,
cydweithredol ac ataliol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu
strategaeth llywodraeth gyfannol a chydgysylltiedig i wella diet pobl;
b) hyrwyddo
manteision bwyd ffres, heb ei brosesu i annog newidiadau dietegol a mynd i'r
afael â goruchafiaeth bwydydd wedi'u prosesu'n helaeth;
c)
defnyddio'r buddsoddiad sydd i'w groesawu mewn partneriaethau bwyd lleol i ddod
â thyfwyr, arlwywyr a bwytawyr at ei gilydd i ehangu garddwriaeth yng
Nghymru;
d)
cyflymu'r gwaith o lunio strategaeth fwyd gymunedol o fewn y Chweched Senedd;
ac
e)
defnyddio pŵer caffael cyhoeddus i wella'r bwyd a weinir i ddisgyblion,
cleifion a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.
5 Mawrth
Mark Isherwood
NNDM8734
Cynnig bod y Senedd
1. Yn nodi:
a) yr angen i ddarparwyr
gwasanaethau ddiwallu anghenion y gymuned fyddar;
b) bod pobl sy’n
byw â cholled clyw yn wynebu anfantais difrifol o gymharu â phobl nad
yw hynny’n effeithio ar eu clyw;
c) mai Iaith Arwyddion Prydain
(BSL) yw’r dull cyfathrebu a ffefrir gan lawer o bobl fyddar; a
d) pryder ynghylch penderfyniad
Cymwysterau Cymru i beidio â bwrw ymlaen â chymhwyster TGAU iaith
arwyddion.
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i sicrhau bod y tasglu hawliau
pobl anabl yn mynd ati’n benodol i nodi’r materion a’r rhwystrau sy’n effeithio
ar fywydau pobl fyddar; a
b) i ymwneud
yn fwy â’r gymuned fyddar i ganfod beth yw eu hanghenion.
Cyfarfod: 26/11/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar
gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu:
4 Rhagfyr 2024
Hefin David
NNDM8659
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi bod
dros 40 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi Strategaeth Cymru Gyfan, a oedd
â'r nod o dynnu pobl awtistig a/neu bobl ag
anableddau dysgu allan o leoliadau ysbyty hirdymor
a'u cefnogi i fyw yn eu cymunedau lleol.
2. Yn
gresynu bod rhai pobl awtistig a/neu bobl ag
anableddau dysgu yng Nghymru yn dal i gael eu
secsiynu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu'n cael eu cadw o dan Ddeddf Galluedd
Meddyliol 2005 mewn ysbytai diogel, sy'n amhriodol
o ran eu llesiant ac yn achosi trawma hirdymor sylweddol, yn
ogystal â gofid
iddynt hwy a'u hanwyliaid.
3. Yn credu
bod hyn yn parhau i ddigwydd i bobl awtistig a/neu bobl ag
anableddau dysgu oherwydd diffyg cymorth yn eu
hardaloedd lleol, a bod secsiynu’n cael ei ddefnyddio
fel opsiwn diofyn gan awdurdodau perthnasol o dan rai amgylchiadau.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru:
a) i nodi'n
fanwl sut y bydd yn ymateb i bryderon ac amcanion ymgyrch 'Cartrefi Nid
Ysbytai' Bywydau Wedi'u Dwyn;
(b) i
gasglu a chyhoeddi data cywir a chyfredol ar:
i) nifer y bobl
awtistig a/neu bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru sy'n cael eu lleoli
mewn ysbytai;
ii) y math
o ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. ysbytai iechyd meddwl neu unedau asesu a
thrin;
iii)
darparwyr yr ysbytai mewn achosion o'r fath e.e. y sector preifat, y sector
cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol; a
iv) nifer a
natur y lleoliadau byw â chymorth neu leoliadau preswyl sydd wedi methu, gan
arwain at symud unigolion i ysbytai e.e. enw'r darparwr a'r math o ddarparwr;
c) i roi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran
sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen pwrpasol i weithio gyda rhanddeiliaid i
helpu i fynd i'r afael â'r materion a'r pryderon a godwyd gan Bywydau Wedi’u
Dwyn, ac sydd o fewn ei chyfrifoldebau datganoledig; a
d) i weithredu argymhellion ei hadolygiad gofal
cenedlaethol yn 2020, a nododd yn glir mai dim ond os nad oes ffyrdd eraill o'u
trin yn ddiogel y dylai pobl aros mewn ysbytai.
8 Ionawr 2025
Siân
Gwenllian
NNDM8664
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
nodi:
a) y
prinder sylweddol o wasanaethau deintyddol y GIG yng ngogledd Cymru, yn enwedig
yn Arfon gyda dim ond 36.6 y cant o'r boblogaeth yn gallu derbyn triniaeth
drwy’r GIG sef y ganran isaf yng Nghymru; a
b) cyhoeddi
adroddiad "Llenwi’r Bwlch" a gomisiynwyd gan Sian Gwenllian AS yn
gwneud yr achos dros sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mangor.
2. Yn
credu:
a) bod
gwasanaethau deintyddol yng ngogledd Cymru mewn sefyllfa o argyfwng:
b) bod
prinder difrifol o ddeintyddion y GIG yn Arfon sy'n gadael llawer o gleifion,
gan gynnwys plant a phobl fregus, heb fynediad priodol at ofal deintyddol
sylfaenol;
c) bod
pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar adrannau brys yr ysbytai lleol oherwydd diffyg
mynediad at ddeintyddion, gan arwain at gostau ac amseroedd aros
ychwanegol;
d) bod
angen am fwy o hyfforddiant deintyddol;
e) bod
nifer sylweddol o fyfyrwyr sy’n dymuno astudio deintyddiaeth yn gorfod gadael
Cymru oherwydd diffyg capasiti mewn ysgolion deintyddol;
f) y gallai
ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor chwarae rôl allweddol wrth hyfforddi mwy o
ddeintyddion yn lleol, gan gynnig gwell siawns o gadw’r gweithlu deintyddol yn
y rhanbarth a darparu gwasanaethau hanfodol yn lleol;
g) y byddai
sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn darparu swyddi newydd o safon a denu
buddsoddiad i'r economi leol, gan gefnogi Bangor fel canolfan ragoriaeth ym
maes iechyd, ochr yn ochr â'r ysgol feddygol newydd; a
h) gallai'r
ysgol deintyddiaeth ychwanegu at ddarpariaeth gwasanaethau dei y gallai’r ysgol
ddeintyddol ychwanegu at y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol Cymraeg a
dwyieithog, gan wella mynediad at ofal iechyd i gymunedau lleol sy’n siarad
Cymraeg.
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru:
a) ystyried
yr achos economaidd ac iechyd cyhoeddus dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym
Mangor yn seiliedig ar y canfyddiadau allweddol a gyflwynwyd yn yr adroddiad
Llenwi’r Bwlch;
b) sicrhau
cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr, a sefydliadau perthnasol eraill i ddatblygu cynllun
dichonoldeb ar gyfer sefydlu’r ysgol ddeintyddol; ac
c)
buddsoddi’n strategol i sefydlu’r ysgol ddeintyddol fel rhan o ymdrechion
ehangach i wella mynediad at wasanaethau iechyd yn y rhanbarth ac i fynd i’r
afael â’r argyfwng parhaus mewn darpariaeth ddeintyddol yng Nghymru.
Cyfarfod: 24/09/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu:
2 Hydref
Delyth
Jewell
NNDM8566
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
gresynu bod poen corfforol ac emosiynol menywod yn cael ei normaleiddio yn eu
gofal iechyd, yn ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd
menywod ond yn un na ellir ei hosgoi.
2. Yn
credu, drwy ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod, y
dylai gweithwyr iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle y mae poen
yn ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y
GIG.
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cryfhau'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar
gyfer iechyd menywod a merched;
b) sefydlu
gofyniad cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan
gleifion benywaidd am eu profiadau a'u bodlonrwydd â'r gofal a gânt, yn enwedig
mewn perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau
ôl-enedigol, iechyd meddwl amenedigol a menopos; ac
c) cyflwyno
rhwymedigaethau statudol ar gyfer datblygu, cydgysylltu a gweithredu'r Cynllun
Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru y mae gynaecolegwyr, bydwragedd a
grwpiau iechyd menywod wedi ymgynghori arno, a ddylai gynnwys mesurau i fynd
i'r afael â normaleiddio poen ym maes gofal iechyd menywod, ac atal y
normaleiddio hwnnw.
23 Hydref
Julie
Morgan
NNDM8656
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi nad yw'r cyfrifoldeb dros ddeddfu i
ganiatáu cymorth i farw wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ei fod ar hyn o bryd yn
fater a gaiff ei lywodraethu gan gyfraith droseddol.
2. Yn nodi,
pe bai cymorth
i farw yn cael ei gyfreithloni, ac o ystyried ei chyfrifoldeb dros iechyd a
gofal cymdeithasol, y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael dealltwriaeth fanwl
o unrhyw gynigion.
3. Yn credu
y dylai oedolyn yn ei lawn bwyll, y mae ganddo gyflwr corfforol annioddefadwy
na ellir ei wella ac y mae wedi nodi ei ddymuniad clir a phendant i farw, gael
yr opsiwn o gymorth i farw, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu cadarn.
4. Yn nodi
bod ymchwiliad diweddar gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol San Steffan
wedi canfod cysylltiad rhwng cyflwyno cymorth i farw a gwelliant o ran gofal
lliniarol mewn sawl awdurdodaeth.
5. Yn nodi
bod y Swyddfa Economeg Iechyd wedi canfod, hyd yn oed pe baent yn cael y
feddygaeth liniarol orau, y byddai o leiaf 5,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru
a Lloegr yn marw heb unrhyw ffordd effeithiol o leddfu eu poen yn eu mis
olaf.
6. Yn nodi
bod agweddau'r cyhoedd at roi cymorth i farw wedi newid, gyda hyd at 88% o'r
cyhoedd yn ffafrio newid y gyfraith.
7. O ran
pobl o'r DU sy'n dioddef, bod mwy nag un yr wythnos bellach yn dewis dod â’u
bywyd i ben yn un o ganolfannau diwedd oes y Swistir, a bod llawer yn rhagor a
fyddai'n dewis gwneud yr un peth ond sy’n methu â fforddio'r costau uchel
perthnasol, sy’n aml ymhell dros £10,000.
8. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi
egwyddorion cymorth i farw; a
b) cefnogi
senedd San Steffan i gyflwyno deddf dosturiol o ran cymorth i farw yng Nghymru
a Lloegr.
Cyfarfod: 11/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r
cynnig canlynol ar 19 Mehefin:
NNDM8566
Delyth
Jewell
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
gresynu bod poen corfforol ac emosiynol menywod yn cael ei normaleiddio yn eu
gofal iechyd, yn ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd
menywod ond yn un na ellir ei hosgoi.
2. Yn
credu, drwy ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod, y
dylai gweithwyr iechyd proffesiynol anelu at leihau sefyllfaoedd lle y mae poen
yn ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y
GIG.
3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cryfhau'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar
gyfer iechyd menywod a merched;
b) sefydlu
gofyniad cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan
gleifion benywaidd am eu profiadau a'u bodlonrwydd â'r gofal a gânt, yn enwedig
mewn perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth a gwasanaethau
ôl-enedigol, iechyd meddwl amenedigol a menopos; ac
c) cyflwyno
rhwymedigaethau statudol ar gyfer datblygu, cydgysylltu a gweithredu'r Cynllun
Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru y mae gynaecolegwyr, bydwragedd a
grwpiau iechyd menywod wedi ymgynghori arno, a ddylai gynnwys mesurau i fynd
i'r afael â normaleiddio poen ym maes gofal iechyd menywod, ac i’w atal.
A NNDM8600
(Sian Gwenllian) ar 3 Gorffennaf:
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
nodi’r pryderon a gaiff eu codi’n rheolaidd gan Aelodau o’r Senedd am ddiffyg
argaeledd gwasanaethau deintyddol y GIG.
2. Yn
nodi’r rhwystrau a ddogfennir a’r argymhellion a wneir ar gyfer y ffordd ymlaen
yn adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ddeintyddiaeth.
3. Yn
nodi’r heriau penodol yn ymwneud gyda chynllunio, hyfforddi, recriwtio a chadw
deintyddion yng Nghymru.
4. Yn nodi
cyhoeddi y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol gan Addysg a Gwella
Iechyd Cymru ym Mai 2024 a’r cyfeiriadau a wneir yn y cynllun hwnnw, yn
benodol:
a) fod
Cymru yn fewnforiwr net o ddeintyddion;
b) fod
Cymru yn dibynnu ar ysgolion deintyddol y tu hwnt i Gymru i gynhyrchu digon o
ddeintyddion i’w recriwtio i’r gweithlu; ac
c) mai’r
Deyrnas Unedig sydd â’r nifer isaf o ddeintyddion fesul person o’i gymharu ag
aelodau mawr eraill y G7 yn Ewrop.
5. Yn nodi
fod nifer y lleoedd yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru wedi’u cyfyngu bob
blwyddyn.
6. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi prifysgol ar gyfer
deintyddion yng Nghymru.
Cyfarfod: 07/05/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar
gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 15 Mai:
Mabon ap Gwynfor
NNDM8571
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng
Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn;
b) mai ysmygu yw prif achos afiechydon y gellir eu hatal
a marw cyn pryd yng Nghymru, gan achosi 3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn;
c) bod cynnydd amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl
ifanc sy’n fepio, ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu
cynhyrchion nicotin;
d) y bydd mwy o ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau
yn cynyddu’r galw am wasanaethau cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru;
ac
e) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith
hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd,
ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr
hinsawdd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i weithredu penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y
Cyhoedd (Cymru) 2017 yn llawn a fyddai'n ei gwneud yn bosibl:
i) sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a
chynhyrchion nicotin;
ii) ychwanegu troseddau a fyddai’n cyfrannu at orchymyn
mangre o dan gyfyngiad yng Nghymru, gan alluogi swyddogion gorfodi i wahardd
manwerthwr rhag gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin am hyd at flwyddyn; a
iii) gwahardd rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i berson
o dan 18 oed;
b) sicrhau bod y Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco
yn blaenoriaethu gweithredu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o
ail gam y cynllun gweithredu ar reoli tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026;
c) ymrwymo i ymgyrch gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i
gefnogi'r broses weithredu a newidiadau dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a
d) sefydlu gweithgor i:
i) goruchwylio'r broses o weithredu'r gofrestr o
fanwerthwyr yn brydlon;
ii) archwilio sut y gallai'r gofrestr o fanwerthwyr
arwain y ffordd at gynllun trwyddedu a/neu adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi
ychwanegol; a
iii) cyflwyno'r data a gasglwyd o'r gofrestr i helpu i
dargedu ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu a diogelu'r cyhoedd.
Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 20 Mawrth:
Heledd
Fychan
NNDM8505
Cynnig bod y Senedd:
1. O’r farn:
a) bod casgliadau cenedlaethol
Cymru – sydd o dan ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – yn
perthyn i bawb yng Nghymru;
b) bod angen gwarchod y casgliadau
ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, tra hefyd yn parhau i gael eu defnyddio i
ysbrydoli ac ysgogi pobl o bob oed; a
c) bod mynediad am ddim i’n
hamgueddfeydd cenedlaethol wedi bod yn llwyddiant diamheuol ers cyflwyno’r
polisi yn 2001, a bod y polisi hwn yn un y dylid ei warchod.
2. Nodiadau:
a) rhybuddion gan y sefydliadau bod
toriadau cyllidol refeniw a chyfalaf yn peryglu’r casgliadau cenedlaethol,
oherwydd llefydd a storfeydd anaddas, a hefyd gostyngiad yn nifer y staff
arbenigol sydd bellach yn cael eu cyflogi i ofalu amdanynt;
b) y pryderon y bydd toriadau
pellach yn gwaethygu'r sefyllfa; a hefyd
c) cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru
o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 am ein casgliadau cenedlaethol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gymryd y camau a ganlyn:
a) comisiynu panel o arbenigwyr i
sefydlu beth yw’r perygl i’r casgliadau, a gweithio gyda’r sefydliadau a
Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun i’w diogelu;
b) gweithio gyda Llyfrgell
Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – a’r undebau sy’n cynrychioli’r staff yn
y sefydliadau hyn – i sicrhau eu hyfywedd i’r dyfodol; a
c) gweithio gydag Amgueddfa Cymru i
gadw’r polisi mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd cenedlaethol.
Cyfarfod: 16/01/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol
i’w drafod ar 24 Ionawr:
Mabon ap Gwynfor
NNDM8448
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
nodi:
a) bod
darparwyr gofal hosbis elusennol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal
a chymorth hanfodol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol ledled
Cymru;
b) bod y
sector hosbis elusennol yn darparu gofal i fwy na 20,000 o bobl bob blwyddyn,
gyda'u gwasanaethau yn cefnogi pobl sy'n marw i aros yn eu cartrefi eu hunain a
lleihau derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau canlyniadau gwell i unigolion a'r
GIG;
c) bod
costau cynyddol o ran ynni a staff, pwysau ar y gweithlu, a galw cynyddol am
ofal cymhleth yn fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd y sector;
d) bod 90 y
cant o hosbisau yn cyllidebu ar gyfer diffyg yn 2023/24 ac yn defnyddio
cronfeydd wrth gefn i gwrdd â'r diffyg; a
e) y bydd y
galw a'r angen am ofal lliniarol yn tyfu'n sylweddol wrth i'r boblogaeth
heneiddio ac mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau cronig lluosog.
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo
i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan
gynnwys sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd
yn yr Agenda ar gyfer Newid, fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG;
b) datblygu
ateb ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys
fformiwla ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth
gofal lliniarol a diwedd oes; ac
c) ymestyn adolygiad cyllid gofal
diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2024,
os nad yw hyn yn ymarferol o fewn yr amserlen hon.
Cyfarfod: 17/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion
arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod
ar 25 Hydref:
Alun Davies
NNDM8381
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod yr Holodomor yn
drosedd a bennwyd ymlaen llaw, a gyflawnwyd ac a arweiniwyd gan Stalin a'r Llywodraeth
Sofietaidd yn erbyn pobl Wcráin.
2. Yn ystyried bod yr Holodomor yn
weithred o hil-laddiad.
3. Yn nodi rôl hollbwysig y
newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, wrth ddod â chreulondeb yr Holodomor i
sylw'r byd.
4. Yn parhau i sefyll gyda phobl
Wcráin wrth iddynt wynebu rhyfel anghyfreithlon Putin.
A'r cynnig canlynol ar gyfer
dyddiad i'w gadarnhau ym mis Tachwedd:
Mark Isherwood
NNDM8385
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod mis Tachwedd yn Fis
Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas, ac mai 16 Tachwedd 2023 yw Diwrnod Byd-eang
Canser y Pancreas;
b) bod y cyfraddau goroesi yng
Nghymru a'r DU yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o Ewrop a'r
byd;
c) bod canser y pancreas yn anodd
ei ganfod a bod diagnosis yn cymryd gormod o amser gyda phrosesau araf a
phrofion niferus yn gadael pobl yn y tywyllwch;
d) ar ôl canfod y canser, mae pobl
yn wynebu rhwystrau enfawr o ran cael y wybodaeth a'r gofal sydd eu hangen
arnynt i fod yn ddigon da i gael triniaeth, gyda llawer o bobl yn teimlo eu bod
yn cael eu gadael heb unrhyw gynllun cymorth ar waith, a heb help i reoli
symptomau; ac
e) ar ôl cael diagnosis, dim ond 3
o bob 10 o bobl sy'n cael unrhyw driniaeth, y gyfran isaf o bob math o ganser,
a bod hanner y bobl yn marw o fewn mis i'r diagnosis.
2. Yn deall bod angen i bobl sydd â
chanser y pancreas gael llwybr cyflymach a thecach a ariennir drwy gydol eu
diagnosis, triniaeth a gofal, a hynny ar frys.
3. Yn cefnogi ymdrechion Pancreatic
Cancer UK i sicrhau bod llwybr o'r fath yn cael ei weithredu.
4. Yn canmol yr holl elusennau a
sefydliadau ymgyrchu a'u cefnogwyr ymroddedig am eu hymdrechion diflino i godi
ymwybyddiaeth o ganser y pancreas, ac yn dymuno pob llwyddiant i bawb sy'n
ymwneud â Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas yn eu hymdrechion.
Cyfarfod: 19/09/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynnig arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i’w amserlennu
ar 27 Medi:
Rhys ab Owen
NNDM8274
Mae’r Senedd hon:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn
yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a
fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer dŵr gyda'r ffin
genedlaethol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn
yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr neu drwyddedai
carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i Gymru.
Cyfarfod: 06/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor Busnes y cynigion arfaethedig ar gyfer dadl a chytunwyd i
amserlennu’r cynigion canlynol i gael eu trafod:
14
Mehefin:
Hefin
David
NNDM8275
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
nodi bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfyngau lluosog, sef yr
argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a'r argyfyngau hinsawdd a natur, a bod
ymgyrch Warm This Winter yn cydnabod bod yr argyfyngau hyn yn gysylltiedig ac
wedi'u hymblethu, a bod yr un ffactorau wedi'u hachosi a'r un atebion sydd
iddynt.
2. Yn
nodi bod ymgyrch Warm This Winter yng Nghymru yn galw am gymorth brys i'r rhai
mwyaf bregus.
3. Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno buddsoddiad i gefnogi aelwydydd bregus
y gaeaf diwethaf, ei bod wedi cyhoeddi cwmni ynni cyhoeddus newydd i Gymru, a
chynlluniau effeithlonrwydd ynni ychwanegol ar gyfer ein cartrefi, ond bod
angen gwneud mwy.
4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio i weithredu atebion ar gyfer llwybr
gwirioneddol allan o'r argyfwng costau byw, drwy gydnabod bod camau allweddol i
fynd i'r afael â diogelwch ynni a'r argyfwng hinsawdd - fel cynnydd mawr mewn
effeithlonrwydd ynni a chyflwyno ynni cymunedol ledled Cymru.
5. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i godi pryderon gyda Llywodraeth y DU am gost ynni,
a'r angen i sicrhau bod cynlluniau cymorth y DU ar waith i sicrhau bod pobl yn
gynnes y gaeaf hwn, a phob gaeaf i ddod.
5
Gorffennaf:
Luke
Fletcher
NNDM8273
Cynnig
bod y Senedd:
1. Yn
nodi:
a) bod
cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag
epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;
b) bod
11.5 o nyrsys arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n
cyfateb i gymhareb o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;
c) bod
adroddiad Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs
arbenigol epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol
epilepsi yng Nghymru.
2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr
gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi;
b)
cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau
staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a
chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.
Adroddiad
Argymhellion Grŵp Adolygu Arbenigol Allanol Niwrowyddoniaeth Cymru ar
gyfer Canolbarth a De Cymru
Cyfarfod: 02/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cyfarfod: 14/03/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 22 Mawrth:
Jack
Sargeant
NNDM8219
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu:
a) ei fod yn sgandal genedlaethol
bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu yn
2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;
b) bod rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi
methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni osgoi gwiriadau
priodol;
c) y dylai'r rhai sy'n cael eu
gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol gan
gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim.
2. Yn nodi:
a) y cafodd cyflenwad ynni 3.2
miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi rhedeg allan o gredyd ar
eu mesuryddion rhagdalu;
b) y gallai biliau ynni cyfartalog
cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar aelwydydd sydd
eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw.
3. Yn cydnabod cynllun peilot ynni
yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi cyngor rhagweithiol a
chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn perygl o fod, mewn tlodi
tanwydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth
cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y
cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.
Cyfarfod: 31/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a
chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 15 Chwefror:
NNDM8187
Luke Fletcher
Cyd-gyflwynwyr: Mike Hedges, Heledd Fychan, Jane Dodds,
Adam Price, Carolyn Thomas, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth
addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr;
b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru
wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;
c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o
gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau
byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n
gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r
trothwyon.
A'r cynnig canlynol ar 1 Mawrth:
NNDM8131
Sarah Murphy
Cyd-gyflwynydd: Jane Dodds
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio
data biometreg mewn ysgolion ledled Cymru yn peryglu data personol a
phreifatrwydd plant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a
fyddai'n:
a) sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei
gadarnhau o fewn Cymru;
b) sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn
defnyddio technolegau nad ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach
na defnyddio systemau biometrig a allai beryglu diogelwch data biometreg
plant;
c) sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael
cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith;
d) cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata
biometreg;
e) cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y
defnydd cyfredol o ddata biometreg o fewn ysgolion.
Cyfarfod: 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes
- Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 23 Tachwedd:
Jenny
Rathbone
NNDM8130
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cyhoeddi
adroddiad Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru;
b) bod
gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da.
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio
gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy:
(i)
hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol;
(ii)
buddsoddi mewn asedau cymunedol;
(iii) mynd
i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau;
b) cynnwys
y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth
iechyd meddwl yn y dyfodol.
Gyda'n gilydd drwy Adegau Anodd
Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 5 Hydref.
NNDM8074
Mark
Isherwood
Cyd-gyflwynwyr:
Rhun ap
Iorwerth
Sam
Rowlands
Tom Giffard
Mabon ap
Gwynfor
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi:
a) yr
effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw
gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd;
b) bod pobl
ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n
anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu
cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd
teuluol a chymdeithasol;
c) bod
ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr
iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt
fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a
phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt;
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol
ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn:
a)
cryfhau'r canllawiau;
b) darparu
hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn
effeithio arnynt; a
c) darparu
adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu
hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain.
Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 22 Mehefin:
NNDM8018
Mabon ap
Gwynfor
Luke
Fletcher
Buffy
Williams
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
bod Cymru'n gartref i filoedd o grwpiau cymunedol lleol, gyda channoedd yn
rhedeg asedau sylweddol sy'n gwneud eu cymunedau'n lleoedd gwell i fyw ynddynt.
2. Yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae grwpiau
cymunedol wedi'i wneud o ran cefnogi pobl leol drwy heriau'r pandemig.
3. Yn nodi bod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi
cytuno ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y
dylai "ddatblygu rhaglen o rymuso cymunedau ledled Cymru gyda’r sector
gwirfoddol, gan weithredu fel gwladwriaeth alluogi ar gyfer gweithredu
cymunedol".
4. Yn nodi'r rôl bwysig y mae awdurdodau lleol
yn aml yn ei chwarae o ran sicrhau perchnogaeth gymunedol ar asedau, a gweithio
mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i sicrhau menter
gymunedol lwyddiannus.
5. Yn nodi
adroddiad diweddar y Sefydliad Materion Cymreig, Ein Tir: Cymunedau a Defnydd
Tir, a ganfu mai cymunedau Cymru yw'r rhai lleiaf grymus ym Mhrydain ac sy'n
galw am ad-drefnu sylweddol ym maes polisi cymunedol yng Nghymru.
6. Yn nodi
ymhellach adroddiad diweddar Canolfan Cydweithredol Cymru, Tir ac asedau sy’n
eiddo i’r gymuned: galluogi cyflawni tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned
yng Nghymru.
7. Yn nodi
nad oes gan Gymru, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, unrhyw ddeddfwriaeth sy'n
rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol o werth cymunedol.
8. Yn credu
bod galluogi grwpiau cymunedol i gadw adeiladau a thir lleol fel cyfleusterau
cymunedol a'u cefnogi i ddatblygu cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig yn
allweddol i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrddach.
9. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu cyflwr sy'n galluogi
gweithredu cymunedol;
b) edrych i
mewn i'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng
Nghymru.
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol
a Chymunedau: Effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol
Ein Tir: Cymunedau a Defnyddio Tir
A’r cynnig
dilynol ar 13 Gorffennaf:
NNDM8028
Jane Dodds
Carolyn
Thomas
Jack
Sargeant
Luke
Fletcher
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod
nifer sylweddol o weithwyr o Gymru yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd
yn cael eu newid yn sylweddol fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi
ddi-garbon;
b)
pwysigrwydd sicrhau newid teg i economi ddi-garbon;
c) cynllun
peilot incwm sylfaenol parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gadael
gofal.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y
gellid ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol i weithwyr yn y diwydiannau hyn
er mwyn llywio'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon.
Cyfarfod: 03/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynigion a gyflwynwyd a
chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 11 Mai 2022:
NNDM7994
Alun Davies
Cyd-gyflwynwyr
Rhun ap Iorwerth
Samuel Kurtz
Jane Dodds
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua
4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33.
2. Yn nodi ymhellach bod y newyn
hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb
Sofietaidd.
3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl
Wcráin ar ran pobl Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth
o ddioddefaint pobl Wcráin.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w
drafod ar 25 Mai:
NNDM7964
Jack Sargeant
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng
hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei
achosi;
b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn
tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau
i ddadfuddsoddi;
c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu
buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen,
gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau
hyn;
d) bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd
pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil;
e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn
dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i
ddarparwyr cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio
pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net
presennol y sector cyhoeddus.
Cyfarfod: 15/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Mawrth 2022:
NNDM7953
Mike Hedges
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau
ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r
gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn.
Cyd-gyflwynwyr
Rhys ab
Owen
Jane Dodds
Darren
Millar
Wedi’i
gefnogi gan
Alun Davies
Sam
Rowlands
Cyfarfod: 01/03/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol
i’w drafod ar 9 Mawrth 2022:
NNDM7925 Mike Hedges
Cynnig bod y Senedd:
Yn cefnogi datganoli plismona.
Cyd-gyflwynwyr
Alun Davies
Jane Dodds
Delyth Jewell
Rhys ab Owen
Cefnogwyr
Sarah Murphy
Cyfarfod: 18/01/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 26 Ionawr:
NNDM7880
James Evans
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi
y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i gymharu â 129
miliwn yn 2004/05.
2. Yn nodi
ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.
3. Yn
cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal
pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu
cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau
bysiau gwledig;
b) sicrhau
bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer
trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;
c) gwarantu
bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth
gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru;
d)
blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn
achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.
Cefnogwyr:
Rhys ab
Owen
Mabon ap
Gwynfor
Natasha
Asghar
Samuel
Kurtz
Jack
Sargeant
Carolyn Thomas
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 16 Chwefror:
NNDM7881
Rhys ab
Owen
Jane Dodds
Llyr
Gruffydd
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i
bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n
gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan
mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y
cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;
b) y
defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau
nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.
2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis
Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf
yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.
Cefnogwyr
Rhun ap
Iorwerth
Heledd
Fychan
Peredur
Owen Griffiths
Mabon ap
Gwynfor
Sioned
Williams
Cyfarfod: 23/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 1 Rhagfyr:
NNDM7842 Mabon ap Gwynfor
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru.
2. Yn
cydnabod:
a) mai
canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael
diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018).
b) bod
COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru,
gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng Ebrill 2020 a
Mawrth 2021.
c) bod
amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai 61.8
y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad
yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed perfformiad llwybr
canser tybiedig o 75 y cant.
d) hyd yn
oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu sy'n rhoi
diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi,
patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol.
e) heb
fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi
swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd
eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol,
neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau
yn gynnar.
f) bod
Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, a
gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i gefnogi
gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi
ymhellach.
g) mai
Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae
Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad.
3. Yn
croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod
Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i
ddatblygu clinigau diagnostig cyflym.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad
ansawdd ar gyfer canser, gan gynnwys
targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain buddsoddiad cynnydd ar
gyfer staff, offer a seilwaith;
b) mynd i'r
afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a diagnostig;
c) ystyried
sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike Richards o
wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru.
Wedi’i
gefnogi gan:
Sioned
Williams
Rhun ap
Iorwerth
Paul Davies
Jane Dodds
Siân
Gwenllian
Altaf
Hussain
Sam
Rowlands
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 15 Rhagfyr
2021:
NNDM7843 Rhys Ab Owen
Alun Davies
Jane Dodds
Heledd
Fychan
Cynnig bod
y Senedd:
1. Yn
nodi'r cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu
cyflwyno i'r Senedd.
2. Yn
cydnabod bod hyn o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn ceisio defnyddio
deddfwriaeth Senedd y DU i roi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru mewn grym a
Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru ein democratiaeth, erydu'r setliad
datganoli a lleihau pwerau'r Senedd.
3. Yn credu
y dylai'r Senedd roi holl ddeddfwriaeth sylfaenol sylweddol ac arwyddocaol mewn
grym yn hytrach na gwneud hynny drwy'r broses cynigion cydsyniad
deddfwriaethol.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) weithio
gyda Phwyllgor Busnes y Senedd i adolygu'r broses ar gyfer cynigion cydsyniad
deddfwriaethol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben;
b) egluro
egwyddorion pryd y defnyddir cynigion cydsyniad deddfwriaethol;
c) gweithio
gyda'r Llywydd i ofyn am adolygiad brys o'r effaith ar y setliad datganoli a
phwerau'r Senedd o ganlyniad i ddeddfwriaeth y DU.
Cyfarfod: 05/10/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 13 Hydref:
NDM7794
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd
ynni adnewyddadwy wrth geisio lleihau ein hôl-troed carbon.
2. Yn cytuno bod angen
sicrhau fod pob datblygiad ynni yn dod a budd i’r cymunedau lle’u lleolir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, unai drwy reoliadau neu ddeddfwriaeth
newydd, i fynnu bod datblygwyr prosiectau ynni yn gorfod profi budd cymunedol
eu datblygiadau arfaethedig drwy orfod cynnal asesiad effaith cymunedol a
chyflwyno cynllun budd cymunedol fel rhan o’r broses gynllunio.
Cefnogwyr:
Janet
Finch-Saunders
Altaf
Hussain
Tom Giffard
Heledd
Fychan
Sioned
Williams
Luke
Fletcher
Cyfarfod: 21/09/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau - Dewis cynnig ar gyfer dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 83
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 29 Medi:
NNDM7773 Luke Fletcher
Rhun ap
Iorwerth
Paul Davies
Janet
Finch-Saunders
Jenny
Rathbone
Jack
Sargeant
Delyth
Jewell
Altaf
Hussain
Jane Dodds
Rhys ab
Owen
Peredur
Owen Griffiths
Mabon ap
Gwynfor
Sioned A
Williams
Gareth L
Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) effaith sylweddol pandemig COVID-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia yng
Nghymru a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt;
b) pwysigrwydd gofalwyr di-dâl o ran sicrhau bod y system gofal
cymdeithasol yng Nghymru yn gallu gweithredu yn ystod y pandemig.
2. Yn nodi ymhellach yr angen am
ddiagnosis cywir o ddementia i ganiatáu i ofalwyr di-dâl, y systemau iechyd a
gofal cymdeithasol a chyrff a darparwyr gwasanaethau eraill gynllunio
gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gywir, fel y nodir yn y
cynllun gweithredu cenedlaethol ar ddementia.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ariannu ymchwil i ddatblygu dulliau diagnostig cywir i sicrhau bod pobl
sy'n cael diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl
cael diagnosis;
b) ariannu cymorth ôl-ddiagnostig ar gyfer pob math o ddementia ledled
Cymru;
c) sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i sicrhau cywirdeb mewn
data dementia a chasglu, dadansoddi a lledaenu data ar ddementia i bob darparwr
gwasanaeth sy'n dymuno cael gafael ar ddata i helpu i gynllunio a darparu
gwasanaethau dementia ledled Cymru.
Cynllun Gweithredu Cymru
ar gyfer Dementia 2018-22
Cyfarfod: 29/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 86
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 7 Gorffennaf:
NNDM7744
Hefin David
John
Griffiths
Delyth
Jewell
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rôl
sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy
gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r
blaen.
2. Yn nodi pwysigrwydd
busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau
cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein cymunedau
a'n heconomïau lleol.
3. Yn nodi ymhellach yr
anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a
mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a
thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y
flwyddyn.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau
sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y
chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod
ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.
Cyfarfod: 15/06/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 89
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Mehefin:
NDM7704 Huw
Irranca–Davies (Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo
£37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn
ariannol sydd i ddod.
2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol
yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.
3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu nawdd ar ôl COVID-19,
gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar
gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.
4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth
Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:
a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;
b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus
dros wasanaethau bysiau lleol;
c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag
awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a
d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol
ac yn ddiogel i bawb.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar
gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â
chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau
bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.
Cytundeb Gwasanaeth Bysiau - Mawrth 2021
Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021
Cefnogwyr:
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Hefin David
(Caerffili)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Janet
Finch-Saunders (Aberconwy)
Luke
Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Heledd
Fychan (Canol De Cymru)
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Altaf
Hussain (Gorllewin De Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru)
Natasha
Asghar (Dwyrain De Cymru)