Cyfarfodydd
Cynllun Pensiwn AS
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/03/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Fe wnaeth Hefin David ddatgan buddiant fel aelod o’r
Bwrdd Pensiynau.
Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i sefydlu rhwng y
Bwrdd Taliadau, y Comisiwn a’r Bwrdd Pensiynau ac mae gan bob un o’r rhain rôl
yn y gwaith o lywodraethu Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd.
Rhoddwyd gwybod i’r
Comisiynwyr am newidiadau i'r ddogfen er mwyn ei diweddaru, i adlewyrchu'r
cytundeb presennol rhwng y tri pharti a gofynion presennol y Rheoleiddiwr
Pensiynau.
Bu'r Comisiynwyr yn
ystyried y newidiadau i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ac fe’u cymeradwywyd.
Cyfarfod: 17/02/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Cynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd - Rhwymedi McCloud
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
goblygiadau treth posibl a nodwyd yn sgil gweithredu 'rhwymedi McCloud' ar
gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd (“y Cynllun”). Fe'u hysbyswyd y bydd y
tîm pensiynau'n ysgrifennu at yr Aelodau yr effeithir arnynt yn nodi eu hopsiynau
o dan y rhwymedi ac yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'r Aelodau hynny
wneud dewis ynghylch eu buddion pensiwn.
Cyfarfod: 09/12/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Strategaeth Fuddsoddi Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
Hysbyswyd y Comisiynwyr am newid i strategaeth
fuddsoddi Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd, yn dilyn adolygiad tair blynedd
ffurfiol y Bwrdd Pensiynau o’r strategaeth fuddsoddi.
Nododd y Comisiynwyr
fanylion y mater a chytunwyd ar yr ymateb i'r newid arfaethedig.
Bydd y newid yn y
strategaeth yn cael ei gyfleu i holl aelodau’r Cynllun mewn cylchlythyr Aelod.
Bydd Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi’r Cynllun yn cael ei ddiweddaru a bydd
copi yn cael ei ddarparu ar y wefan.
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Cynllun Pensiwn yr Aelodau – adroddiad prisio terfynol gan Adran Actiwari'r Llywodraeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Nododd yr Aelodau yr
adroddiad prisio terfynol gan Adran Actiwari’r Llywodraeth, ac yn unol â'u
llythyr at y Comisiwn fis Medi diwethaf, cadarnhawyd mai 18 y cant fydd cyfradd
cyfraniad y cyflogwr o 1 Ebrill 2024. Bydd y prisiad nesaf yn digwydd ar 1
Ebrill 2026.
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Cynllun Pensiwn yr Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Ystyriodd y Comisiynwyr lythyr gan y Actiwari Cynllun Pensiwn yr Aelodau a nododd
ganlyniadau’r prisiad arferol diweddaraf a’u hargymhelliad ynghylch lefel y
cyfraniadau y dylai’r Comisiwn eu talu i’r Cynllun dros y tair blynedd nesaf.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar eu hymateb i lythyr yr Actiwari.
Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Cynllun Pensiwn yr Aelodau – newid i fuddsoddiadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr newid i strategaeth fuddsoddi Cynllun Pensiwn
Aelodau o’r Senedd, a wnaed gan y Bwrdd Pensiynau.
Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Enwebiad aelod o'r Bwrdd Pensiynau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
Cafodd opsiynau ar
gyfer penodi Ymddiriedolwr Enwebedig y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer
Cynllun Pensiwn yr Aelodau eu cyflwyno i’r Comisiynwyr.
Cytunodd y Comisiynwyr
i enwebu Bob Evans i'w ailbenodi'n Ymddiriedolwr Enwebedig y Comisiwn am dymor
pellach, cyhyd ag y bydd yn parhau'n Gynghorydd Annibynnol y Comisiwn.
Gofynnodd y
Comisiynwyr hefyd i swyddogion ystyried y potensial i ymestyn ei benodiad
presennol fel Cynghorydd Annibynnol, gyda golwg ar y cyfnod o newid sylweddol a
ragwelir ar gyfer gweddill tymor y Chweched Senedd.
Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Newid rheolau cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
fod y Bwrdd Taliadau wedi ysgrifennu am gynnig i newid rheolau’r Cynllun i roi
hyblygrwydd i'r Actiwari, o ran pryd y mae'n rhaid cwblhau a llofnodi'r prisiad
actiwaraidd. Ymgynghorwyd â'r holl Aelodau.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Newid y Bwrdd Pensiwn i strategaeth fuddsoddi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a gafwyd gan y Bwrdd Pensiwn am newid i strategaeth fuddsoddi Cynllun
Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, sef gostwng buddsoddiadau’r Cynllun yn y sector olew
a nwy.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad - datganiad o egwyddorion buddsoddi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
newidiadau yn y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi a wnaed gan Fwrdd Pensiynau
Aelodau’r Cynulliad, yn unol â’r gofynion datgelu newydd
Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Strategaeth Buddsoddi'r Bwrdd Pensiynau
Cofnodion:
Nododd y
Comisiynwyr y strategaeth fuddsoddi a gytunwyd gan y Bwrdd Pensiynau.
Cyfarfod: 19/03/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Gweinyddu Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad - Adroddiad archwilio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
Cofnodion:
Derbyniodd
y Comisiynwyr yr adroddiad archwiliad mewnol o Gynllun Pensiwn yr AC, a’i nodi.
Mae’r archwiliad wedi cofnodi graddfa barn sicrwydd sylweddol sy’n golygu, ar
sail canlyniadau’r gwaith a wneir, fod yr Archwiliad Mewnol yn dod i’r casgliad
bod fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cynllun yn ddigonol ac
yn effeithiol.
Cyfarfod: 26/02/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Prisiad actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Gofynnwyd i’r Comisiynwyr roi eu barn
ynghylch a ddylid mabwysiadu rhagamcanion poblogaeth diweddaraf Swyddfa
Ystadegau Gwladol ar gyfer 2016 i’w defnyddio ym mhrisiad y Cynllun Pensiwn
Aelodau. Cytunwyd y dylid.
Cyfarfod: 27/02/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Aelodaeth o'r Bwrdd Pensiynau
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Llywydd y newid o ran yr aelod o'r Bwrdd Pensiynau a enwebwyd gan y Comisiwn,
o Suzy Davies i Joyce Watson. Roedd y Comisiynwyr eisoes yn ymwybodol o'r
newid, a rhoddwyd cadarnhad fod y llythyr ffurfiol wedi'i anfon at y Bwrdd
Taliadau ar 16 Chwefror.
Cyfarfod: 16/06/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad - Cynrychiolwyr y Bwrdd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
Y Bwrdd Taliadau sy’n gyfrifol am Gynllun Pensiwn yr Aelodau a chyflwynodd
gynllun newydd o fis Mai 2016. Ym mis Tachwedd 2015, cytunodd y Comisiynydd
mai'r Swyddog Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â'r Comisiynwyr, ddylai fod yn
gyfrifol am nodi ac enwebu cynrychiolwyr y Comisiwn i'r Bwrdd Pensiynau newydd.
Ystyriodd y Comisiynwyr argymhellion y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer
cynrychiolwyr y Comisiwn a chytunwyd mai’r Cyfarwyddwr Cyllid a Suzy Davies AC
y dylent fod.
Aelodau eraill y Bwrdd fydd Jill Youds, a benodwyd yn Gadeirydd Annibynnol
yr Ymddiriedolwyr, Mike Hedges (AC presennol, Llafur) a Gareth Jones (cyn Aelod
Cynulliad, Plaid Cymru).
Cyfarfod: 11/11/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am y modd y mae’r Tîm Pensiynau yn
gweithredu’r newidiadau y penderfynodd y Bwrdd Taliadau eu gwneud i Gynllun
Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, ac yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y newidiadau hyn.
Bydd y Bwrdd Pensiynau newydd yn cynnwys:
• Ymddiriedolwr Annibynnol proffesiynol, a fydd
yn cadeirio’r Bwrdd.
• Dau gynrychiolydd a enwebir gan yr Aelodau
presennol ac Aelodau blaenorol.
• Dau gynrychiolydd a benodir gan Gomisiwn y
Cynulliad.
Bydd y Tîm Pensiynau yn trefnu bod pob aelod o'r Bwrdd Pensiynau wedi’i
benodi erbyn mis Mai 2016. Byddant yn ysgrifennu at yr holl aelodau yn gofyn
iddynt a ydynt yn dymuno sefyll fel Ymddiriedolwr a enwebir gan Aelodau, a
gofynnodd y Comisiynwyr a fyddai modd cysylltu â swyddfeydd y grwpiau hefyd.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Swyddog Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â’r
Comisiynwyr, fod yn gyfrifol am nodi ac enwebu cynrychiolwyr y Comisiwn ar y
Bwrdd Pensiynau newydd.