Cyfarfodydd
Ffyrdd o weithio
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/11/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ffyrdd o Weithio - Bae 32
Cofnodion:
Cafodd y
Comisiynwyr ddiweddariad ar gynnydd cyfnod caffael prosiect Bae 32, a nodwyd y
câi Achos Busnes Amlinellol (OBC) ei gyflwyno i'r cyfarfod ar 18 Rhagfyr, ar
gyfer ei gadarnhau. Byddai'r Achos Busnes Amlinellol yn amlinellu'r ateb a
ffefrir. Byddai Cytundeb Cyn-Ddatblygu, i'w lofnodi gyda chyflenwr yr ateb a
ffefrir, yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â'r Achos Busnes Amlinellol, i'w
ystyried a'i gymeradwyo.
Cyfarfod: 22/09/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Hwb - Symleiddio Mynediad at Wasanaethau'r Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
gwaith sy'n cael ei wneud i gyflawni gwelliannau i hwyluso mynediad ar leoliad
at wasanaethau'r Comisiwn i Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd, drwy ddarparu
gofod penodedig.
Cyfarfod: 22/09/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ffyrdd o weithio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Cafodd
y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y tri phrosiect Ffyrdd o Weithio mawr,
sef: Bae Caerdydd 32, Siambr 2026 a Tŷ Hywel 2026.
Rhoddodd
y Comisiynwyr gymeradwyaeth mewn egwyddor (yn amodol ar ystyried papur manwl yn
ddiweddarach yn y flwyddyn) i'r cynllun i ymrwymo i Gytundeb Cyn-datblygu gyda
chyflenwr y datrysiad a ffefrir ar gyfer y llety yn y dyfodol fel rhan o
brosiect Bae 32.
Fe wnaethant ystyried ymhellach y catalog gofynion
Bae 32 wedi'i ddiweddaru, a'r newidiadau a wnaed ers ystyried y catalog
ddiwethaf, a'r rhesymeg dros y mireinio hwn. Bydd y gofynion yn cael eu darparu
i'r tendrwyr ym mhroses deialog gystadleuol Bae 32, i lywio cyflwyniad eu
cynigion terfynol ym mis Hydref.
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y catalog gofynion wedi'i ddiweddaru ar gyfer proses gaffael Bae
32, gan gynnwys y diwygiadau a nodir, i'w ddarparu i’r tendrwyr cyn eu
cyflwyniadau terfynol.
Cyfarfod: 22/09/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Siambr 26 - Paneli acwstig ac opsiynau eistedd i’r Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Adolygodd y Comisiynwyr yr opsiynau a gynigwyd
ar gyfer y paneli acwstig a'r seddi yn Siambr y Senedd sydd newydd ei
hadnewyddu, a chadarnhawyd y dewis a ffefrir i brynu 110 o gadeiriau tasgau
Humanscale Freedom ar gyfer seddi'r Aelodau.
Byddai angen profion
ychwanegol brys ar y paneli acwstig a byddai'r opsiwn terfynol arfaethedig yn
cael ei gyflwyno i'r Comisiynwyr y tu allan i'r cyfarfod.
Cyfarfod: 14/07/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Ffyrdd o Weithio - Diweddariad Bae 2032
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Cafodd y Comisiwn y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiect Bae 32, a'r camau sy'n arwain at y
Comisiwn yn cymeradwyo’r cynigydd llwyddiannus ym mis Rhagfyr.
Cyfarfod: 28/04/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ffyrdd o Weithio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Fel
rhan o’r gwaith o ehangu Siambr y Senedd, bydd rhaid symud y gwaith celf a
elwir yn ‘Calon Cymru’ er mwyn galluogi’r gwaith strwythur a sylfaen sydd ei
angen er mwyn ehangu’r Siambr i gynnwys 96 o Aelodau. Nodwyd y byddai angen
ymgynghori â'r artist a gynhyrchodd y darn yn dilyn unrhyw benderfyniad.
Adolygodd
y Comisiynwyr yr opsiynau a ystyriwyd ar gyfer Calon Cymru a:
·
chymeradwywyd opsiwn
1, sef tynnu’r gwaith celf yn ei gyfanrwydd ac unioni’r lloriau; a
·
gosod y gwaith celf yn
ofalus mewn storfa (oni bai ei fod wedi’i ddifrodi yn ystod y broses symud) a
thrafod y camau nesaf ymhellach ar ôl asesu ei gyflwr.
Cyfarfod: 28/04/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Polisi Gweithio Hybrid Staff y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
bolisi staff newydd y Comisiwn ar weithio hybrid, yn ogystal â'r cyd-destun
sy'n golygu bod angen cyflwyno'r polisi hwn. Caiff y polisi ei gyhoeddi ar
fewnrwyd y staff.
Cyfarfod: 24/03/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ffyrdd o Weithio - Prosiect Bae 32
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y broses cyn-gymhwyso’r contract ar gyfer
prosiect Bae 32, a’r amserlen ddangosol ar gyfer y broses o ran deialog
gystadleuol.
Nododd Hefin David fod
y Pwyllgor Cyllid yn cynnal sesiynau craffu cyhoeddus a phreifat ar brosiect
Bae 32 ar 27 Mawrth.
Trafododd y
Comisiynwyr yr amserlen ar gyfer y prosiect, ac fe’u hatgoffwyd, pe bai adeilad
newydd yn opsiwn a ffefrir, byddai angen ei gwblhau erbyn 2030 ar gyfer ei
feddiannu yn 2032. Nodwyd hefyd fod yr amserlen bresennol yn rhagweld y
byddai’r Comisiwn yn gwneud penderfyniad ar yr ateb a ffefrir erbyn diwedd y
flwyddyn galendr 2025; nid oedd modd hyd yma i lunio’r amserlen ar gyfer y
camau nesaf yn dilyn y penderfyniad hwnnw, yn arwain at ddyfarnu’r contract,
gan y byddai’n dibynnu ar natur a chyd-destun y penderfyniad o ran yr ateb a
ffefrir, nad oedd modd ei ragweld eto.
Nododd y Comisiynwyr
gynnydd y prosiect.
Cyfarfod: 09/12/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ffyrdd o Weithio - Bae 2032
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr brosiect llety Bae 2032 mewn dwy ran, sef yr achos
busnes amlinellol a’r broses gaffael. Roedd Saurabh Das o Avison Young yn
bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’r achos busnes amlinellol.
Achos busnes amlinellol
Cafodd y Comisiynwyr sicrwydd fod proses
Llyfr Gwyrdd y Trysorlys / Llywodraeth Cymru yn cael ei dilyn wrth ddatblygu
prosiect Bae 2032 i sicrhau llywodraethu cadarn.
Cyflwynwyd tri opsiwn fel rhan o'r achos
busnes amlinellol – A. Ôl-ffitio Tŷ Hywel, B. Cyfleuster newydd ar un
safle, a C. Cyfleuster a adeiledir o’r newydd yn rhannol ond sydd hefyd yn
defnyddio adeilad sydd eisoes yn bodoli.
Ystyriwyd bod yr opsiynau hyn yn debygol o
fodloni’r dyheadau a’r gofynion o ran gofod a nodwyd yn yr achos strategol
amlinellol a gymeradwywyd gan y Comisiwn ym mis Ionawr 2024 ac a oedd wedi’i
ddiweddaru a’i brofi drwy’r broses o lunio’r achos busnes amlinellol. Ni nodwyd
unrhyw opsiwn a ffefrir yn yr achos busnes amlinellol oherwydd natur gymhleth y
prosiect a'r angen am broses gystadleuol gref.
Nododd y Comisiynwyr y cyngor a gafwyd gan
CBRE ac Avison Young, partneriaid yn y
prosiect, fod yr amserlenni ar gyfer ymgysylltu â’r farchnad yn dynn iawn, ac y
dylid ystyried diwedd Ionawr 2025 fel y dyddiad olaf un i gadw at amserlenni’r
prosiect a nodwyd yn yr achos busnes amlinellol.
Cymeradwyodd y Comisiwn yr achos busnes
amlinellol.
Caffael
Cytunodd y Comisiynwyr i oedi’r penderfyniad
i symud i’r cam caffael. Ni fyddai’r penderfyniad hwn yn cael ei wneud nes bod
rhagor o waith ymgysylltu wedi’i wneud â rhanddeiliaid allweddol.
Nododd y Comisiynwyr y byddai’r Llywydd yn
ymgynghori ag arweinwyr y grwpiau gwleidyddol ac y byddai trafodaethau
ychwanegol gan y Comisiwn yn cael eu trefnu yn ôl yr angen.
Nododd y
Comisiynwyr y cyngor cyfreithiol a gafodd swyddogion y Comisiwn mewn perthynas
â'r Hysbysiad Contract.
Cyfarfod: 09/12/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ffyrdd o weithio - Siambr 2026
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y cynlluniau terfynol ar gyfer ehangu Siambr y
Senedd wrth baratoi i letya 96 o Aelodau yn dilyn Etholiadau 2026. Cawsant y
wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith dylunio manwl a wnaed gan Rogers Stirk
Harbour & Partners hyd yma fel rhan o brosiect Siambr 26. Nodwyd bod gwaith
ymgysylltu helaeth wedi’i wneud â’r Aelodau, a hynny ar sail unigol ac ar y
cyd.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai cynigion ar gyfer disodli Calon Cymru yn
cael eu datblygu a’u rhannu â’r Comisiynwyr a’r Aelodau eraill maes o law.
Nododd y Comisiynwyr
hefyd y bydd rhagor o fanylion am ddyluniad arfaethedig y wal gefn acwstig
newydd yn cael eu cyflwyno i'r Comisiwn yn y flwyddyn newydd. Rhoddodd y
Comisiynwyr eu caniatâd i’r prosiect symud ymlaen i'r cam tendro ar gyfer y
gwaith adeiladu.
Cyfarfod: 25/10/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ffyrdd o Weithio - Tŷ Hywel
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr grynodeb o’r gwaith diweddar ar
brosiect Tŷ Hywel 26 a thrafodwyd opsiynau terfynol ar gyfer creu’r 36 o
swyddfeydd Aelodau newydd yn adeilad Tŷ Hywel, er mwyn galluogi caffael ar
gyfer y prosiect a dechrau’r gwaith yn y flwyddyn
ariannol bresennol.
Nododd y Comisiynwyr y
gwaith a'r ymgysylltu a wnaed hyd yma. Codwyd nifer o bwyntiau ganddynt i
gefnogi bod y ddarpariaeth yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer anghenion fel
hygyrchedd corfforol, i gefnogi niwroamrywiaeth, ac i ddarparu amrywiaeth o
gynigion i ddiwallu anghenion Aelodau'r dyfodol. Cytunwyd ar yr opsiynau a
argymhellir ar gyfer creu
- swyddfeydd Aelodau ychwanegol mewn model 'cynllun
agored' ar lawr 3A (opsiwn 1); a
'swyddfeydd sengl
safonol' ar 2A yn Nhŷ Hywel (opsiwn 3).
Cyfarfod: 15/07/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad ar ddyluniad Siambr 2026
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
- Cyfyngedig 38
- Cyfyngedig 39
Cofnodion:
Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed hyd yma yn
dilyn penodi’r cyflenwr gwasanaethau pensaernïol, Rogers Stirk Harbour
Partnership (RSHP), i weithio gyda Chomisiwn y Senedd ar brosiect Siambr
2026.
Roedd hyn yn cynnwys y cynllun i ehangu’r Siambr
ar gyfer 96 o Aelodau a chamau nesaf y prosiect, opsiynau TGCh ar gyfer
y Siambr ac ystyriaethau diogelwch.
Nododd y Comisiynwyr y gwaith a
wnaed hyd yma ar y cynllun i ehangu’r Siambr i gynnwys 96 o Aelodau a chamau
nesaf y prosiect.
Cytunwyd i ymgysylltu’n ehangach ag aelodau
o’u grwpiau mewn perthynas â’r gwydr yn yr oriel gyhoeddus, gan nodi cynnwys y
papur mewn perthynas â’r materion diogelwch cysylltiedig.
Gwnaethant gymeradwyo’r tybiaethau o ran TGCh a nodwyd yn
y papur ac i ddewis y
Grŵp Cyfeirio o blaid Opsiynau 2 a 3 gael ei lunio'n fanylach cyn gwneud
penderfyniadau yn y dyfodol, gan ddiystyru Opsiynau 1 a 4 ar gyfer gwaith
pellach.
Cytunodd y Comisiynwyr
i Siambr Hywel gael ei defnyddio fel Siambr dros dro ar gyfer y Cyfarfod Llawn
tra bo gwaith i addasu Siambr y Senedd yn mynd rhagddo, gan beidio â defnyddio
Siambr Hywel ar gyfer unrhyw weithgareddau heblaw’r Cyfarfod Llawn yn ystod y
cyfnod dan sylw.
Cyfarfod: 15/07/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diweddariad Opsiynau Tŷ Hywel 2026
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr grynodeb o’r gwaith a gwblhawyd ar
brosiect Tŷ Hywel 26 i ddarparu llety seneddol ar gyfer 96 o Aelodau, a
chamau nesaf y cynlluniau dros y misoedd nesaf.
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad, y deialog parhaus â
Llywodraeth Cymru rhanddeiliaid yn y cyfryngau, y newidiadau arfaethedig i'r
adeiladau a ddefnyddir gan wasanaethau'r Comisiwn (gan gynnwys gweithgarwch
gweithredu arfaethedig) a'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau a'r opsiynau
ar gyfer swyddfeydd Aelodau ychwanegol a'r camau nesaf.
Bydd ymgynghori
pellach yn digwydd ar ôl toriad yr haf gyda chynigion terfynol ar gyfer
swyddfeydd yr Aelodau newydd yn cael eu cyflwyno i'r Comisiwn yn gynnar yn
nhymor yr hydref i'w hystyried a'u cymeradwyo.
Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y broses gaffael
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Ar ôl cytuno ar y strategaeth
gaffael, cytunodd y Comisiynwyr ar broses gaffael benodol, o dan y rheoliadau caffael
cyhoeddus, a fyddai’n bodloni egwyddorion y strategaeth ac yn darparu modd i
gyflawni’r amcanion perthnasol. Cafodd y Comisiynwyr ragor o wybodaeth am
gwmpas arfaethedig y contract, yn ogystal ag asesiad risg cychwynnol,
gwybodaeth lefel uchel am y broses gaffael ar gyfer y prosiect ac amserlen
ddangosol ar gyfer y camau nesaf.
Trafododd y Comisiynwyr
baramedrau’r amserlen ar gyfer cyflawni’r prosiect hwn, sydd wedi’i ysgogi gan
ddiwedd prydles bresennol Tŷ Hywel yn 2032.
Cytunwyd y dylid gweithredu ar
gam cyntaf y broses gaffael, sef cyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar
gyfer y prosiect, cyn gynted ag y bo’n ymarferol (siŵr o fod ganol mis
Chwefror 2024). Byddai hyn yn helpu i lywio’r broses gaffael gyffredinol ar
gyfer datrysiad o ran llety erbyn 2032.
Nododd y Comisiynwyr y camau
dilynol arfaethedig yn y broses gaffael gyffredinol ar gyfer y prosiect, yn
seiliedig ar gyngor cyfreithiol cychwynnol, a oedd yn cynnwys y prif elfennau a
ganlyn:
- cynnal ymarfer caffael cystadleuol i gyflawni prosiect Bae
2032;
- y byddai'r ymarfer caffael cystadleuol yn canolbwyntio ar
Fanyleb Seiliedig ar Allbwn, a fydd yn nodi anghenion a gofynion y Comisiwn.
- y bydd yr ymarfer caffael cystadleuol yn cael ei gynnal
mewn pedwar cam.
Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cynnydd hyd yma ac amlinelliad o'r strategaeth gaffael
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect hyd yma, gan nodi’r llwybr lefel
uchel dangosol presennol ar gyfer cyflawni’r prosiect, yn ogystal â lefel yr ansicrwydd
sy’n rhan annatod o gamau nesaf prosiect o’r math hwn.
Cytunodd y Comisiynwyr ar y
strategaeth gaffael amlinellol ar gyfer prosiect Bae Caerdydd 2032, a fydd yn
llywio’r gwaith caffael cyffredinol ar gyfer datrysiad llety Bae 2032, gan
gynnwys y broses gaffael benodol a’r llwybr a ddilynir.
Nododd y Comisiynwyr yr angen hanfodol i gadw'r tensiwn
cystadleuol rhwng y cyfleoedd am ddatblygiad newydd a'r cyfleoedd i adnewyddu,
er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian i’r cyhoedd.
Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Ffyrdd o Weithio: Prosiect Bae 2032
Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ffyrdd o Weithio: Prosiect y Siambr 2026
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y broses
dendro a’r gwerthusiad a gynhaliwyd i benodi cyflenwr gwasanaethau pensaernïol
i weithio gyda Chomisiwn y Senedd ar brosiect y Siambr 2026.
Cytunodd y Comisiynwyr ag argymhelliad y panel gwerthuso
y dylid penodi Rogers Stirk Harbour Partnership (RSHP), sef enw newydd y
Richard Rogers Partnership, i ddatblygu'r opsiwn a'r dyluniad a ffefrir ar
gyfer Siambr fwy i wneud lle ar gyfer 96 o Aelodau mewn ymateb i’r gwaith ar
Ddiwygio’r Senedd, yn amodol ar gytuno ar y telerau ac amodau terfynol gyda
RSHP.
Hefyd, trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd sicrhau bod
gwybodaeth ar gael iddynt ei rhannu ag aelodau eu grŵp, a chawsant wybod
am aelodaeth arfaethedig y grŵp cyfeirio, y byddai’n cynnwys aelod o bob
grŵp, ochr yn ochr ag aelodau’r Comisiwn.
Cytunwyd y byddai uwch
swyddogion yn mynd i gyfarfod y grwpiau gwleidyddol unigol, petaent yn cael eu
gwahodd i wneud hynny, i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y prif brosiectau
sy’n gysylltiedig â’n ffyrdd o weithio, ac y byddai pecyn gwybodaeth yn cael ei
lunio i ateb unrhyw gwestiynau sy’n codi.
Cyfarfod: 11/12/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ffyrdd o Weithio - Tŷ Hywel 2026
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
Ystyriodd y Comisiynwyr ragdybiaethau cynllunio drafft a
gynigiwyd i lywio darpariaeth ar gyfer yr anghenion a fyddai'n deillio o nifer
uwch o Aelodau.
Mae cynigion Diwygio’r Senedd i gynyddu maint y Senedd i
96 o Aelodau yn golygu bod angen addasu Tŷ Hywel i ddarparu lle priodol ar
gyfer yr anghenion yn sgil cynnydd yn nifer yr Aelodau, a’u staff cymorth, a
darparu lle priodol hefyd i staff y Comisiwn, a digon o le ar gyfer nifer uwch
o swyddfeydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y rhagdybiaethau cynllunio arfaethedig ar gyfer prosiect Tŷ
Hywel 2026 ac amserlen lefel uchel i’w mabwysiadu fel man cychwyn i alluogi
datblygu opsiynau a chynigion manylach. Fe wnaethant nodi yr hoffent roi
ystyriaeth fanylach i’r opsiynau a'r cynlluniau cychwynnol a manwl mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 11/12/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ffyrdd o Weithio - Bae 2032
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
- Cyfyngedig 60
- Cyfyngedig 61
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr
bapur a chyflwyniad yn nodi Achos Amlinellol Strategol (SOC) ar gyfer anghenion
ystad Bae y Comisiwn yn y dyfodol. Mae'n bosibl mai hwn yw'r prosiect mwyaf a
mwyaf cymhleth i’r Comisiwn ymgymryd ag ef. Byddai'n sicrhau anghenion lle o
ran swyddfeydd tymor hir y Senedd, y Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn y Bae, ger
adeilad y Senedd ei hun. Paratowyd yr Achos Amlinellol Strategol gan
ymgynghorwyr eiddo proffesiynol y Comisiwn (Avison Young).
Roedd y Comisiwn wedi
cytuno i ddilyn proses 'Llyfr Gwyrdd' Trysorlys EF / Llywodraeth Cymru. O fewn
y broses honno, Achos Amlinellol Strategol yw cam cyntaf methodoleg achos
busnes tri cham sy'n addas ar gyfer prosiectau o'r cymhlethdod hwn a'r gost hon.
Cymeradwyodd y Comisiwn Achos Amlinellol Strategol y Bae 2032, sy'n rhoi
mandad i swyddogion y Comisiwn symud prosiect Bae 2032 i’w gam nesaf, drwy
ddatblygu Achos Busnes Amlinellol a gweithio ymhellach ar y fersiwn gychwynnol
o’r ffordd ymlaen a ffefrir a nodir yn yr Achos Amlinellol Strategol o ran
datblygu cyfleuster newydd ar blot Sgwâr y Cynulliad y drws nesaf. Nododd y
Comisiynwyr nad yw'r Achos Amlinellol Strategol yn ceisio nac yn gofyn am
unrhyw benderfyniad ar unrhyw opsiwn llety gan y Comisiwn, ac y byddai
ystyriaethau o'r fath yn codi yn ddiweddarach yn y broses. Cytunwyd y dylid
paratoi nodyn briffio gwybodaeth ar gyfer yr Aelodau maes o law.
Nododd y Comisiynwyr hefyd y byddai datblygu'r Achos Busnes Amlinellol yn
ei gwneud yn ofynnol i gaffael gwasanaethau proffesiynol allanol i’w ddrafftio
ac yna sicrhau ei ansawdd, ac y byddai cynigion yn hyn o beth yn cael eu
hystyried gan y Bwrdd Gweithredol maes o law.
Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Ffyrdd o Weithio – Datblygiad Dylunio Prosiect Siambr 26
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 64
Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr am y prosiect a’r gwaith
sydd ar y gweill i ddatblygu’r opsiwn a’r dyluniad a ffefrir ar gyfer Siambr
gynyddol ar gyfer 96 Aelod, ar gyfer y Seithfed Senedd.
Cytunwyd ar y weledigaeth lefel uchel a’r cwmpas ar gyfer
y prosiect, i alluogi’r gwaith o gaffael gwasanaethau dylunio a phensaernïol i
ddechrau ym mis Hydref, ar y sail y dylai gwaith archwilio ystyried yn eang y
posibiliadau o fewn ffiniau senedd gylchol, a bod gofynion o ran hygyrchedd i'w
cynnwys yn y fanyleb, ac y dylai tendrau ar gyfer gwasanaethau dylunio a
phensaernïol fynd y tu hwnt i faterion hygyrchedd ffisegol.
Nododd y Comisiynwyr y
gwaith arfaethedig ar gyfer y prosiect, a chroesawyd y ffaith y byddai
grŵp cyfeirio o Aelodau yn cymryd rhan yn yr hyn a fyddai’n broses
ailadroddol, a fyddai’n dychwelyd i’r Comisiwn ar gyfer penderfyniadau, ar yr
adeg briodol.
Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ffyrdd o Weithio - Diweddariad Bae 2032
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 67
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y gwaith sydd ar y gweill
i ddatblygu'r opsiynau strategol ar gyfer llety yn y dyfodol fel rhan o
brosiect Bae 2032. Nodwyd y wybodaeth gefndir, y gwnaethant gais amdani, mewn
perthynas â chyfleoedd blaenorol o ran yr ystâd a ystyriwyd gan y Comisiwn a'i
ragflaenwyr.
Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad ac amserlenni ar gyfer dyfodol y prosiect (fel sy'n hysbus ar hyn o
bryd), gan gynnwys penderfyniadau a fydd yn ofynnol yn 2023-2024 a’r angen i
ymgysylltu ag Aelodau’n ehangach.
Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Ffyrdd o Weithio - Diweddariad Swyddfa Gogledd Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 70
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad bod adleoli cyfleusterau a gwasanaethau Comisiwn y Senedd a
ddarperir yn swyddfa Bae Colwyn i swyddfa yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn
Sarn Mynach (Cyffordd Llandudno) wedi’i gwblhau.
Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad Ffyrdd o Weithio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 73
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad am gyfeiriad a chynnydd eu rhaglen
newid mawr 'Ffyrdd o Weithio', wrth i'r gwaith symud y tu hwnt i gyfnod y
Cynllun Gweithredu Cychwynnol i'w gyfnod cyflawni strategol.
Cyfarfod: 22/05/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ffyrdd o Weithio – Opsiynau strategol ar gyfer prosiect Bae 2032
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 76
- Cyfyngedig 77
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar gyngor proffesiynol cychwynnol
ynghylch opsiynau hyfyw sicrhau llety sy'n diwallu anghenion hirdymor y Senedd a'r Comisiwn. Roedd
y cyngor yn seiliedig ar yr anghenion a'r gofynion drafft y cytunwyd arnynt ym
mis Rhagfyr 2022.
Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd ystyriaethau datblygu cynaliadwy a
chyfle cyfartal ynghyd â phwysigrwydd cael safbwynt hirdymor ar werth i bwrs y
wlad.
Cytunodd y Comisiynwyr yn unfrydol y dylai swyddogion fwrw ymlaen â'r
opsiynau prosiect ar y rhestr fer a bwrw ymlaen â drafftio cam cyntaf yr achos
busnes ar gyfer prosiect Bae 2032 (yr Achos Amlinellol Strategol) ar sail y
cyngor a ddarparwyd.
Cytunodd y Comisiynwyr
i gael diweddariad yng nghyfarfod mis Gorffennaf, ynghylch cynnydd o ran
archwilio'r holl opsiynau.
Cyfarfod: 22/05/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad ar Adleoli Swyddfeydd y Gogledd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
gynnydd y prosiect i adleoli cyfleusterau a gwasanaethau Comisiwn y Senedd a
ddarperir yn swyddfa Bae Colwyn i swyddfa yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn
Sarn Mynach (Cyffordd Llandudno).
Cyfarfod: 30/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen Ffyrdd o Weithio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 83
Cofnodion:
A - Cyflwyniad - Themâu sy’n dod i’r amlwg ar ôl ymgysylltu â’r Aelodau ynghylch Ffyrdd o
Weithio
Cyflwynwyd gwybodaeth i'r Comisiynwyr am y themâu a oedd
yn dod i'r amlwg ar ôl ymgysylltu â’r Aelodau ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr -
proses a gynhaliwyd ar y cyd â'r Bwrdd Taliadau.
Diben y broses oedd cael dealltwriaeth well o anghenion
yr Aelodau o ystyried eu ffyrdd o weithio yn y tymor canolig i’r hirdymor.
Cyflwynwyd barn yr aelodau ar ffurf pum prif thema:
· Rhaglen Ffyrdd o Weithio - themâu cyffredinol
· Gwasanaethau’r Comisiwn
· Cyflogau a Lwfansau
· Canolfannau gwaith
· Diwygio’r Senedd
Trafododd y Comisiynwyr gryfder y teimladau mewn
perthynas â rhai meysydd, ac roedd barn yr Aelodau am y syniad o sefydlu
canolfannau fel swyddfeydd y gallent eu rhannu’n un enghraifft o gynnig na
fyddai’n fuddiol i’r Comisiwn fwrw ymlaen ag ef. Tynnwyd sylw at y gwahaniaeth
rhwng y math o 'ganolfan' a oedd yn cael ei thrafod yn gyffredinol ymysg yr
Aelodau, a lleoliadau y gallai’r Comisiwn eu darparu, fel hwnnw yn y Gogledd, a
oedd yn caniatáu i staff y Comisiwn weithio mewn rhannau o Gymru heblaw'r ystâd
ym Mae Caerdydd.
Roedd y Comisiynwyr o’r farn bod casgliadau’r broses yn
ddiddorol, ac roeddent yn cydnabod y byddai rhai agweddau ar y cyflwyniad yn
arbennig o ddefnyddiol i’r Bwrdd Taliadau o ystyried ei flaenraglen waith
arfaethedig. Dywedodd y Comisiynwyr ei
bod yn ymddangos bod angen rhoi sylw pellach i rai materion a oedd yn bwysig
i'r garfan bresennol o Aelodau, er enghraifft ffactorau a allai ddylanwadu ar
allu Aelodau i gadw staff.
Yn ogystal â'r rhoi adborth i’r rhai a fyddai'n
defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i lywio gwasanaethau a chymorth yn y dyfodol,
cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n ddefnyddiol rhoi adborth ehangach i'r
Aelodau. Cytunwyd y dylid paratoi nodyn.
B - y diweddaraf am symud y swyddfa yng Ngogledd Cymru
Nododd y Comisiynwyr
fod gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau’r drwydded gyda Llywodraeth Cymru ac y
bydd y brydles bresennol yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023. Cafodd y Comisiynwyr
y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y
lle ar gyfer Comisiwn y Senedd yn y dyfodol yn annibynnol drwy osod yr
arwyddion priodol yn Sarn Mynach.
Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ffyrdd o Weithio - swyddfa Gogledd Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 86
- Cyfyngedig 87
- Cyfyngedig 88
- Cyfyngedig 89
Cofnodion:
Fel rhan o’r Rhaglen Ffyrdd o Weithio, trafododd y
Comisiynwyr yr achos busnes dros ddarparu’r cyfleusterau sydd ar gael ar hyn o
bryd i staff ac Aelodau yn swyddfa’r Comisiwn ym Mae Colwyn drwy gytundeb
trwydded cydleoli gyda Llywodraeth Cymru yn ei swyddfa yn Sarn Mynach (Cyffordd
Llandudno).
Roedd yr achos busnes yn nodi'r achos dros newid; cwmpas,
amcanion, anghenion busnes a'r hyn y gellir ei gyflawni; a rhestr fer o
opsiynau ynghyd â'r costau a gwerthusiad.
Trafododd y Comisiynwyr yr angen i ofalu am staff, yn
ogystal â’r goblygiadau i ddefnyddwyr eraill y swyddfeydd, gan gynnwys Aelodau
a'r cyhoedd. Hefyd, trafodwyd pwysigrwydd cael swyddfeydd y tu allan i
Gaerdydd, a gallu cynnig swyddi ar ran y Senedd mewn rhannau eraill o Gymru.
Daethant i’r casgliad y dylid pwysleisio annibyniaeth y swyddfa ar Lywodraeth
Cymru, gan gynnwys drwy frandio priodol, ac y dylid cyfathrebu’r newid yn glir
ynghyd â gwella’r wybodaeth sydd ar gael am y ffyrdd y gellir defnyddio’r
gofodau. Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu yn dilyn trafodaethau manylach.
Cytunodd y Comisiynwyr i arfer y cymal terfynu ym
mhrydles Swyddfa Gogledd Cymru (Prince's Park) a symud swyddfa’r Comisiwn yng
Ngogledd Cymru. Byddai'r lleoliad newydd yn darparu man gwaith ar wahân ac
ystafell gyfarfod hybrid, gyda storfa a chegin, yn ogystal â mynediad at ystod
o gyfleusterau ar y cyd.
Yn amodol ar gyngor
cyfreithiol a chyngor proffesiynol y gwasanaeth ystadau, disgwylir y byddai’r
newid yn digwydd ym mis Mehefin 2023.
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ffyrdd o weithio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 92
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
gynnydd y prosiect, y prif risgiau o ran cyflawni a'r camau nesaf. Hefyd,
trafododd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud ag opsiynau hirdymor ar gyfer ystâd
Tŷ Hywel ar ôl i’r brydles ddod i ben yn 2032, gan nodi y byddent yn gofyn
am gyngor proffesiynol, wedi’i lywio gan drafodaethau’r Comisiwn. Cytunwyd y
dylid cynnwys pob opsiwn at ddiben gofyn am gyngor ac y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda
swyddogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r safle ger y Senedd.
Cyfarfod: 09/05/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ffyrdd o weithio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 95
Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad i’r Comisiynwyr am y cynnydd a wnaed o ran cyflawni
Cynllun Gweithredu Interim Ffyrdd o Weithio a materion a risgiau cysylltiedig.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid gwneud gwaith paratoi a gweithgarwch
ymgysylltu rhesymol, fel y nodir yn yr adroddiad, i lywio penderfyniadau yn
ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yna ar gyfer y tymor canolig i'r tymor hwy, mewn
perthynas â ffyrdd o weithio.
Roeddent yn cefnogi'r bwriad i gynnal yr ymarfer ymgysylltu ehangach mewn
cydweithrediad â'r Bwrdd Taliadau Annibynnol.
Nododd y Comisiynwyr
wybodaeth hefyd am y model amlinellol y cytunodd y Bwrdd Gweithredol arno o ran
rheoli’r ffordd y bydd staff y Comisiwn yn dychwelyd i'r ystâd. Roedd hwn yn
nodi egwyddorion trefnu presenoldeb yn seiliedig ar weithgareddau a
hierarchaeth o ran anghenion busnes.