Cyfarfodydd
Goblygiadau COVID-19 ar Gomisiwn y Senedd a gwasanaethau i Aelodau'r Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Salwch trosglwyddadwy / Mesurau gwytnwch y gaeaf ar Ystâd y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
yr ymrwymiad i fesurau rheoli risg i gefnogi lles cyffredinol, hylendid a
lleihau clefydau trosglwyddadwy; y bydd y Comisiwn yn gweithredu o dan y
mesurau rheoli risg cyffredinol a nodwyd yn hytrach na mesurau penodol
COVID-19; ac yn ystod tymor yr Hydref, bydd brîff gwylio yn cael ei gadw ar
gyfraddau cymunedol COVID-19 ac absenoldeb staff sy'n gysylltiedig â COVID-19 i
asesu a oes angen ailgyflwyno'r mesurau Isel, Canolig neu Uchel o’r Fframwaith
COVID-19.
Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y fframwaith y cytunwyd arno gan y Bwrdd
Gweithredol ar gyfer mesurau rheoli risg COVID-19, a fyddai’n caniatáu i’r
sefydliad ymateb mewn ffordd ystwyth i unrhyw newidiadau yn y dyfodol i
gyd-destun COVID-19. Gallai hyn gynnwys canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru
neu newidiadau i gyfraddau achosion cymunedol, a byddai’n ffurfio rhan o
baratoadau ar gyfer trefniadau parhad busnes wrth edrych tuag at dymor
firysau’r gaeaf. Croesawodd y Comisiynwyr y lefelau da o wybodaeth a ddarparwyd
i gydymffurfio â gofynion y Comisiwn ar gyfer presenoldeb ar y safle.
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau
diogelwch a dulliau gweithredu ar yr ystâd. Trafodwyd goblygiadau’r gyfradd
uchel o achosion yn y gymuned ar hyn o bryd, a nodwyd ei bod yn bwysig bod
unrhyw un sy’n dymuno gwisgo gorchuddion wyneb yn teimlo’n gyfforddus i wneud
hynny.
Nodwyd ei bod yn
ddoeth parhau’n wyliadwrus a chytunwyd y byddai'n ddefnyddiol ailgyflwyno’r
cyngor i holl ddefnyddwyr yr ystâd.
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Llythyrau’r Pwyllgor Cyllid/Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - COVID
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
ddiweddariad terfynol y Pwyllgorau ar oblygiadau ariannol pandemig COVID-19
mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021-22.
Cyfarfod: 14/03/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Diweddariad ynghylch Covid
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y gwaith sy'n cael ei wneud ar yr asesiad Risg
Corfforaethol mewn ymateb i'r newidiadau diweddaraf i'r fframwaith rheoleiddio
Covid a'r newidiadau a ragwelir.
Trafodwyd pwysigrwydd
parhau i fod yn weddol ofalus ac arwyddocâd y cymorth a roddir i bobl sy'n
gweithio ar yr ystâd.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad Covid
Cyfarfod: 13/12/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Cofnodion:
Hysbyswyd y Comisiynwyr am ddatblygiadau mewn perthynas â gwasanaethau'r
Comisiwn, a nodwyd y byddai busnes y Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal yn
rhithwir yn ystod yr wythnos i ddod, a bod y Senedd ar gau i’r cyhoedd.
Cadarnhawyd y byddai’r Aelodau a’u staff yn parhau i allu cael mynediad i
Dŷ Hywel at ddibenion busnes, neu pan fo anghenion o ran llesiant os yw eu
hamgylchiadau’n golygu nad ydynt yn gallu gweithio’n effeithiol gartref.
Cytunodd y Comisiynwyr, yng ngoleuni'r sefyllfa iechyd cyhoeddus presennol,
y dylid gohirio neu ganslo digwyddiadau ar yr ystâd am y cyfnod hyd at hanner
tymor mis Chwefror.
Gwnaethant gytuno i
ail-ystyried y sefyllfa hon yn eu cyfarfod ar 31 Ionawr.
Cyfarfod: 27/09/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth am y diweddariad diweddaraf i’r rheoliadau
COVID-19. Fe wnaethant drafod y wybodaeth sydd ar gael am y niferoedd sy’n
defnyddio profion llif unffordd ar gyfer dod i’r safle.
Trafododd y Comisiynwyr y bwriad i atgyfnerthu negeseuon am y mesurau sydd
ar waith i gadw'r ystâd yn ddiogel ac i leihau'r effeithiau ar barhad busnes.
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a rhoddodd sylwadau ar bwysigrwydd pobl yn gwybod am rif adnabod y
Senedd ar gyfer adrodd canlyniadau profion llif unffordd, a bod angen cydnabod
lle mae’r feirws yn parhau i effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.
Cyfarfod: 12/07/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad COVID
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21
- Cyfyngedig 22
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Dychwelyd Gwasanaethau
Trafododd y
Comisiynwyr Fatrics Blaenoriaeth drafft Dychwelyd Gwasanaethau, a chytunwyd
arno. Byddai’r matrics yn cael ei ddefnyddio fel map llwybr i barhau i ailgyflwyno
gwasanaethau, a thrwy hynny ddychwelyd gwasanaethau i rai rhithwir yn ôl yr
angen pe bai canllawiau Llywodraeth Cymru ar faterion sy'n ymwneud â covid-19
yn newid/yn cynyddu.
Roeddent o'r farn
mai’r tebygolrwydd yw y byddai’r angen am weithio’n hybrid yn parhau, gan
gydnabod yr angen i alluogi Aelodau i gymryd rhan mewn busnes. Cytunodd y
Comisiynwyr y byddai'r mesurau presennol yn parhau am weddill y tymor, ac y
byddai Profion Llif Ochrol ar gael ar gyfer dechrau'r tymor newydd, fel rhagofal
ychwanegol.
Opsiynau ar gyfer
gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd ar ystâd y Senedd
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a ddarparwyd am y camau a gymerwyd i ailddechrau gweithgareddau
ymgysylltu â'r cyhoedd ar ystâd y Senedd, gan ailgyflwyno mynediad rheoledig
i'r cyhoedd i weld y Cyfarfod Llawn ac i Aelodau gynnal digwyddiadau gyda
rhanddeiliaid.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn am y trefniadau sydd ar
waith tra bod y Senedd yn parhau i weithredu o dan reoliadau a chanllawiau
presennol Llywodraeth Cymru.
Fe wnaethant nodi'r wybodaeth
a ddarparwyd, y gallai materion pellach godi yn sgil yr adolygiadau
coronafeirws gan Lywodraeth Cymru sydd ar ddod, a thynnwyd sylw at y ffaith y
bu ymholiadau ynghylch defnyddio'r ystâd i hybu ymwybyddiaeth o'r etholiad.
Cytunodd y Comisiynwyr
i ddirprwyo’r penderfyniadau fesul achos i Swyddogion y Comisiwn mewn perthynas
â defnydd cyfyngedig o’r ystâd at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwaith, megis
gan y cyfryngau i hyrwyddo etholiadau’r Senedd, fel y mae’r rheoliadau’n
caniatáu.
Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Comisiwn am y trefniadau sydd ar waith tra mae’r Senedd yn
parhau i weithredu o dan reoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru.
Roedd y materion a godwyd yn cynnwys parodrwydd ar gyfer camau nesaf y
cyfyngiadau, lles staff (gan gynnwys effeithiau addysgu gartref, cyfrifoldebau
gofalu, profedigaethau a salwch), adleoli deinamig ac ailflaenoriaethu
gweithgareddau, a'r pwysau sy'n cael eu teimlo ar draws y sefydliad.
Cyfarfod: 07/12/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Eitem lafar
Cofnodion:
Clywodd y Comisiynwyr
y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau sydd ar waith tra bod y Senedd yn
parhau i weithredu o dan reoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru, a
chafwyd sicrwydd bod y gwaith monitro ar gyfer y camau nesaf wrthi’n cael ei
wneud.
Cyfarfod: 02/11/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr
bapur yn rhoi’r diweddaraf ar weithrediad y Comisiwn o dan reoliadau a
chanllawiau Llywodraeth Cymru, fel ar 23 Hydref. Cawsant eu diweddaru ar lafar
ar ddatblygiadau mwy diweddar, a thrafodwyd y cyfyngiadau diweddaraf gan
Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd i ddilyn ymlaen o’r cyfnod atal byr
(‘firebreak’), a nodwyd y bydd y Llywydd yn gwneud penderfyniadau mewn
ymgynghoriad â’r Pwyllgor Busnes ar fformat y Cyfarfod Llawn.
Trafododd y
Comisiynwyr weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd ar yr ystâd yn ystod
cyfyngiadau covid. Ar ôl trafod agweddau yn ymwneud â diogelwch, cynllunio a
lleoli staff yn effeithiol, cytunwyd ar gyfnod estynedig o gau i’r cyhoedd lle
mai’r rhagdybiaeth ar hyn o bryd yw y bydd yr ystâd yn parhau ar gau i’r
cyhoedd ac ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd hyd nes diddymu’r
Pumed Senedd. Cytunwyd hefyd, pe bai amgylchiadau sy’n ymwneud â Covid-19 yn
newid yn ddramatig yn ystod y cyfnod hwnnw y gellir ailedrych ar y penderfyniad
hwn.
Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
- Cyfyngedig 36
Cofnodion:
A. Diweddariad ynghylch Covid-19
Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a gafwyd ar drefniadau a fydd ar waith ar gyfer tymor yr hydref, a
thrafodwyd y newidiadau diweddar i reoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Gwnaethant gytuno i ymestyn
y cyfnod presennol o
fod ar gau i’r cyhoedd tan 8 Tachwedd er mwyn ystyried y trefniadau o ran pwy
sy’n bresennol yn yr adeilad yn eu cyfarfod nesaf, yn dilyn profiad hanner
cyntaf y tymor ac o ystyried y sefyllfa bryd hynny.
B. Y dewisiadau o ran cynyddu’r niferoedd
sy’n bresennol mewn person yn y Cyfarfod Llawn
Ystyriodd y
Comisiynwyr y dewisiadau o ran cynyddu capasiti’r Siambr er mwyn i’r Aelodau
allu bod yno yn ystod Cyfarfodydd Llawn, y tu hwnt i’r gallu presennol, tra bod
yn dal i fod angen cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr.
Daethant i'r casgliad,
er ei bod yn bwysig eu bod wedi ystyried y dewisiadau, ni ddylid mynd ar
drywydd hynny ar hyn o bryd.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diweddariad ynghylch COVID-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr eu diweddaru am brofiadau yn sgîl cynnal y Cyfarfod
Llawn hybrid cyntaf yr wythnos flaenorol, wnaeth fynd yn esmwyth iawn ac oedd
yn glod i bawb oedd ynghlwm â’r gwaith.
Aethant ymlaen i drafod rhai o'r themâu a ddaeth i'r amlwg yn sgîl
ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o anghenion busnes yn y dyfodol, a gwnaethant ofyn
bod gwaith yn cael ei wneud i baratoi ar gyfer tymor yr hydref, ac edrych yn
fanwl ar yr opsiynau ar gyfer ei gyflawni.
Cafodd y Comisiynwyr arwydd o'r addasiadau sy’n angenrheidiol o ran
gwasanaethau'r Comisiwn ar gyfer Aelodau dros gyfnod y toriad, a thrafodwyd yr
angen i staff ddefnyddio gwyliau blynyddol sydd wedi cronni, a chael cyfnod i
gynllunio ar gyfer y camau nesaf.
Adolygodd y Comisiynwyr wybodaeth yn manylu ar yr effaith y mae Covid-19
wedi'i chael ar gyllid eleni, sef gwybodaeth y gofynnodd y Pwyllgor Cyllid
amdani hefyd.
Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a roddwyd, a gofynnwyd bod
papur yn cael ei baratoi ar gyfer eu cyfarfod nesaf, yn nodi’r opsiynau
ar gyfer cynyddu nifer yr Aelodau sy'n gallu cymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn,
heb yr angen i weithio o bell yn y tymor canolig i'r tymor hwy.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad COVID-19
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad ac roeddent yn gefnogol i baratoadau
gael eu gwneud ar gyfer dychwelyd i'r ystâd. Gwnaethant gefnogi'r dull o ymdrin
â chynlluniau ar gyfer dychwelyd i'r ystâd mewn unrhyw fodd, gyda’r trefniadau
cychwynnol yn seiliedig ar gael 10 y cant o bobl yn yr ystâd, er mwyn profi ein
trefniadau’n drylwyr a chynnal amgylchedd diogel, cyn belled ag y bo modd.
At hynny, gwnaethant
drafod y persbectif ehangach o ran gwersi a ddysgwyd a ffyrdd newydd o weithio
ar gyfer dyfodol sy’n fwy gwydn a hyblyg.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 11)
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr gais am wybodaeth gan y Pwyllgor
Cyllid ac, oherwydd prinder amser, cytunwyd i ddeiliad y portffolio ymateb ar
eu rhan, ac y byddai’n rhannu’n ymateb â’r Comisiynwyr hefyd.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Coronafeirws
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
- Cyfyngedig 51
Cofnodion:
Rhoddwyd crynodeb i'r Comisiynwyr o'r dull, y penderfyniadau
a'r camau a gymerwyd gan y Comisiwn i reoli effaith pandemig Covid-19 er mwyn
cynnal gweithgaredd seneddol hanfodol a chadw Aelodau, staff a'r cyhoedd yn
ddiogel.
Hefyd, nodwyd crynodeb o'r penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Taliadau hyd
yma ar yr ymateb i Covid-19.
Trafododd y
Comisiynwyr yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a diolchwyd i'r holl staff a fu ynghlwm
â'r gwaith cefndir i alluogi parhad busnes seneddol. I ddilyn, cafwyd
trafodaeth ehangach am y cyfnod sydd i ddod. Trafodwyd y berthynas rhwng y
penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor Busnes ynghylch busnes a'r adnoddau a
ddarperir i gefnogi'r gweithgareddau hynny. Cydnabuwyd y gofynion a roddir ar
dimau penodol drwy weithio o bell a phwysigrwydd cydnerthedd a dulliau cyflawni
cadarn.
Gofynnodd y
Comisiynwyr am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran cynllunio ar
gyfer y camau nesaf.
Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Coronafeirws
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 54
Cofnodion:
Ar ôl cael eu briffio, bu'r Comisiynwyr yn
trafod y camau a gymerwyd eisoes, yr hyn sy'n cael ei wneud, a'r penderfyniadau
y mae angen eu gwneud ar hyn o bryd wrth ymateb i’r coronafeirws, Covid-19.
Gwnaethant gytuno ar gamau gweithredu mewn perthynas â throthwyon presennol a
thrafod trefniadau ymarferol a pharhad busnes.
Penderfynodd y Comisiwn y bydd gweithgareddau
ymgysylltu â'r cyhoedd yn dod i ben o ddydd Mawrth 17 Mawrth, ac na fyddant yn
ailddechrau cyn 26 Ebrill. Bydd adeiladau'n cau i'r cyhoedd ac eithrio'r rhai
sy'n cymryd rhan neu'n arsylwi trafodion ffurfiol y Cynulliad. Penderfynodd y
Comisiwn hefyd ohirio wythnos fusnes y Senedd yn y gogledd ddwyrain yn
ddiweddarach yr haf hwn.
Trafododd y Comisiynwyr hefyd yr angen i
gefnogi staff yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan
ledaeniad COVID-19 a'r angen i barhau i ddarparu arweiniad perthnasol i Aelodau'r
Cynulliad mewn perthynas â'u staff a'u swyddfeydd eu hunain.
Cadarnhaodd y
Comisiynwyr eu cefnogaeth i’r dull arfaethedig a chytunwyd ar y prosesau
penderfynu, gan gydnabod y byddai angen gwneud penderfyniadau pellach.