Cyfarfodydd
Ymgysylltu ac allgymorth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/03/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Gwnaeth y Comisiynwyr drafod a chytuno ar y Strategaeth Cyfathrebu ac
Ymgysylltu ar gyfer y Chweched Senedd. Mae’r Strategaeth yn tynnu ar
gyflawniadau’r Bumed Senedd a’r cyfleoedd niferus sydd wedi codi yn sgil y
pandemig i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad.
Trafododd y
Comisiynwyr bwysigrwydd cyrraedd y 'lleisiau tawel', a dangos perthnasedd y
Senedd i fywydau'r rheini yng Nghymru.
Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adolygiad o effeithiolrwydd cychwynnol y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr bapur yn amlinellu'r cynnydd a
wnaed o ran gweithredu'r Strategaeth Gyfathrebu ac Ymgysylltu.
Croesawodd y
Comisiynwyr y cynnydd a thrafod y gwaith digidol a oedd wedi digwydd. Codwyd
pwyntiau yn ymwneud â chydbwysedd rhwng y rhywiau, oedran ac anableddau. Nododd
y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd.
Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd
Eitem lafar
Cofnodion:
Croesawodd y
Comisiynwyr ddiweddariad ynghylch paratoadau o ran gweithgareddau ymgysylltu ar
gyfer mis Tachwedd yr oeddent, yn eu barn hwy, yn gynhwysfawr ac yn amrywiol.
Gwnaethant drafod arwyddocâd estyn allan i gymunedau sy’n anodd eu cyrraedd, ac
roeddent yn gefnogol o'r dull, sydd eisoes yn dangos mwy o gyfranogiad gan
ystod fwy amrywiol o bobl.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Ymgysylltiad cyhoeddus yn ystod y pandemig Covid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Ystyriodd y Comisiynwyr bapur a oedd yn amlinellu ffyrdd y gellid addasu
gwasanaethau'r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau ymgysylltu yn rhithwir, ac a
oedd yn cynnig opsiynau ar gyfer rhagor o ymgysylltu yn yr hydref.
Gwnaethant ystyried y ffyrdd y mae’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar y
gallu i wasanaethau'r Comisiwn ddarparu prosiectau a gwasanaethau sydd â’r nod
o gynnwys y cyhoedd yng ngwaith y Senedd.
Nid oedd y Comisiynwyr o’r farn bod tystiolaeth ddigonol i’w chael o'r
angen i ddarparu digwyddiadau rhithwir/hybrid wedi’u noddi gan Aelodau o’r
Senedd, os bydd cyfyngiadau ar ymgysylltu wyneb yn wyneb, a mynediad i'r
Senedd, yn parhau y tu hwnt i 13 Medi. Fodd bynnag, cytunwyd ar drefn
flaenoriaethu ar gyfer gwasanaethau ymgysylltu ar yr ystâd, pe bai
cyfyngiadau'n cael eu codi ond bod gofyn am gadw pellter cymdeithasol, sef:
1. Digwyddiadau a noddir gan Aelodau o’r
Senedd, a digwyddiadau'r Comisiwn
2. Ymweliadau addysg
3. Teithiau wedi'u harchebu
4. Ymwelwyr cyffredinol
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd y dylid cysylltu â threfnwyr digwyddiadau sydd
i gael eu cynnal yn ystod 6 wythnos gyntaf tymor yr hydref, i wneud trefniadau
amgen.
Trafododd y Comisiynwyr ffyrdd o ymgysylltu â'r
cyhoedd ynghylch yr effaith y mae Covid-19 yn ei chael ar Gymru, a nodi
blaenoriaethau'r cyhoedd ar gyfer y dyfodol, o ran rôl y Senedd
Y dull a oedd yn well
ganddynt ar gyfer darparu rhaglen ymgysylltu yn yr hydref oedd comisiynu
ymchwil drwy banel dinasyddion, a phwysleisiwyd eu bod yn benodol eisiau i
weithgareddau ymgysylltu ganolbwyntio ar gyrraedd y rheini nad ydynt wedi
ymgysylltu â’r Senedd yn y gorffennol.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Cais y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr gais gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i gael
gafael ar gyllid o gyllideb Comisiwn y Cynulliad er mwyn comisiynu gweithgarwch
ymgysylltu â'r cyhoedd i lywio ei waith ar faint a chapasiti’r Cynulliad a sut
mae Aelodau'n cael eu hethol.
Trafododd y
Comisiynwyr gydbwysedd y cynigion, un yn nodi hoff ddewis ymhlith grŵp o
Aelodau y dylid trafod y materion sy'n ymwneud â diwygio etholiadol yn y
Cynulliad nesaf. I gloi, cytunodd y
Comisiwn ar y dewis sy’n cael ei ffafrio gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr gynnig ar gyfer strategaeth i wella’r ffordd y mae'r Cynulliad yn
cyfathrebu ac yn ymgysylltu â phobl Cymru, gan ddod â llawer mwy o bwyslais ar
y cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o siarad â'r cyhoedd a’u cynnwys yn ein
gwaith.
Fe wnaethant drafod y pedwar gyrrwr a nodwyd yn y
cynigion:
a.
Rhoi'r Dinesydd wrth wraidd popeth y mae'r Cynulliad yn
ei wneud.
b.
Rhoi cyfathrebu digidol wrth wraidd gweithrediadau'r
Cynulliad fel ffordd o hwyluso a democrateiddio'r broses ymgysylltu.
c.
Gwneud cyfathrebiadau yn symlach ac yn gyson - negeseuon
brand syml, gafaelgar wedi'u targedu at grwpiau demograffig penodol.
d.
Gwneud newidiadau
i strwythur y Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gefnogi gweithrediad a
diwylliant 'Digidol yn Gyntaf'; a gwella cymhwysedd digidol, setiau sgiliau a
dulliau cyflwyno yn barhaus.
Tynnodd y Comisiynwyr sylw at rai elfennau yr hoffent
gael sicrwydd yn eu cylch, fel allgau digidol, strategaeth cyfryngau
cymdeithasol ac arwyddocâd golygu yn llwyddiant dull newydd. Roeddent yn cefnogi'r strategaeth i roi mwy o
bwyslais ar y cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu ac ymgysylltu â dinasyddion,
ac fe wnaethant gadarnhau bod y strategaeth yn adlewyrchu eu blaenoriaethau
ymgysylltu.
Cytunodd y Comisiynwyr
hefyd i adolygu effeithiolrwydd cychwynnol y newid hwn mewn cyfeiriad strategol
cyn diwedd y Cynulliad hwn.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad y Cynulliad Dinasyddion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr
gyflwyniad yn amlinellu’r broses o gynnal y
Cynulliad Dinasyddion, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf, a’r canlyniadau.
Trafodwyd y tri argymhelliad
cyffredinol a ddeilliodd o'r digwyddiad: Cynulliadau dinasyddion; Cyd-greu; a
Llwyfannau Arbenigol, a'u perthynas â’r dulliau ymgysylltu y mae’r Comisiwn yn
eu defnyddio ar hyn o bryd.
Cytunodd
y Comisiynwyr i rannu casgliadau’r adroddiad â chadeiryddion y pwyllgorau, sef
y rhai a all eu defnyddio orau, a gofyn am adborth ganddynt hwy a chan
aelodau'r pwyllgorau i fesur y diddordeb yn y dulliau ymgysylltu hyn.
Cytunwyd
i gefnogi, mewn egwyddor, y cynnig i ehangu'r dulliau ymgysylltu sydd ar gael,
yng nghyd-destun sicrhau bod eu pwrpas yn glir a’r ffaith y byddai
goblygiadau o ran cost ac amseru pe bai'r Cynulliad am i'r Comisiwn fwrw ymlaen
â'r argymhellion.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd i rannu'r adroddiad â'r Pwyllgor Busnes er
gwybodaeth ac i roi adborth, maes o law, i’r rhai a oedd ynghlwm wrth y
Cynulliad Dinasyddion.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Dull o godi ymwybyddiaeth o Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru), ac etholiad 2021
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gynigion i ddatblygu dulliau
cyffredin o gyfathrebu ac ymgysylltu mewn perthynas â thri maes gwaith craidd
hyd at fis Mai 2021 - Newid Enw, Rhoi’r Bleidlais i bobl ifanc 16 oed a’r
Etholiad Cyffredinol yng Nghymru yn 2021.
Roedd y Comisiynwyr yn
gefnogol i’r cynigion yn gyffredinol, ac roeddent yn cydnabod y byddai hynt y
Bil yng Nghyfnodau 3 a 4 yn dylanwadu ymhellach ar y manylion penodol.
Trafodwyd hefyd y cysylltiad â’r gwaith y byddai’r Pwyllgor ar Ddiwygio
Etholiadol y Cynulliad yn ymgymryd ag ef, a’r ffaith y byddai’n fuddiol
ymgymryd â gwaith ychwanegol i gael gwybod rhagor am y prif gynulleidfaoedd a’u
hanghenion.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Ugain mlwyddiant – Gŵyl GWLAD
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd a nododd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am raglen Gŵyl GWLAD.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ugainmlwyddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad pellach ar gynlluniau i nodi
ugainmlwyddiant datganoli yng Nghymru, rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2019.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ugainmlwyddiant
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau i nodi 20 mlwyddiant y Cynulliad. Byddai
diweddariad arall cyn toriad yr haf ynglŷn â digwyddiadau’r hydref.
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf ar roddwyd iddynt am y trefniadau i nodi ugain mlynedd
ers sefydlu'r Cynulliad. Cytunwyd y byddent yn cael diweddariad pellach am
ddigwyddiadau'r hydref cyn toriad yr haf, a chynigiodd y Comisiynwyr eu
cefnogaeth i'r broses o ddarparu trefniadau.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Cynulliad Dinasyddion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
Roedd y Comisiynwyr yn
gefnogol i’r cynigion o sefydlu Cynulliad Dinasyddion sy'n gynrychioliadol yn
ddemograffig fel rhan o raglen i nodi ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad.
Cytunodd y Comisiynwyr i ofyn
am farn eu grwpiau yr wythnos hon ar gynigion i gynnal Cynulliad Dinasyddion
dros ddau ddiwrnod ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019.
Byddai'r ffocws ar ddau
brif fater:
• y prif heriau sy'n wynebu Cymru yn ystod yr ugain mlynedd
nesaf; a
• sut y gall democratiaeth Cymru, a'r Cynulliad yn benodol,
ymateb yn well i'r heriau hynny h.y. gwella democratiaeth Cymru.
Cytunodd y Comisiynwyr
fod swyddogion yn mynd ar drywydd sefydlu Cynulliad Dinasyddion yn ystod haf
2019, yn amodol ar yr adborth gan grwpiau.
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr
bapur a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau ymgysylltu â'r
cyhoedd a gyflwynwyd gan staff y Comisiwn ar ran y Cynulliad ers 2016.
Trafodwyd uchafbwyntiau'r prif gyflawniadau hyd yma a nodwyd y cynnydd a wnaed
ar fentrau ymgysylltu allweddol ers mis Mai 2016. Soniodd y Comisiynwyr am roi
mwy o broffil i feysydd lle mae'r Cynulliad wedi arwain y ffordd ar faterion
deddfwriaethol penodol. Trafodwyd hefyd y cyfle i godi ymwybyddiaeth yr Aelodau
o faint o weithgarwch allgymorth a wneir gan staff y Comisiwn.
Cadarnhaodd y Comisiynwyr
fod y strategaeth yn adlewyrchu eu blaenoriaethau ymgysylltu o nawr hyd at
ddiwedd y Cynulliad hwn, a chymeradwywyd y cerrig milltir a'r dyddiadau cwblhau
allweddol.
Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer y Pumed Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cyfarfod: 08/02/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Strategaeth Ymgysylltu
Eitem lafar
Cofnodion:
Yna, amlinellodd Lowri Williams yn fyr y sail ar gyfer
trafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli ym mis Ebrill, pan fydd ymgysylltu a
gwerthoedd yn cael eu hystyried yn fanwl.
Roedd
yr arolwg staff diweddaraf yn dangos sgôr ymgysylltu uchel, ond cydnabuwyd
hefyd fod cyfathrebu mewnol yn broblem a oedd yn cael ei nodi mewn arolygon
olynol ac roedd arolwg byrfyfyr ar y gweill i gael gwell dealltwriaeth o natur
y pryderon. Mae llawer o gynnydd wedi'i wneud, fodd bynnag, i gynyddu gwelededd
a thryloywder, fel cyhoeddi dogfennu awdurdodi recriwtio yn fewnol. Roedd yr
adolygiad capasiti yn gyfrwng defnyddiol i helpu i gynyddu ymgysylltiad drwy
gymryd rhan a'i ddefnyddio fel blaenoriaeth gorfforaethol.
Trafododd
y Bwrdd sut i ddefnyddio'r cyfarfodydd staff yn y dyfodol a'r fformat a
fyddai'n cyflawni'r amcan hwn.
CAMAU
I'W CYMRYD: Penaethiaid i dynnu sylw staff at yr arolwg byrfyfyr; y dyddiad cau
i'w ymestyn tan ddydd Gwener 12 Ionawr 3pm.
Cyfarfod: 27/02/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 52
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr bapur a oedd yn amlinellu strategaeth i gyflawni nod strategol
Comisiwn y Cynulliad ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y Pumed Cynulliad,
sef ‘ymgysylltu â holl bobl Cymru a hyrwyddo’r Cynulliad’. Yn benodol, roedd yn
cynnig fframweithiau ar gyfer diffinio cynulleidfaoedd a gweithgareddau ac ar
gyfer gwerthuso'r gwaith.
Trafododd
y Comisiynwyr y lefelau ymgysylltu presennol, gan roi eu cefnogaeth i'r ymgyrch
i ddod yn fwy effeithiol. Myfyriwyd ar y ddibyniaeth enfawr ar ymgysylltiad
digidol, a mynegwyd pryder bod rhai cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu
cynnwys o bosibl. Roeddent yn awyddus y dylid parhau i roi pwyslais sylweddol
ar ryngweithio wyneb yn wyneb, yn ogystal â thargedu deunyddiau i ddenu sylw'r
'gynulleidfa gyfan' waeth beth yw lefelau eu gwybodaeth.
Trafodwyd
Senedd.tv, a chydnabu'r Comisiynwyr bwysigrwydd y cyngor a'r argymhellion a
fyddai'n dod oddi wrth y Tasglu Digidol yn ddiweddarach yn y gwanwyn.
Cafodd y
Comisiynwyr drafodaethau eang am ffyrdd o fynd i'r afael â'r diffyg
democrataidd yng Nghymru, gan gynnwys ffyrdd a gynigir gan newidiadau ym maes
technoleg a chyfleoedd i weithio gyda sefydliadau eraill. Dywedodd y Llywydd
hefyd fod mwy o ymdrech yn cael ei gwneud i sefydlu perthynas â sefydliadau a
chyrff academaidd, fel y Gymdeithas Ddysgedig.
Cadarnhaodd
y Comisiynwyr eu bod yn cefnogi'r strategaeth ymgysylltu ddrafft a bod y
cynllun gwaith yn adlewyrchu eu blaenoriaethau ar gyfer ymgysylltu.
Cyfarfod: 12/01/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar gyfer y Pumed Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 55
Cofnodion:
Croesawyd Kevin Davies i’r cyfarfod a, chyda Non Gwilym, amlinellodd y
fframwaith newydd i ddarparu nod strategol y Comisiwn o ymgysylltu â’r cyhoedd
yn y Pumed Cynulliad, gyda gweithgareddau a mentrau i adeiladu ar y llwyddiant
a gafwyd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaed
gwaith ar gyfer meincnodi o ran sefydliadau eraill sydd ag arbenigedd yn y maes
hwn. Nid yw seneddau eraill wedi gwneud hyn eto.
Roedd y strategaeth i gael ei chyflwyno i’r Comisiynwyr, a gofynnwyd i’r
Bwrdd Rheoli wneud sylwadau ac ystyried unrhyw weithgaredd ar lefel uchel nad
oedd wedi’i nodi yn y papur hyd yma.
Ystyriodd y Bwrdd weithgareddau yn ymwneud â chyfrifoldebau cymdeithasol
corfforaethol a pha mor uchelgeisiol y gallai’r Cynulliad fod o ran cynnig budd
o’r naill ochr i’r llall i sefydliadau allanol, sy’n cyfrannu drwy sesiynau
tystiolaeth y pwyllgor, sgyrsiau rhwydwaith, ac ati. Cydnabuwyd mai’r cyfraniad
yr oedd y Cynulliad yn ei gyflawni oedd gwell gwasanaethau cyhoeddus a gwell
deddfwriaeth drwy graffu. Roedd y
Gwasanaeth Adnoddau Dynol eisoes yn darparu rhai gweithgareddau’n ymwneud â
chyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol.
Mae argymhellion y Bwrdd yn cynnwys:
·
ychwanegu rhagor o gyd-destun o ran cryfderau a gwendidau, tueddiadau i
ymateb i, ac hefyd amlinellu lefelau;
·
gan gynnwys y cysylltiadau clir â’r rhaglen FySenedd;
·
aildrefnu’r cynnwys i dynnu sylw at faint sydd eisoes wedi’i wneud;
·
sefydlu rhai dulliau ansoddol o werthuso, i benderfynu ar effeithiolrwydd;
a
·
chan fod canlyniadau ar gyfer y ffordd y mae pwyllgorau’n gweithredu, ei
bod yn bwysig i weithio gyda’r cadeiryddion pwyllgorau i sicrhau y byddai’r
strategaeth honno’n cael ei chyflawni.
Camau i’w cymryd
·
Anna Daniel a Non Gwilym i ddarparu rhagor o fanylion am y cysylltiadau â’r
rhaglen FySenedd.
·
Lowri Williams i ystyried y cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol presennol
a sut i’w halinio’n well â gwaith y Cynulliad.
Diolchodd y Bwrdd i Non a Kevin am y gwaith da a wnaed hyd yma.
Cyfarfod: 03/11/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ymgysylltu â'r cyhoedd - Senedd Ieuenctid a gwybodaeth ddigidol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
Cafodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i sefydlu senedd ieuenctid
newydd i Gymru a datblygu Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol. Mae’r ddwy
fenter allweddol hyn ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan o strategaeth y
Comisiwn.
Cytunodd
y Comisiynwyr i ddatblygu cynlluniau ar gyfer senedd ieuenctid ac ymgynghori
arnynt yn gynnar yn 2017, gyda'r bwriad o ganfod ein seneddwyr ifanc cyntaf yn
ail hanner y flwyddyn a chynnal cyfarfod cyntaf y senedd ieuenctid yn 2018. Yn
benodol, yn y datblygiad hwn, roeddent yn awyddus y dylid ystyried yn benodol
sut i gyrraedd y bobl nad ydynt fel arfer yn ymateb i ymgynghoriadau.
Trafododd
y Comisiynwyr y cynlluniau ar gyfer y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol, a
chafwyd cefnogaeth ar gyfer y gwaith y bydd yn ei wneud er mwyn gwneud
argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Bydd
rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r ddwy fenter yn rhan o'r drafodaeth ehangach am
strategaeth ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd
ddechrau'r flwyddyn newydd.
Cyfarfod: 24/06/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Sesiwn Friffio ar Ymgysylltu â Phobl Ifanc
CYPE(4)-18-15
– Papur preifat 6
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 61 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
Byddai’r eitem hon yn cael ei hystyried yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ymgysylltu â phobl Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 64
Cofnodion:
Ystyriodd y Comisiwn bapur yn rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf am weithgareddau ymgysylltu â cyhoedd. Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod
bod cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo ym mhob rhan o’r Comisiwn, er y byddai’n
anodd sicrhau bod y rhaglen weithgareddau uchelgeisiol yn cael ei chwblhau cyn
diwedd y Pedwerydd Cynulliad. Roedd y Comisiynwyr yn falch o glywed am
enghreifftiau o weithgareddau arloesol, fel y gwaith o hyrwyddo ein pwyllgorau,
sy’n destun cenfigen ymhlith cyrff seneddol eraill. Cytunwyd y dylai unrhyw
wybodaeth yn y cyswllt hwn yn y dyfodol gynnwys dadansoddiad manwl sy'n ategu’r
safbwynt hwn.
Gan nodi bod y cyfryngau hyperleol a chymdeithasol yn
ddatblygiadau pwysig a’u bod yn rhan o becyn gyfathrebu ehangach i geisio
cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a thraddodiadol, cytunodd y Comisiynwyr y dylai
eu hadroddiad blynyddol ddangos pa mor bellgyrhaeddol ac effeithiol oedd y
rhain a gweithgareddau ymgysylltu eraill.
Cytunodd y Comisiwn fod y cyfeiriad a’r blaenoriaethau
strategol a nodwyd ar gyfer y gwaith ymgysylltu yn briodol ac roeddent yn
fodlon â’r manylion a gafwyd yn y papur am y gweithgareddau y bwriadwyd eu cyflwyno
cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad.
Cyfarfod: 19/01/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Ymgysylltu â’r cyhoedd (trafodaeth y Comisiwn 12 Chwefror)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 67
Cofnodion:
Cyflwynodd Non Gwilym bapur
drafft, a oedd i'w gyflwyno yng nghyfarfod y Comisiwn ar 9 Chwefror, ar y
gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a gyflwynwyd ers 2011. Roedd hwn yn tynnu
sylw at y prif gyflawniadau a'r blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Cynulliad.
Mae'r rhain yn mynd i'r afael â meysydd penodol yr hoffai Comisiynwyr adeiladu
arnynt, fel adnewyddu brand y Cynulliad a nodi'r 10fed pen-blwydd ac etholiad 2016.
Rhoddodd y Bwrdd Rheoli
fewnbwn i wella'r cynnig ymhellach ac i gysylltu themâu'r Comisiynwyr, yn arbennig,
rhoi Aelodau wrth wraidd y gwaith, er enghraifft, ehangu ar rôl y Cadeirydd
mewn pwyllgorau.
Cytunodd y Bwrdd ei bod yn
bwysig tawelu meddwl Comisiynwyr bod gweithgareddau ymgysylltu yn canolbwyntio
ar y meysydd cywir. Roedd angen i'r brandio adlewyrchu posibiliadau ar gyfer y
dyfodol yn wyneb newid cyfansoddiadol a rhoi neges gyson am y brand tra bod y
newidiadau hynny'n digwydd.
Cynigiodd Non gyfarfod â'r
timau ar ôl cyfarfod y Comisiwn, i drafod blaenoriaethau'r Comisiynwyr a'r hyn
oedd yn cael ei gynnig.
Camau i’w cymryd:
· Non Gwilym i wella'r papur
ymellach drwy gynnwys blaenoriaethau'r Comisiynwyr fel tair neu bedair thema i
strwythuro'r papur arnynt. Sicrhau bod yr adran ar frandio'n cyfleu ei bod wrth
wraidd agwedd y sefydliad tuag at ymgysylltu â'r cyhoedd.
· Rhagor o wybodaeth i'w
chynnwys: tystiolaeth i brofi honiadau; cyfeiriad at gapasiti ac adnoddau;
cydweithrediad â Llywodraeth Cymru; a ffeithluniau lle mae hynny'n briodol.
Cyfarfod: 13/02/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Gwasanaethau Ymgysylltu Ieuenctid y Cynulliad yn y dyfodol
papur 3 ac atodiadau
Cofnodion:
Ym mis Mai 2013, cytunodd y Comisiwn i ymgynghori â phobl ifanc ynghylch
yr hyn a wneir yn y dyfodol i ymgysylltu â nhw.
Gwnaed hyn yn ystod hydref 2013 a chafwyd sylwadau gan bron 3,000 o bobl
ifanc o bob rhan o Gymru. Drwy gyfrwng yr ymgynghoriad, cafwyd gwybodaeth
newydd am ddealltwriaeth pobl ifanc o waith y Cynulliad a’u diddordeb ynddo, a
rhai syniadau am y ffordd orau y gallai’r Cynulliad ymgysylltu â phobl ifanc
i’w galluogi i gyfrannu at ei waith.
Trafododd
y Comisiynwyr y dulliau o weithredu a gynigiwyd yn ystod yr ymgynghoriad a’r
sylwadau a gafwyd gan bobl ifanc, sef bod angen sicrhau bod ymgysylltu â phobl
ifanc yn rhan annatod o waith yr Aelodau, a bod yr amrywiaeth lawn o
wasanaethau y mae’r Comisiwn yn eu darparu’n ategu’r gwaith hwnnw. Roedd y dull
arfaethedig o weithredu wedi’i seilio ar dair prif thema:
·
estyn allan ( i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod am fusnes y Cynulliad a’r hyn
y mae’n ei olygu iddyn nhw);
·
hwyluso trafodaeth (cynnig gwahanol
ffyrdd i bobl ifanc gyfrannu at waith y Cynulliad);
·
sylwadau gan bobl ifanc am effaith
eu cyfranogiad.
Bu grŵp o randdeiliaid allanol, a oedd yn
cynnwys cyrff ymbarél a oedd, rhyngddynt, yn cyrraedd dros 80,000 o bob ifanc,
yn trafod y dull arfaethedig hwn o weithredu ddiwedd mis Ionawr, ac roeddent yn
gefnogol iawn iddo.
Trafododd
y Comisiynwyr nifer o syniadau, gan gynnwys:
·
mwy o gymorth i Aelodau’r Cynulliad
a staff y Comisiwn, gan gynnwys arbenigedd mewn gwaith ieuenctid;
·
cydweithio â chyrff a rhwydweithiau
eraill i gyrraedd grwpiau amrywiol, gan gynnwys pobl ifanc y mae’n anoddach eu
cyrraedd;
·
cynnal digwyddiadau fel “diwrnod
ieuenctid” a rhoi tystysgrifau i’r rhai sy’n cymryd rhan;
·
cynnig gwasanaethau mwy amrywiol
drwy gyfrwng gwefan y Cynulliad ar gyfer
pobl ifanc www.dygynulliad.org.
Byddai
Aelodau’r Cynulliad yn gallu cymryd rhan yn y gwaith, pe dymunent, gan gynnwys
cymryd rhan yn y digwyddiad lansio yn nhymor yr haf. Byddai’r prosiect yn
parhau i fynd rhagddo ochr yn ochr â busnes arferol y Cynulliad felly ni
fyddai’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniad yr Aelodau.
Er bod y dull hwn o weithredu’n wahanol iawn i’r hyn a
drafododd y Comisiwn yn wreiddiol, teimlwyd bod y cyfeiriad strategol yn iawn
gan ei fod wedi’i seilio ar farn pobl ifanc. I gyflawni’r weledigaeth
uchelgeisiol, byddai’n rhaid cymryd camau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r
tymor hir. Roedd swyddogion wrthi’n paratoi cynllun gweithredu.
Cyfarfod: 30/01/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Arolwg Omnibws
papur
4 ac atodiad
Cofnodion:
Er mwyn llywio
gwaith Comisiwn y Cynulliad ar ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu allanol,
cynhaliwyd pôl piniwn ym mis Tachwedd 2013 i gasglu data ynghylch gwybodaeth y
cyhoedd am y Cynulliad ac i ba raddau y mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â’r
Cynulliad. Casglwyd y data fel rhan o’r arolwg Omnibws chwarterol a gynhaliwyd
gan Beaufort Research.
Nid oedd y
canlyniadau, a ddangosai mai cyfyngedig oedd dealltwriaeth y cyhoedd o’r
Cynulliad yn gyffredinol, yn creu syndod, er bod yr ymwybyddiaeth ymhlith pobl
ifanc yn is na’r disgwyl o gofio’r ymdrechion sylweddol a fu yn y maes hwn
drwy’r system addysg. Cytunodd y Comisiynwyr fod angen rhagor o waith i
benderfynu ar y ffordd orau o gasglu’r data hwn yn y dyfodol, gan gynnwys
ystyried a oes ffordd fwy effeithiol o fesur gwybodaeth pobl ifanc am y Cynulliad.
Byddai swyddogion yn edrych ar y dulliau y gellid eu defnyddio i gynyddu
ymgysylltiad, ac yn ystyried tybed a fyddai’n well gweithio gyda sefydliad sy’n
brofiadol yn y gwaith o ddatblygu brand neu gynnyrch o bosibl.
Cytunodd
y Comisiynwyr na ddylid cynnal yr arolwg omnibws eto ym mis Mawrth. Cytunwyd y
dylid ystyried a ydynt am gynnal gwaith ymchwil pellach y flwyddyn nesaf, a sut
waith ymchwil y dylid ei wneud.
Cyfarfod: 17/10/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Digwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol
papur
2
Cofnodion:
Bob
blwyddyn, mae’r Cynulliad yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau, gan
gynnwys digwyddiadau corfforaethol blynyddol, teithiau, digwyddiadau’r haf,
mentrau o dan arweiniad y Llywydd, digwyddiadau partneriaeth a digwyddiadau
sy’n gysylltiedig â busnes. Trafododd y Comisiynwyr achlysuron a fyddai’n
cynnig cyfleoedd i ddatblygu blaenoriaethau strategol y Comisiwn a chodi
proffil y Cynulliad a’r Llywydd.
Bydd
nifer o achlysuron cenedlaethol pwysig a digwyddiadau proffil uchel yn digwydd
dros y ddwy flynedd nesaf. Trafododd y Comisiynwyr a ddylai’r Cynulliad geisio
cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn, yn ogystal â’r rhaglen digwyddiadau
corfforaethol sefydledig. Roeddent yn teimlo ei bod yn bwysig iawn bod y
Cynulliad yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel gŵyl Womex, a
fyddai’n cael ei chynnal yr wythnos ganlynol, oherwydd y byddent yn cynnig
cyfleoedd i ymgysylltu â chynulleidfaoedd eang a gwella dealltwriaeth pobl o waith y Cynulliad.
Mae’r
ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus wedi denu siaradwyr o fri ac wedi tynnu
llawer o sylw i rôl y Llywydd a’r Cynulliad, ac yn cyd-fynd yn llwyr â nodau’r
Comisiwn.
Trafododd
y Comisiwn ffyrdd o annog rhagor o Aelodau’r Cynulliad i gefnogi digwyddiadau
ar yr ystâd ac yn eu hetholaethau neu eu rhanbarthau, a chymryd rhan ynddynt.
Roedd y Comisiynwyr yn teimlo y byddai cynllunio digwyddiadau o’r fath yn bell
o flaen llaw, gan roi digon o rybudd i’r Aelodau, yn helpu i annog mwy o bobl i
gymryd rhan ynddynt.
O
gofio bod y gwaith hwn wedi chwarae rhan bwysig wrth gyflawni nodau strategol y
Comisiwn, cytunwyd y byddai swyddogion yn adolygu’r gyllideb a ddyrannwyd ar
gyfer y gweithgaredd hwn. Gellid hefyd
gwneud cais busnes i’r Bwrdd Buddsoddi ar gyfer arian o’r gyllideb fuddsoddi.
Cam i’w gymryd: Gofynnwyd i’r Swyddogion gydweithio’n agos â
sefydliadau partner i sicrhau bod y Cynulliad yn rhan o’r broses o gynllunio
achlysuron mawr. Bydd y Llywydd yn parhau i fod yn rhan o’r broses o
ddatblygu’r gwaith hwn. Bydd cynnig ar ddigwyddiadau yn cael ei gyflwyno
i’r Comisiwn bob blwyddyn, i’w gymeradwyo.
Cyfarfod: 17/10/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ymgynghoriad ar Ymgysylltu â Phobl Ifanc
papur 3
Cofnodion:
Ym
mis Mai 2013, cytunodd y Comisiynwyr y byddai grŵp llywio yn cael
ei sefydlu ac mae ei waith fyddai datblygu syniadau am ffyrdd newydd i’r
Cynulliad ymgysylltu â phobl ifanc. Cytunwyd y byddai pobl ifanc wrth wraidd y
gwaith hwn, a hwy a fyddai’n llunio’r gwaith ac yn nodi’r ffyrdd gorau o
sicrhau bod ystod amrywiol o unigolion yn gallu cymryd rhan. Bydd y dull hwn yn
sicrhau bod pobl ifanc yn arwain y broses a bydd yn annog nifer fawr o bobl i
gymryd rhan.
Mae’r
grŵp llywio, sy’n
cynnwys sefydliadau sy’n cynrychioli pobl ifanc, wedi cyfarfod ddwywaith.
Lansiwyd
ymgynghoriad ar-lein ar 18 Medi, sy’n targedu pobl ifanc ac yn eu hannog i
gyflwyno cynigion a syniadau ar gyfer gwaith y Cynulliad o ran ymgysylltu â
phobl ifanc. Y bwriad oedd i’r syniadau
a gododd yn sgil yr ymgynghoriad gael eu trafod gan grwpiau ffocws rhanbarthol
o bobl ifanc.
Bydd
y grŵp llywio yn trafod
y dystiolaeth a ddaw i law a’r cynigion sy’n codi o’r ymarfer eang hwn ac yna
bydd y grŵp yn cynnig argymhellion i’w hystyried gan y
Comisiwn yn y flwyddyn newydd.
Roedd y Comisiynwyr yn croesawu’r dull a oedd wedi’i fabwysiadu ac yn teimlo bod y niferoedd a oedd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad hyd yma yn galonogol Roeddent yn teimlo bod angen gwneud mwy o ymdrech i gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn y broses, yn enwedig wrth helpu i nodi grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd yn eu hardaloedd lleol.
Cyfarfod: 02/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Gwaith ymgysylltu ac allgymorth – cynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad
papur 2 (Rhan 1, Rhan 2 ac Atodiad, Rhan 3)
Cofnodion:
Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall ac yn
chwarae rhan weithredol yng ngwaith y Cynulliad yn allweddol os yw'r Comisiwn
am lwyddo i gyflawni ei nod o ymgysylltu â phobl Cymru.
Yn dilyn adolygiad diweddar, cafodd y Comisiynwyr
adroddiad ar waith gwasanaeth addysg y Cynulliad. Teimlwyd bod y gwasanaeth yn
cynnal ystod o weithgareddau o ansawdd uchel ar hyn o bryd. Er enghraifft,
mae'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at faterion gerbron y Cynulliad drwy
ymchwiliadau pwyllgor a'r gwaith allgymorth gydag ysgolion ac athrawon.
Ystyriwyd bod gweithgareddau a oedd yn galluogi plant a
phobl ifanc i ddysgu am y Cynulliad a'i waith yn bwysig iawn, ac er y dylai hwn
fod ar gael o hyd, dylai gael ei ddarparu mewn ffordd wahanol. Teimlai'r
Comisiynwyr hefyd bod rhagor o bosibiliadau i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc
ymwneud yn uniongyrchol â busnes y Cynulliad.
Er mwyn datblygu'r gwaith hwn a chryfhau'r ystod o
gyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â'r Cynulliad, cytunodd y Comisiynwyr ar y
canlynol:
- dylai gwaith y gwasanaeth
addysg esblygu o ganolbwyntio yn bennaf ar godi ymwybyddiaeth o'r
Cynulliad a chyfrannu'n uniongyrchol at y cwricwlwm cenedlaethol, tuag at
gynyddu'r cyfleoedd i lywio busnes y Cynulliad a chymryd rhan ynddo;
- dylai'r Cynulliad barhau i
wneud cyfraniad sylweddol at ddarparu’r cwricwlwm drwy sicrhau bod yr
ystod o ddeunyddiau addysgol helaeth ar gael yn agored i athrawon,
ysgolion ac eraill sy'n siarad yn rheolaidd â phobl ifanc am y Cynulliad,
gan gynnwys yr Aelodau a'u staff.
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd grŵp llywio yn cael ei
sefydlu a'i waith fydd datblygu syniadau am ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl
ifanc, er enghraifft drwy gymryd rhan o bell drwy ddefnyddio technoleg neu
Gynulliad Ieuenctid. Roedd teimlad cryf mai pobl ifanc a fyddai wrth wraidd y
gwaith hwn. Hwy a fyddai'n llunio'r gwaith ac yn nodi'r ffyrdd gorau o sicrhau
bod ystod amrywiol o unigolion yn gallu cymryd rhan. Byddai hyn yn ei gwneud yn
ofynnol i ddatblygu dulliau arloesol a chreadigol o fynd i'r afael â'r
gwaith.
Gofynnodd y Comisiynwyr am gael y wybodaeth ddiweddaraf
yn rheolaidd am y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu dros weddill y flwyddyn
ariannol hon.
Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd i lywio'r trafodaethau ac i’w cynorthwyo â'u penderfyniadau.
Cyfarfod: 07/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Allgymorth addysg
Cyfarfod: 16/01/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ymgysylltu ac Allgymorth