Cyfarfodydd

Unrhyw Fusnes Arall

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Cododd y Llywydd y mater o reolau a chanllawiau ynghylch y cyfnod pleidleisio yn dilyn enghreifftiau diweddar o Aelodau'n pleidleisio o gerbydau neu wrth deithio.

 

Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i ystyried ymhellach yr opsiynau ynghylch egluro'r canllawiau a nododd y bydd y Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at y mater hwn eto yn ei gyfarfod nesaf.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i newid aelodaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gyda lle i'w ddyrannu i Aelod Annibynnol, yn lle Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnig y dylid ethol Russell George AS i fod yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Joel James AS sydd ar y pwyllgor ar hyn o bryd) ac y bydd hyn yn cael ei ychwanegu at yr agenda ar gyfer dydd Mercher 8 Hydref.

 

 


Cyfarfod: 30/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes fod Laura Anne Jones AS wedi dweud nad yw'n dymuno manteisio ar y cynnig o le ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol.


Cyfarfod: 08/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am gyfarfod ychwanegol y Pwyllgor Busnes yfory, pan ofynnir iddynt roi adborth gan eu grwpiau ar faterion gweithdrefnol a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.

 

 


Cyfarfod: 10/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Opsiynau ar gyfer craffu ar adroddiadau Ymchwiliad Covid y DU yn y dyfodol

 

Rhoddodd y Llywydd ddiweddariad i Reolwyr Busnes ar drafodaeth â Fforwm y Cadeiryddion ynglŷn ag ystyriaeth y Pwyllgor Busnes o opsiynau y gwaith craffu ar adroddiadau Ymchwiliad Covid y DU yn y dyfodol. Nododd hefyd ei bod wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i ofyn i'r Pwyllgor ystyried arwain ar graffu ar adroddiadau Modiwl 1 a 2  Ymchwiliad Covid y DU. Bydd ymateb y Pwyllgor yn cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Busnes i'w ystyried pan ddaw i law.

 

Cynigiodd y Llywydd efallai y byddai’r Pwyllgor Busnes am osod adroddiad byr yn cynnwys ei ffordd arfaethedig o symud ymlaen ar ôl cytuno ar hyn, a chynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gynnig i nodi'r adroddiad hwnnw ac adroddiad Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ar ei ystyriaeth o Fodiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU.

 

 

 


Cyfarfod: 20/05/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Lle Russell George ar bwyllgor

 

Nododd Paul Davies y byddai'r Grŵp Ceidwadol yn fodlon cynnig un o'u lleoedd ar bwyllgor i Russell George AS ac y byddai'n cysylltu â'r ysgrifenyddiaeth er mwyn trefnu hyn.

 

Diddymu Pwyllgor y Biliau Diwygio a Phwyllgor Senedd y Dyfodol

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod gwaith Pwyllgor y Biliau Diwygio a Phwyllgor Senedd y Dyfodol bellach wedi dod i ben. Diolchodd y Rheolwyr Busnes i'r Dirprwy Lywydd am gadeirio'r ddau bwyllgor a chytunodd i gyflwyno cynigion i'r Senedd ar ôl yr hanner tymor i gynnig diddymu'r pwyllgorau.

 

 


Cyfarfod: 13/05/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Lle Russell George ar bwyllgor

Cynigiodd y Llywydd bod y Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at drafodaeth ynghylch cynnig lle i Russell George ar bwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

 


Cyfarfod: 06/05/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

 

Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Trefniadau cadeirio

 

Cododd y Llywydd fater trefniadau cadeirio Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru gyda Rheolwyr Busnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol.

 

 


Cyfarfod: 18/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Sesiwn gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni yn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 4 Mawrth i drafod pumed flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 11/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cododd y Trefnydd fater yn ymwneud â diogelwch Aelodau.

 

 


Cyfarfod: 04/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Nododd y Llywydd ei bod wedi cael sylwadau gan sawl Aelod ynghylch y Pwyllgor Busnes yn enwebu Rhys ab Owen AS fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried y mater a dychwelyd ato yn y cyfarfod canlynol.

 

 


Cyfarfod: 15/10/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau o sesiynau galw heibio ac ymgynghoriad sydd ar y gweill gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol.

 

 


Cyfarfod: 25/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Pleidleisio

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes bwysleisio eto i'w grwpiau pa mor bwysig yw bod yn bresennol ac yn weladwy mewn da bryd cyn yr amser pleidleisio, yn enwedig pan fo niferoedd uchel o Aelodau yn cymryd rhan o bell. Nodwyd y bydd disgwyliadau ynghylch pleidleisio o bell yn cael eu harchwilio ymhellach pan fydd y Pwyllgor Busnes yn ailedrych ar ganllawiau cymryd rhan o bell, fel y cytunwyd yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor.

Rhaglen waith weithdrefnol

Nododd y Llywydd fod llwyth gwaith gweithdrefnol y Pwyllgor ar gyfer y tri chyfarfod arall yn nhymor yr haf yn debygol o fod yn sylweddol.

 

 


Cyfarfod: 18/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Gofynnodd Heledd Fychan i'r Pwyllgor Busnes ailedrych ar y canllawiau ar gyfranogiad o bell mewn trafodion Cyfarfod Llawn hybrid, gan gynnwys y lleoliadau lle gall Aelodau ymuno â'r trafodion i siarad a phleidleisio, a gwerthuso sut y mae'n gweithio'n ymarferol. Cefnogwyd y cais gan y Trefnydd a Russell George. Nododd y Dirprwy Lywydd y byddai'n trafod y cynnig gyda'r Llywydd.

 

 


Cyfarfod: 12/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU

Rhoddodd y Trefnydd wybod i Reolwyr Busnes y gallai gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yng Nghymru, a gynhelir rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024, effeithio ar amserlenni rhai Gweinidogion yn ystod tymor y gwanwyn.

 


Cyfarfod: 21/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cwestiynau’r llefarwyr

 

Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes o’r elfen o’r canllawiau ynghylch Cwestiynau’r Llefarwyr sy'n nodi y disgwylir i lefarwyr ddefnyddio eu cwestiynau i ddilyn thema eang, yn dilyn rhai enghreifftiau diweddar lle mae'r cwestiynau a ofynnwyd wedi ymdrin â sawl pwnc ar wahân.

 

Cynigion heb ddyddiad trafod

 

Cododd Heledd Fychan Gynigion Heb Ddyddiad Trafod a'r mecanweithiau posibl ar gyfer eu trafod yn y Cyfarfod Llawn.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Araith y Brenin

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Llywodraeth yn anelu at gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys dadansoddiad cynnar o'r eitemau y disgwylir iddynt fod o ddiddordeb i'r Senedd cyn gynted â phosibl yn dilyn Araith y Brenin heddiw.

 

Cyhoeddi Cwestiynau Brys ac Amserol

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y gwaith datblygu angenrheidiol bellach wedi'i gwblhau ac y bydd yr holl Gwestiynau Brys ac Amserol, o'r wythnos hon ymlaen, yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cofnod erbyn diwedd yr wythnos y cawsant eu hystyried.

 

Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa eu grwpiau bod y canllawiau diweddaraf ar y Modd Priodol o gynnal Busnes y Senedd, gan gynnwys mewn perthynas â Chwestiynau Amserol, wedi'u cyhoeddi a'u dosbarthu i'r Aelodau ar 20 Hydref.

 

 


Cyfarfod: 24/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Y Bil 'Cwotâu Rhywedd'

Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes bod y Llywodraeth, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, yn bwriadu cyflwyno'r Bil Cwotâu Rhywedd (Cymru) ar 4 Rhagfyr 2023.

 

Cwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr Grwpiau

Gofynnodd Russell George a yw'r Llywydd yn disgwyl i lefarwyr ac arweinwyr ddefnyddio eu cwestiynau i weinidogion i ddilyn thema eang. Cadarnhaodd y Llywydd fod y Canllawiau ar y modd Priodol o Gynnal Busnes y Senedd yn nodi bod hyn yn ddisgwyliad o ran cwestiynau llefarwyr ond nid cwestiynau arweinwyr


Cyfarfod: 17/10/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw at yr amser gorffen hwyr a ragwelir ar gyfer trafodion dydd Mawrth 21 Tachwedd. Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o opsiynau posibl ar gyfer lliniaru hyn a chytunodd y Trefnydd i ystyried ymhellach cyn cynnig busnes y llywodraeth ar gyfer y dyddiad hwnnw yn y cyfarfod canlynol.


Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 9)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Balot Bil Aelod ac adolygiad o'r broses ddethol

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal balot nesaf y Bil Aelod gan ddefnyddio’r gweithdrefnau presennol, cyn unrhyw adolygiad o’r broses ddethol y gall gytuno i’w gynnal wedi hynny.

 

Nododd y Pwyllgor hefyd ei bod yn fwriad gan y Llywydd i gyhoeddi yn ystod y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon y dyddiad yn nhymor yr hydref y cynhelir y balot nesaf ar y Bil Aelod, er mwyn galluogi’r Aelodau i baratoi.

 

 


Cyfarfod: 27/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cynigiodd Siân Gwenllian y dylid symud y trafodaethau ynghylch rhannu swyddi mewn swyddi ychwanegol anweithredol yn y Senedd i dymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â’i waith gweithdrefnol yn unol â’r rhaglen bresennol, gan gynnwys ystyried ymhellach rhannu swyddi yn ystod 2024, a thrafod rhaglen waith weithdrefnol wedi’i diweddaru ar ddechrau tymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 13/06/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cododd y Llywydd fater y Cwestiynau Amserol, yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer y cwestiynau a gyflwynir, a rhoddodd wybod i’r Pwyllgor Busnes ei bod yn bwriadu rhoi ystyriaeth bellach ynghylch a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r canllawiau er mwyn egluro'r meini prawf ymhellach. Trafododd y Pwyllgor Busnes hefyd a ellid cyhoeddi Cwestiynau Amserol a gyflwynir yn yr un modd â Chwestiynau Brys a chytunodd hefyd i ystyried y ddau fater ymhellach, gyda'r bwriad o weithredu unrhyw newidiadau o ddechrau tymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 23/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y cynnig i eistedd ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru ddydd Mercher 21 Mehefin am 12.45 ac y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu ar ôl hanner tymor.

 

 


Cyfarfod: 16/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

 

Gofynnodd Darren Millar a oes ystyriaeth bellach wedi’i rhoi i drefniadau busnes y pwyllgorau a’r Cyfarfod Llawn yng ngoleuni gwaharddiad parhaus Rhys ab Owen AS o Grŵp Plaid Cymru. Nododd y Llywydd y byddai’r Pwyllgor Busnes yn ystyried y mater hwn ymhellach ochr yn ochr ag unrhyw oblygiadau sy’n codi yn deillio o ystyriaeth y Senedd o’r cynnig i sefydlu Pwyllgor Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

 

 


Cyfarfod: 02/05/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Unrhyw Fater Arall


Cyfarfod: 25/04/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Trefniadau Cyflwyno

 

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am y newidiadau sy’n ofynnol i’r trefniadau cyflwyno dros y pythefnos nesaf oherwydd gŵyl y banc ar 1 Mai ac 8 Mai.

 

Yn ogystal â’r newidiadau hynny, yn sgil y streic sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dydd Gwener 28 Ebrill, bydd y balot ar gyfer cwestiynau llafar i'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd ar 9 a 10 Mai bellach yn cael ei gynnal ddydd Iau 27 Ebrill. Bydd cynigion y Llywodraeth ar gyfer dydd Mawrth 9 Mai hefyd yn cael eu cyflwyno erbyn dydd Iau 27 Ebrill.

 

 


Cyfarfod: 07/02/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Yn dilyn diweddariad llafar gan y Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i:

 

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y gwaith paratoadol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar oblygiadau Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ar gyfer y Llywodraeth a'r Senedd.

 

 


Cyfarfod: 17/01/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Gweithredu diwydiannol ar 1 Chwefror

 

Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod yr effaith ar fusnes y Senedd yn sgil gweithredu diwydiannol a drefnwyd gan aelodau Undeb PCS ar gyfer dydd Mercher 1 Chwefror.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iv), pleidleisiodd mwyafrif y Pwyllgor i symud busnes y Cyfarfod Llawn a amserlennwyd yn flaenorol ar gyfer 1 Chwefror, gyda'r effaith na fyddai Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ar y diwrnod hwnnw. Fe bleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn aildrefnu busnes o 1 Chwefror.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud y Cwestiynau Amserol a’r Cwestiynau i Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i 31 Ionawr, ac i aildrefnu'r Ddadl Aelodau, dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yr Amser a ddyrannwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Ddadl Fer ar gyfer dydd Mercher 8 Chwefror. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu dwy Ddadl Fer ar 15 Chwefror.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar i'w hateb ar 31 Ionawr i ddydd Mawrth 24 Ionawr, ac i symud y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar a chynigion i'w trafod ar 8 Chwefror i ddydd Mawrth 31 Ionawr.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gallai’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gynnal eu cyfarfodydd fore Mawrth 31 Ionawr yn lle’r cyfarfodydd sydd ar yr amserlen ar gyfer 1 Chwefror.

 

Adolygiad o’r darpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau y bydd yr arolwg i lywio’r adolygiad presennol o’r darpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy yn cau am ganol dydd, dydd Gwener 20 Ionawr.

 

 

 


Cyfarfod: 13/12/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Dadleuon 30 munud

 

Cododd y Llywydd y profiad diweddar o grwpiau'r gwrthbleidiau’n cyflwyno dau gynnig i'w trafod yn ystod amser y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn, a all gyfyngu ar nifer a hyd cyfraniadau gan Aelodau ar bynciau o bwys. Nododd y Llywydd y bydd cais i'r Pwyllgor Busnes ystyried papur yn y Flwyddyn Newydd ynghylch yr amseru ar gyfer dadleuon 30 munud, yng nghyd-destun amserlennu busnes yn ehangach.

 

 


Cyfarfod: 08/11/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes, ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion, fod y canllawiau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes ar 27 Medi bellach wedi eu cyhoeddi'n llawn i’r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17.

 

Cyfarfod ar 15 Tachwedd

 

Fe wnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am y trefniadau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf, a fydd yn cynnwys sesiwn gyhoeddus i drafod gwaith presennol y Pwyllgor ynghylch Diwygio’r Senedd.

 

 


Cyfarfod: 25/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Gwaith Diwygio'r Senedd

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai ei gyfarfod ar 15 Tachwedd ddechrau am 8.45 i alluogi busnes safonol i gael ei ystyried cyn cychwyn y sesiwn gyhoeddus ar argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Mynegodd y Llywydd ei dewis i'r Pwyllgor gynnal y cyfarfod hwnnw wyneb yn wyneb.

 

 


Cyfarfod: 18/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer briff technegol ar waith presennol y Pwyllgor Busnes ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, a fydd yn cael ei gynnal ar 19 Hydref.

 

 


Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) – amserlen

 

Nododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth a ddaeth i law gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a chytunodd i ddarparu’r wybodaeth y gofynnodd y Pwyllgor hwnnw amdani.

 

Amserlen y pwyllgorau – gwrthdaro amserlenni Aelodau

 

Fe wnaeth y Pwyllgor Busnes ddychwelyd at drafodaeth ar y mater yn ymwneud â chydamseru'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a godwyd gan Siân Gwenllian yn y cyfarfod blaenorol. Fe wnaeth y swyddogion roi gwybod am yr ymdrechion gan dimau clercio i gydlynu busnes y ddau bwyllgor hwnnw er mwyn cyfyngu ar yr effaith ar yr Aelodau dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â'r ymchwiliad presennol ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Diolchodd Siân Gwenllian i swyddogion y ddau bwyllgor am eu hymdrechion.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes nad yw'n debygol y bydd cydlynu mor agos rhwng pwyllgorau yn gynaliadwy, ac nad yw'n ateb tymor hir i'r sefyllfa.

 

 


Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol 

 

Rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad ar lafar ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil y Bil Hawliau a’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol. Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor na fydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Biliau hyn ar hyn o bryd oherwydd ansicrwydd ynghylch eu taith yn San Steffan, ond bydd yn rhoi diweddariad pellach unwaith y daw'r sefyllfa'n gliriach.

 

Diwygio’r Senedd

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd papur yn cynnwys rhagor o fanylion am y dull arfaethedig o ystyried materion yn ymwneud â Bil Diwygio'r Senedd sydd yn yr arfaeth yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac y rhoddir cyfle i Reolwyr Busnes gael sesiwn friffio gyda swyddogion sy'n cefnogi'r Pwyllgor Busnes cyn hynny.

 

Amserlen y Pwyllgorau

Cododd Siân Gwenllian fater yn ymwneud â chydamseru'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r effaith ar aelodau grŵp Plaid Cymru, oherwydd bod y pwyllgorau'n gwneud defnydd rheolaidd o'u slotiau wrth gefn. Nododd y Pwyllgor Busnes fod y newidiadau i'r amserlen wedi eu gwneud mewn ymateb i geisiadau'r pwyllgorau am fwy o amser cyfarfod, ac nad oedd gwrthdaro ar hyn o bryd o ran aelodaeth o fewn yr amserlen. Cytunwyd y byddai swyddogion yn trafod y mater presennol yn uniongyrchol gyda'r pwyllgorau o dan sylw er mwyn nodi unrhyw ddatrysidau ymarferol.

 

 


Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Pleidleisiau o ran Bil Aelod

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd yn cyhoeddi yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma y cynhelir y balot nesaf ar gyfer Biliau Aelodau ar 13 Gorffennaf. Bydd gwybodaeth am y broses yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau cyn diwedd y dydd. 

Cynhadledd Seneddol Flynyddol y Gymanwlad (CPC)

Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i dynnu sylw eu grwpiau at y mater o bresenoldeb yng Nghynhadledd Seneddol Flynyddol y Gymanwlad a gynhelir yng Nghanada rhwng 20 a 26 Awst. Mae rheolau cangen y CPA yn nodi y dylai’r cynrychiolydd fod yn aelod benywaidd ar yr adegau hynny pan fydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal yr un pryd â chynhadledd ac etholiad Seneddwragedd y Gymanwlad, a gaiff eu cynnal bob tair blynedd. Fodd bynnag, nid yw'r gangen wedi cael cais gan Aelod benywaidd. Caiff y Rheolwyr Busnes eu gwahodd i roi gwybod i’w grwpiau ac i fynd ar drywydd unrhyw geisiadau gan Aelodau benywaidd.

 

 


Cyfarfod: 07/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau bod ganddynt tan ddiwedd y dydd ddydd Iau 9 Mehefin i ymateb i'r arolwg sy'n rhan o adolygiad y Pwyllgor Busnes o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd.

 

Gofynnodd Darren Millar pryd y bydd balot nesaf y Bil Aelod yn cael ei gynnal. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried cyngor cyn bo hir ac mai ei bwriad yw cynnal balot arall cyn gynted â phosibl. 

 

 


Cyfarfod: 24/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Adolygiad o gymryd rhan o bell ac adolygu Rheol Sefydlog 34

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai holiadur yr Aelodau yn ymwneud ag adolygiad y Pwyllgor Busnes o Reol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a chymryd rhan o bell ym musnes y Senedd yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod, a bod angen ymatebion erbyn 9 Mehefin, ac y byddai Fforwm y Cadeiryddion yn trafod ei ymateb i'r adolygiad yn ei gyfarfod ar 26 Mai.

 

 


Cyfarfod: 10/05/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Cynulliad Partneriaeth Seneddol

Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai Alun Davies AS a Samuel Kurtz AS yn cynrychioli’r Senedd yng nghyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE ar 12-13 Mai. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n dychwelyd at drafodaeth ynghylch aelodaeth barhaol mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 


Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cynulliad Partneriaeth Seneddol

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Pwyllgor Busnes am ei dull arfaethedig o benodi dirprwyaeth dros dro o'r Senedd i gyfarfod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar 12-13 Mai ym Mrwsel ac esboniodd y bydd, o ystyried yr amseru ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig, yn cysylltu â Chadeiryddion dau bwyllgor sydd â chylchoedd gwaith perthnasol i gynrychioli'r Senedd fel arsylwyr: Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; a Paul Davies, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Unwaith y bydd y ddirprwyaeth wedi'i chadarnhau, byddai'r Llywydd yn hysbysu'r Pwyllgor Busnes.

Dywedodd y Llywydd y bydd yn cychwyn sgwrs yn ddiweddarach yn y tymor gyda'r Pwyllgor Busnes a Fforwm y Cadeiryddion ynghylch cyfansoddiad dirprwyaethau'r Senedd i'r CPA ac i'r Fforwm Rhyngseneddol yn y tymor hwy.

Rhoddodd y Llywydd ddiweddariad i'r Pwyllgor hefyd am y sefyllfa bresennol o ran enwebiadau'r Senedd ar gyfer dirprwyaeth y DU i Gyngres yr Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol yng Nghyngor Ewrop, nad ydynt wedi'u cadarnhau eto. Bydd y mater yn cael ei ddwyn yn ôl i'w drafod pe bai angen i'r Pwyllgor Busnes ei ystyried ymhellach.

 

 


Cyfarfod: 15/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

 

Ar gynnig y Trefnydd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) o 3 Mawrth i 17 Mawrth.

 

 


Cyfarfod: 08/02/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Fformat cyfranogiad yn y Cyfarfod Llawn

 

Yn y cyfarfod nesaf, byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried fformat y Cyfarfod Llawn ar ôl y toriad hanner tymor.  Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i drafod safbwyntiau cychwynnol ar gyfranogiad hybrid ar gyfer y tymor hir, a fyddai'n llywio papur i'w ystyried ar ôl yr hanner tymor.

 

 


Cyfarfod: 16/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Enwebiadau ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU.

 

Cynghorodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai'n gwneud yr enwebiadau a ganlyn:

 

Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol:

 

  • Aelod llawn: Mabon ap Gwynfor AS
  • Aelod sy'n dirprwyo: Buffy Williams AS

 

Pwyllgor y Rhanbarthau – Grŵp Cyswllt:

 

  • Alun Davies AS
  • Laura Anne Jones AS

 

 


Cyfarfod: 09/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Enwebiadau ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Grŵp Cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau - y DU.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at yr Aelodau a gynigwyd i'w henwebu, i drafod eu dewisiadau.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Pwyllgor Busnes fod y llywodraeth wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd ar 5 Tachwedd, a bod y ddadl ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol sy’n ymwneud â'r Bil hwn wedi'i threfnu ar gyfer 30 Tachwedd. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno adroddiad, sef 25 Tachwedd.


Cyfarfod: 02/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

COP-26

 

Cododd Darren Millar bryderon am gydbwysedd gwleidyddol y ddirprwyaeth o'r Senedd a aeth i gynhadledd COP-26. Bydd nodyn ar hyn yn cael ei anfon at Reolwyr Busnes.

 

 


Cyfarfod: 27/05/2021 - Bwrdd Taliadau (2020 - 2025) (Eitem 5)

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Bwrdd hawliad eithriadol am dreuliau gan Aelod i ariannu diffyg ei gyfran o fil ardrethi annomestig y swyddfa ar gyfer 2020-21.  Trafododd y Bwrdd yr hawliad a'r dystiolaeth a ddarparwyd. Cytunodd y Bwrdd y dylai'r ysgrifenyddiaeth ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai'r Aelod adhawlio'r gwariant drwy ei lwfans Swyddfa a Chysylltu â’r Etholwyr ar gyfer 2021-22. Roedd y Bwrdd o'r farn gadarn na fyddai'n cymeradwyo hawliad o'r fath yn y dyfodol.

Camau i’w cymryd: Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:

-       Drafftio ymateb i'r Aelod mewn perthynas â'r hawliad eithriadol am dreuliau i’r Bwrdd gytuno arno.

-       Ystyried ffyrdd amgen o rannu hawliadau eithriadol am dreuliau, gan ystyried materion seiberddiogelwch a diogelu data.